Skip to main content

Oed darllenwyr: 12+Rhamant

Ffêc tan, Rissole a tships gan Caryl Lewis

7 Mawrth 2014

Gwasg Gomer, cyfres Whap!, Argraffwyd yn 2006,

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781843236863&tsid=3

Sgôr – 4/5

Mae’r nofel Ffêc tan, rissole a tships yn berffaith i ferched! Mae’r llyfr yn rhan o gyfres Whap! ac yn  un o lyfrau i arddegau gan Caryl Lewis. Mwynheais y llyfr pan oeddwn yn yr ysgol a gwnes i fwynhau ei hail ddarllen eto. Nofel yn dilyn hanesion Mari a’i ffrind Gloria wrth iddynt fynychu’r ysgol, gweithio a cheisio delio gyda bechgyn. Mae’n nofel afaelgar iawn, un na allwn roi i lawr.

Digwyddiadau bywyd Mari a Gloria sy’n creu hiwmor yn y nofel wrth iddynt geisio ‘ffec-tanio’ gyda chanlyniadau trychinebus. Cawn hiwmor gydag obsesiwn ei thad gyda ffrio a chreu syniadau ar gyfer y Salt and Battery , perthynas Cara, ei chwaer a Tony (Townie yn ôl Mari) ac anturiaethau Rissole y ci.

Defnyddia Caryl Lewis dafodiaith wrth ysgrifennu a defnydd o fratiaith sy’n addas ar gyfer nofel i’r arddegau. Llwydda’r awdur i greu disgrifiadau diddorol a hwylus, ‘Roedd Mari yr un lliw yn union â salami’ a ‘gan geisio peidio â chwerthin wrth weld ei ffrind yn sefyll yn borcyn mor streipïog â chachgi-bwm o’i blaen’. Defnyddia’r awdur nifer o ddigwyddiadau i gadw diddordeb fel Mari yn mynd i siopa gyda’i mam a Gloria a’r stori o Mari yn mynd a Rissole am dro. Mae yna hefyd nifer o ddigwyddiadau annisgwyl yn y nofel.

Cymeriad hoffus yw Mari sy’n adlewyrchu bywyd merch yn eu harddegau wrth iddi drafod gwaith ysgol, bechgyn, gweithio a theulu. Gwelwn ei chymeriad yn aeddfedu yn y nofel wrth iddi sylweddoli pwysigrwydd teulu a ffrindiau. Mae’r ddelwedd o deulu yn un amlwg iawn yn y nofel ac yn adlewyrchu sefyllfaoedd o fewn nifer o deuluoedd. Gwelir debygrwydd i nifer o nofelau Saesneg sy’n trafod anturiaethau merched yn eu harddegau. Cyflëir themâu o ramant, yn y nofel wrth i Mari a Gloria geisio dal sylw Gari a Graham.

Hwylus, difyr a doniol yw’r geiriau i ddisgrifio’r nofel yma. Efallai fyddai’r nofel ddim yn cael ei gwerthfawrogi na’i hoffi gan fechgyn ond yn sicr mi fyddai’r nofel yn boblogaidd gan ferched. Yn wir mae’n nofel sydd werth ei ddarllen!

ffec tan