{"id":2930,"date":"2022-02-02T13:15:35","date_gmt":"2022-02-02T12:15:35","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2930"},"modified":"2022-02-25T15:31:21","modified_gmt":"2022-02-25T14:31:21","slug":"y-tu-ol-ir-drysau-yna-maen-fyd-gwahanol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/y-tu-ol-ir-drysau-yna-maen-fyd-gwahanol\/","title":{"rendered":"Y tu \u00f4l i&#8217;r drysau yna, mae&#8217;n fyd gwahanol"},"content":{"rendered":"<figure id=\"attachment_2936\" aria-describedby=\"caption-attachment-2936\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-large wp-image-2936\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/iStock-1277763706-1024x648.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"648\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/iStock-1277763706-1024x648.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/iStock-1277763706-534x338.jpg 534w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/iStock-1277763706-300x190.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/iStock-1277763706-768x486.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/iStock-1277763706-1536x972.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/iStock-1277763706-2048x1295.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2936\" class=\"wp-caption-text\">Restaurant kitchen crew preparing food.<\/figcaption><\/figure>\n<p><strong><em>Gall unigedd ffisegol cogyddion sy&#8217;n gweithio mewn ceginau \u00e2 s\u00ear Michelin arwain at gamymddwyn treisgar a chod moesol gwahanol. Yn ein post diweddaraf, mae Robin Burrow, Rebecca Scott a David Courpasson yn trafod sut mae hyn yn digwydd.<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Cyhoeddwyd ein herthygl yn y Journal of Management Studies <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fonlinelibrary.wiley.com%2Fdoi%2F10.1111%2Fjoms.12759&amp;data=04%7C01%7CBurrowR1%40cardiff.ac.uk%7C1fc16c925aeb4fc860fc08d967d5fc8f%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C637654991038653632%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C1000&amp;sdata=yv9GY0kh7VYJ11MJzldA0TIi4hTLUmsrwRjcRGnSlak%3D&amp;reserved=0\"><em>yma<\/em><\/a><em>, <\/em>ac mae&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r cysylltiad rhwng lleoedd ynysig a chamymddwyn.<\/p>\n<p>Rydym ni&#8217;n trafod y ffenomen yng nghyd-destun gr\u0175p penodol iawn o weithwyr: cogyddion yn gweithio mewn bwytai ciniawa coeth elitaidd ledled y byd. Rydym ni&#8217;n datgelu cred gydgysylltiedig mewn dau brif beth.<\/p>\n<p>Yn gyntaf, mae ceginau yn aml yn teimlo&#8217;n lleoedd \u2018ynysig\u2019 lle gall cogyddion deimlo eu bod wedi&#8217;u cuddio rhag prif ffrwd cymdeithas. Yn ail, yn y mannau ynysig, cudd hynny gall teimlad ddatblgyu o fod yn rhydd rhag cyfyngiadau. Yn benodol, bod modd camymddwyn i raddau heb ofni&#8217;r canlyniadau.<\/p>\n<p>Roedd y credoau hyn yn eang ymhlith y 47 o gogyddion y cyfwelwyd \u00e2 nhw, oedd yn ystyried y ceginau lle&#8217;r oedden nhw&#8217;n gweithio&#8217;n fydoedd gwahanol yn ffigurol. Roedd cod moesol gwahanol yn y bydoedd hyn, a&#8217;i sail oedd y syniad nad yw rheolau prif ffrwd yn berthnasol. Felly yr hyn a ddangoswn yw bod camymddwyn yn y gegin yn cael ei ystyried yn bosibl, a hyd yn oed yn normal, oherwydd wel, dyna beth sy&#8217;n digwydd yn y gegin. Ynte?<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><em>Pam ei bod yn ddefnyddiol meddwl am gamymddwyn fel effaith ynysu <\/em><\/p>\n<p>Nid realiti llwm, creulon y camymddwyn a nodwyd gan y bobl a gymerodd ran yn yr astudiaeth yw&#8217;r peth arwyddocaol yn ein canfyddiadau.\u00a0 <strong><em>Mae<\/em><\/strong> hyn yn bwysig, ond mewn gwirionedd mae&#8217;n hysbys yn eang. O astudiaethau academaidd fe wyddom fod lletygarwch yn ddiwydiant lle mae camymddwyn treisgar yn gyffredin. Fe wyddom hefyd fod y trais hwn yn cael ei ysgogi gan ddiwylliannau militaraidd, gwerthoedd hyper-wrywaidd, ideolegau eithafol a natur greulon gwaith corfforol, cyflym sy&#8217;n achosi straen.<\/p>\n<p>Mae trais a gyflawnir gan gogyddion mewn ceginau hefyd yn thema gyffredin yn y cyfryngau torfol. Ar y teledu yn benodol, caiff gastronomyddion obsesiynol, angerddol, sarhaus eu dathlu o hyd. Yn rhyfedd ddigon, rydym ni&#8217;n maddau eu hymddygiad o fwlio, trais ac ymosod. Dydym ni ddim (ar y cyfan) yn ei drin fel ymddygiad gwydr\u00f6edig neu ddrwg. Yn hytrach, mae&#8217;n gyfareddol ac yn ddifyr. Mae&#8217;n symptom o ymroddiad canmoladwy. Mae&#8217;n sgil-gynnyrch anffodus i&#8217;r ymgais i gyflawni rhagoriaeth sydd fel arall yn glodwiw.