{"id":87,"date":"2018-09-18T16:11:42","date_gmt":"2018-09-18T16:11:42","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=87&#038;lang=cy"},"modified":"2018-10-01T11:30:20","modified_gmt":"2018-10-01T11:30:20","slug":"shareaction-defnyddio-buddsoddi-i-hyrwyddor-cyflog-byw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/shareaction-defnyddio-buddsoddi-i-hyrwyddor-cyflog-byw\/","title":{"rendered":"ShareAction \u2013 Defnyddio Buddsoddi i Hyrwyddo\u2019r Cyflog Byw"},"content":{"rendered":"<h3><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-large wp-image-89\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1024x576.png\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1024x576.png 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-170x96.png 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-250x141.png 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-550x309.png 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-600x338.png 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-300x169.png 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-768x432.png 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-70x40.png 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-270x152.png 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-370x208.png 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-570x320.png 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-670x376.png 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-770x433.png 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-870x489.png 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-970x545.png 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/h3>\n<h3>Yn ein postiad diweddaraf, eglura\u2019r Athro Ed Heery un o nodweddion diffiniol ymgyrch Cyflog Byw y DU \u2013 sef iddo ddod i\u2019r amlwg trwy gymdeithas sifil.<\/h3>\n<p>Datblygwyd y Cyflog Byw gan sefydliadau cymdeithas sifil \u2013 elusennau a chyrff anllywodraethol \u2013 sy&#8217;n mynd ati i hyrwyddo safonau llafur da ac i gyflogwyr eu mabwysiadu. Un sefydliad o&#8217;r fath sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr ymgyrch ar gyfer y Cyflog Byw yw <a href=\"https:\/\/shareaction.org\/\">ShareAction<\/a>.<\/p>\n<p>Mae ShareAction yn elusen ymgyrchu sy&#8217;n bodoli \u201ci wneud buddsoddi yn ffynhonnell er budd\u201d ac mae\u2019n defnyddio actifiaeth gan gyfranddalwyr i annog ymddygiad cyfrifol gan gwmn\u00efau mawr, rhestredig. Mae&#8217;n enghraifft drawiadol o&#8217;r hyn a ddisgrifir weithiau fel actorion cyflogaeth newydd (Heery and Frege 2006); hynny yw, sefydliadau cymdeithas sifil sy&#8217;n mynd ati i hyrwyddo buddiannau pobl sy&#8217;n gweithio trwy ddefnyddio dulliau sy&#8217;n wahanol i&#8217;r ddibyniaeth ar fargeinio ar y cyd a chyfraith cyflogaeth, sydd wedi nodweddu&#8217;r mudiad llafur traddodiadol ers tro.<\/p>\n<h3>Ymddwyn yn foesegol<\/h3>\n<p>Sefydlwyd ShareAction ddiwedd y 1990au, gan ddeillio o ymgyrch i annog Cynllun Pensiwn y Prifysgolion i ymwrthod \u00e2 buddsoddi mewn gweithgynhyrchu arfau. Yn ei flynyddoedd cynnar, cyfeiriwyd gweithgarwch ymgyrchu at benderfyniadau buddsoddi cynlluniau pensiwn ond, ers hynny, mae ShareAction wedi datblygu strategaeth driphlyg, eang, i hyrwyddo buddsoddi cyfrifol.<\/p>\n<p>Mae un elfen o&#8217;r strategaeth hon yn cynnwys lob\u00efo i ddiwygio\u2019r system fuddsoddi fel ei bod hi\u2019n haws i fuddsoddwyr a\u2019r cwmn\u00efau y buddsoddant ynddynt wneud penderfyniadau moesegol. Mae ail elfen yn cynnwys hyrwyddo actifiaeth gan fuddsoddwyr, yn enwedig ymhlith cyfranddalwyr bach.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-93 alignleft\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Tesco-AGM-action-300x170.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"170\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Tesco-AGM-action-300x170.