{"id":638,"date":"2019-01-21T11:59:11","date_gmt":"2019-01-21T11:59:11","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=638&#038;lang=cy"},"modified":"2019-01-23T17:01:59","modified_gmt":"2019-01-23T17:01:59","slug":"agwedd-gymdeithasol-mentergarwch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/agwedd-gymdeithasol-mentergarwch\/","title":{"rendered":"Agwedd gymdeithasol mentergarwch"},"content":{"rendered":"<figure id=\"attachment_625\" aria-describedby=\"caption-attachment-625\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-large wp-image-625\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-625\" class=\"wp-caption-text\">Enwebwyd Yaina Samuels (ar y dde) gan Dr Shumaila Yousafzai (ar y chwith) i fod yn un o Entrepreneur Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd yn 2017.<\/figcaption><\/figure>\n<h3>Yn rhifyn diweddaraf ei log ar y we, mae Yaina Samuels yn s\u00f4n am ei blwyddyn gyntaf yn un o <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\/people\/entrepreneurs-in-residence\">Fentergarwyr Preswyl<\/a> Ysgol Busnes Caerdydd, lle mae hi wedi ysgogi\u2019r to nesaf o arweinyddion busnes cymdeithasol.<\/h3>\n<p>Dechreuodd hyn pan rois i gyflwyniad am gamddefnyddio cyffuriau a <a href=\"https:\/\/nuhi.co.uk\/\">NuHi Training<\/a> gerbron dosbarth o fyfyrwyr cwrs <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/study\/postgraduate\/taught\/courses\/course\/business-strategy-And-entrepreneurship-msc\">MSc Strategaethau Busnes a Mentergarwch<\/a>.<\/p>\n<p>Roedd Shumaila Yousafzai wedi fy ngwahodd yno i\u2019w helpu i dynnu sylw myfyrwyr at fath gwahanol o fusnes, sef menter gymdeithasol.<\/p>\n<p>Gwyddai na fyddai fy math o fenter gymdeithasol yn hysbys i\u2019w myfyrwyr, yn \u00f4l pob tebyg &#8211; er gwaetha\u2019r ffaith eu bod yn fentergarwyr naturiol.<\/p>\n<p>Felly, dechreuon ni gyflwyno manteision ffordd wahanol o weithio iddyn nhw. Ffordd a allai fod o les i gymunedau\u2019r byd.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cAgwedd gymdeithasol mentergarwch yw fy nisgrifiad ohoni. Codi ymwybyddiaeth o bethau megis cyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol a chynhaliol ymddygiad ac arferion masnachol.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Yn sg\u00eel hynny, aeth ein perthynas o nerth i nerth ac enwebodd Shumaila fi ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/news\/view\/1042469-working-together\">Cynllun Mentergarwyr Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd<\/a>.<\/p>\n<h3>Hanes o fyw ar chw\u00e2l<\/h3>\n<p>Sefydlais NuHi o ganlyniad i\u2019m profiad o fod yn gaeth i gyffuriau.<\/p>\n<p>Cefais fy magu mewn teulu camweithredol iawn, a gwn i bellach fod trais yn y cartref hwnnw wedi amharu ar fy natblygiad yn blentyn. Amharodd hynny yn ei dro ar fy natblygiad yn yr ysgol trwy fy rhwystro rhag cyflawni fy llawn dwf academaidd.<\/p>\n<p>Byddwn i\u2019n rhedeg bant yn aml, a byddai rhaid i\u2019r gwasanaethau cymdeithasol ddod o hyd i mi. Daeth yn ormod yn y diwedd, ac fe dreuliais i dipyn o amser mewn amryw gartrefi i blant.