{"id":500,"date":"2018-12-11T11:41:58","date_gmt":"2018-12-11T11:41:58","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=500&#038;lang=cy"},"modified":"2018-12-11T11:43:16","modified_gmt":"2018-12-11T11:43:16","slug":"ysgol-busnes-y-gwerth-cyhoeddus","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/ysgol-busnes-y-gwerth-cyhoeddus\/","title":{"rendered":"Ysgol busnes y gwerth cyhoeddus"},"content":{"rendered":"<figure id=\"attachment_466\" aria-describedby=\"caption-attachment-466\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-466 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-466\" class=\"wp-caption-text\">Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn sefydliad eithaf mawr ac ynddo 200 o ysgolheigion a thua 4,000 o fyfyrwyr.<\/figcaption><\/figure>\n<h3>Yn ein darn diweddaraf, siaradodd yr Athro Martin Kitchener \u00e2 staff Your Public Value, sefydliad annibynnol ym Merlin, i esbonio sut a pham y penderfynodd Ysgol Busnes Caerdydd arddel strategaeth sy\u2019n hybu datblygu cymdeithasol ac economaidd.<\/h3>\n<p>Dechreuodd hyn chwe blynedd yn \u00f4l pan ges i fy mhenodi\u2019n Ddeon Ysgol Busnes Caerdydd am imi ganolbwyntio ar bennu strategaeth eglur i\u2019r ysgol.<\/p>\n<p>Fe welais i lyfr gan yr Athro John Brewer, Prifysgol y Frenhines, Belfast, o&#8217;r enw <em>The Public Value of the Social Sciences<\/em>:\u00a0 <em>An Interpretative Essay<\/em>. Wrth ei ddarllen, dechreuais i feddwl am hanfod ysgol fusnes ynghylch gwerth cyhoeddus.<\/p>\n<p>Dros y ddwy flynedd wedyn, lluniais i strategaeth ar y cyd \u00e2 staff yr ysgol a\u2019r brifysgol ehangach yn ogystal ag amrywiaeth helaeth o bobl allanol megis cyflogwyr a gwleidyddion.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cMae tua 13,500 o ysgolion busnes yn y byd a, hyd yn ddiweddar, roedd tuedd i ddathlu amrywiaeth o ddelfrydau a dulliau yn un o gryfderau\u2019r diwydiant.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Erbyn hyn, fodd bynnag, hoffai sawl llywodraeth, corff diwydiannol ac asiantaeth achredu yn y Gorllewin i ysgolion busnes fod yn fwyfwy tebyg trwy hybu delfryd cul o werth budd-ddalwyr a gweithredu\u2019n beiriannau economaidd lleol.<\/p>\n<p>Mae\u2019n dull ni yn wahanol. Rydyn ni\u2019n derbyn yn llwyr y dylai ysgolion busnes gyfrannu\u2019n economaidd at y prifysgolion sy\u2019n rhoi cartref iddyn nhw, at economi\u2019r ardal ac economi\u2019r wlad &#8211; ond mae eu cyfrifoldeb yn ehangach na hynny.<\/p>\n<p>Ddylen ni ddim dysgu\u2019r myfyrwyr mai cynhyrchu cyfoeth economaidd yw eu hunig gyfrifoldeb. Mae cyfrifoldebau eraill arnyn nhw, hefyd.<\/p>\n<figure id=\"attachment_469\" aria-describedby=\"caption-attachment-469\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-469 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/2.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-469\" class=\"wp-caption-text\">Hoffai sawl llywodraeth, corff diwydiannol ac asiantaeth achredu yn y Gorllewin i ysgolion busnes fod yn fwyfwy tebyg trwy hybu delfryd cul o werth budd-ddalwyr a gweithredu\u2019n beiriannau economaidd lleol.<\/figcaption><\/figure>\n<p><strong>YPV: Mae trafodaeth Compact Byd-eang y Cenhedloedd Unedig yn pwysleisio bod modd i gwmn\u00efau dyfu trwy arddel cynaladwyedd ac y dylid disgwyl i ysgolion busnes ddilyn yr un trywydd a rhoi arweiniad i\u2019r perwyl hwnnw.<\/strong><\/p>\n<p>Yn wir, mae&#8217;n ddiddorol bod llawer o ysgolion busnes yn hybu cynaladwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol heb lunio eu strategaethau cynaladwyedd eu hunain na gweithredu yn \u00f4l dulliau hunanlywodraethu arloesol.<\/p>\n<p>Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn sefydliad eithaf mawr ac ynddo 200 o ysgolheigion a thua 4,000 o fyfyrwyr.<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n cydnabod bod gyda ni gyfle i ddysgu a chynnal ymchwil mewn ffordd wahanol yn ogystal \u00e2\u2019n cyflwyno ein hunain yn esiampl i\u2019w hefelychu o ran llywodraethu trwy weithio yn \u00f4l yr egwyddorion rydyn ni\u2019n eu hybu ym maes gwerth cyhoeddus.