{"id":2957,"date":"2022-03-08T08:00:06","date_gmt":"2022-03-08T07:00:06","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2957"},"modified":"2023-03-08T14:21:22","modified_gmt":"2023-03-08T13:21:22","slug":"diwrnod-rhyngwladol-y-menywod-2022","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/diwrnod-rhyngwladol-y-menywod-2022\/","title":{"rendered":"Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022"},"content":{"rendered":"<p><strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2965 size-large\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/03\/iStock-1296991418-1024x512.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"512\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/03\/iStock-1296991418-1024x512.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/03\/iStock-1296991418-600x300.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/03\/iStock-1296991418-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/03\/iStock-1296991418-768x384.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/03\/iStock-1296991418-1536x768.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/03\/iStock-1296991418-2048x1024.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/strong><\/p>\n<p><strong>Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, rydym yn dathlu&#8217;r cyfraniad sylweddol y mae menywod yn Ysgol Busnes Caerdydd wedi&#8217;i wneud, ac yn parhau i&#8217;w wneud, i fywydau menywod ledled y byd.<\/strong><\/p>\n<p><strong>#BreakTheBias<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd yn ysgrifennu: \u201cMae <strong>Diwrnod Rhyngwladol y Menywod<\/strong> yn rhoi cyfle i bob un ohonom fyfyrio ar yr hyn sydd wedi\u2019i gyflawni o ran sicrhau bod dynion a menywod yn fwy cyfartal yn y gweithle ac o ran eu cyfranogiad yn yr economi ehangach. Mae\u2019n hollbwysig ein bod yn dathlu llwyddiant, megis y ffaith fod mwy o fenywod mewn swyddi arwain erbyn hyn.<\/p>\n<p>Serch hynny, mae\u2019r newid wedi bod yn rhy araf, fel yr amlygwyd yn adroddiad diweddar ar <a href=\"https:\/\/chwaraeteg.com\/newyddion\/cyflwr-y-genedl-2022-gweithredu-nawr\/\">Gyflwr y Genedl<\/a> gan Chwarae Teg. Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi ymrwymo i chwarae ei rhan i hyrwyddo cynnydd ym mhob maes sy\u2019n ymwneud \u00e2 chydraddoldeb rhywiol ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang. Isod ceir blas o&#8217;r ymchwil bwysig sy&#8217;n cael ei chynnal yn ein Hysgol.<\/p>\n<h2>Y Bwlch Cyflog Rhwng Y Rhywiau<\/h2>\n<blockquote><p>&#8220;Heddiw, mae menywod yn dal i ennill llai na dynion ar gyfartaledd, hyd yn oed ar \u00f4l rhoi cyfrif am wahaniaethau sylfaenol rhwng y rhywiau o ran eu nodweddion.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/people\/view\/609429-kaya-ezgi\">Dr Ezgi Kaya<\/a>, Darlithydd mewn Economeg, yn archwilio&#8217;r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng nghyd-destunau gwledydd gwahanol, <a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/10.1111\/ilr.12338\">yn enwedig yn Ewrop<\/a>. &#8220;Yn y rhan fwyaf o wledydd, mae&#8217;r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi gostwng yn ystod y degawdau diwethaf, ond yr hyn sydd fwyaf trawiadol yw bod bwlch parhaus a sylweddol.&#8221;<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Dr Kaya: &#8220;Mae\u2019r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ffordd syml o fesur mater mwy cymhleth ac felly does dim un ateb syml i gau&#8217;r bwlch. Er ein bod ni\u2019n dal i adeiladu\u2019r sylfaen dystiolaeth, mae polis\u00efau tryloywder cyflog yn apelio&#8217;n sylweddol gan eu bod yn cynrychioli dull o nodi a hefyd o gymryd camau yn erbyn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y gweithle.