<\/p>\n<figure id=\"attachment_542\" aria-describedby=\"caption-attachment-542\" style=\"width: 211px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-542 \" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-in-the-80s-1-192x300.jpg\" alt=\"\" width=\"211\" height=\"329\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-in-the-80s-1-192x300.jpg 192w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-in-the-80s-1-216x338.jpg 216w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-in-the-80s-1.jpg 512w\" sizes=\"auto, (max-width: 211px) 100vw, 211px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-542\" class=\"wp-caption-text\">Torri cadwyn bod yn gaeth. <br \/>Yaina yn ei 20au, swyddog o <br \/>dan hyfforddiant ym maes <br \/>tai i bobl groenddu Caerdydd.<\/figcaption><\/figure>\n<blockquote><p>Chymerodd neb gyfle i\u2019m holi: \u2018Yaina, beth sy&#8217;n digwydd i ti?\u2019<\/p><\/blockquote>\n<p>Pan adawais i\u2019r cartref i blant ar \u00f4l troi\u2019n 16 oed, doedd dim medrau sylfaenol gyda fi &#8211; roeddwn i\u2019n blentyn eithaf bregus o hyd, mewn gwirionedd.<\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n chwilio am ymdeimlad o berthyn ac fe ddes o hyd iddo ymhlith pobl oedd wedi profi amgylchiadau tebyg: pobl heb gartref, pobl wedi\u2019u cam-drin tra oedden nhw\u2019n ifanc, pobl oedd yn dibynnu ar alcohol ac ati.<\/p>\n<p>Roedd rhai ohonyn nhw\u2019n defnyddio cyffuriau.<\/p>\n<p>Roeddwn i wedi addo na fyddwn i byth yn cymryd cyffuriau. Ond fe ddigwyddodd. Ac fe roes ryddhad imi. Rhyddhaodd fy meddwl rhag atgofion am yr hyn oedd wedi digwydd yn ystod fy mhlentyndod. Fel na fyddai rhaid imi ystyried pa mor wael oedd fy mywyd.<\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n gaeth i her\u00f6in am 15 mlynedd yn sg\u00eel hynny.<\/p>\n<p>Nes imi droi cornel.<\/p>\n<p>Dechreuais i raglen driniaeth trwy fethad\u00f4n, gan wneud gwaith gwirfoddol pryd bynnag y byddai modd yn sg\u00eel cydnabod nad oedd llawer o hyder na hunan-barch gyda fi.<\/p>\n<p>Arweiniodd hynny at fy swydd gyntaf yn swyddog dan hyfforddiant dros faterion tai pobl groenddu.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cAc yna, dechreuodd fy ngyrfa.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<h3>Cyfres o gyfleoedd<\/h3>\n<p>Doeddwn i erioed wedi s\u00f4n am fy nghefndir wrth neb am fod cywilydd arnaf i. Gwelais i hysbyseb, fodd bynnag, ar gyfer swydd mewn prosiect cyffuriau lle y byddai profiad o fod yn gaeth i gyffuriau o fantais. Felly, disgrifiais i\u2019r hanes hwnnw &#8211; yn fy nghais &#8211; am y tro cyntaf yn fy einioes.<\/p>\n<p>Roedd clywed rhywun yn ystod y cyfweliad yn fy nghanmol am fod yn agored ac yn onest, ac yn fy ngwerthfawrogi am fy mhrofiad, yn drobwynt i mi. Roedd yn brofiad rhyddhaol.<\/p>\n<p>Cefais y swydd.<\/p>\n<p>Dechreuais i feithrin medrau a gwybodaeth, ac adnabod fy mhrofiadau ym mywydau pobl eraill.<\/p>\n<p>Dechreuais i gredu ynof fy hun am y tro cyntaf erioed, mewn gwirionedd.<\/p>\n<p>Daeth cyfres o gyfleoedd lle y gallwn i rannu fy mhrofiad o roi\u2019r gorau i gyffuriau. Helpodd fi i weld bylchau yn y gwasanaethau dros faterion cyffuriau. Roeddwn i\u2019n anfodlon ar y rhaglenni fyddai\u2019n cadw pobl ar fethad\u00f4n (sgriptiau cynnal a chadw, fel y\u2019u gelwir) neu\u2019n gofyn iddyn nhw helpu pobl eraill oedd yn gaeth i gyffuriau neu alcohol.<\/p>\n<p>Os dim ond ers rhai misoedd neu flynyddoedd rydych chi wedi rhoi\u2019r gorau i gyffuriau, fydd dim modd ichi helpu rhywun ac arno wynt alcohol neu olion camddefnyddio cyffuriau. Mae&#8217;n cynyddu&#8217;r perygl o lithro&#8217;n \u00f4l.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-555 size-medium\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-300x169.