{"id":482,"date":"2018-11-30T10:15:46","date_gmt":"2018-11-30T10:15:46","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=482&#038;lang=cy"},"modified":"2018-12-03T13:55:55","modified_gmt":"2018-12-03T13:55:55","slug":"jair-bolsonaro-sut-bur-elitau-busnes-yn-ei-helpu-i-ddod-i-rym-ym-mrasil-a-pham-byddan-nhwn-edifar-o-bosib","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/jair-bolsonaro-sut-bur-elitau-busnes-yn-ei-helpu-i-ddod-i-rym-ym-mrasil-a-pham-byddan-nhwn-edifar-o-bosib\/","title":{"rendered":"Jair Bolsonaro: sut bu\u2019r el\u00eetau busnes yn ei helpu i ddod i rym ym Mrasil &#8211; a pham byddan nhw\u2019n edifar o bosib"},"content":{"rendered":"<figure id=\"attachment_438\" aria-describedby=\"caption-attachment-438\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-438 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-438\" class=\"wp-caption-text\">Daeth Bolsonaro i\u2019r amlwg o gefndir cymharol ddi-nod. Gan ddefnyddio tacteg tebyg i Donald Trump, gwnaeth sylwadau gwarthus, a amlygwyd gan y cyfryngau cymdeithasol, i gyfrannu at ofnau ynghylch trais dinesig, dinistrio gwerthoedd moesol \u201ctraddodiadol\u201d a\u2019r teulu, a llygredd cynhenid y sefydliad ym Mrasil.<\/figcaption><\/figure>\n<h3>Yn ein postiad diweddaraf, mae Dr Heike Doering yn esbonio sut mae el\u00eet busnes Brasil wedi dylanwadu ar wleidyddiaeth y wlad.\u00a0 Mae ei gwaith ymchwil gyda\u2019i chydweithwyr, yr Athro Glenn Morgan, o Brifysgol Bryste, a Dr Marcus Gomes, Prifysgol Caerwysg, yn datgelu i ba raddau mae baromedr gwleidyddol Brasil wedi symud o ben pellach yr asgell chwith i ben pellaf yr asgell dde ers 2002.<\/h3>\n<p>Mae Brasil newydd brofi un o\u2019r etholiadau mwyaf \u00a0<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/world-latin-america-46013408\">pwysig a dadleuol<\/a>\u00a0ers diwedd cyfnod y wlad o dan <a href=\"http:\/\/latinamericanhistory.oxfordre.com\/view\/10.1093\/acrefore\/9780199366439.001.0001\/acrefore-9780199366439-e-413\">unben milwrol<\/a>, rhwng 1964 ac 1985. Cynhaliwyd yr etholiad arlywyddol cyntaf ers i Dilma Rousseff <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/with-dilma-rousseff-impeached-brazil-is-set-for-years-of-political-turmoil-57689\">gael ei huchelgyhuddo yn 2016<\/a>yn erbyn cefndir o gythrwfl gwleidyddol ac economaidd. Profodd hynny\u2019n dir ffrwythlon ar gyfer yr enillydd &#8211; y poblogydd ceidwadol, asgell dde eithafol, \u00a0<a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/live\/2018\/oct\/28\/brazil-election-2018-second-round-of-voting-closes-as-bolsonaro-eyes-the-presidency-live\">Jair Bolsonaro<\/a>.<\/p>\n<p>Soniwyd llawer am rethreg Bolsonaro, sydd mor debyg i Trump ac yn tynnu\u2019n groes i\u2019r sefydliad, yn ogystal \u00e2\u2019i <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/disillusioned-brazilians-choose-bolsonaro-haddad-after-a-tense-and-violent-campaign-104224\">agwedd sarhaus at hawliau lleiafrifoedd<\/a>, a drawodd dant gyda phoblogaeth oedd yn teimlo wedi\u2019i <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/disillusioned-brazilians-choose-bolsonaro-haddad-after-a-tense-and-violent-campaign-104224\">dadrithio fwyfwy gyda gwleidyddiaeth<\/a>. Ond llwyddodd Bolsonaro hefyd i sicrhau cefnogaeth el\u00eet busnes Brasil, sydd \u00e2 hanes hir o ddylanwadu ar wleidyddiaeth yn y wlad.<\/p>\n<p>Rydym ni <a href=\"https:\/\/www.researchgate.net\/publication\/328580189_When_elites_take_to_the_streets_The_2016_impeachment_in_Brazil\">wedi ymchwilio <\/a>i sut mae el\u00eet busnes y wlad wedi bod yn ceisio dylanwadu ar wleidyddiaeth Brasil ers 2002, gan arwain at y gefnogaeth ddiweddar i Bolsonaro.\u00a0 Ac mae ein canfyddiadau yn cyfrannu rhywfaint at egluro sut mae\u2019r wlad wedi symud mor bell o\u2019r chwith i\u2019r dde mewn cyfnod o ychydig dros ddegawd.