{"id":2944,"date":"2022-03-02T11:00:17","date_gmt":"2022-03-02T10:00:17","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2944"},"modified":"2022-03-02T11:00:17","modified_gmt":"2022-03-02T10:00:17","slug":"effaith-y-pandemig-ar-amseroedd-talu-cyflenwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/effaith-y-pandemig-ar-amseroedd-talu-cyflenwyr\/","title":{"rendered":"Effaith y pandemig ar amseroedd talu cyflenwyr"},"content":{"rendered":"<p><strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-2942\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-1024x576.jpg\" alt=\"Illustration of an invoice on a laptop\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/strong><\/p>\n<p><strong>Gyda busnesau&#8217;n wynebu heriau a risgiau newydd, a yw&#8217;r pandemig wedi cael effaith ar amseroedd talu cyflenwyr? Yn ein postiad diweddaraf, mae Anthony Flynn yn archwilio&#8217;r effaith y mae&#8217;r pandemig wedi&#8217;i chael ar daliadau anfonebau.<\/strong><\/p>\n<p>Rhwng cyfnodau clo, prinder cynnyrch ac absenoldeb staff, achosodd pandemig COVID-19 aflonyddu mawr ar weithgarwch busnes. Ym maes y gadwyn gyflenwi, y rhagdybiaeth oedd y byddai&#8217;r pandemig yn atal cyflenwyr rhag cael eu talu&#8217;n brydlon neu hyd yn oed rhag cael eu talu o gwbl [1]. Gwelid y sefyllfa ar gyfer pob credydwr masnach fel un ansicr a nodwyd bod cyflenwyr bach mewn sefyllfa arbennig o fregus.<\/p>\n<p>Roedd y data a ddaeth i&#8217;r amlwg yn dangos cymylau rhybudd ar y gorwel. Roedd cwmn\u00efau anariannol yn yr Unol Daleithiau yn arafu taliadau i gyflenwyr i gynyddu eu harian wrth law [2] tra bod contractwyr yn mynegi nerfusrwydd mewn arolygon ynghylch pryd byddent yn cael eu talu am wasanaethau a roddwyd [3].<\/p>\n<p>Roedd rhagdybiaethau ynghylch oedi gyda thaliadau yn cael eu gyrru gan brofiad argyfwng bancio rhyngwladol 2008. Arweiniodd y dirwasgiad a ddeilliodd o hynny at gwmn\u00efau\u2019n ymestyn eu hamseroedd talu cyflenwyr 10 diwrnod ar gyfartaledd yn yr Unol Daleithiau a 7 diwrnod yn Ewrop [1]. Er nad yw hynny&#8217;n ymddangos yn llawer iawn o bosib ar bapur, mae oedi o\u2019r math hwn cyn talu yn amddifadu cwmn\u00efau o arian ar gyfer gwariant cyfredol a buddsoddiad cyfalaf a gall sbarduno adwaith cadwyn o daliadau hwyr ar draws diwydiant.<\/p>\n<p>Pam mae&#8217;r newid hwn mewn ymddygiad talu yn digwydd? Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, mae cwmn\u00efau am gadw arian parod a chryfhau eu mantolen. Mae eu hamharodrwydd i gymryd risg yn cynyddu, ac mae meddylfryd hunan-gadwraeth yn cymryd drosodd nes bod amodau masnachu arferol yn dychwelyd. Yn nodweddiadol, y cyflenwyr sy\u2019n ysgwyddo baich y cwtogi ariannol hwn a rhaid iddynt ymdopi ag aros yn hwy i gael eu talu.<\/p>\n<p>I ddychwelyd at y pandemig ac arferion talu cyflenwyr &#8211; wnaeth hynny bethau&#8217;n waeth, yn \u00f4l y disgwyl? Yr ateb, er syndod, yw na. Dengys dadansoddiad a gynhaliais ar arferion talu cyflenwyr miloedd o gwmn\u00efau mawr yn y Deyrnas Unedig mai ychydig iawn o newid a gafwyd yn yr amser a gymerwyd gan brynwyr i setlo eu hanfonebau gyda chyflenwyr rhwng dechrau 2018 a diwedd 2021. Bu hyd yn oed welliant ymylol yn y dangosyddion arfer talu yn ystod y pandemig.<\/p>\n<p>Ym mlynyddoedd 2018 a 2019, cyn y pandemig, roedd cwmn\u00efau&#8217;r Deyrnas Unedig yn cymryd 37 diwrnod ar gyfartaledd i dalu eu cyflenwyr. Arhosodd y ffigur hwn yn gyson ar hyd blynyddoedd y pandemig, 2020 a 2021. Cyn y pandemig, roedd cwmn\u00efau&#8217;n setlo tua 54% o&#8217;u hanfonebau o fewn y cyfnod safonol o 30 diwrnod. Yn ystod y pandemig, mae&#8217;r ffigur hwn wedi gwella i 56%. Mae&#8217;n werth nodi hefyd bod canran yr anfonebau a dalwyd yn unol \u00e2&#8217;r telerau y cytunwyd arnynt wedi codi yn ystod y pandemig, o 69% yn 2018 i 73.5% yn 2021. Cyflawnwyd yr olaf heb i gwmn\u00efau addasu eu hamseroedd talu safonol.<\/p>\n<p>Sut gallwn ni gyfrif am y canlyniadau hyn? Rhan o&#8217;r ateb yw&#8217;r cymorth ariannol digynsail a ddarparwyd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig i fusnesau. Amcangyfrifir bod \u00a3150B wedi cael ei ddarparu ar ffurf benthyciadau adfer, grantiau, gohiriadau TAW, rhyddhad ardrethi a chynlluniau cadw swyddi [4]. Roedd hyn yn helpu cwmn\u00efau i barhau\u2019n hylifol a chyflawni eu rhwymedigaethau ariannol i gredydwyr. Ni chafwyd cefnogaeth gan y Llywodraeth ar y raddfa hon yn ystod argyfwng ariannol 2008, ac roedd y wasgfa hylifedd ar gwmn\u00efau a ddilynodd hynny yn un o&#8217;r rhesymau pam yr oedd cyflenwyr yn ei chael yn anodd sicrhau taliad.