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Tesco-AGM-action-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Tesco-AGM-action-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Tesco-AGM-action-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Tesco-AGM-action-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Tesco-AGM-action-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Tesco-AGM-action-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Tesco-AGM-action.jpg 579w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwaith hwn yn cynnwys hyfforddi ymgyrchwyr a chydlynu gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol a gweithgarwch arall ymgyrchu i roi pwysau ar fusnesau mawr i ymddwyn yn foesegol. Mae elfen olaf y strategaeth yn cynnwys cynnal ymgyrchoedd ar faterion penodol, pan gaiff Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol cwmn\u00efau corfforaethol mawr eu targedu ag apeliadau i fabwysiadu polis\u00efau moesegol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ymgyrchoedd hyn, sy\u2019n seiliedig ar fater penodol, yn mynd i&#8217;r afael ag amrywiaeth eang o weithgarwch busnes. Ar hyn o bryd, mae un ffocws mawr ar gynaliadwyedd amgylcheddol, gydag ymgyrchoedd ar wah\u00e2n wedi&#8217;u hanelu at y diwydiant bancio a thanwydd ffosil i annog trawsnewid i economi carbon isel. Hefyd, mae ShareAction yn ymgyrchu ynghylch cynaliadwyedd cymdeithasol ac mae wedi hyrwyddo mwy o dryloywder mewn cadwyni cyflenwi byd-eang, trwy ei fenter Datgelu Gwybodaeth am y Gweithlu.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cMae&#8217;n un o&#8217;r llu o sefydliadau ymgyrchu sy\u2019n annog cwmn\u00efau amlwladol yn y DU i gymryd mwy o gyfrifoldeb am amodau gweithio o fewn eu cadwyni cyflenwi.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae ymgyrch y Cyflog Byw yn rhan o\u2019r fenter hon i annog cynaliadwyedd cymdeithasol. Nod ShareAction yw y bydd holl aelodau\u2019r FTSE100 yn talu\u2019r Cyflog Byw \u2018go iawn\u2019 i\u2019w holl weithwyr yn y DU; hynny yw, cyfradd cyflog fesul awr a gyfrifwyd gan y Living Wage Foundation, sydd \u00e2\u2019r nod o roi safon byw rhesymol ond boddhaol i weithwyr cyflog isel. Mae\u2019n ymgyrchu i fusnesau\u2019r FTSE100 ennill achrediad ffurfiol gan y Living Wage Foundation fel Cyflogwyr Cyflog Byw, sy\u2019n sicrhau\u2019r Cyflog Byw nid yn unig i gyflogeion uniongyrchol ond i gyflogeion contractwyr sydd wedi\u2019u lleoli\u2019n barhaol yn eu busnes, fel staff glanhau, arlwyo a diogelwch.<\/p>\n<h3>Ymgyrchoedd, actifiaeth trwy grefft a galwadau am weithredu<\/h3>\n<p>Mae\u2019r dulliau a ddefnyddir gan ShareAction i hyrwyddo\u2019r Cyflog Byw yn nodweddiadol o\u2019i repertoire ymgyrchu. Mae un elfen yn targedu buddsoddwyr sefydliadol ac mae ShareAction yn cynhyrchu Briffiau rheolaidd i Fuddsoddwyr ar y Cyflog Byw, sy&#8217;n egluro beth ydyw ac yn dadlau achos busnes dros ei fabwysiadu. Hefyd, mae wedi creu rhwydwaith parhaol o fuddsoddwyr sydd wedi ymrwymo i&#8217;r Cyflog Byw ac sydd eu hunain yn annog y cwmn\u00efau y maent yn buddsoddi ynddynt i\u2019w fabwysiadu. Pan fydd ymgyrch yn canolbwyntio ar aelod unigol o&#8217;r FTSE100, daw\u2019r gr\u0175p hwn o fuddsoddwyr ynghyd i ysgrifennu at y Prif Weithredwr a galw ar y busnes i ddod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-91\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-1024x576.png\" alt=\"\" width=\"907\" height=\"510\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-1024x576.png 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-170x96.png 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-250x141.png 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-550x309.png 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-600x338.png 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-300x169.png 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-768x432.png 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-70x40.png 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-270x152.png 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-370x208.png 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-570x320.png 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-670x376.png 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-770x433.png 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-870x489.png 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1-970x545.png 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post-1.