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cCaerdydd yw&#8217;r ysgol fusnes gyntaf i ddatgan yn benodol mai hwyluso\u2019r gwerth cyhoeddus yw ei diben. Dyma ein ffordd unigryw o weithredu.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Rydyn ni yma i hybu gwerth cyhoeddus trwy ein haddysgu, gan helpu pobl i\u2019w ddeall yn well trwy ein hymchwil, yn ogystal \u00e2\u2019i roi ar waith yn y modd rydyn ni\u2019n llywodraethu ein sefydliad ein hunain.<\/p>\n<p>Mae gwerth cyhoeddus wrth wraidd popeth a wnawn ni. Mae&#8217;n wahanol i ddysgu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol i rai graddedigion mewn modiwl.<\/p>\n<p><strong>YPV: Pa statws a rowch chi i ddiogelu\u2019r amgylchedd yn eich dealltwriaeth o&#8217;r gwerth cyhoeddus?<\/strong><\/p>\n<p>Ein barn yw bod diogelu\u2019r amgylchedd yn rhan o\u2019r gwerth y gall sefydliad ei gynnig i\u2019n cymdeithas ni.<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n cynnal ymchwil sy\u2019n ystyried agweddau ar gynaladwyedd ac rydyn ni wedi dechrau llunio adroddiadau blynyddol am ein cynaladwyedd ni.<\/p>\n<p>Rydyn ni wedi mesur faint o garbon mae\u2019r ysgol yn ei greu. Byddwn ni\u2019n ymrwymo i gwtogi arno dros y deng mlynedd nesaf.<\/p>\n<figure id=\"attachment_471\" aria-describedby=\"caption-attachment-471\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-471 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/3.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-471\" class=\"wp-caption-text\">Mae hynny wedi bod yn ymestynnol &#8211; cyhoeddi adroddiad am gynhyrchu carbon, a dysgu wedyn na fydd yn hawdd datrys ein problem fwyaf!<\/figcaption><\/figure>\n<p><strong>YPV: Ydych chi\u2019n bwriadu cadw at hynny o hyn ymlaen?<\/strong><\/p>\n<p>Ydyn &#8211; bydd adroddiad bob blwyddyn.<\/p>\n<p>Y canlyniad gawson ni yw ein problem. Roedden ni\u2019n tybio mai teithio gan yr ysgolheigion fyddai\u2019n creu\u2019r rhan fwyaf o\u2019n carbon ni.<\/p>\n<p>Ond teithio\u2019r myfyrwyr rhyngwladol yw\u2019r broblem: Mae tua 90% o\u2019r 1,300 o \u00f4l-raddedigion sydd yn Ysgol Busnes Caerdydd wedi dod o Asia, a\u2019u teithio nhw yw effaith amgylcheddol fwyaf ein hysgol.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cDaw cwestiwn diddorol yn sg\u00eel hynny: Beth y gall sefydliad ei wneud os ei ffynhonnell incwm fwyaf sy\u2019n creu\u2019r rhan fwyaf o\u2019i garbon?\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae hynny wedi bod yn ymestynnol &#8211; cyhoeddi adroddiad am gynhyrchu carbon, a dysgu wedyn na fydd yn hawdd datrys ein problem fwyaf!<\/p>\n<p>Nid dim ond trwy ofyn i\u2019r myfyrwyr a\u2019r darlithwyr ddiffodd goleuadau y daw\u2019r ateb.<\/p>\n<p><strong>YPV: Oes gennych chi ateb i&#8217;r broblem hon?<\/strong><\/p>\n<p>Dim eto. Byddwn ni\u2019n parhau i dderbyn myfyrwyr o dramor achos bod cymuned amryfal ei natur yn un o gryfderau\u2019r ysgol.<\/p>\n<p>Dyma gyfyng-gyngor y bydd sawl ysgol fusnes yn ei wynebu ar \u00f4l dechrau ei harchwilio ei hun!<\/p>\n<p>Mae\u2019n myfyrwyr yn deall y broblem yn dda am eu bod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfrifoldeb cymdeithasol ac yn fodlon derbyn syniadau newydd yn aml.<\/p>\n<p><strong>YPV: Mae amryw ddata\u2019n dweud bod llai na 10% o gorfforaethau\u2019r byd yn gweithredu yn \u00f4l dull gwerth cyhoeddus. Allwch chi awgrymu unrhyw ffyrdd o gyrraedd y lleill?<\/strong><\/p>\n<p>Mae o leiaf ddwy ffordd: Trwy addysg a thrwy reoleiddio.<\/p>\n<p>Rydyn ni wedi mabwysiadu ein dull ni o\u2019n gwirfodd gan gydnabod bod mwy a mwy o ddisgwyl i bob ysgol fusnes ailwerthuso ei thrwydded ynghylch cydweithredu \u00e2\u2019r gymdeithas.<\/p>\n<p>Mae rhai pobl bellach yn cwestiynu diben ysgolion busnes, ac mae eraill yn mynnu eu cau nhw i gyd. Rydyn ni o\u2019r farn ei bod yn bryd i ysgolion busnes fod yn eglur am eu gwerth i\u2019r gymdeithas, a\u2019n gobaith yw y gallai ein dull fod yn enghraifft i eraill.<\/p>\n<p>O fethu ag ateb y feirniadaeth, dylen ni ddisgwyl y bydd ysgolion busnes yn wynebu ymdrechion i\u2019w rheoleiddio\u2019n llymach a\u2019u cau, hyd yn oed.