{"id":2770,"date":"2021-04-09T16:06:30","date_gmt":"2021-04-09T15:06:30","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2770"},"modified":"2021-06-07T16:50:08","modified_gmt":"2021-06-07T15:50:08","slug":"ail-feddwl-sut-rydym-nin-brandio-ein-dinasoedd-ar-ol-covid-19","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/ail-feddwl-sut-rydym-nin-brandio-ein-dinasoedd-ar-ol-covid-19\/","title":{"rendered":"Ail-feddwl sut rydym ni&#8217;n &#8216;brandio&#8217; ein dinasoedd ar \u00f4l COVID-19"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/Aerial-shot-of-Cardiff-Bay-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2764\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/Aerial-shot-of-Cardiff-Bay-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/Aerial-shot-of-Cardiff-Bay-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/Aerial-shot-of-Cardiff-Bay-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/Aerial-shot-of-Cardiff-Bay-768x512.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/Aerial-shot-of-Cardiff-Bay-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/Aerial-shot-of-Cardiff-Bay-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Aerial view of Cardiff Bay, the Capital of Wales, UK 2019 on a clear sky summer day<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein post diweddaraf, mae Dr Laura Reynolds yn canolbwyntio ar oblygiadau posibl COVID-19 ar gyfer sut rydym yn blaenoriaethu ac yn brandio ein dinasoedd, gan edrych yn gyntaf ar yr effaith bosibl ar gydweithio lleol, ac yn ail, ar ailfywiogi gwydnwch amgylcheddol a chymdeithasol posibl.<\/h3>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Beth allai oblygiadau pandemig Covid-19 fod ar gyfer datblygu brandiau dinasoedd mwy cynhwysol a chynaliadwy?<\/h5>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dinas yn ei hanfod yn ganolbwynt ar gyfer gweithgaredd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, gan ddenu preswylwyr, gweithwyr, busnesau, buddsoddwyr, myfyrwyr a thwristiaid i&#8217;w strydoedd llawn traffig. Mae ton ar \u00f4l ton o gyfnodau clo wedi gorfodi dinasoedd i arafu.&nbsp; Dros dro o leiaf, gorfodwyd busnesau, lletygarwch, hamdden a manwerthu i gau eu drysau.&nbsp; Ataliwyd teithiau hamdden a busnes a dechreuodd llawer o weithwyr swyddfa a chanol y ddinas weithio gartref. Rydym yn aros i weld sut y bydd Covid-19 wedi effeithio ar ein dinasoedd yn y tymor hir. Eto i gyd eisoes ceir consensws cynyddol y gallai &#8216;cyfaredd&#8217; dinasoedd newid.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyn y pandemig roedd y ffordd roedd dinasoedd yn cael eu marchnata a&#8217;u hyrwyddo eisoes yn newid. Roedd dyddiau <a href=\"https:\/\/www.europeancitiesmarketing.com\/city-branding-is-not-about-the-logo\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">sloganau bachog, logos oedd yn aml yn aneglur a naratif brandiau wedi&#8217;u sgriptio&#8217;n fanwl<\/a> eisoes wedi&#8217;u rhifo. Yn eu lle, roedd ymagwedd fwy cynaliadwy a chysylltiedig at frandio dinasoedd yn dod i&#8217;r amlwg. Roedd yn canolbwyntio ar <a href=\"http:\/\/orca.cf.ac.uk\/138467\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">hanfod lle, ei arferion, ei bolis\u00efau ac yn bwysicaf oll ei bobl.<\/a> Roedd rhanddeiliaid lleol oedd yn byw, yn gweithio ac yn buddsoddi mewn dinasoedd yn cael eu hannog i gyfrannu at gynllunio a chyflawni gweithgareddau brandio oedd yn adlewyrchu eu gweledigaeth ar gyfer y ddinas. Er bod angen gwneud mwy i gynnwys pobl wrth gyflwyno eu dinasoedd, roedd arwyddion cadarnhaol bod newid ar y gweill.