{"id":304,"date":"2018-10-01T10:35:10","date_gmt":"2018-10-01T10:35:10","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=304&#038;lang=cy"},"modified":"2018-10-01T11:32:12","modified_gmt":"2018-10-01T11:32:12","slug":"llunio-polisi-yn-seiliedig-ar-dystiolaeth-a-yw-brocera-gwybodaeth-yn-gweithio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/llunio-polisi-yn-seiliedig-ar-dystiolaeth-a-yw-brocera-gwybodaeth-yn-gweithio\/","title":{"rendered":"Llunio polisi yn seiliedig ar dystiolaeth: a yw brocera gwybodaeth yn gweithio?"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-large wp-image-299\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-1024x576.png\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-1024x576.png 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-170x96.png 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-250x141.png 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-550x309.png 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-600x338.png 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-300x169.png 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-768x432.png 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-70x40.png 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-270x152.png 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-370x208.png 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-570x320.png 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-670x376.png 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-770x433.png 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-870x489.png 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1-970x545.png 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<h3>Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/1031156-quarmby-sarah\">Sarah Quarmby<\/a> yn cynnig cip y tu \u00f4l i\u2019r llenni yng <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/\">Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru<\/a> i weld sut mae eu gwaith o ddydd i ddydd yn manteisio ar y corff o wybodaeth sydd ar gael am y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisi.<\/h3>\n<p>Mae yna ddiddordeb eang a pharhaus ynghylch r\u00f4l tystiolaeth yn y broses o lunio polisi. Ond gan fod y gwaith o lunio polisi yn fl\u00ear a chymhleth yn ei hanfod, nid oes un ffordd gyffredinol o sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei defnyddio. Yn y cyd-destun hwn, mae \u201cbroceriaid gwybodaeth\u201d yn cael eu cydnabod fwyfwy fel ffordd bosibl o wella\u2019r broses o lunio polisi yn seiliedig ar dystiolaeth.<\/p>\n<p>Mae broceriaid gwybodaeth yn unigolion neu sefydliadau sy\u2019n pontio\u2019r bwlch rhwng ymchwil academaidd a\u2019r broses o lunio polisi. Maent yn gweithio i sicrhau bod tystiolaeth ddefnyddiol yn cyrraedd y bobl gywir, mewn fformat priodol, ar adeg addas.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cMae brocera gwybodaeth llwyddiannus yn seiliedig ar adeiladu perthnasau sy\u2019n llawn ffydd. Mae hyn yn gofyn am ddealltwriaeth fanwl o\u2019r byd academaidd a\u2019r broses o lunio polisi, gan gynnwys eu gwerthoedd, eu harferion a\u2019u cymhellion.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Cyfyngedig yw\u2019r sail dystiolaeth am froceriaid gwybodaeth, ond mae canfyddiadau rhagarweiniol yn awgrymu bod ganddynt y potensial i wella a chynyddu\u2019r defnydd o dystiolaeth.<\/p>\n<h3>Sut mae brocera gwybodaeth yn gweithio yn ymarferol?<\/h3>\n<p>Am y chwe mis diwethaf, dwi wedi bod yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, canolfan ymchwil annibynnol sy\u2019n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Agorodd y Ganolfan ym mis Hydref 2017, gan adeiladu ac ehangu ar waith ei rhagflaenydd, y <u><a href=\"http:\/\/ppiw.org.uk\/\">Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru<\/a><\/u>, ac mae\u2019n aelod o\u2019r rhwydwaith o <u><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/what-works-network\">Ganolfannau What Works<\/a><\/u> sydd wedi\u2019u lleoli ledled y DU.