{"id":2903,"date":"2021-10-18T10:07:06","date_gmt":"2021-10-18T09:07:06","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2903"},"modified":"2021-10-18T10:07:10","modified_gmt":"2021-10-18T09:07:10","slug":"cynilo-rhagofalus-rhwng-cenedlaethau-yn-ewrop","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/cynilo-rhagofalus-rhwng-cenedlaethau-yn-ewrop\/","title":{"rendered":"Cynilo Rhagofalus rhwng Cenedlaethau yn Ewrop"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"631\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/10\/iStock-1222713269-1024x631.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2899\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/10\/iStock-1222713269-1024x631.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/10\/iStock-1222713269-548x338.jpg 548w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/10\/iStock-1222713269-300x185.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/10\/iStock-1222713269-768x473.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/10\/iStock-1222713269-1536x947.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/10\/iStock-1222713269-2048x1262.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Gall y teulu estynedig eich gofalu rhag digwyddiadau anffafriol. Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae Francesco Scervini a Serena Trucchi yn dogfennu sianel cynilo newydd, sef effaith ansicrwydd incwm y plentyn ar gynilion y rhieni, ac yn dangos ei r\u00f4l yn fframwaith pandemig COVID-19.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod pandemig COVID-19, gwnaeth cyfraddau cynilo <a href=\"\/Users\/sisls1\/OneDrive%20-%20Cardiff%20University\/Lauren%20Sourbutts\/CARBS\/Blog\/increased%20in%20many%20advanced%20economies\">gynyddu mewn llawer o fannau lle ceir economi ddatblygedig<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r newid hwn yn adfywio diddordeb economegwyr a llunwyr polis\u00efau yn y ffactorau sy&#8217;n rheoli gwariant ac arferion cynilo aelwydydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r ffactorau hyn yn allweddol i ddeall canlyniadau cynnydd o&#8217;r fath mewn cynilion cyfanredol i les unigol, effeithiolrwydd ymyriadau polisi i <a href=\"https:\/\/voxeu.org\/article\/how-us-consumers-use-their-stimulus-payments\">ysgogi galw cyfanredol<\/a> a lefelau cyflogaeth a <a href=\"https:\/\/voxeu.org\/article\/us-excess-savings-are-not-excessive\">gweithgarwch ar \u00f4l y pandemig<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae astudiaethau eraill wedi dangos mai rhagofal yw un o&#8217;r prif ffactorau sydd wedi achosi cynnydd mewn cynilion yn ystod pandemig COVID-19. Mae llawer iawn o ansicrwydd wedi bod yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ynghylch swyddi, incwm aelwydydd ac iechyd cyffredinol yr economi yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaeth y cynnydd hwn mewn ansicrwydd beri i bobl gynilo er mwyn bod \u00e2 chlustog ar gyfer wynebu unrhyw gyfnodau gwael yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn astudiaeth ddiweddar, dadansoddwyd y cysylltiad rhwng cynilion a risg incwm o <em>safbwynt sy&#8217;n pontio&#8217;r cenedlaethau<\/em>. Yn benodol, gwnaethom ymchwil i weld a yw ansicrwydd incwm y cenedlaethau iau\u2019n effeithio ar arferion cynilo eu rhieni, ac i ba raddau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn yr achos hwn, gall gweithwyr ar gam hwyr yn eu bywyd gwaith gynyddu faint o gynilion rhagofalus sydd ganddynt mewn ymateb i gynnydd mewn ansicrwydd incwm, hyd yn oed os bydd ansicrwydd incwm yn effeithio arnynt lai (am eu bod yn dibynnu ar ffynonellau incwm llai cyfnewidiol, fel budd-daliadau ymddeol, a chyfoeth cymharol fawr).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly, gall yr ysgogiad rhagofalus rhwng cenedlaethau i gynilo gyfrannu at esbonio cyfoeth a llwybrau cynilo unigolion ar gam hwyr yn y cylch oes, sef pobl sydd wedi ymddeol neu weithwyr sy&#8217;n agos\u00e1u at oedran ymddeol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ein hastudiaeth, dadansoddwyd penderfyniadau cynilo unigolion dros 50 oed o sampl o wledydd Ewropeaidd. Gwelsom fod ansicrwydd incwm yn y dyfodol yn peri i bobl gynilo \u2013 nid yn unig yr unigolyn y mae\u2019r ansicrwydd yn effeithio arno, ond y rhieni hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os bydd ansicrwydd incwm y plentyn yn cynyddu 1%, bydd y rhieni yn cynilo tua 0.4% yn fwy. Mae ein canlyniadau&#8217;n tynnu sylw at heterogenedd sylweddol yng nghryfder yr ysgogiad rhagofalus rhwng cenedlaethau ar draws y gwledydd i gynilo. Mae&#8217;r sianel hon yn gryfach lle mae system les wannach ar waith, sy&#8217;n gyson \u00e2 rhywfaint o amnewidiadwyedd rhwng yswiriant preifat a chyhoeddus (rhwng cenedlaethau) i risg incwm.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae i\u2019r canlyniad hwn oblygiadau i bolis\u00efau perthnasol. Gellir newid cysylltiadau teuluol a rhwydweithiau anffurfiol am fesurau lles cyhoeddus, fel budd-daliadau diweithdra a phecynnau ysgogi, a fydd yn cael mwy o sg\u00eel-effeithiau cadarnhaol na\u2019r polis\u00efau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <strong><a href=\"https:\/\/scienzepolitiche.unipv.it\/persone\/prof-francesco-scervini\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Francesco Scervini<\/a><\/strong> yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Pavia (yr Eidal).<br>Mae <strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/1751417-trucchi-serena\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Serena Trucchi<\/a> <\/strong>yn Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r canfyddiadau a drafodir yn yr erthygl hon yn seiliedig ar \u201cIntergenerational Precautionary Savings in Europe\u201d Scervini a Trucchi (2021), sydd i\u2019w gyhoeddi yn <em>Oxford Bulletin of Economics and Statistics<\/em>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gall y teulu estynedig eich gofalu rhag digwyddiadau anffafriol. Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae Francesco Scervini a Serena Trucchi yn dogfennu sianel cynilo newydd, sef effaith ansicrwydd incwm y plentyn [&hellip;]","protected":false},"author":6867,"featured_media":2899,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1166],"tags":[1469,641],"class_list":["post-2903","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-economi-du","tag-cynilion","tag-economi-cy"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-KP","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/10\/iStock-1222713269-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2903","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6867"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2903"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2903\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2907,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2903\/revisions\/2907"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2899"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2903"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2903"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2903"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}