<\/p>\n<p>Pan etholwyd Luiz In\u00e1cio \u201cLula\u201d da Silva o Blaid y Gweithwyr (PT) yn arlywydd yn 2002, ysgydwodd y posibilrwydd o gael llywodraeth asgell chwith el\u00eet busnes Brasil a chefnogwyr rhyngwladol y wlad.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cAr y cychwyn, rhoddodd busnesau\u2019r gorau i gynnal economi Brasil trwy fod yn amharod i fuddsoddi, ac arweiniodd hynny at gwymp y farchnad stoc, chwalfa\u2019r arian cyfredol a chynnydd aruthrol yng nghostau benthyg arian y llywodraeth.<\/p><\/blockquote>\n<p>O ganlyniad, gorfodwyd Lula i addo lefel uwch o sefydlogrwydd macroeconomaidd i fyd busnes, i reoli chwyddiant, ac i geisio cadw\u2019r ddysgl yn wastad yn ariannol.<\/p>\n<figure id=\"attachment_440\" aria-describedby=\"caption-attachment-440\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-440 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Luiz-In\u00e1cio-with-business-man.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-440\" class=\"wp-caption-text\">Luiz In\u00e1cio ochr yn ochr \u00e2\u2019r dyn busnes a\u2019r gwleidydd o Frasil, Jos\u00e9 Alencar.<\/figcaption><\/figure>\n<p>Bu cydnabod buddiannau busnes fel hyn yn sylfaen ar gyfer cytundeb a barodd beth syndod o bosib rhwng gweinyddiaeth asgell chwith Lula a chymdeithasau busnes grymus.\u00a0 Nod agenda gymdeithasol ac economaidd Lula, dan yr enw \u201cDatblygiadaeth Newydd\u201d, oedd cefnogi datblygiad cwmn\u00efau amlwladol Brasil trwy ddarparu benthyciadau llog isel trwy fanc y wladwriaeth, BNDES.\u00a0 Roedd sylwebwyr hyd yn oed yn galw\u2019r polisi economaidd hwn yn \u201cagenda FIESP\u201d (ar \u00f4l y gymdeithas fusnes fwyaf pwerus, Ffederasiwn Diwydiant S\u00e3o Paulo), sy\u2019n dangos pa mor agos oedd y cysylltiadau rhwng busnesau mawr a llywodraeth PT yn ystod y rhan fwyaf o\u2019r 2000oedd.<\/p>\n<p>Er gwaethaf perthynas agos ei lywodraeth \u00e2 busnes, lansiodd Lula hefyd bolis\u00efau ailddosbarthu fel y \u201cbolsa familia\u201d, oedd yn gwobrwyo teuluoedd tlawd yn ariannol os oeddent yn cadw eu plant yn yr ysgol ac mewn rhaglenni iechyd.\u00a0 Yn erbyn cefndir cynnydd aruthrol ym mhris nwyddau, cododd incwm yn gyffredinol, ehangodd y dosbarth canol, lleihaodd anghydraddoldeb &#8211; a bu cwmn\u00efau mawr Brasil yn ehangu dramor ac yn y farchnad gartref oedd ar gynnydd.<\/p>\n<h3>Diwedd y cyfnod braf<\/h3>\n<p>Ond yna surodd y berthynas rhwng y llywodraeth asgell chwith a\u2019r busnesau mawr.\u00a0 O 2012 ymlaen, wynebodd y llywodraeth PT, o dan Rousseff bellach, economi ryngwladol lai ffafriol, oedd yn cael ei llesteirio gan ostyngiad byd-eang ym mhris nwyddau, ffactor oedd yn niweidio allforion Brasil. \u00a0Arweiniodd hyn at fwlch cynyddol ym Mrasil rhwng refeniw a gwariant y wladwriaeth, ochr yn ochr \u00e2 lefelau uchel o fenthyca a bygythiad codi trethi<\/p>\n<blockquote><p>\u201cArweiniodd ansawdd gwael gwasanaethau cyhoeddus a phrosiectau seilwaith &#8211; gan gynnwys Cwpan P\u00eal-Droed y Byd yn 2014 a\u2019r G\u00eamau Olympaidd yn 2016 &#8211; a thystiolaeth gynyddol o lygredd ar raddfa fawr ymhlith gwleidyddion o bob plaid, at brotestiadau aruthrol ar y stryd ym mis Mehefin 2018.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae ein gwaith ymchwil yn dangos sut bu i FIESP a\u2019u cefnogwyr yn y cyfryngau, ochr yn ochr \u00e2\u2019r ddeddfwriaeth, droi\u2019r protestiadau hyn yn naratif oedd yn rhoi\u2019r bai ar lygredd honedig y PT a\u2019u camreoli ar yr economi.\u00a0 Daeth FIESP, felly, yn rym allweddol y tu \u00f4l i\u2019r protestiadau cynyddol ar y stryd yn erbyn Rousseff (a\u2019u masgot, hwyaden felen anferth aer).<\/p>\n<figure id=\"attachment_442\" aria-describedby=\"caption-attachment-442\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-442 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Pagar-o-pato.