Croeso i Flog Goruwchnaturiol Prifysgol Caerdydd! Yma, mae myfyrwyr hanes Prifysgol Caerdydd yn tyrchu i’r cysylltiad cyfareddol rhwng ffydd, diwylliant a mythau drwy gydol hanes. Mae ein blog yn tynnu sylw at brosiectau hanes cyhoeddus sy’n ymdrin â’r ffordd y mae credoau Cristnogol canoloesol a modern cynnar yn parhau yn y gymdeithas seciwlar hyd heddiw. Boed yn seintiau sy’n cyflawni gwyrthiau neu ddyfodiad y diafol, bydd myfyrwyr yn ymdrin â’r elfennau cadarnhaol a negatif yn hanes goruwchnaturiol Cristnogaeth. Dewch i godi cwr y llen ar sut y cafodd y credoau crefyddol hyn eu hailddiffinio yn sgil y diwygiad Protestannaidd, a sut maen nhw’n parhau i lunio’r presennol.