{"id":3011,"date":"2022-07-29T13:48:16","date_gmt":"2022-07-29T12:48:16","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=3011"},"modified":"2022-07-29T13:48:16","modified_gmt":"2022-07-29T12:48:16","slug":"ehangu-fy-musnes-gyda-helpu-i-dyfu-gan-sarah-breese","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/ehangu-fy-musnes-gyda-helpu-i-dyfu-gan-sarah-breese\/","title":{"rendered":"Ehangu fy musnes gyda Helpu i Dyfu gan Sarah Breese"},"content":{"rendered":"<p><em><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium_large wp-image-3031\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Classroom-photo-cohort-5-768x415.jpg\" alt=\"\" width=\"768\" height=\"415\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Classroom-photo-cohort-5-768x415.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Classroom-photo-cohort-5-600x324.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Classroom-photo-cohort-5-300x162.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Classroom-photo-cohort-5-1024x553.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Classroom-photo-cohort-5-1536x830.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Classroom-photo-cohort-5-2048x1107.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/em><\/p>\n<p><em>Yn ddiweddar, cwblhaodd Sarah Breese (BSc 2009), Cyfarwyddwr Gweithrediadau, TPT Consultancy and Training Ltd, y rhaglen datblygu busnes Helpu i Dyfu: Rheoli yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae Sarah yn dweud wrthym am ei phrofiad ar y rhaglen, a&#8217;r newidiadau y mae hi wedi&#8217;u gwneud yn ei gwaith ers hynny. <\/em><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-3006 alignleft\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Sarah-Breese-200x300.jpg\" alt=\"\" width=\"200\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Sarah-Breese-200x300.jpg 200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Sarah-Breese-225x338.jpg 225w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Sarah-Breese-682x1024.jpg 682w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Sarah-Breese-768x1152.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Sarah-Breese-1024x1536.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Sarah-Breese-1365x2048.jpg 1365w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Sarah-Breese-scaled.jpg 1706w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/p>\n<p>Ar \u00f4l graddio gyda BSc Rheoli Busnes yn 2009 doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud gyda fy ngyrfa felly derbyniais rai swyddi interim fel barforwyn a derbynnydd gwesty. Ar y pryd, roedd fy nhad yn rhedeg TPT Consultancy and Training Ltd ac roedd angen cymorth arno ar brosiect mawr a oedd yn cael ei ariannu.<\/p>\n<p>Ymunais \u00e2&#8217;r cwmni\u2019n rhan-amser, am rai misoedd i ddechrau. Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, rydw i wedi cael rolau amrywiol yn TPT gan gynnwys gweinyddu, gwerthu a marchnata, rhagoriaeth busnes ac, yn awr, fy r\u00f4l bresennol fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau.<\/p>\n<p>Cafodd TPT, fel llawer o gwmn\u00efau sy&#8217;n cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb, amser caled yn ystod y pandemig, ac roeddem yn gwybod ein bod am dyfu&#8217;r busnes ac ehangu ein harlwy. Cofrestrais gyda Helpu i Dyfu gyda\u2019r gobaith y byddwn yn cael cymorth a\u2019r offer i dyfu ein busnes.<\/p>\n<p>Yn sicr, rhoddodd y rhaglen y sgiliau a&#8217;r wybodaeth yr oeddwn yn chwilio amdanynt i mi, a thyfodd fy hyder i allu rhoi&#8217;r offer a roddwyd i ni ar waith. Mwynheais y modiwl ar Ryngwladoli ac Ennill Marchnadoedd Newydd yn fawr. Hwn oedd ein modiwl wyneb-yn-wyneb cyntaf ac roedd yn wych cyfarfod \u00e2\u2019r holl gynrychiolwyr eraill. Daeth yr astudiaeth achos Microfresh \u00e2\u2019r modiwl yn fyw a mwynheais y trafodaethau a gawsom yn ei chylch.