{"id":2913,"date":"2021-12-03T12:00:42","date_gmt":"2021-12-03T11:00:42","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2913"},"modified":"2021-12-03T12:01:35","modified_gmt":"2021-12-03T11:01:35","slug":"maer-duedd-negyddol-mewn-newyddion-ynglyn-a-sut-mae-arian-cyhoeddus-yn-cael-ei-ddefnyddio-yn-effeithio-ar-ein-parodrwydd-i-dalu-trethi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/maer-duedd-negyddol-mewn-newyddion-ynglyn-a-sut-mae-arian-cyhoeddus-yn-cael-ei-ddefnyddio-yn-effeithio-ar-ein-parodrwydd-i-dalu-trethi\/","title":{"rendered":"Mae&#8217;r duedd negyddol mewn newyddion yngl\u0177n \u00e2 sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn effeithio ar ein parodrwydd i dalu trethi"},"content":{"rendered":"\r\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"837\" class=\"wp-image-2911\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/12\/obi-onyeador-fRAIkiePREg-unsplash-1024x837.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/12\/obi-onyeador-fRAIkiePREg-unsplash-1024x837.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/12\/obi-onyeador-fRAIkiePREg-unsplash-413x338.jpg 413w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/12\/obi-onyeador-fRAIkiePREg-unsplash-300x245.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/12\/obi-onyeador-fRAIkiePREg-unsplash-768x628.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/12\/obi-onyeador-fRAIkiePREg-unsplash-1536x1256.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/12\/obi-onyeador-fRAIkiePREg-unsplash-2048x1674.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>I ateb y galw ymhlith y cyhoedd am gynnwys negyddol, mae&#8217;r cyfryngau\u2019n dueddol o roi gormod o sylw i newyddion negyddol.\u00a0Mae Milo\u0161 Fi\u0161ar, Tommaso Reggiani, Fabio Sabatini, a Ji\u0159\u00ed \u0160palek yn ysgrifennu bod y duedd negyddol wrth roi sylw i faterion polisi economaidd yn lleihau cydymffurfiaeth o ran trethi. Ar y llaw arall, pan fydd pobl yn cael gwybodaeth ddibynadwy am ddefnydd priodol o refeniw treth, mae cydymffurfiaeth yn cynyddu\u2019n sylweddol.\u00a0<\/em><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pam ydym yn talu trethi? Nid dim ond oherwydd ein bod yn ofni archwiliadau a chosbau. Gall bodlonrwydd ar waith y llywodraeth a hyder mewn sefydliadau hefyd chwarae rhan mewn cydymffurfiaeth o ran treth.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae theor\u00efau economaidd yn awgrymu bod dinasyddion sy&#8217;n credu nad yw&#8217;r llywodraeth yn gwario eu trethi mewn modd priodol yn tueddu i ymateb drwy wrthod talu eu hatebolrwydd treth cyfan. Ond yn lle hynny, dychmygwch sefyllfa lle mae cred gyffredin bod sefydliadau&#8217;n defnyddio trethi er mwyn ariannu nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus yn ddigonol. Mewn sefyllfa o\u2019r fath, bydd trethdalwyr yn fwy parod i gydymffurfio, fel pe bai &#8220;contract seicolegol&#8221; ar waith gydag awdurdodau. Mae contract o&#8217;r fath yn dibynnu ar degwch y broses wleidyddol a dilysrwydd y canlyniadau polisi sy&#8217;n deillio ohoni.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r safbwyntiau hyn yn awgrymu bod gan wybodaeth am waith y llywodraeth a&#8217;r broses wleidyddol r\u00f4l hanfodol. Fodd bynnag, mae&#8217;r sylw a roddir i faterion economaidd a pholisi yn y cyfryngau yn bell o fod yn gytbwys. Mae\u2019r cyfryngau torfol yn dueddol o roi gormod o sylw i newyddion negyddol gan eu bod yn ysgogi ymateb seicoffisiolegol cryfach yn y gynulleidfa, ac yn gweddu&#8217;n well i\u2019r chwant am gynnwys negyddol ymhlith y cyhoedd. Mae&#8217;r duedd negyddol hon yn creu &#8216;sbiral o sinigiaeth&#8217; yn y diwydiant. Mae\u2019r galw ymhlith y cyhoedd am newyddion dramatig yn cryfhau&#8217;r cymhelliad ymhlith newyddiadurwyr a gwneuthurwyr newyddion i ddarparu cynnwys negyddol. Yn ddiweddar, mae lledaeniad naratifau sy\u2019n feirniadol o\u2019r sefydliad ac yn gysylltiedig \u00e2&#8217;r cynnydd mewn mudiadau poblyddol wedi gwaethygu\u2019r duedd negyddol mewn adroddiadau am effeithlonrwydd a thegwch sefydliadau cyhoeddus.