<\/p>\n<p>Arweiniodd y pandemig hefyd at newid yng nghydbwysedd y p\u0175er rhwng prynwyr a chyflenwyr. Mae tagfeydd cynhyrchu tramor a chyfyngiadau logisteg wedi golygu bod prynwyr yn cael eu hunain yn cystadlu \u00e2&#8217;i gilydd i sicrhau cyflenwadau prin. O dan yr amodau hyn, mae\u2019n ddoeth talu cyflenwyr yn brydlon er mwyn cadw eu cefnogaeth.\u00a0 Dangoswyd ewyllys da hefyd gan gwmn\u00efau i&#8217;w cyflenwyr a&#8217;u partneriaid masnachol. Mae Nationwide UK, Sainsbury&#8217;s ac M&amp;S ymhlith y cwmn\u00efau stryd fawr a gyflymodd y taliad i gyflenwyr bach i&#8217;w helpu trwy&#8217;r pandemig [5].<\/p>\n<p>Mae pandemig COVID-19 wedi troi\u2019r ddoethineb arferol ynghylch sut mae\u2019r economi yn gweithredu ar ei phen. I&#8217;r gymysgedd gallwn ychwanegu ei fod wedi drysu disgwyliadau ynghylch trafodion ariannol rhwng prynwyr a chyflenwyr. Roedd rheswm dros gredu y byddai&#8217;n ymestyn amseroedd talu ac yn cynyddu&#8217;r diffyg cydymffurfio \u00e2 thelerau y cytunwyd arnynt, ond gwelwyd nad oedd hynny\u2019n wir, o leiaf nid yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig. Mae pob argyfwng economaidd ac o ran y gadwyn gyflenwi yn wahanol, felly mae angen i ni fod yn ofalus wrth ddefnyddio profiadau\u2019r gorffennol i ragfynegi\u2019r dyfodol.<\/p>\n<p>Mae <strong>Anthony Flynn<\/strong> yn Uwch-ddarlithydd Rheoli Prynu a Chyflenwi. Mae ganddo ddiddordeb ymchwil arbennig mewn r\u00f4l busnesau bach a chanolig mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus.<\/p>\n<p><strong>Llyfryddiaeth<\/strong><\/p>\n<ol>\n<li>Caniato, F., Moretto, A., Rice Jr., J.B. (2020), \u201cA financial crisis is looming for smaller suppliers\u201d, <em>Harvard Business Review<\/em>, Cyf. 56, Rhif Awst 06. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/hbr.org\/2020\/08\/a-financial-crisis-is-looming-for-smaller-suppliers\">https:\/\/hbr.org\/2020\/08\/a-financial-crisis-is-looming-for-smaller-suppliers<\/a><\/li>\n<li>Gr\u0175p Hackett. (2020), <em>Pandemic drives significant changes in working capital performance in 2020, <\/em>Gorffennaf 15. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/www.thehackettgroup.com\/news\/hackett-survey-pandemic-drives-significant-changes-in-working-capital-performance-in-2020\/\">https:\/\/www.thehackettgroup.com\/news\/hackett-survey-pandemic-drives-significant-changes-in-working-capital-performance-in-2020\/<\/a><\/li>\n<li>Melnyk, S.A., Schoenherr, T., Verter, V., Evans, C. a Shanley, C. (2021), \u201cThe pandemic and SME supply chains: Learning from early experiences of SME suppliers in the US defense industry\u201d,\u00a0<em>Journal of Purchasing and Supply Management<\/em>,\u00a0Cyf. 27, Rhif 4, tt.1007-14.<\/li>\n<li>Brien, P. a Keep, M. (2021), <em>Public spending during the Covid-19 pandemic<\/em>. Llyfrgell T\u0177\u2019r Cyffredin, tt. 1-25. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/researchbriefings.files.parliament.uk\/documents\/CBP-9309\/CBP-9309.pdf\">https:\/\/researchbriefings.files.parliament.uk\/documents\/CBP-9309\/CBP-9309.pdf<\/a><\/li>\n<li>Faulkner, L. (2021), How Nationwide supported SMEs during the pandemic. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/www.smallbusinesscommissioner.gov.uk\/ppc\/ppc-blog\/how-nationwide-supported-smes-in-the-pandemic\/\">https:\/\/www.smallbusinesscommissioner.gov.uk\/ppc\/ppc-blog\/how-nationwide-supported-smes-in-the-pandemic\/<\/a><\/li>\n<\/ol>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gyda busnesau'n wynebu heriau a risgiau newydd, a yw'r pandemig wedi cael effaith ar amseroedd talu cyflenwyr? Yn ein postiad diweddaraf, mae Anthony Flynn yn archwilio'r effaith y mae'r pandemig [&hellip;]","protected":false},"author":6898,"featured_media":2942,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1437],"tags":[],"class_list":["post-2944","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-3"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-Lu","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/blog-image.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2944","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6898"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2944"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2944\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2952,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2944\/revisions\/2952"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2942"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2944"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2944"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2944"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}