<\/p>\n<p>Rydym yn gweithio\u2019n agos \u00e2 Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i\u2019w helpu i nodi eu hanghenion tystiolaeth a hwyluso\u2019r broses o ddarparu\u2019r dystiolaeth honno. Yn ymarferol, golyga hyn ein bod yn arwain cyfres o brosiectau, pob un yn gysylltiedig \u00e2 pholisi neu bwnc gwasanaeth cyhoeddus gwahanol, o\u2019r cam syniadau cyntaf i gyflwyno\u2019r cynnyrch terfynol.<\/p>\n<p>Edrychwn ar ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru fel enghraifft. Mae\u2019r prosiectau fel arfer yn dechrau drwy gwrdd \u00e2 Gweinidogion, eu cynghorwyr arbennig a\/neu swyddogion polisi (dan nawdd Swyddfa\u2019r Cabinet) i drafod meysydd gwaith posibl.<\/p>\n<p>Pan fyddwn wedi cytuno ar y math o dystiolaeth a fyddai\u2019n ddefnyddiol iddynt, byddwn yn cynnal adolygiad byr o\u2019r hyn rydym eisoes yn ei wybod am y pwnc. Ar y pwynt hwn, gallwn benderfynu a fyddwn yn gwneud yr ymchwil yn fewnol neu\u2019n ei gomisiynu i arbenigwr allanol. Os rhown y prosiect ar gontract allanol, byddwn yn dod o hyd i\u2019r arbenigwyr mwyaf priodol ac yn cysylltu \u00e2 nhw i weld a fyddai diddordeb ganddynt mewn gweithio gyda ni.<\/p>\n<p>Mae pob prosiect yn wahanol, ond mae ein gwaith yn aml yn cynnwys hwyluso a rheoli perthnasau rhwng yr arbenigwyr a Llywodraeth Cymru yn ogystal \u00e2 sicrhau cyfathrebu effeithiol fel bod y cynnyrch terfynol yn bodloni disgwyliadau.<\/p>\n<p>Mae ffurf y dystiolaeth sy\u2019n cael ei llunio yn dibynnu ar fanylion pob prosiect. Gall fod yn adroddiad (gallwch weld enghraifft <u><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/sub-national-government-involvement-in-international-trade-negotiations\/\">yma<\/a><\/u>), <u><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/event\/the-implications-of-brexit-for-wales-and-devolution\/\">digwyddiad<\/a><\/u>, <u><a href=\"https:\/\/twitter.com\/WCfPP\/status\/997399359359803392\">gweithdy<\/a><\/u>, neu\u2019n syml gyfres o sgyrsiau strwythuredig rhwng yr arbenigwr a Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cFel hyn, gallwn bontio\u2019r bwlch rhwng ymchwilwyr academaidd a llunwyr polisi, sydd wedi cael eu hystyried yn ddwy gymuned ar wah\u00e2n ers cryn amser.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae <u><a href=\"https:\/\/pdfs.semanticscholar.org\/269f\/c6647caf5d1459df5b41f0542d7bb0ca218e.pdf\">theori \u201cDwy Gymuned\u201d<\/a><\/u> Nathan Caplan yn dal i fod yn adnodd defnyddiol ar gyfer meddwl am sut mae cau\u2019r bwlch rhwng ymchwil academaidd a llunio polisi. Mae\u2019n awgrymu bod y systemau gwerth a\u2019r amserlenni y mae\u2019r byd ymchwil a\u2019r byd llunio polisi yn eu defnyddio yn hollol wahanol i\u2019w gilydd &#8211; fel petai\u2019r ddwy gymuned yn siarad ieithoedd gwahanol.<\/p>\n<p>Mae llunwyr polisi\u2019n wynebu pwysau gwleidyddol a chraffu cyhoeddus ac yn chwilio am fewnbwn amserol ac ymarferol i mewn i faterion polisi, tra bod gan academyddion fwy o ddiddordeb mewn ymchwil tymor hwy sy\u2019n cael ei lywio gan theori, ac maent dan bwysau i gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd. Soniodd Caplan am yr angen am gyfryngwyr sy\u2019n sympathetig i\u2019r ddau ddiwylliant; gall y rhain gyfryngu a sicrhau\u2019r canlyniadau gorau posibl.<\/p>\n<h3>Pam bod hyn yn bwysig?<\/h3>\n<p>Mae ein gwaith yn y Ganolfan yn gweithredu rhywfaint o\u2019r ymchwil diweddaraf ar annog y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisi.<\/p>\n<p>Edrychodd <u><a href=\"https:\/\/www.alliance4usefulevidence.org\/assets\/Science-of-Using-Science-Final-Report-2016.pdf\">astudiaeth ddiweddar<\/a><\/u> gan y Gynghrair ar gyfer Tystiolaeth Ddefnyddiol ar yr hyn y gellir ei wneud i roi llunwyr polisi mewn safle lle maent yn gallu ac yn cael eu cymell i wneud defnydd o dystiolaeth, a nodwyd chwe \u201cmecanwaith\u201d i wella a chynyddu\u2019r defnydd o dystiolaeth. Mae ein dull gweithredu\u2019n canolbwyntio ar bedwar o\u2019r rhain: meithrin cyd-ddealltwriaeth o anghenion tystiolaeth a chwestiynau polisi, hwyluso cyfathrebu a mynediad i dystiolaeth, hwyluso rhyngweithio rhwng pobl sy\u2019n gwneud penderfyniadau ac ymchwilwyr, ac adeiladu\u2019r set sgiliau sydd ei hangen i ymgysylltu ag ymchwil.