{"id":2982,"date":"2022-04-27T11:50:41","date_gmt":"2022-04-27T10:50:41","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2982"},"modified":"2022-04-27T11:50:41","modified_gmt":"2022-04-27T10:50:41","slug":"uwchgyfeirio-ac-ymyrraeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/uwchgyfeirio-ac-ymyrraeth\/","title":{"rendered":"Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2980 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-2048x1152.jpg 2048w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p><strong>Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod angen adolygu\u2019r fframwaith presennol ar gyfer nodi a datrys problemau mawr gwasanaethau GIG Cymru. Yn y darn hwn, mae Tracey Rosell yn ystyried problemau sydd wedi\u2019u cydnabod.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/research.senedd.wales\/research-articles\/tackling-serious-problems-in-the-welsh-nhs-what-are-the-arrangements-for-improvement\/\">darn yn ei gyfanrwydd<\/a> ar wefan Ymchwil y Senedd.<\/p>\n<p>Mae Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru ar y cyd (y Trefniadau) ar waith ers 2014. O ganlyniad, mae gofyn i Lywodraeth Cymru, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru rannu gwybodaeth a thrafod sefyllfa gyffredinol pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd. Bydd Prif Gyfarwyddwr GIG Cymru yn rhoi argymhellion wedyn i\u2019r Gweinidog dros Iechyd a\u2019r Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch lefelau uwchgyfeirio amryw fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd.<\/p>\n<p>Nodau\u2019r Trefniadau yw helpu GIG Cymru i wneud y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>mynd i\u2019r afael \u00e2 phryderon ynghylch darparu gwasanaethau, ansawdd a diogelwch gofal ac effeithiolrwydd sefydliadol;<\/li>\n<li>gofalu bod materion a allai fod yn ddifrifol yn cael eu nodi cyn gynted ag y bo modd a\u2019u trafod yn effeithiol;<\/li>\n<li>gwella gwasanaethau yn \u00f4l y gofyn fel y gall y corff o dan sylw ailgydio yn ei drefniadau arferol cyn gynted ag y bo modd.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Pryd mae angen y Trefniadau?<\/h2>\n<p>Mae pedair lefel o uwchgyfeirio yngl\u0177n \u00e2 sefydliadau GIG Cymru: trefniadau arferol (gweithredu fel sy\u2019n arferol), monitro gwell, ymyrraeth benodol a chamau arbennig. Mae&#8217;r olaf yn ymwneud \u00e2&#8217;r diffygion mwyaf difrifol. Fel arfer, bydd uwchgyfeirio pan fo tystiolaeth bod pryderon ac nad yw\u2019r bwrdd iechyd yn dangos digon o wella na digon o frys. Ar y llaw arall, gall fod modd symud byrddau iechyd i lefel is o uwchgyfeirio pan fo tystiolaeth o wella.<\/p>\n<h2>Ydy\u2019r Trefniadau\u2019n addas i&#8217;w diben?<\/h2>\n<p>Does dim cynllun manwl yn y Trefniadau o ran cymorth &#8211; gall gynnwys cwestiynu, monitro, adolygu, mentora a\/neu wahodd arbenigwyr. O gymryd camau arbennig, bydd modd camu i mewn yn uniongyrchol ac atal pwerau a dyletswyddau, hyd yn oed. Dim ond ar \u00f4l i bopeth arall fethu y daw hynny.<\/p>\n<p>Gallai fod cymorth ariannol. Er enghraifft, mae \u00a3297 miliwn ychwanegol ar gael i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hyd ddiwedd 2023\/24. O achos y goblygiadau ariannol, bydd y pwnc gerbron Pwyllgor Cyfrifon a Gweinyddu Cyhoeddus y Senedd. Dechreuodd ymchwiliad i\u2019r Trefniadau fis Mawrth 2022 i weld a ydyn nhw\u2019n addas i\u2019w diben ac wedi cyflawni eu hamcanion.<\/p>\n<p>Yn rhan o\u2019i waith, bydd y pwyllgor yn archwilio sefyllfa bresennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Daeth camau arbennig y bwrdd i ben fis Tachwedd 2020 ar \u00f4l pum mlynedd, ond mae pryderon o hyd ynghylch arwain, ymgysylltu, gwasanaethau iechyd y meddwl, strategaethau a chynllunio.<\/p>\n<p>Hyd yn oed ar \u00f4l camau arbennig dros gyfnod maith, mae\u2019n ymddangos nad yw\u2019r Trefniadau\u2019n gallu datrys y problemau. A hynny er gwaethaf prif egwyddor y Trefniadau &#8211; anelu at wella amserol ac effeithiol.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y Trefniadau wedi newid ac esblygu yn sg\u00eel cydweithio \u00e2\u2019r byrddau iechyd. Mae\u2019n cydnabod, fodd bynnag, nad yw\u2019r fframwaith gwreiddiol yn eglur yngl\u0177n \u00e2\u2019r hyn sy\u2019n sbarduno newid yn lefel yr uwchgyfeirio. Pan fo uwchgyfeirio lefel uchel yn parhau dros gyfnod maith, gall pobl ddod i dderbyn gwasanaethau annigonol yn sefyllfa arferol. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen adolygu ac adnewyddu\u2019r fframwaith presennol, gan gynnwys gofalu bod y gwella\u2019n fwy amserol.<\/p>\n<p>Mae <strong>Tracey Rosell<\/strong> yn fyfyriwr doethurol ym Mhrifysgol Caerdydd o dan adain Cyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Cymru sy\u2019n ariannu\u2019r ymchwil ar gyfer ei doethuriaeth. Mae ei hymchwil yn helpu i ddeall sut mae arwain sefydliadau mewn amgylchiadau anodd, yn enwedig ym maes gofal iechyd. Mae\u2019r erthygl hon wedi\u2019i llunio pan oedd yn intern gyda staff Ymchwil y Senedd o dan nawdd Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Cymru, sy\u2019n rhan o Gyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod angen adolygu\u2019r fframwaith presennol ar gyfer nodi a datrys problemau mawr gwasanaethau GIG Cymru. Yn y darn hwn, mae Tracey Rosell yn ystyried problemau [&hellip;]","protected":false},"author":6907,"featured_media":2980,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[338],"tags":[],"class_list":["post-2982","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-a-lles"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-M6","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/04\/iStock-926450968-Cropped-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2982","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6907"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2982"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2982\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2984,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2982\/revisions\/2984"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2980"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2982"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2982"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2982"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}