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"169\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<blockquote><p>\u201cFe ddes i\u2019r casgliad bod angen ffordd amgen. Rhaid dod o hyd i ffordd o ddefnyddio medrau cyn-ddefnyddwyr i helpu pobl eraill i wella.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Felly, yn 2010, lluniais NuHi. Mae\u2019r enw wedi sbarduno fy siwrnai. Mae&#8217;n ymwneud \u00e2 mwynhau addysg a hyfforddiant yn lle cyffuriau. Mwynhad a gwefr naturiol o ganlyniad i gyflawni camp academaidd neu gymdeithasol.<\/p>\n<p>Penderfynais wneud NuHi yn fenter gymdeithasol fel y gallai ei chynnal ei hun. Roeddwn i am iddi fod yn fusnes a fyddai\u2019n codi incwm y gallen ni ei ddefnyddio i feithrin medrau cyn-ddefnyddwyr yn y gymuned.<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n llunio ac yn cyflwyno hyfforddiant sydd ar werth i weithluoedd a\u2019r gymuned ehangach. Defnyddir yr incwm i feithrin medrau\u2019r gweithwyr gwirfoddol gan gryfhau eu hyder a\u2019u hunan-barch yn ogystal \u00e2 helpu\u2019r busnes i dyfu.<\/p>\n<h3>Cael effaith<\/h3>\n<p>Wyth mlynedd wedyn, a dyma fi\u2019n un o Fentergarwyr Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l fy enwebu, gofynnodd Shumaila imi feddwl am y gweithgareddau y gallai ei myfyrwyr gymryd rhan ynddyn nhw yn ystod cwrs MSc Strategaethau Busnes a Mentergarwch.<\/p>\n<p>Roedd hi am imi roi cyfle iddyn nhw adael eu h\u00f4l ar rai o\u2019r prosiectau rwyf i wedi\u2019u cynnal dros y blynyddoedd ers sefydlu NuHi.<\/p>\n<p>Daeth y <em><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/TCRFSierraLeone\/\">Children\u2019s Recovery Foundation<\/a><\/em> (TCRF) yn Sierra Leone i\u2019m cof yn syth.<\/p>\n<p>Mae TCRF yn gartref i ryw 300 o blant amddifad ifanc a gollodd eu rhieni yn ystod Argyfwng Ebola yn 2014. Roedd llawer yn byw ar y strydoedd cynt. Yn eu plith, rhai mor ifanc \u00e2 thri a phedwar oed.<\/p>\n<p>\u2018<em>Helping the Vulnerable Children of Sierra Leone<\/em>\u2019 oedd enw\u2019r mudiad yn wreiddiol.<\/p>\n<p>Mae rhai o\u2019m cefndryd yn byw yn Sierra Leone ac oherwydd y cysylltiadau hynny, bydda i\u2019n ymweld \u00e2\u2019r wlad nifer o weithiau bob blwyddyn i gyflawni gwaith ym mhentref Waterloo. Ar \u00f4l gweld hynny, anfonodd y mudiad neges ataf i trwy gyfryngau cymdeithasol. Ar y dechrau, roeddwn i\u2019n ansicr am fod llawer o bobl wedi anfon negeseuon ataf i trwy Facebook, Twitter ac ebost i ofyn am gymorth.<\/p>\n<figure id=\"attachment_561\" aria-describedby=\"caption-attachment-561\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-561 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/6.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-561\" class=\"wp-caption-text\">Gwerthoedd teuluol. Yaina gyda ei chefndryd ym mhentref Waterloo, Sierra Leone.<\/figcaption><\/figure>\n<p>Parhaodd y mudiad hwnnw i anfon negeseuon, fodd bynnag. Felly, penderfynais ddysgu rhagor amdano. Edrychais ar ei ffordd o weithio &#8211; a oedd yn gweithredu\u2019n briodol ac ati. Ymwelais \u00e2\u2019r cartref i blant amddifad am y tro cyntaf yn 2017, a chwrdd \u00e2&#8217;r staff a&#8217;r plant.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-559 \" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-300x169.jpg\" alt=\"\" width=\"321\" height=\"181\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/5.