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-442\" class=\"wp-caption-text\">Mae FIESP yn defnyddio\u2019r hwyaden i brotestio yn erbyn trethi uchel a llygredd honedig y llywodraeth.<\/figcaption><\/figure>\n<p>Roedd yr hwyaden yn symbol o\u2019r ddihareb \u201cpagar o pato\u201d ym Mrasil (talu\u2019r hwyaden).\u00a0 Mae\u2019r dywediad yn cyfeirio at dalu\u2019n annheg am gamgymeriadau rhywun arall &#8211; yn yr achos hwn, camgymeriadau\u2019r llywodraeth PT.<\/p>\n<p>Er mwyn unioni camau ymddangosiadol PT, roedd agenda newydd FIESP yn canolbwyntio ar leihau\u2019r \u00a0<a href=\"https:\/\/www.managementstudyguide.com\/what-is-custo-brazil.htm\">\u201ccusto Brazil\u201d<\/a>, cost uchel bywyd a busnes ym Mrasil.\u00a0 Byddai hynny\u2019n galw am dorri\u2019n \u00f4l ar drethi, hawliadau pensiwn a gwariant arall ar les cymdeithasol, yn ogystal \u00e2 dileu amrywiaeth o reoliadau amgylcheddol a llafur.\u00a0 Ac roedd yn apelio i gyfran helaeth o\u2019r boblogaeth.\u00a0 Arweiniodd yr ymgyrch ar y strydoedd at uchelgyhuddo Dilma Rousseff a\u2019i disodli gan <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/world-latin-america-36070366\">Michel Temer<\/a>, a ddechreuodd weithredu agweddau ar bolisi newydd FIESP.<\/p>\n<h3>Esgyniad Bolsonaro<\/h3>\n<p>Daeth Bolsonaro i\u2019r amlwg o gefndir cymharol ddi-nod. Gan ddefnyddio tactegau tebyg i Donald Trump, gwnaeth sylwadau gwarthus, a amlygwyd gan y cyfryngau cymdeithasol, \u00a0<a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2018\/oct\/18\/brazil-jair-bolsonaro-whatsapp-fake-news-campaign?fbclid=IwAR0OVS5iyv4FBR-JV8fFqW4_rqXo18-5HORqST57zTOtwwqXyVOSSpShoJs\">i gyfrannu at ofnau <\/a>ynghylch trais dinesig, dinistrio gwerthoedd moesol \u201ctraddodiadol\u201d a\u2019r teulu, a llygredd cynhenid <a href=\"https:\/\/www.nytimes.com\/2018\/10\/17\/opinion\/brazil-election-fake-news-whatsapp.html\">y sefydliad ym Mrasil<\/a>.<\/p>\n<p>Yn ystod ei 27 mlynedd yn y Gyngres, roedd gan Bolsonaro enw am gefnogi diffyndollaeth a haelioni i\u2019r sector cyhoeddus.\u00a0 Felly mewn ymgais uniongyrchol i roi sicrwydd i fusnesau mawr, penododd y rhyddfrydwr newydd adnabyddus, a hyfforddwyd yn Chicago,\u00a0<a href=\"https:\/\/piaui.folha.uol.com.br\/materia\/o-fiador\/\">Paulo Guedes<\/a>\u00a0yn ymgynghorydd economaidd \u2013 a dechreuodd arddel safbwyntiau llawer mwy cefnogol i\u2019r farchnad.\u00a0 Yn sg\u00eel hynny, gwnaeth aelodau o\u2019r el\u00eet busnes, <a href=\"https:\/\/aovivo.folha.uol.com.br\/2018\/10\/10\/5553-aovivo.shtml#post383095?utm_source=twitter&amp;utm_medium=social&amp;utm_campaign=twfolha\">gan gynnwys llywydd FIESP<\/a>, Paulo Skaf, ddatgan eu cefnogaeth i Bolsonaro, gan gredu y gallai <a href=\"https:\/\/noticias.uol.com.br\/politica\/eleicoes\/2018\/noticias\/2018\/10\/22\/bolsonaro-recebe-apoio-de-industriais-e-diz-que-nao-querer-atrapalha-los.htm\">gyflawni eu hagenda economaidd<\/a>.<\/p>\n<p>Ond mae lefel uchel o risg i\u2019r strategaeth hon, fel y mae el\u00eetau busnes ar draws y byd wedi darganfod wrth gefnogi poblyddion asgell dde fel Trump, \u00a0<a href=\"https:\/\/theconversation.com\/rodrigo-dutertes-first-year-a-human-rights-disaster-the-world-prefers-to-ignore-80442\">Rodrigo Duterte<\/a>\u00a0yn Ynysoedd y Pilipinas, <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/hungary-election-viktor-orban-tightens-his-grip-with-a-super-majority-94680\">Viktor Orban<\/a>\u00a0yn Hwngari, <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/the-rise-and-rise-of-recep-tayyip-erdogan-and-a-slide-towards-autocracy-in-turkey-39456\">Recep Tayyip Erdo\u011fan<\/a>\u00a0yn Nhwrci a selogion Brexit yn y Deyrnas Unedig.