{"id":3217,"date":"2023-04-25T15:06:13","date_gmt":"2023-04-25T14:06:13","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=3217"},"modified":"2023-04-25T15:17:40","modified_gmt":"2023-04-25T14:17:40","slug":"dewch-i-gwrdd-a-chymdeithas-ysgol-busnes-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/dewch-i-gwrdd-a-chymdeithas-ysgol-busnes-caerdydd\/","title":{"rendered":"Dewch i gwrdd \u00e2 Chymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd"},"content":{"rendered":"<h4><em>Dewch i gwrdd \u00e2 Martha, ysgrifennydd Cymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd. Fe wnaethom ofyn i Martha, sy\u2019n astudio Rheoli Busnes (BSc), i s\u00f4n am y gymdeithas a pham mae myfyrwyr yn ymuno\u2026<\/em><\/h4>\n<p>Mae Cymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd yn gymdeithas sy&#8217;n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Gyda thros 3500 o fyfyrwyr yn yr ysgol busnes, dyma&#8217;r ffordd orau i fyfyrwyr gwrdd \u00e2 phobl eraill o wahanol gyrsiau, blynyddoedd a chefndiroedd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gymdeithas hon yn tyfu&#8217;n barhaus ac rydym yn cynnal digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn academaidd gyda digwyddiad bob pythefnos. Mae gennym ni ddigwyddiadau cymdeithasol anacademaidd megis dawnsfeydd, nosweithiau cwis, a barbeciws haf. Cyn bo hir byddwn yn cynnal Dawns Ffarwel ar gyfer myfyrwyr yr ysgol busnes sy&#8217;n graddio eleni.<\/p>\n<p class=\"jetpack-slideshow-noscript robots-nocontent\">This slideshow requires JavaScript.<\/p><div id=\"gallery-3217-1-slideshow\" class=\"jetpack-slideshow-window jetpack-slideshow jetpack-slideshow-black\" data-trans=\"fade\" data-autostart=\"1\" data-gallery=\"[{&quot;src&quot;:&quot;https:\\\/\\\/blogs.cardiff.ac.uk\\\/business-school\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/620\\\/2023\\\/04\\\/Meet-Martha-1.png&quot;,&quot;id&quot;:&quot;3155&quot;,&quot;title&quot;:&quot;Meet Martha&quot;,&quot;alt&quot;:&quot;A picture of Martha smiling.&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;itemprop&quot;:&quot;image&quot;},{&quot;src&quot;:&quot;https:\\\/\\\/blogs.cardiff.ac.uk\\\/business-school\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/620\\\/2023\\\/04\\\/Mark-Sweeney-guest-speaker.png&quot;,&quot;id&quot;:&quot;3147&quot;,&quot;title&quot;:&quot;Mark Sweeney \\u0026#8211; guest speaker&quot;,&quot;alt&quot;:&quot;Mark Sweeny, giving a presentation to business school students.&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;itemprop&quot;:&quot;image&quot;},{&quot;src&quot;:&quot;https:\\\/\\\/blogs.cardiff.ac.uk\\\/business-school\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/620\\\/2023\\\/04\\\/Businss-soc-night.png&quot;,&quot;id&quot;:&quot;3148&quot;,&quot;title&quot;:&quot;Businss soc night&quot;,&quot;alt&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;itemprop&quot;:&quot;image&quot;},{&quot;src&quot;:&quot;https:\\\/\\\/blogs.cardiff.ac.uk\\\/business-school\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/620\\\/2023\\\/04\\\/Business-society-at-Varsity.png&quot;,&quot;id&quot;:&quot;3149&quot;,&quot;title&quot;:&quot;Business society at Varsity&quot;,&quot;alt&quot;:&quot;Business school society students at Varsity.&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;itemprop&quot;:&quot;image&quot;}]\" itemscope itemtype=\"https:\/\/schema.org\/ImageGallery\"><\/div>\n<p>Mae gennym hefyd ddigwyddiadau gyda siaradwyr gwadd trwy gydol y flwyddyn lle rydym yn cael siaradwyr allanol i ymweld \u00e2 ni o ystod eang o fusnesau i rannu eu straeon a chynnig cyngor. Ymhlith y siaradwyr a gawsom yn ddiweddar mae: Mark Sweeney, Prif Weithredwr yn Novo solutions, Ciaran Branney, Cyfarwyddwr Peirianneg yn Purple Sector, a Tillie Page, Hyfforddwr Busnes a Dechrau Busnes.