<\/p>\n<p>I mi, y modiwl mwyaf defnyddiol oedd Datblygu Strategaeth Farchnata. Mae marchnata yn rhywbeth sydd wedi bod yn anodd i ni fel busnes yn y gorffennol. Gwnaeth y modiwl hwn ein helpu i segmentu ein marchnad yn fwy llwyddiannus, yn enwedig gan ein bod yn symud o B2B yn unig i\u2019r farchnad B2C. Fe wnaeth hefyd ein helpu i egluro ein r\u00f4l a lle rydym yn ffitio i mewn i&#8217;r farchnad.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n meddwl mai&#8217;r peth mwyaf a ddatblygais yn ystod y rhaglen oedd hyder. Yr hyder fod y pethau rwy\u2019n eu gwneud yn gywir, a\u2019r hyder i gyflwyno syniadau twf newydd i weddill y t\u00eem.<\/p>\n<p>Roedd y rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd i rwydweithio a gwneud cysylltiadau \u00e2 busnesau eraill. Rwy&#8217;n meddwl mai&#8217;r peth mwyaf diddorol am rwydweithio yw eich bod yn sylweddoli bod gan bawb broblemau, ofnau a materion tebyg. Roeddem yn gr\u0175p amrywiol o ran sectorau, maint busnes, rolau ac ati ond roedd them\u00e2u cyffredin yn rhedeg drwy\u2019r gr\u0175p, ac roedd yn ddiddorol trafod pethau gyda chymaint o bobl a safbwyntiau gwahanol.<\/p>\n<p>Yn dilyn fy amser ar y rhaglen, yn TPT rydym wedi ehangu ein portffolio o gyrsiau hyfforddi. Ar \u00f4l gweithio ar y llyfrau gwaith o\u2019r modiwlau marchnata, fe benderfynom amrywio\u2019r hyn rydyn ni\u2019n ei gynnig gyda chyrsiau sy\u2019n ategu ein harlwy presennol ac sy\u2019n targedu ein marchnadoedd presennol. Mae hyn eisoes wedi bod yn llwyddiant gyda&#8217;r cyrsiau wedi&#8217;u cymeradwyo&#8217;n allanol ac yn gwerthu.<\/p>\n<p>Un peth y byddwn i&#8217;n ei ddweud wrth rywun sy&#8217;n ystyried cofrestru: \u201cEwch amdani!\u201d\u00a0 Mae&#8217;n fuddsoddiad amser, ond os ydych chi&#8217;n fodlon rhoi&#8217;r gwaith i mewn a chofleidio\u2019r rhaglen, mae\u2019n talu ar ei ganfed.<\/p>\n<p><em>Mae Helpu i Dyfu: Rheoli yn rhaglen sy\u2019n helpu uwch reolwyr neu fusnesau bach a chanolig i hybu perfformiad, gwydnwch a thwf hirdymor eu busnes.<br \/>\nMae deuddeg sesiwn dros ddeuddeg wythnos yn ymdrin \u00e2 meysydd allweddol o arweinyddiaeth gan gynnwys strategaeth ac arloesi, mabwysiadu technoleg ddigidol ac adeiladu gweledigaeth a brand.<br \/>\nAriennir 90% o\u2019r rhaglen gan Lywodraeth y DU, gan gostio dim ond \u00a3750 i berchnogion busnes.<br \/>\n<\/em><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\/executive-education\/help-to-grow\"><em>Dysgwch fwy am y rhaglen Helpu i Dyfu: Rheoli.<\/em><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ddiweddar, cwblhaodd Sarah Breese (BSc 2009), Cyfarwyddwr Gweithrediadau, TPT Consultancy and Training Ltd, y rhaglen datblygu busnes Helpu i Dyfu: Rheoli yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae Sarah yn dweud [&hellip;]","protected":false},"author":1302,"featured_media":3031,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1863,1875,1],"tags":[],"class_list":["post-3011","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-alumni","category-cynfyfyrwyr","category-uncategorized"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-Mz","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/07\/Classroom-photo-cohort-5.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3011","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1302"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3011"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3011\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3036,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3011\/revisions\/3036"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3031"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3011"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3011"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3011"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}