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 907px) 100vw, 907px\" \/><\/p>\n<p>Ail ddull yw defnyddio ymgyrchu cyhoeddus i roi pwysau ar fusnesau blaenllaw, fel arfer yn ystod y cyfnod cyn cyfarfod blynyddol y cyfranddalwyr.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cO blith yr ymgyrchoedd hyn, cynhaliwyd un o&#8217;r amlycaf ar y cyd \u00e2\u2019r Craftivist Collective yn 2015. Y targed ar yr achlysur hwn oedd Marks &amp; Spencer a threfnodd yr ymgyrch gyfres o \u2018stitch-ins\u2019 mewn siopau M&amp;S, lle y cafodd hancesi poced M&amp;S eu brodio \u00e2 galwadau ar i\u2019r busnes fabwysiadu\u2019r Cyflog Byw.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Yna, cyflwynwyd yr hancesi poced hyn i aelodau bwrdd M&amp;S, i gyfranddalwyr blaenllaw ac i enwogion a oedd yn cymryd rhan mewn hysbysebion M&amp;S. Yn fwy diweddar, cafodd y cwmni adeiladu tai, Persimmon, ei dargedu trwy ddeiseb ar-lein yn beirniadu cyflog enfawr a ddyfarnwyd i\u2019w Brif Weithredwr, gan amlygu y gallai\u2019r dyfarniad ariannu talu\u2019r Cyflog Byw i gyfanswm o 4,100 o weithwyr y DU.<\/p>\n<p>Y dull olaf, sy&#8217;n diffinio dull ShareAction o weithredu, yw sicrhau presenoldeb yng nghyfarfod blynyddol cyfranddalwyr cwmn\u00efau FTSE100 y gellir cyflwyno cynigion iddynt, sy&#8217;n codi cwestiwn ynghylch y Cyflog Byw ac yn galw am weithredu gan Fwrdd y cwmni. Mae ShareAction yn dal cyfranddaliadau ym mhob un o gwmn\u00efau amlycaf y DU, gan ei alluogi i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd cyfranddalwyr, ac mae wedi datblygu rhwydwaith o fuddsoddwyr sy\u2019n actifyddion, y gallant hefyd fod yn gyflogeion cwmn\u00efau\u2019r FTSE100, ac mae&#8217;n eu hyfforddi i ofyn cwestiynau a chyflwyno cynigion i Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol cwmn\u00efau.<\/p>\n<p>Amcan allweddol ymyriadau fel y rhain yw sicrhau cyfarfod gydag uwch reolwyr i drafod achrediad Cyflog Byw. Yn aml, bydd y Living Wage Foundation, sef y corff achredu, yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd hyn a dyma pryd bydd ShareAction yn trosglwyddo\u2019r awenau i\u2019w chwaer-gorff anllywodraethol, a fydd yn goruchwylio&#8217;r broses o weithredu\u2019r Cyflog Byw.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cMae mwy na 30 o gwmn\u00efau\u2019r FTSE100 wedi ennill achrediad Cyflogwr Cyflog Byw yn sgil ymyrraeth gan ShareAction mewn cyfarfodydd i gyfranddalwyr, ac mae Croda International, Diageo, Informa, Ashtead Group a WPP wedi ennill achrediad yn ystod y 12 mis diwethaf.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<h3>Perthynas gadarnhaol \u00e2 busnesau<\/h3>\n<p>Mae dwy egwyddor drefniadol yn sylfaen i\u2019r dull ymddangosiadol lwyddiannus hwn o ymgyrchu dros y Cyflog Byw. Yn gyntaf, mae ShareAction yn sefydliad rhwydweithio. Mae&#8217;n adeiladu ac yn cydlynu rhwydweithiau o fuddsoddwyr a chyfranddalwyr ac mae\u2019n gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o gyrff ymgyrchu eraill i gyflawni ei amcanion. Mae ei weithgarwch ar y cyd \u00e2\u2019r Living Wage Foundation yn rhagorol yn hyn o beth, ond gellir gweld yr un math o bartneriaeth mewn agweddau eraill ar waith ShareAction. Mae&#8217;n fath o weithredu sy&#8217;n aml yn nodweddu actorion cyflogaeth newydd o&#8217;r math hwn.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-92 alignright\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Merlin-Entertainments-online-action.jpg\" alt=\"\" width=\"301\" height=\"157\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Merlin-Entertainments-online-action.jpg 581w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Merlin-Entertainments-online-action-300x156.