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Sut mae&#8217;r duedd negyddol hon yn y sylw a roddir i faterion polisi economaidd yn effeithio ar gydymffurfiaeth o ran treth?<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Arbrawf labordy<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I ateb y cwestiwn hwn, cynhaliwyd\u00a0<a href=\"https:\/\/link.springer.com\/article\/10.1007\/s10797-021-09706-w\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">arbrawf\u00a0labordy arloesol<\/a> gennym i astudio sut mae dod i gysylltiad \u00e2 newyddion \u00e2 thuedd yn effeithio ar gydymffurfiaeth. Cymharwyd cydymffurfiaeth dreth tri gr\u0175p o bobl o dan amodau gwahanol. Gwyliodd y gr\u0175p cyntaf newyddion \u00e2 thuedd negyddol am waith y llywodraeth. Nod y driniaeth hon oedd adlewyrchu\u2019r duedd i fod yn negyddol yn y cyfryngau, sef y <em>status quo<\/em> wrth roi gwybodaeth am arian cyhoeddus a materion polisi. Nesaf, dangosodd yr arbrofwyr newyddion cadarnhaol i\u2019r ail gr\u0175p o gyfranogwyr. Yn olaf, roedd gr\u0175p rheoli a gafodd driniaeth blasebo.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Newyddion da yn arwain at gynnydd mewn cydymffurfiaeth o ran treth<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O&#8217;i gymharu \u00e2&#8217;r driniaeth blasebo, nid yw dod i gysylltiad \u00e2 newyddion negyddol yn effeithio ar gydymffurfiaeth o ran treth, sy\u2019n cadarnhau bod cyfranogwyr yn ystyried tuedd negyddol y cyfryngau fel y norm yn hytrach na&#8217;r eithriad. Wrth i&#8217;r dewis newyddion a\u2019i d\u00f4n wyro oddi wrth y <em>status quo<\/em>, gan arwain at gynnwys cadarnhaol, mae cyfranogwyr yn cydymffurfio gryn dipyn yn fwy na&#8217;r gr\u0175p rheoli. Mae&#8217;r effaith yn sylweddol yn economaidd: nododd pobl a ddaeth i gysylltiad \u00e2 newyddion da gyfradd gydymffurfio 23 pwynt canran yn uwch na&#8217;r rhai a ddaeth i gysylltiad \u00e2 newyddion negyddol neu niwtral.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r canlyniadau hyn yn dangos bod naratif materion cyllid cyhoeddus a pholisi yn cael effaith bwysig ar gydymffurfiaeth o ran treth, gan awgrymu bod newyddion \u00e2 thuedd yn ffynhonnell gyson o wybodaeth sy\u2019n cael effaith seicolegol. Mae unigolion yn tueddu i ymateb gyda\u2019r un ymddygiad maent yn ei weld gan y llywodraeth, ac yn fwy cyffredinol mewn sefydliadau cyhoeddus, fel pe bai dinasyddion a&#8217;r wladwriaeth yn cael eu rhwymo gan gontract seicolegol. Felly, mae tueddiad systematig y cyfryngau i ganolbwyntio ar newyddion negyddol yn arwain at gostau cymdeithasol cudd sy&#8217;n gysylltiedig ag anallu&#8217;r llywodraeth i fanteisio&#8217;n llawn ar ei photensial o ran refeniw treth a chyflawni nodau cyllidol, gydag effeithiau niweidiol ar ei gallu i ddarparu nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fodd bynnag, y canfyddiad mwyaf trawiadol yw\u2019r effaith gadarnhaol y mae hyd yn oed ychydig o newyddion da am waith y sector cyhoeddus yn ei chael ar gydymffurfiaeth o ran treth. Mae greddf yn awgrymu bod darn o newyddion negyddol yn fwy trawiadol nag un da. Ond i\u2019r gwrthwyneb, rydym yn gweld bod dangos nifer fach o ddarnau o wybodaeth ddibynadwy i gyfranogwyr am ddefnydd priodol o refeniw treth yn rhoi hwb sylweddol i gydymffurfiaeth.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Hyrwyddo sylw diduedd i newyddion da<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn gyffredinol, mae&#8217;r canfyddiadau&#8217;n awgrymu y gallai rhoi mwy o sylw diduedd i newyddion da (hefyd) gryfhau&#8217;r contract seicolegol rhwng trethdalwyr a&#8217;r wladwriaeth yn y pen draw.