<\/p>\n<p>Yn wir, mae\u2019r ffordd rydym yn gweithredu yn cael ei llywio gan amrywiaeth eang o lenyddiaeth academaidd ar lunio polisi. Er enghraifft, rydym yn edrych ar ddulliau amgen o gyflwyno tystiolaeth ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Mae ymchwil yn awgrymu bod llunwyr polisi yn aml yn ymateb i naratifau ac astudiaethau achos sy\u2019n dangos sut mae polis\u00efau yn effeithio ar fywydau unigolion o ddydd i ddydd. Mae cefnogwyr y ffordd hon o feddwl yn <u><a href=\"https:\/\/paulcairney.wordpress.com\/2017\/01\/24\/combine-good-evidence-and-emotional-stories-to-change-the-world\/\">honni<\/a><\/u> bod tystiolaeth sy\u2019n cael ei chyflwyno fel hyn yn fwy tebygol o lawer o gael ei defnyddio. Y broblem gyda\u2019r dull gweithredu hwn yw bod yna oblygiadau o ran yr angen am niwtraliaeth academaidd, a dydyn ni ddim eisiau cyfaddawdu statws diduedd y Ganolfan.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cMae brocera gwybodaeth yn broses sy\u2019n mynd rhagddi, ond mae ymchwil yn <u><a href=\"https:\/\/www.knaer-recrae.ca\/tips-from-the-experts\/111-using-research-to-shape-knowledge-mobilisation-practice\">awgrymu<\/a><\/u> ei bod hi\u2019n bwysig sicrhau nad yw\u2019r dull \u2018profi a methu\u2019 cynnar o hwyluso\u2019r defnydd o dystiolaeth yn y gwaith o lunio polisi yn troi\u2019n strategaeth anaddas yn y tymor hwy.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Am y rheswm hwn, rydym yn mireinio ein \u2018theori newid\u2019, h.y. yr hyn rydym eisiau ei wneud, sut byddwn yn gwneud hynny, a sut byddwn yn mesur ein llwyddiant. Maes o law bydd hyn yn ein galluogi i asesu a ydym wedi bod yn effeithiol, a pha dulliau sydd wedi gweithio\u2019n well neu\u2019n waeth nag eraill.<\/p>\n<p>Rydym yn gwybod bod ein model yn gweithio yn ein cyd-destun ni, ac mae gennym lawer o enghreifftiau o\u2019n gwaith gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi hyn. Ond yr her yw systemu ffyrdd o weithio a chasglu enghreifftiau clir o le a pham rydym wedi gallu cael effaith yn y \u2018byd go iawn\u2019.<\/p>\n<p><strong>Mae <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/people\/view\/1031156-quarmby-sarah\/\">Sarah Quarmby<\/a> yn Gynorthwy-ydd Ymchwil yn WCPP. Mae ei r\u00f4l yn ymwneud \u00e2 holl weithgarwch y WCPP ac mae hi\u2019n cydweithredu ar ymchwil academaidd, rhaglen waith Llywodraeth Cymru a phrosiectau gwasanaethau cyhoeddus.<\/strong><\/p>\n<p><em><u><a href=\"http:\/\/blogs.lse.ac.uk\/politicsandpolicy\/evidence-informed-policymaking-knowledge-brokers\/\">Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol ar flog British Politics and Policy Ysgol Economeg Llundain (LSE)<\/a><\/u><\/em><em><u>.<\/u><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae Sarah Quarmby yn cynnig cip y tu \u00f4l i\u2019r llenni yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i weld sut mae eu gwaith o ddydd i ddydd [&hellip;]","protected":false},"author":1591,"featured_media":300,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[104],"tags":[106,87,57,60,105,53,61],"class_list":["post-304","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-polisi","tag-canolfan-polisi-cyhoeddus-cymru","tag-cymru","tag-llywodraeth-cymru","tag-llywodraeth-y-du","tag-prifysgol-caerdydd","tag-ymchwil","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-4U","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2018\/10\/Policymaking-graphic-1.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/304","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1591"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=304"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/304\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":314,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/304\/revisions\/314"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/300"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=304"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=304"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=304"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}