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cNodwedd gyffredin yr arweinyddion hyn yw eu parodrwydd i fentro ansefydlogrwydd aruthrol trwy danseilio sefydliadau cartref a rhyngwladol trwy ddefnyddio gweithredoedd symbolaidd sy\u2019n apelio i\u2019w cefnogwyr, ond a <a href=\"https:\/\/www.telegraph.co.uk\/business\/2018\/07\/06\/ignoring-businesses-will-damage-brexit-britain\/\">allai niweidio busnes<\/a>.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Felly sut bydd arlywyddiaeth Bolsonaro yn esblygu wrth iddo geisio cyfuno polisi neo-ryddfrydol o ddadreoli \u00e2\u2019r wleidyddiaeth atgasedd boblyddol mae\u2019n ei meithrin, sy\u2019n cael ei bwydo gan y cyfryngau cymdeithasol?<\/p>\n<p>Os daw Bolsonaro i ddirmygu\u2019r marchnadoedd fel y mae wedi dirmygu cynifer o grwpiau eraill ym Mrasil, mae\u2019n bosibl y bydd yr el\u00eetau busnes yn edifar am eu cefnogaeth yn y man.\u00a0 Fel mae\u2019r Beibl, un o hoff lyfrau Bolsonaro, sy\u2019n enwog am fod yn Gristion, yn dweud: \u201cMaent wedi hau\u2019r gwynt, a byddant yn medi\u2019r corwynt.\u201d<\/p>\n<p><strong>Mae <\/strong><strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610309-doering-heike\">Dr Heike Doering<\/a><\/strong><strong> yn Ddarlithydd mewn Rheolaeth Ryngwladol yn Ysgol Busnes Caerdydd. <\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae<\/strong> <strong><a href=\"http:\/\/www.bris.ac.uk\/efm\/people\/glenn-d-morgan\/overview.html\">Glenn Morgan<\/a><\/strong><strong> yn Athro Rheolaeth yn Ysgol Economeg, Cyllid a Rheolaeth Prifysgol Bryste. <\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae<\/strong> <strong><a href=\"https:\/\/business-school.exeter.ac.uk\/about\/people\/profile\/index.php?web_id=Marcus_Gomes\">Dr Marcus Gomes<\/a><\/strong><strong> yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Sefydliadol a Chynaliadwyedd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerwysg.<\/strong><\/p>\n<p><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar<\/em> <em><a href=\"https:\/\/theconversation.com\/jair-bolsonaro-how-business-elites-helped-him-to-power-in-brazil-and-why-they-might-regret-it-105525\">The Conversation UK<\/a><\/em><em>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Daeth Bolsonaro i\u2019r amlwg o gefndir cymharol ddi-nod. Gan ddefnyddio tacteg tebyg i Donald Trump, gwnaeth sylwadau gwarthus, a amlygwyd gan y cyfryngau cymdeithasol, i gyfrannu at ofnau ynghylch trais [&hellip;]","protected":false},"author":1620,"featured_media":439,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[264],"tags":[268,265,68,275,278,270,271,137,266,273,272,276,215,267,269,274,280,53,61,277,279],"class_list":["post-482","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-rheolaeth-ryngwladol","tag-blaid-y-gweithwyr","tag-brasil","tag-busnes","tag-cwpan-pel-droed-y-byd","tag-cyllid-a-rheolaeth-prifysgol-bryste","tag-cymdeithasol","tag-datblygiadaeth-newydd","tag-economaidd","tag-elit-busnes","tag-ffederasiwn-diwydiant-sao-paulo","tag-fiesp","tag-gemau-olympaidd","tag-jair-bolsonaro","tag-luiz-inacio-da-silva","tag-macroeconomaidd","tag-sao-paulo","tag-the-conversation-uk","tag-ymchwil","tag-ysgol-busnes-caerdydd","tag-ysgol-economeg","tag-ysgol-fusnes-prifysgol-caerwysg"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-7M","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/11\/Jair-Bolsonaro.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/482","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1620"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=482"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/482\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":499,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/482\/revisions\/499"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/439"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=482"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=482"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=482"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}