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r darn hwn yn canolbwyntio ar oblygiadau posibl Covid-19 o ran y ffordd rydym ni&#8217;n blaenoriaethu ac yn brandio ein dinasoedd: gan edrych yn gyntaf ar yr effaith bosibl ar gydweithio lleol, ac yn ail ar y posibilrwydd o ailfywiogi gwydnwch amgylcheddol a chymdeithasol. Mae&#8217;r rhain ymhlith y them\u00e2u y byddaf yn eu harchwilio, gyda fy mentor prosiect Max Munday (<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/research\/explore\/research-units\/welsh-economy-research-unit\" target=\"_blank\">Uned Ymchwil Economi Cymru, Prifysgol Caerdydd<\/a>), mewn gwaith maes arfaethedig yng Nghaerdydd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cydweithio lleol<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.greaterbirminghamchambers.com\/research-campaigning\/birmingham-economic-review\/\" target=\"_blank\">Adolygiad Economaidd Birmingham City-REDI 2020<\/a>&nbsp;yn ymdrin \u00e2 rhai o&#8217;r heriau mae dinasoedd yn eu hwynebu ac yn cynnig awgrymiadau cynnar ar sut y gallent ymateb. Yn fwy nag erioed, mae&#8217;n hanfodol fod <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/blog.bham.ac.uk\/cityredi\/birmingham-on-the-world-stage-the-attractiveness-of-the-city-before-and-after-the-pandemic\/\" target=\"_blank\">dinasoedd yn canolbwyntio ar gryfder eu hasedau technolegol, diwylliannol ac amgylcheddol<\/a>. Mae gan bob dinas gryfderau. Mae angen gwneud mwy o ymdrech i&#8217;w cydnabod ac adeiladu arnynt. Mae cydnabod bod dinasoedd hefyd yn llefydd ble mae pobl yn byw ac yn gweithio yn hanfodol, ac yna gallai fod angen mwy o ymdrech i gynnal neu ail-greu ymdeimlad o gymuned pan fydd pobl yn dechrau ailgysylltu \u00e2&#8217;u dinasoedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod argyfwng Covid-19 rydym ni wedi gweld <a href=\"https:\/\/www.thetimes.co.uk\/article\/our-sense-of-community-restored-by-covid-pandemic-zfcpglfc8\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ymdeimlad pobl eu bod yn perthyn i&#8217;w cymuned leol yn cynyddu<\/a>. Canfu arolwg diweddar gan YouGov fod hyd at 40% o\u2019r cyhoedd wedi nodi cynnydd yn eu \u2018hymdeimlad o gymuned\u2019 yn ystod 2020, gyda hyn yn codi mor uchel \u00e2 50% mewn pobl dros 65 oed. Roedd yr effaith gadarnhaol ar bobl ifanc yn dal i fod lawer yn is. Datgelodd <a href=\"https:\/\/gov.wales\/national-survey-wales-monthly-survey-september-2020-html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">arolwg diweddar gan Lywodraeth Cymru<\/a> yn 2020 fod hyd at 75% o&#8217;r bobl yn yr arolwg yn nodi eu bod yn teimlo ymdeimlad o gymuned, i fyny o 52% yn 2018-2019.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond mae&#8217;n ymddangos fod effeithiau&#8217;r pandemig ar drigolion dinasoedd yn amrywio, <a href=\"https:\/\/www.london.gov.uk\/sites\/default\/files\/2_survey_summary_results_for_press_release.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">gydag astudiaeth gan Bwyllgor Tai Cynulliad Llundain<\/a> yn awgrymu bod bron i hanner y bobl yn Llundain sy&#8217;n dymuno symud t\u0177 o ganlyniad i&#8217;r pandemig yn awyddus i symud allan o&#8217;r ddinas. Ymhlith y prif resymau a nodwyd dros adleoli oedd mynediad at fannau gwyrdd, siopau lleol a theulu a\/neu ffrindiau. Am y tro cyntaf ers dros 30 mlynedd, rydym yn wynebu&#8217;r posibilrwydd o <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/will-the-covid-pandemic-cause-londons-population-to-decline-153394?utm_medium=email&amp;utm_campaign=Latest%20from%20The%20Conversation%20for%20February%2010%202021%20-%201858618113&amp;utm_content=Latest%20from%20The%20Conversation%20for%20February%2010%202021%20-%201858618113+CID_af4d03d844b377fc618e2d9d0acf874b&amp;utm_source=campaign_monitor_uk&amp;utm_term=Will%20the%20COVID%20pandemic%20cause%20Londons%20population%20to%20decline\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ostyngiad ym mhoblogaeth Llundain<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dinasoedd yn wynebu&#8217;r her o sut i fynd ati i ailgysylltu \u00e2 phreswylwyr, gweithwyr, busnesau a buddsoddwyr lleol. Mae llawer ohonom sy&#8217;n gweithio ac yn ymchwilio ym maes rheoli lleoedd a brandio yn galw am roi penderfyniadau yn \u00f4l i\u2019r bobl leol. Wrth feddwl am yr adferiad felly, dylid gwneud cynlluniau <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"http:\/\/blog.placemanagement.org\/2021\/01\/29\/re-opening-the-high-street\/#more-2818\" target=\"_blank\">gyda&#8217;r gymuned yn hytrach nag ar ran<strong><em> <\/em><\/strong>y gymuned.