&#8221;<\/p>\n<p>Cydweithiodd Dr Kaya \u00e2&#8217;r Athro Melanie Jones mewn ymchwil a ymchwiliodd <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/2020\/07\/20\/the-gender-pay-gap-what-can-we-learn-from-northern-ireland\/\">i&#8217;r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Ngogledd Iwerddon<\/a>.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l yr Athro Jones: &#8220;Mae&#8217;r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Ngogledd Iwerddon, sef 5%, yn llai na 1\/3 o&#8217;r gwerth yng ngweddill y DU. Gwelom nad yw&#8217;r bwlch cyflog culach rhwng y rhywiau yng Ngogledd Iwerddon yn adlewyrchu mwy o gydraddoldeb cyflog i fenywod yng Ngogledd Iwerddon.<\/p>\n<p>&#8220;Yn hytrach, mae&#8217;n adlewyrchu&#8217;r ffaith bod menywod yng Ngogledd Iwerddon yn fwy addysgedig a bod ganddyn nhw strwythur galwedigaethol sy\u2019n gwobrwyo mwy nag un dynion, a hynny o&#8217;i gymharu \u00e2 gweddill y DU.&#8221;<\/p>\n<h2><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft size-medium wp-image-1001\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-300x169.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"169\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/03\/IWD-2019.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Amodau Llafur yn y sector dillad byd-eang<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/people\/view\/610450-jenkins-jean\">Athro Jean Jenkins<\/a>, Athro Cysylltiadau Cyflogaeth, wedi bod <a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/news\/covid-19-lockdown-and-needs-garment-workers-bangalore-india\">yn ymchwilio i amodau llafur yn y sector dillad byd-eang<\/a> ers tro byd.<\/p>\n<p>Meddai hi: &#8220;Menywod yw tua 80% o&#8217;r gweithlu rhyngwladol yn y diwydiant hwn. Maen nhw\u2019n fwy tebygol o fod yn gweithio am gyflog isel, mewn amodau gwael, ac maen nhw\u2019n dioddef gwahanol fathau o gam-drin yn y gweithle bob dydd.<\/p>\n<p>&#8220;Mae menywod yn cael eu targedu gan gyflogwyr yn y sector hwn oherwydd bod ganddyn nhw enw da am fod yn weithwyr sy&#8217;n cydymffurfio, yn ufudd ac yn rhad. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwyf eisiau manteisio ar y cyfle i anrhydeddu gwaith ysbrydoledig cynifer o fenywod sy&#8217;n ymwneud \u00e2 gweithredu llafur ac yn ymladd yn erbyn y stereoteipiau hynny.&#8221;<\/p>\n<h2>\u00a0Cyflog Byw<\/h2>\n<blockquote><p>&#8220;Mae cyflog isel yn broblem fawr yn economi&#8217;r DU, gydag oddeutu 1 o bob 4 menyw yn ennill cyflog nad yw\u2019n ddigon i fyw arno.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae <a href=\"http:\/\/Cynaliadwyedd cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi Mae Dr Maryam Lofti, Darlithydd mewn Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi, yn gweithio i fynd i'r afael \u00e2 chynaliadwyedd cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi. Yn \u00f4l Dr Kaya: &quot;Y realiti yw mai cyfyngedig yw\u2019r tueddiadau presennol ar gyfer dal cadwyni cyflenwi'n gyfrifol am faterion cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae hyn yn bodoli nid yn unig ar gyfer gweithwyr benywaidd, ond hefyd ar gyfer y menywod hynny sy'n gweithio ar y lefelau gwneud penderfyniadau yn y cadwyni cyflenwi. Mae Dr Lofti yn gweithio gyda chyrff anllywodraethol, llywodraethau a diwydiannau i fynd i'r afael \u00e2'r materion cymdeithasol hyn, &quot;gan obeithio cael byd lle mae ein diwylliannau, ein cymdeithasau, a'n cadwyni cyflenwi\u2019n rhydd o unrhyw fath o faterion anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.