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 301px) 100vw, 301px\" \/><\/p>\n<p>Yn ail, mae ShareAction yn ymgyrchu \u201cheb fod yn ymosodol\u201d. Er y gall ei ymgyrchu cyhoeddus godi cywilydd ar uwch swyddogion ac amlygu methiant corfforaethol, y diben bob amser yw defnyddio dylanwad buddsoddwyr i ddatblygu perthynas gadarnhaol \u00e2 busnes. Y nod yn y pen draw yw darbwyllo uwch swyddogion i ymrwymo i amcanion yr ymgyrch mae ShareAction yn eu hyrwyddo.<\/p>\n<p>Felly, rhaid pwysleisio nad yw ShareAction yn sefydliad gwrth-gyfalafol. I&#8217;r gwrthwyneb, mae ei waith yn seiliedig ar y gred bod modd diwygio\u2019r system fuddsoddi ac y gall pwysau buddsoddwyr gael ei ddefnyddio i hyrwyddo mathau mwy cynaliadwy o weithgarwch busnes. Unwaith eto, mae hyn yn nodwedd gyffredin actorion cyflogaeth newydd \u2013 maent yn aml yn feirniadol o fusnesau ond yn ceisio darbwyllo corfforaethau bod gweithredu mewn modd \u2018cynaliadwy\u2019 yn fuddiol i fusnes yn y tymor hwy.<\/p>\n<p>Mae ShareAction, fel llawer o gyrff ymgyrchu eraill o&#8217;r math hwn, o\u2019r farn ei bod hi\u2019n bosibl amlygu buddiannau cyffredin gyda busnesau, buddiannau cyffredin sy\u2019n ymgorffori budd y cyhoedd.<\/p>\n<p><strong>Mae <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610430-heery-edmund\">Ed Heery<\/a> yn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae ei ymchwil gyda\u2019i gydweithwyr, Dr <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610410-hann-deborah\">Deborah Hann<\/a> a Dr <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610549-nash-david\">Dave Nash<\/a>, yn canolbwyntio ar weithredu\u2019r Cyflog Byw yn y DU. Os hoffech ddarllen canfyddiadau&#8217;r gwaith ymchwil hwn, dilynwch y dolenni isod:<\/strong><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.emeraldinsight.com\/doi\/full\/10.1108\/ER-04-2017-0083\">Heery et al. (2017) The Living Wage campaign in the UK, <em>Employee Relations<\/em><\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0008\/722429\/The-Living-Wage-Employer-Experience-Report.pdf\">Heery et al (2017) The Living Wage \u2013 Employer Experience<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cipd.co.uk\/Images\/employers-and-the-real-living-wage_2017-responding-to-civil-regulation_tcm18-39491.pdf\">Heery et al (2018) Employers and the Real Living Wage: Responding to Civil Regulation<\/a><\/p>\n<h4>Cyfeiriad<\/h4>\n<p>Heery, E. and Frege, C. (2006). \u2018New actors in Industrial Relations\u2019, <em>British Journal of Industrial Relations<\/em>, 44\/1: 6-1-4.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein postiad diweddaraf, eglura\u2019r Athro Ed Heery un o nodweddion diffiniol ymgyrch Cyflog Byw y DU \u2013 sef iddo ddod i\u2019r amlwg trwy gymdeithas sifil. Datblygwyd y Cyflog Byw [&hellip;]","protected":false},"author":1579,"featured_media":89,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[66,63,1],"tags":[68,67,64,70,71,53,69,61],"class_list":["post-87","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyflog-byw","category-cysylltiadau-cyflogaeth","category-uncategorized","tag-busnes","tag-cyflog-byw","tag-cysylltiadau-cyflogaeth","tag-gwaith","tag-pensiwn","tag-ymchwil","tag-ymgyrchoedd","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-1p","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/08\/Ed-Heery-blog-post.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/87","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1579"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=87"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/87\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":319,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/87\/revisions\/319"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/89"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=87"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=87"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=87"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}