<\/a> Mae&#8217;n hanfodol fod rhanddeiliaid lleol yn cael llais wrth bennu <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.bsm.upf.edu\/en\/news\/city-branding-in-times-of-covid-19\" target=\"_blank\">hanfod y ddinas a&#8217;r hyn maen nhw am iddi fod yn y dyfodol<\/a>. Mae hyn yn cynnwys mwy o ffocws ar ymgysylltu \u00e2 dinasyddion a phobl leol yn cyfrannu mwy o lawer at lunio datblygiad lleol (<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/placebrandobserver.com\/placemaking-explained\/\" target=\"_blank\">creu lleoedd<\/a>).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dinasoedd hefyd yn dibynnu ar ddenu a chadw talentau a busnesau. Mae denu gweithwyr i ddinas neu ranbarth yn dod \u00e2 <a href=\"https:\/\/placebrandobserver.com\/talent-attraction-explained\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">buddion sylweddol<\/a> i ddatblygiad economaidd, enw da, cyfaredd ac yn y pen draw gystadleurwydd y lle. Ac eto, sut gall lleoedd fynd ati i gadw eu cyfaredd a denu&#8217;r talentau gorau yn y cyfnod ansicr hwn?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Elfen ganolog o adeiladu enw da cryf yw&#8217;r angen am sylwedd. Maes sy&#8217;n denu sylw cynyddol yw&#8217;r angen i ddinasoedd flaenoriaethu <a href=\"https:\/\/placebrandobserver.com\/tag\/sustainability\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cynaladwyedd a gwydnwch<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwydnwch amgylcheddol a chymdeithasol<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid newid dyfodol dinasoedd mae&#8217;r pandemig wedi&#8217;i wneud, ond yn hytrach mae wedi <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/commentisfree\/2020\/sep\/24\/pandemic-accelerate-evolution-cities-covid-19-norman-foster\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cyflymu&#8217;r newid hwnnw<\/a>. Roedd y graddau yr ystyrid bod dinas yn ymwybodol o ystyriaethau amgylcheddol eisoes yn dylanwadu ar ei henw da. Roedd galwadau am flaenoriaethu cerddwyr dros geir; ffocws ar lasu canol dinasoedd; adfywio gweithleoedd a mannau cymunedol awyr agored yn greadigol; a chyd-greu gweithgareddau i gysylltu cymunedau. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pobl yn fwy ymwybodol fyth, ac yn fodlon gwthio i sicrhau&#8217;r trawsnewidiad economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol hwn. Gyda&#8217;r newidiadau hyn daw galwadau cynyddol ar i breswylwyr, gweithwyr, busnesau, llywodraeth leol, buddsoddwyr ac ymwelwyr ddod at ei gilydd i (ail)lunio&#8217;r lle a lleddfu diraddio amgylcheddol ac allg\u00e1u cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dinasoedd hefyd yn gyrchfannau teithio a hamdden poblogaidd.&nbsp;Ond mae&#8217;r cyrchfannau mwyaf poblogaidd yn gallu dioddef yn sgil eu llwyddiant eu hunain.&nbsp;Mae gor-dwristiaeth, yn benodol, wedi arwain at ganlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol dramatig i rai dinasoedd poblogaidd. Yn eu plith mae <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.spottedbylocals.com\/blog\/overtourism-in-venice-a-local-perspective\/\" target=\"_blank\">Fenis<\/a> a <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.forbes.com\/sites\/alexledsom\/2019\/07\/12\/barcelona-is-ready-to-shut-out-tourists\/?sh=41f73fd65546\" target=\"_blank\">Barcelona<\/a>, ond mae llawer o ddinasoedd yn profi anawsterau tebyg. Yn wir mae&#8217;r cyfnodau clo a gwaharddiadau teithio wedi dangos cost amgylcheddol niferoedd uchel o ymwelwyr.