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 321px) 100vw, 321px\" \/>A dyna lle dechreuodd y berthynas.<\/p>\n<p>Wrth i\u2019n gwaith ddatblygu, penderfynon ni ailenwi\u2019r mudiad fel a ganlyn: \u2018<em>The Children\u2019s Recovery Foundation, Sierra Leone<\/em>\u2019.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cTrwy NuHi, roeddwn i wedi dysgu bod pawb wedi profi chwalfa ar ryw adeg &#8211; boed argyfwng teimladol\/corfforol, bod yn gaeth i gyffur, cam-drin, iechyd cyffredinol neu iechyd y corff.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Yr awydd i helpu pobl i wella oedd wrth wraidd fy ffordd o weithio yn y Deyrnas Gyfunol a Sierra Leone, mewn gwirionedd.<\/p>\n<h3>Golwg newydd<\/h3>\n<p>Trwy fod yn un o Fentergarwyr Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd, fe ges i gyfle i atgyfnerthu fy ngwaith gyda TCRF o dipyn.<\/p>\n<p>Gofynnais i fyfyrwyr MSc Shumaila ysgrifennu strategaethau busnes ar gyfer y mudiad. Strategaeth codi arian oedd y naill, a strategaeth farchnata a hyrwyddo oedd y llall. Roedd yn dda gyda nhw gydio yn y prosiect.<\/p>\n<p>Yr elfen fwyaf cofiadwy i mi yw eu hadwaith wrth siarad \u00e2 staff a phlant y cartref trwy gyswllt fideo. Ar ben hynny, roedd y mentora yn brofiad mor arbennig.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cGallai\u2019r myfyrwyr weld a theimlo\u2019r effaith y bydden nhw\u2019n ei hwyluso o ganlyniad i\u2019w cyfraniadau at waith TCRF.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019u cyfraniad academaidd, codon nhw tua \u00a3500 trwy werthu teisenni a chynnal amryw weithgareddau ac achlysuron yn yr ysgol.<\/p>\n<p>Anfonwyd yr arian at staff TCRF i\u2019w galluogi nhw i brynu dillad ac offer. Mae gyda ni luniau o&#8217;r plant wrthi\u2019n dewis llyfrau, bagiau ac esgidiau a brynwyd \u00e2\u2019r arian a gododd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n<figure id=\"attachment_567\" aria-describedby=\"caption-attachment-567\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-567 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/8.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-567\" class=\"wp-caption-text\">\u201cYn yr ysgol.\u201d Rhai o blant amddifad TCRF yn Ysgol Seren, Sierra Leone. Ie, enw Cymraeg sydd ar yr ysgol.<\/figcaption><\/figure>\n<p>Mae&#8217;r math hwnnw o dystiolaeth yn amhrisiadwy!<\/p>\n<p>Trwy&#8217;r broses honno, dechreuodd y myfyrwyr ddeall gwerth mentrau cymdeithasol, cyfrifoldeb cymdeithasol busnesau a\u2019r modd y gall buddsoddi wella\u2019r gymdeithas.<\/p>\n<p>Roedden nhw\u2019n gallu gweld gwerth cyhoeddus canlyniadau eu hymdrechion.<\/p>\n<p>Ac mae\u2019r profiad wedi bod o les i mi, hefyd. Mae myfyrwyr wedi dod \u00e2 syniadau eithaf caeth o ran y math o fusnes yr hoffen nhw ei ddilyn ar \u00f4l graddio. Rwyf i wedi ceisio dangos ffordd wahanol iddyn nhw trwy\u2019r profiad hwn.<\/p>\n<p>Mae gwerth enfawr wedi\u2019i ychwanegu at eu bywydau o safbwynt gwybodaeth a phrofiad. Gan eu bod yn gweld bellach nad dim ond ag elw mae busnes yn ymwneud. Gall pawb a chanddo gwmni llwyddiannus roi peth arian yn \u00f4l i\u2019w gymuned &#8211; a dylai wneud hynny. O ganlyniad i gysylltu&#8217;r syniadau hynny \u00e2\u2019i gilydd trwy fentrau megis NuHi a TCRF, mae llygaid y myfyrwyr wedi\u2019u hagor i bosibiliadau newydd.<\/p>\n<figure id=\"attachment_565\" aria-describedby=\"caption-attachment-565\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-565 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/3-1.