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r neges i lunwyr polis\u00efau yn un syml. Gall polis\u00efau cyhoeddus greu&#8217;r amgylchiadau i hyrwyddo cydymffurfiaeth o ran treth mewn ffyrdd nad ydym wedi eu hystyried o&#8217;r blaen. Gallai llunio strategaethau a chymhellion i annog gwybodaeth fwy cytbwys sy&#8217;n rhoi sylw diduedd i newyddion cadarnhaol helpu&#8217;r llywodraeth i gyflawni ei hamcanion refeniw treth. Gallai cynyddu cydymffurfiaeth arwain at gylch rhinweddol drwy wella&#8217;r ddarpariaeth o nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus. Wrth fynd ar drywydd hyn, rhaid i awdurdodau ddiogelu\u2019r hawl i feirniadu, sy&#8217;n cefnogi&#8217;r gred bod y broses wleidyddol yn deg a bod y canlyniadau polisi yn ddilys, gan gryfhau ymhellach yr awydd i gydymffurfio o ran treth.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2663\u2663\u2663<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Nodiadau:<\/em><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n<li><em>Mae\u2019r erthygl hon yn seiliedig ar\u00a0<\/em><a href=\"http:\/\/carbsecon.com\/wp\/E2021_26.pdf\"><em>Media negativity bias and tax compliance: Experimental evidence<\/em><\/a><em>, International Tax and Public Finance, a fydd yn cael ei gyhoeddi\u2019n fuan (2021) [Mynediad agored \u2013 DOI: 10.1007\/s10797-021-09706-w]<\/em><\/li>\r\n<li><a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/fRAIkiePREg\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><em>Llun<\/em><\/a><em>\u00a0gan\u00a0<\/em><a href=\"https:\/\/unsplash.com\/@thenewmalcolm?utm_source=unsplash&amp;utm_medium=referral&amp;utm_content=creditCopyText\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><em>Obi Onyeador<\/em><\/a><em>\u00a0ar\u00a0<a href=\"https:\/\/unsplash.com\/?utm_source=unsplash&amp;utm_medium=referral&amp;utm_content=creditCopyText\">Unsplash<\/a>\u00a0\u00a0<\/em><\/li>\r\n<\/ul>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafodd yr erthygl hon ei chynnwys yn wreiddiol yn <a href=\"https:\/\/blogs.lse.ac.uk\/businessreview\/2021\/11\/26\/the-negativity-bias-in-news-about-how-public-money-is-used-affects-our-willingness-to-pay-taxes\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/blogs.lse.ac.uk\/businessreview\/2021\/11\/26\/the-negativity-bias-in-news-about-how-public-money-is-used-affects-our-willingness-to-pay-taxes\/\">LSE Business Review<\/a><\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"I ateb y galw ymhlith y cyhoedd am gynnwys negyddol, mae'r cyfryngau\u2019n dueddol o roi gormod o sylw i newyddion negyddol.\u00a0Mae Milo\u0161 Fi\u0161ar, Tommaso Reggiani, Fabio Sabatini, a Ji\u0159\u00ed \u0160palek [&hellip;]","protected":false},"author":6874,"featured_media":2911,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1166],"tags":[],"class_list":["post-2913","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-economi-du"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-KZ","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/12\/obi-onyeador-fRAIkiePREg-unsplash-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2913","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6874"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2913"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2913\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2917,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2913\/revisions\/2917"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2911"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2913"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2913"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2913"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}