&quot;\">Dr Deborah Hann<\/a>, Uwch-ddarlithydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth, ynghyd \u00e2 Dr David Nash a&#8217;r Athro Edmund Heery, wedi bod yn gwerthuso effaith y <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/news\/view\/1665035-living-wage-reaches-1bn-milestone\">cyflog byw gwirioneddol<\/a> ar y rhai sy\u2019n ennill y cyflogau isaf yn y gymdeithas.<\/p>\n<p>&#8220;Mae\u2019r achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol yn gofyn i gyflogwyr dalu cyflog sy\u2019n seiliedig ar yr hyn y mae&#8217;n ei gostio i bobl fyw mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, mae bron i 9,000 o gyflogwyr wedi cytuno&#8217;n wirfoddol i dalu&#8217;r gyfradd uwch hon. Er nad ei fwriad penodol yw bod yn ymyriad ar ran menywod, dywedodd cyflogwyr achrededig wrthym mai menywod yw\u2019r prif rai sy\u2019n cael y codiadau cyflog.<\/p>\n<p>&#8220;Hefyd, gallwn weld hyn yn y mathau o rolau sydd wedi gweld codiadau cyflog ar \u00f4l cael achrediad. Dywedodd 4,500 o gyflogwyr eu bod wedi codi cyflogau eu gweithwyr rhan-amser o ganlyniad i\u2019r achrediad \u2013 menywod gan fwyaf sy\u2019n gwneud y math hwn o waith. Mae ein hymchwil wedi cyfrifo bod dros \u00a31.5B, ers 2011, wedi mynd i bocedi\u2019r gweithwyr sy\u2019n ennill cyflogau isaf y DU o ganlyniad uniongyrchol i\u2019r achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol. Byddai\u2019r ffaith bod menywod wedi\u2019u gorgynrychioli ymhlith y gweithwyr hyn sy\u2019n ennill cyflog isel yn awgrymu y bydd cyfran sylweddol o&#8217;r arian hwn wedi mynd i fenywod, felly.&#8221;<\/p>\n<div class=\"video\">\n<span class=\"embed-youtube\" style=\"text-align:center; display: block;\"><iframe loading=\"lazy\" class=\"youtube-player\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed?version=3&#038;rel=1&#038;showsearch=0&#038;showinfo=1&#038;iv_load_policy=1&#038;fs=1&#038;hl=en-GB&#038;autohide=2&#038;wmode=transparent&#038;listType=playlist&#038;list=PLTz3ceFZjVkxha0yZXMilzRXkJd1lHahA\" allowfullscreen=\"true\" style=\"border:0;\" sandbox=\"allow-scripts allow-same-origin allow-popups allow-presentation allow-popups-to-escape-sandbox\"><\/iframe><\/span>\n<\/div>\n<h2>Cynaliadwyedd cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi<\/h2>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/people\/view\/1189309-lotfi-maryam\">Dr Maryam Lofti<\/a>, Darlithydd mewn Rheoli&#8217;r Gadwyn Gyflenwi, yn gweithio i fynd i&#8217;r afael \u00e2 chynaliadwyedd cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Dr Kaya: &#8220;Y realiti yw mai cyfyngedig yw\u2019r tueddiadau presennol ar gyfer dal cadwyni cyflenwi&#8217;n gyfrifol am faterion cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae hyn yn bodoli nid yn unig ar gyfer gweithwyr benywaidd, ond hefyd ar gyfer y menywod hynny sy&#8217;n gweithio ar y lefelau gwneud penderfyniadau yn y cadwyni cyflenwi.<\/p>\n<p>Mae Dr Lofti yn gweithio gyda chyrff anllywodraethol, llywodraethau a diwydiannau i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r materion cymdeithasol hyn, &#8220;gan obeithio cael byd lle mae ein diwylliannau, ein cymdeithasau, a&#8217;n cadwyni cyflenwi\u2019n rhydd o unrhyw fath o faterion anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.&#8221;<\/p>\n<h2>Amrywiaeth mewn cyfrifeg a chyllid<\/h2>\n<blockquote><p>\u00a0&#8220;Er bod mwy o amrywiaeth ar baneli rhoi dyrchafiad, mae arferion gwerthuso yn dal i dueddu i ffafrio syniadau traddodiadol am deilyngdod a allai lesteirio dilyniant gyrfaol menywod a grwpiau lleiafrifol.