<\/p>\n<p>Arwyddoc\u00e2d ein hastudiaeth felly yw ei bod yn tynnu sylw at effaith amgylchedd y gegin ac yn ei ychwanegu at y rhestr o resymau pam fod cogyddion yn camymddwyn. Mewn gwirionedd, rydym ni&#8217;n ychwanegu dau beth:<\/p>\n<p>Yn gyntaf, rydym yn dangos y gellir deall camymddwyn fel rhywbeth a elwir yn &#8216;effaith ofodol&#8217;. Mae camymddwyn yn bosibilrwydd a gaiff ei wireddu gan yr hyn rydym ni&#8217;n ei alw yn &#8216;ddaearyddiaeth gwyredd&#8217;. O&#8217;i ddamcaniaethu fel hyn, caiff camymddwyn mewn sefydliadau &#8211; ond yn benodol ymhlith cogyddion mewn ceginau &#8211; ei ddeall fel rhywbeth sydd wedi&#8217;i ymgorffori&#8217;n gynnil yn natur ffisegol y lle.<\/p>\n<p>Felly, yn achos cogyddion, caiff camymddwyn ei ddeall fel posibilrwydd a gr\u00ebwyd gan strwythurau ffisegol ceginau [sy\u2019n ynysu]. Gan bethau fel ystafelloedd islawr caeedig heb ffenestri a mannau israddol eraill sydd wedi&#8217;u cuddio a&#8217;u cysgodi o&#8217;r golwg. Mae&#8217;r strwythurau hyn yn bwysig am eu bod yn creu teimladau o fod yn anweledig, ynghyd \u00e2 dieithrwch a datgysylltiad &#8211; ymdeimlad o fod i ffwrdd ac o olwg cymdeithas ehangach. Ein dadl ni yw bod gan y teimladau hyn &#8211; yr effeithiau gofodol hyn &#8211; r\u00f4l bwysig yn hwyluso a galluogi diwylliannau o gamymddwyn i barhau ac amlhau.<\/p>\n<p>Yr ail ffordd mae ein hastudiaeth yn hybu dealltwriaeth o gamymddwyn mewn sefydliadau yw drwy ddangos sut y gellir deall camymddwyn fel ffenomen gymunedol. Hynny yw, fel elfen ddefodol mewn ffordd wrth-strwythurol o fodoli, lle mae&#8217;r gegin ar yr un pryd yn cael ei ystyried yn offeryn ar gyfer tynnu&#8217;n \u00f4l o gymdeithas ac yn symbol o ddifaterwch a gwyredd y mae&#8217;r gymuned yn troi o&#8217;i amgylch. Dadleuwn fod posibiliadau&#8217;r gegin ar gael i gogyddion drwy strwythurau gwaharddol sy&#8217;n creu rhyddid rhag craffu allanol a hefyd y rhyddid i gamu allan o rolau a rhwymedigaethau prif ffrwd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae <strong>Robin Burrow<\/strong> yn ddarlithydd mewn Ymddygiad Sefydliadol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddo PhD o Brifysgol Warwick ac mae ei ymchwil yn helpu i ddatrys y cysylltiad rhwng emosiynau ac ymddygiad mewn sefydliadau.<\/p>\n<p>Mae <strong>Rebecca Scott<\/strong> yn Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata. Mae ymchwil Rebecca yn canolbwyntio ar agweddau cymdeithasol a diwylliannol marchnata. Gan ddefnyddio dulliau ethnograffig mae hi&#8217;n astudio&#8217;r defnydd o gynhyrchion drwy brofiad, defnydd o gynhyrchion amlsynhwyraidd ac &#8216;y corff&#8217;. Mae ei hymchwil yn cyfuno cyrff gwahanol o ymchwil sy&#8217;n gorgyffwrdd ar ymddygiad defnyddwyr, marchanta, cymdeithaseg ac anthropoleg, sy&#8217;n hwyluso dealltwriaeth o brofiad ymgorfforedig.<\/p>\n<p>Mae <strong>David Courpasson<\/strong> yn Athro Cymdeithaseg yn Ysgol Busnes EMLyon ac yn Gyfarwyddwr canolfan ymchwil OCE yno. Mae hefyd yn Athro ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei waith ar ddeinameg cymdeithasol a gwleidyddol mewn sefydliadau ac o&#8217;u cwmpas wedi&#8217;i gyhoeddi&#8217;n helaeth mewn mannau amrywiol. Mae&#8217;n gyn brif olygydd Organization Studies.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Restaurant kitchen crew preparing food. Gall unigedd ffisegol cogyddion sy'n gweithio mewn ceginau \u00e2 s\u00ear Michelin arwain at gamymddwyn treisgar a chod moesol gwahanol. Yn ein post diweddaraf, mae Robin [&hellip;]","protected":false},"author":6891,"featured_media":2936,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1940],"tags":[],"class_list":["post-2930","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwaith"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-Lg","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2022\/02\/iStock-1277763706-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2930","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6891"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2930"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2930\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2938,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2930\/revisions\/2938"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2936"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2930"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2930"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2930"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}