Dirgelwch yr Ogof
7 Mawrth 2014Sgor: 4/5
T Llew Jones 1977.
Gwasg Gomer.
Dyma un o glasuron nofelau antur T Llew Jones sy’n sicr o’ch cadw ar bigau’r drain tan ei diwedd.
Er fy mod wedi darllen y nofel hon o’r blaen roedd cael y cyfle i’w darllen eto wedi gwneud i mi ei gwerthfawrogi a’i mwynhau hyd yn oed yn fwy.
Mae’r nofel wedi ei seilio ar ddigwyddiadau smyglo go iawn a ddigwyddodd ym mhentref Cwmtydu, sydd ar arfordir Ceredigion, ddim yn bell o Gei Newydd, gannoedd o flynyddoedd yn ol. Ardal T. Llew Jones ei hun, wrth gwrs.
Er mai antur yw’r brif thema yma, gwelwn elfennau o themâu amrywiol eraill megis rhamant, etifedd, hiwmor ac eiddigedd.
Yn sicr, drwy’r nofel, cawn flas o hanes y cyfnod, e.e. ffyrdd o deithio, caledi’r cyfnod, cymdeithas, cymdeithasu, crefydd a.y.b.
Yn fras, nofel am Gymro sy’n berchen ar blas yw hon. Watcyn Parri yw ei enw a phortreadir ef yn ddyn caredig a chyfeillgar dros ben. Yn anffodus, o ganlyniad i’w long suddo, mae mewn dyled i Saes o ddyn, sef Daniel Coleby. Anfonodd ei fab, Harri, I Lundain er mwyn ceisio ennill arian i oroesi’r broblem hon. Yn rhyfedd, wedi penodau cyntaf y nofel, ni chlywn mwy am Harri … tan y diwedd. Trwy gydol y nofel, gwelwn ddigwyddiadau anghyfreithlon, megis y smyglo, yn digwydd yng Nghwmytdu a’r pentrefi cyfagos. Er eu bod yn anghyfreithlon, mae’r ymdeimlad gymunedol, cyfeillgar a chynorthwyol yn esgusodi hyn. Cyflwynir cymeriad dirgel, newydd i ni, sef Siôn Cwilt ac er bod yr isymwybod yn dweud wrthym mai Harri’r Glasgoed, yn wir, yw’r cymeriad dirgel hwn, mae digwyddiadau eraill y nofel yn ddigon i gadw’n diddordeb drwy’r holl ddigwyddiadau eraill, megis lleisiau’r ogof, ymyrraeth y Saeson a chymuned Gymraeg Cwmtydy, her Wil a’i gariad tuag at y Llydawes ifanc, a llawer mwy. Ennyn diddordeb yn y modd hwn yw un o brif gampau T Llew Jones ar draws ei holl nofelau.
Mae’r penodau yn ddigon byr ond yn er hyn llawn cyffro. Ar ddiwedd pob pennod mae “cliff hanger” annisgwyl sydd yn ei gwneud yn amhosib, bron, i stopio darllen.
Mae defnydd technegau arddull T Llew Jones yn arbennig yma. Gwelwn ei fod yn ysgrifennu yn ei dafodiaith ei hun wrth bortreadu cymeriadau Cwmytdu a’r cylch. Mae ei gymariaethau yn gyfoethog dros ben sydd yn dod a’r nofel yn fyw o flaen eich llygaid, e.e. “cychod mawr a mân … fel crwbanod yn ymgeisio swatio’n isel rhag y gwynt a’r tonnau.” Cyflëir y tyndra rhwng y smyglo â’r gyfraith, y dihirod â’r arwyr a dyma, yn y pendraw, sy’n gwneud y nofel yn un mor dda – yr arwyr, ar ddiwedd y dydd, sy’n ennill ac oherwydd eu nodweddion Cymreig, teimlaf agosatrwydd a chydymdeimlad tuag atynt sy’n cyfoethogi’r nofel hyd ei eithaf.
Leisa Fflur Davies
Sylwadau
2 sylwadau
Comments are closed.
“Cliff hanger”.
Nofel i blant Oed 12+
Diolch! Ac mae digon ohonyn nhw yn nofelau T. Llew Jones, ac yn Nico hefyd. Elfen angenrheidiol mewn llyfr da i blant tybed?