<\/p>\n<figure id=\"attachment_473\" aria-describedby=\"caption-attachment-473\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-473 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/4.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-473\" class=\"wp-caption-text\">Mae dull y gwerth cyhoeddus yn gwbl groes i feddylfryd y rhan fwyaf o ysgolion busnes Gogledd America.<\/figcaption><\/figure>\n<p><strong>YPV: Sut y gallwn ni ofalu y bydd eich myfyrwyr &#8211; y to nesaf o fasnachwyr &#8211; yn cynrychioli buddiannau\u2019r bobl yn briodol ac yn diogelu\u2019r gwerth cyhoeddus ar \u00f4l gadael yr ysgol?<\/strong><\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n ceisio meithrin yn eu plith ddychymyg cydymdeimladol ac ymdeimlad moesol tuag at wella cymdeithasol ac economaidd.<\/p>\n<p>Beth bynnag y byddan nhw\u2019n ei wneud wedyn &#8211; boed reoli cronfa neu gynnal mudiad yn y trydydd sector &#8211; bydd rhaid hwyluso hyfywedd ariannol yn ogystal \u00e2 chofio bod eu cyfrifoldeb yn ymestyn y tu hwnt i hynny.<\/p>\n<p>Mae dull y gwerth cyhoeddus yn gwbl groes i feddylfryd y rhan fwyaf o ysgolion busnes Gogledd America sy\u2019n mireinio greddfau cyfalafiaeth yn eu myfyrwyr gan gyfleu\u2019r neges mai creu cyfoeth er lles eu cyfranddalwyr yw unig gyfrifoldeb cwmn\u00efau &#8211; a hynny ar draul popeth arall.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cEin neges i\u2019n myfyrwyr ni yw cynhyrchu\u2019r gwerth cyhoeddus yn ogystal \u00e2 chyfoeth ariannol.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Athro Materion Rheoli a Pholis\u00efau\u2019r Sector Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd yw<\/strong> <strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610469-kitchener-martin\">Martin Kitchener<\/a><\/strong><strong>.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae\u2019n gymrawd gwadd yn Ysgol Busnes Said a Choleg Harris Manchester, Prifysgol Rhydychen, ar hyn o bryd.<\/strong><\/p>\n<p><em>Cyhoeddwyd y cyfweliad hwn yn wreiddiol ar wefan<\/em> <em><a href=\"http:\/\/yourpublicvalue.org\/public-value-business-school\">Your Public Value<\/a><\/em><em>.<\/em><\/p>\n<p><em>Mae Your Public Value yn gorff annibynnol sydd newydd gael ei sefydlu ym Merlin &#8211; ei nodau yw hybu\u2019r gwerth cyhoeddus, llywodraethu da a gonestrwydd er ymddiried rhwng llywodraethau, y byd masnachol a\u2019r gymdeithas.<\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn sefydliad eithaf mawr ac ynddo 200 o ysgolheigion a thua 4,000 o fyfyrwyr. Yn ein darn diweddaraf, siaradodd yr Athro Martin Kitchener \u00e2 staff Your [&hellip;]","protected":false},"author":1629,"featured_media":467,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[84],"tags":[289,285,177,282,281,290,283,284,286,137,86,288,287,105,53,61],"class_list":["post-500","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwerth-cyhoeddus","tag-addysg","tag-busness","tag-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth","tag-cyfrifoldeb-cymdeithasol-corfforaethol","tag-cymuned","tag-cynaladwyedd","tag-datblygu-cymdeithasol","tag-datblygu-economaidd","tag-dysgu","tag-economaidd","tag-gwerth-cyhoeddus","tag-gwleidyddion","tag-llywodraethu","tag-prifysgol-caerdydd","tag-ymchwil","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-84","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/1.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/500","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1629"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=500"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/500\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":507,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/500\/revisions\/507"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/467"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=500"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=500"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=500"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}