&nbsp;Mae <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0048969720331326\" target=\"_blank\">ansawdd y d\u0175r yn Fenis wedi gwella i lefelau na welwyd eu tebyg<\/a> gyda&#8217;r lleihad yn y defnydd o gychod a thwristiaeth. Yn Barcelona, roedd tensiynau rhwng twristiaid, y diwydiant twristiaeth a phobl leol <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2020\/jan\/25\/overtourism-in-europe-historic-cities-sparks-backlash\" target=\"_blank\">yn uwch nag erioed yn 2019<\/a>. Erbyn 2020 roedd y gwrthwyneb yn wir wrth i&#8217;r fasnach dwristiaeth wynebu cau bron yn llwyr. Mae rhagolygon y diwydiant twristiaeth wedi&#8217;u niweidio gan y pandemig ond ceir galwadau am gydbwysedd a chymedroli wrth i&#8217;r dinasoedd adfer ac atgyweirio. Anogir modelau busnes twristiaeth sy\u2019n cydweddu ag <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2020\/jul\/20\/how-coronavirus-is-reshaping-europes-tourism-hotspots\" target=\"_blank\">agweddau mwy cynaliadwy<\/a> gan gydbwyso gofynion twristiaeth \u00e2&#8217;r gallu i fyw yn y dinasoedd.&nbsp; Yn wir mae llawer o ddinasoedd twristaidd ar draws Ewrop yn nodi bod y lleihad mewn teithio rhyngwladol a chymudo wedi gwella agweddau ar amgylchedd y ddinas dros dro, yn enwedig ansawdd yr aer.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hefyd amlygwyd y <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0048969720359209\" target=\"_blank\">costau iechyd a chymdeithasol <\/a>uwch i grwpiau ymylol a bregus yn sgil y pandemig. Mae ymchwil yn dal i ddangos mai&#8217;r <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.weforum.org\/agenda\/2020\/09\/inclusive-cities-post-pandemic\" target=\"_blank\">cymdogaethau gorlawn a thlotaf yn y dinasoedd sydd wedi&#8217;u taro galetaf<\/a> gan y pandemig. Wrth i&#8217;r pandemig fynd rhagddo, mae <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/blog.bham.ac.uk\/cityredi\/inequalities-and-the-covid-19-crisis\/\" target=\"_blank\">anghydraddoldebau&#8217;n parhau i gynyddu<\/a>.&nbsp; Mae cyflwyno sylwedd yn golygu defnyddio polis\u00efau a chefnogaeth i helpu&#8217;r rhai sy&#8217;n ei chael hi&#8217;n fwyaf anodd a llunio ymagwedd gynaliadwy sydd o fudd i bob rhan o&#8217;r gymuned.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I breswylwyr, gweithwyr, busnesau a thwristiaid fel ei gilydd, mae angen magu ymddiriedaeth a hyder. Mae&#8217;r rhai sydd eisoes yn amheus o farchnata a hyrwyddo yn debygol o ddod yn fwy <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.forbes.com\/sites\/joanmichelson2\/2020\/03\/31\/brand-citizenship-in-this-pandemic-crisis--what-works-what-doesnt\/?sh=1f548ff61d40\" target=\"_blank\">amheus<\/a>, a bydd mwy fyth o angen camu i ffwrdd o ymgyrchoedd marchnata a chanolbwyntio ar gryfhau&#8217;r lle a chefnogi&#8217;r bobl.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Creu gwydnwch drwy frandio dinesig cydweithredol: achos Caerdydd<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/River-Taff-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2766\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/River-Taff-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/River-Taff-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/River-Taff-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/River-Taff-768x512.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/River-Taff-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/River-Taff-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Bute park and Taff river in the centre of Cardiff, Wales, UK<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r farn ar ddyfodol brandio dinasoedd yn parhau&#8217;n gymysg. Mae rhai yn lled obeithiol y bydd y saib yn gyfle i&#8217;r rheini sy&#8217;n rheoli ac yn marchnata dinasoedd fyfyrio, ailfeddwl ac esblygu. Mae eraill yn awgrymu newid blaenoriaethau&#8217;n barhaol, ac yn sgil hynny, y ffordd rydym ni&#8217;n gweld ein dinasoedd. Ceir pryder hefyd y gallai brandio dinasoedd fynd am yn \u00f4l, wrth i ddinasoedd geisio adfer colledion economaidd a dychwelyd at dactegau marchnata a chyfathrebu er mwyn denu ymwelwyr yn gyflym.