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-565\" class=\"wp-caption-text\">Ymateb i\u2019r her. Mae \u00f4l-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd yn cyfrannu at yr economi a\u2019r gymdeithas trwy roi moeseg a chyfrifoldeb cymdeithasol ar waith.<\/figcaption><\/figure>\n<p>Rwy&#8217;n hyderus ynghylch sut y byddan nhw\u2019n rhoi hynny ar waith yn y byd masnachol ar \u00f4l graddio.<\/p>\n<p>Tair blynedd yw cyfnod mentergarwr preswyl. Mae\u2019r flwyddyn gyntaf yn ymwneud \u00e2 dysgu am y r\u00f4l. Ar adegau, rwyf i wedi fy holi hun fy a yw hyn yn freuddwyd am ei bod yn gamp i mi, yn arbennig yng ngoleuni\u2019r ffaith nad ydw i\u2019n ysgolhaig o gwbl.<\/p>\n<p>Rwyf i wedi fy ngweld fy hun o safbwynt gwahanol, fodd bynnag. Er y gallwn i ymddangos yn un hyderus, mae tipyn o loes ac ansicrwydd ynof i o hyd.<\/p>\n<p>Byddai Shumaila yn dweud: \u201cMae dy waith di mor arbennig. Mae angen iti ddechrau credu ynot dy hun.\u201d<\/p>\n<p>Felly, mae\u2019r swydd hon wedi rhoi s\u00eal bendith ar fy ngwaith a\u2019m profiad hyd yma, mewn gwirionedd. O ganlyniad, rwy\u2019n meddwl, \u201cWow! Os ydyn nhw\u2019n ymddiried ynof i, efallai y dylwn i ddechrau gwneud yr un fath, hefyd!\u201d<\/p>\n<p><strong>Sylfaenydd a Phrif Weithredwr NuHi Training, ac un o Fentergarwyr Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd, yw <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\/people\/entrepreneurs-in-residence\/yaina-samuels\">Yaina Samuels<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/609230-yousafzai-shumaila\">Dr Shumaila Yousafzai <\/a><\/strong>\u00a0<strong>yn Ddarllenydd Mentergarwch yn Ysgol Busnes Caerdydd.<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Enwebwyd Yaina Samuels (ar y dde) gan Dr Shumaila Yousafzai (ar y chwith) i fod yn un o Entrepreneur Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd yn 2017. Yn rhifyn diweddaraf ei log [&hellip;]","protected":false},"author":1646,"featured_media":626,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[130],"tags":[331,333,68,332,329,336,335,155,337,86,330,328,58,326,313,334,61],"class_list":["post-638","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-entrepreneuriaeth","tag-academaidd","tag-argyfwng-ebola","tag-busnes","tag-childrens-recovery-foundation","tag-cynllun-mentergarwyr-preswyl","tag-deyrnas-gyfunol","tag-ebost","tag-facebook","tag-graddio","tag-gwerth-cyhoeddus","tag-menter-gymdeithasol","tag-msc-strategaethau-busnes-a-mentergarwch","tag-myfyrwyr","tag-nuhi","tag-sierra-leone","tag-twitter","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-ai","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/01\/Yaina-Samuels-blog-post-1.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/638","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1646"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=638"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/638\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":651,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/638\/revisions\/651"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/626"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=638"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=638"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=638"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}