<\/p>\n<p>Mae ymuno \u00e2 chymdeithas yn rhan allweddol o&#8217;ch bywyd prifysgol a bydd yn cyfoethogi eich profiad cyfan.\u00a0 Mae llawer o fanteision ond yr un gorau yw&#8217;r cyfleoedd diddiwedd i gwrdd \u00e2 phobl.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n rhan o\u2019r pwyllgor sy\u2019n rhedeg y gymdeithas a fi yw\u2019r ysgrifennydd sy\u2019n gwneud y gwaith gweinyddol, yn cadw cofnodion cywir ac yn cyfathrebu \u00e2\u2019r pwyllgor ac aelodau\u2019r gymdeithas. Rydw i wir wedi mwynhau fy r\u00f4l ar y pwyllgor eleni a bod yn rhan o\u2019r gymdeithas. Mae wedi dysgu sgiliau amhrisiadwy i mi, fel rheoli amser, trefnu pobl, a chynllunio digwyddiadau. Gallaf drosglwyddo\u2019r sgiliau hyn i fy mywyd gwaith.<\/p>\n<p>Rydw i wrth fy modd yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd gan fy mod yn teimlo&#8217;n rhan o gymuned sydd eisiau helpu eraill i ffynnu a llwyddo. Rwy\u2019n mwynhau bod yn rhan o brifysgol sy\u2019n cefnogi ei myfyrwyr ac yn rhoi\u2019r cyfleoedd gorau iddynt i\u2019w helpu i wella mewn sawl ffordd. Gallai hyn gynnwys ymuno \u00e2\u2019r ystod eang o gymdeithasau lle gallwch ddysgu sgil neu chwaraeon newydd neu gwrdd \u00e2 phobl newydd o bob cefndir.<\/p>\n<p>Mae\u2019n hawdd ymuno \u00e2 chymdeithas a gallwch roi cynnig ar gymdeithas cyn ymrwymo i brynu aelodaeth flynyddol. Mae\u2019r mwyafrif o gymdeithasau\u2019n cynnal sesiynau \u2018rhoi cynnig arni\u2019 ar ddechrau\u2019r ddau semester er mwyn i fyfyrwyr allu dod draw i roi cynnig ar y gweithgareddau cymdeithasol, cwrdd \u00e2 phobl, a gweld a yw\u2019r gymdeithas yn cyd-fynd \u00e2\u2019u diddordebau.<\/p>\n<p>Mae Cymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd yn codi \u00a34 am aelodaeth flynyddol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/activities\/society\/business\/\"><strong>Rhagor o wybodaeth ac ymuno<\/strong><\/a><\/p>\n<p>(Gall darpar fyfyrwyr ymuno ar \u00f4l iddynt gofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd).<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/undergraduate-enews.cardiff.ac.uk\/t\/t-i-ftddkid-l-p\/\"><strong>200+ o gymdeithasau myfyrwyr<\/strong><\/a><\/p>\n<p>Mae dros 200 o gymdeithasau i ddewis ohonynt yn Undeb Y Myfyrwyr. Mae grwpiau ar gyfer Economeg, Ymgynghoriaeth, Cyllid, Masnachu ac Entrepreneuriaeth. Mae yna gymdeithasau penodol hyd yn oed i Taylor Swift, Yoga, Nofio Gwyllt, Dawns Hip Hop ac A-cappella, felly mae rhywbeth i bawb.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dewch i gwrdd \u00e2 Martha, ysgrifennydd Cymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd. Fe wnaethom ofyn i Martha, sy\u2019n astudio Rheoli Busnes (BSc), i s\u00f4n am y gymdeithas a pham mae myfyrwyr yn [&hellip;]","protected":false},"author":6954,"featured_media":3177,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[52,780],"tags":[],"class_list":["post-3217","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-myfyrwyr","category-profiad-myfyrwyr"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-PT","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2023\/04\/Business-society-event-2.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3217","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6954"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3217"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3217\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3218,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3217\/revisions\/3218"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3177"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3217"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3217"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3217"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}