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dros y misoedd nesaf byddwn yn ystyried sut yr hoffai busnesau, preswylwyr a chynrychiolwyr llywodraeth leol yng Nghaerdydd (ail)flaenoriaethu a chyflwyno eu dinas yn y dyfodol a sut y gallai effeithiau pandemig Covid-19 effeithio ar yr ymatebion hyn. Fel prifddinas Cymru gyda phoblogaeth sydd o ddeutu traean o filiwn, mae&#8217;n bosibl y bydd Caerdydd yn profi problemau gwahanol o&#8217;i chymharu \u00e2 chytrefi mwy o faint.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn archwilio&#8217;r ddwy thema yn y darn hwn. Yn gyntaf, gwerthuso ymatebion cyfunol, mewn grwpiau o randdeiliaid ac ar draws y ddinas. Yn ail, ymchwilio a oes newid wedi bod yn y blaenoriaethau&#8217;n ymwneud \u00e2 chynaladwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol y ddinas a sut yr hoffai&#8217;r rhanddeiliaid lleol hyn weld y datblygiadau hynny yn rhan o&#8217;r gwaith o ddatblygu a chyflawni gweledigaeth tymor hirach eu dinas.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dangosodd fy <a href=\"http:\/\/www.edamba.eu\/Runtime\/uploads\/ONLINE%20JOURNAL%202020%20-%20Updated%20jan%202021.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ymchwil flaenorol<\/a> yng Nghaerfaddon a Bryste fod cydweithio yn cynnig llwybr allweddol i randdeiliaid lleol lunio eu dinasoedd, ond yn aml roedd <a href=\"https:\/\/www.placemanagement.org\/media\/145185\/Final-Proceedings.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhwystrau a gwrthdaro yn atal mynediad ac elw cyfartal<\/a> o&#8217;r datblygiadau hyn. Gan adeiladu ar yr astudiaethau hyn, bydd y gwaith yng Nghaerdydd yn edrych ar sut y gall cynnwys rhanddeiliaid lleol yn fwy gweithredol helpu i ddatrys gwrthdaro a sicrhau datrysiadau cyffredin i&#8217;r heriau mae dinasoedd yn eu hwynebu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae<\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/1500808-reynolds-laura\"><strong> Dr Laura Reynolds<\/strong><\/a> <strong>yn Gymrawd Ymchwil \u00d4l-ddoethurol a ariennir gan ESRC yn Ysgol Busnes Caerdydd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol <a href=\"https:\/\/blog.bham.ac.uk\/cityredi\/re-thinking-how-we-brand-our-cities-after-covid-19\/\">ar flog City-REDI ym Mhrifysgol Birmingham<\/a>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein post diweddaraf, mae Dr Laura Reynolds yn canolbwyntio ar oblygiadau posibl COVID-19 ar gyfer sut rydym yn blaenoriaethu ac yn brandio ein dinasoedd, gan edrych yn gyntaf ar yr effaith bosibl ar gydweithio lleol, ac yn ail, ar ailfywiogi gwydnwch amgylcheddol a chymdeithasol posibl.","protected":false},"author":1733,"featured_media":2764,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1904],"tags":[1912,68,55,1911,1365,1366,1905,87,1907,1906,1910,669,1370,1878,53,1908],"class_list":["post-2770","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-dinasoedd","tag-bryste","tag-busnes","tag-caerdydd","tag-caerfaddon","tag-coronafeirws","tag-covid-19-2","tag-cydweithio-lleol","tag-cymru","tag-dinasoedd","tag-lle","tag-llundain","tag-marchnata","tag-pandemig","tag-rheoli","tag-ymchwil","tag-yr-amgylchedd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-IG","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/04\/Aerial-shot-of-Cardiff-Bay.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2770","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1733"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2770"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2770\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2853,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2770\/revisions\/2853"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2764"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2770"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2770"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2770"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}