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/people\/view\/609811-edgley-carla\">Carla Edgley<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/people\/view\/610051-sharma-nina\">Dr Nina Sharma<\/a>, o adran Cyfrifeg a Chyllid Ysgol Busnes Caerdydd, yn gweithio i ddeall amrywiaeth mewn cyfrifeg a chyllid.<\/p>\n<p>&#8220;Dydy mentrau amrywiaeth ddim yn newid y ffordd y mae teilyngdod yn cael ei ddeall. Ac, yn ei dro, sut mae hyn yn ffafrio dilyniant gyrfaol rhai grwpiau, tra mae&#8217;n llesteirio dilyniant gyrfaol menywod a grwpiau lleiafrifol.<\/p>\n<p>&#8220;Er bod rhesymeg amrywiaeth wedi newid rhai agweddau ar fyd gwaith, fel hyfforddiant, offer ac arferion gweithio hyblyg, roedd y syniad o amrywiaeth yn cyfuno \u00e2 syniadau am deilyngdod yn rhywbeth a oedd y tu hwnt i amgyffred y bobl y gwnaethom ni gyfweld \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r bloc hwn yn cynnal status quo, ac mae&#8217;n cau&#8217;r posibiliadau o ran deall sut mae angen amser ar yr achos busnes am ddyrchafiad, a chael cyfle i ddatblygu&#8217;r hyn y mae\u2019n bosibl ei ddehongli fel teilyngdod mewn ffordd draddodiadol. Ac mae&#8217;n rhwystro myfyrio ar sut mae unigolion yn cyfrannu i lwyddiant sefydliadol mewn gwahanol ffyrdd.<\/p>\n<p>\u201cFydd newid sylweddol ddim yn digwydd oni bai bod y tensiwn hwn rhwng amrywiaeth a theilyngdod yn cael sylw.&#8221;<\/p>\n<h2><strong>Rhagor o wybodaeth<\/strong><\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/www.sciendo.com\/article\/10.2478\/izajodm-2021-0014\">Bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar draws y dosbarthiad: beth yw r\u00f4l effeithiau o fewn a rhwng cwmn\u00efoedd?<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/link.springer.com\/article\/10.1007\/s13209-014-0104-z\">Bylchau rhwng y rhywiau yn Sbaen: polis\u00efau a chanlyniadau dros y tri degawd diwethaf<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/2019\/11\/27\/five-things-we-learned-about-the-gender-pay-gap-in-the-uk-public-sector\/\">Pum peth a ddysgom am y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn Sector Cyhoeddus y Deyrnas Unedig<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/145487\/\">Methiant cadwyni cyflenwi ym maes hawliau gweithwyr o ran cyfeiriad y Nodau Datblygu Cynaliadwy<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/107516\/\">Yr ymgyrch Cyflog Byw yn y DU<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/118649\/\">Hunaniaeth broffesiynol ac enigma amrywiaeth<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, rydym yn dathlu'r cyfraniad sylweddol y mae menywod yn Ysgol Busnes Caerdydd wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud, i fywydau menywod ledled y [&hellip;]","protected":false},"author":1668,"featured_media":2965,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[176],"tags":[],"class_list":["post-2957","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-LH","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/03\/iStock-1296991418-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2957","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1668"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2957"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2957\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3122,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2957\/revisions\/3122"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2965"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2957"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2957"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2957"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}