{"id":2604,"date":"2021-01-29T13:11:24","date_gmt":"2021-01-29T12:11:24","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2604"},"modified":"2021-06-07T16:57:24","modified_gmt":"2021-06-07T15:57:24","slug":"mae-covid-yn-newid-ein-ffordd-o-weithio-i-bobl-anabl-hefyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/mae-covid-yn-newid-ein-ffordd-o-weithio-i-bobl-anabl-hefyd\/","title":{"rendered":"Mae COVID yn newid ein ffordd o weithio &#8211; i bobl anabl hefyd"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Woman-working-from-home-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2601\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Woman-working-from-home-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Woman-working-from-home-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Woman-working-from-home-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Woman-working-from-home-768x512.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Woman-working-from-home-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Woman-working-from-home-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein post diweddaraf, mae&#8217;r Athro Debbie Foster a Dr Natasha Hirst yn tynnu ar ganfyddiadau eu hymchwil Anabledd Cyfreithiol? i drafod ffyrdd y mae\u2019r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi galluogi cyflogwyr i fod yn fwy cynhwysol i anabledd.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gweithio o bell oedd yr addasiad y <a href=\"http:\/\/legallydisabled.com\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/Legally-Disabled-full-report-FINAL.pdf\">gofynnwyd amdano ond a wrthodwyd fwyaf<\/a> i bobl anabl yn y gweithle cyn y pandemig. Fodd bynnag ers COVID-19, gorfodwyd cyflogwyr i addasu. Aeth llawer o weithleoedd ar-lein, gan arwain at <a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/publications\/homeworking-uk-and-during-2020-lockdown\">gynnydd mewn gweithio gartref<\/a> a mwy o recriwtio ar-lein. Mae&#8217;r ffyrdd newydd hyn o weithio&#8217;n cynnig gwersi gwerthfawr i gyflogwyr sy&#8217;n dymuno gwella eu cynhwysiant o ran anabledd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd gennym ym mis Ionawr 2020, cyn i&#8217;r pandemig daro&#8217;r DU, gofynnon ni i bobl anabl yn sector y gyfraith am eu profiadau yn y gweithle, ac wrth recriwtio. Dywedon nhw wrthym ni eu bod yn wynebu gwahaniaethu, bwlio, agweddau negyddol a dealltwriaeth isel o anabledd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er y byddai&#8217;n hawdd tybio y byddai gweithio a recriwtio o bell yn awtomatig yn lleihau&#8217;r problemau hyn, gwelwyd mewn <a href=\"http:\/\/legallydisabled.com\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Covid-report-TLS-Oct-2020-FINAL.pdf\">arolwg dilynol<\/a> yn ystod mis Gorffennaf ac Awst 2020 nad oedd gweithio gartref ac ymgeisio am swyddi ar-lein o reidrwydd yn gwella&#8217;r heriau hyn i gyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er bod ein hymchwil yn canolbwyntio ar broffesiwn y gyfraith, mae ein canfyddiadau a&#8217;n hargymhellion yn trosi&#8217;n rhwydd i <a href=\"https:\/\/www.centreforsocialjustice.org.uk\/csj-blog\/new-centre-for-social-justice-commission-on-disability-to-be-led-by-lord-shinkwin\">yrfaoedd proffesiynol<\/a> eraill.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithio ar-lein<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyn y pandemig, anaml oedd y diwylliant gwaith yn sector y gyfraith yn ystyriol o anabledd, oedd yn golygu bod llawer o bobl ag anableddau anweledig yn <a href=\"https:\/\/www.lawgazette.co.uk\/news\/firms-not-meeting-the-needs-of-disabled-staff-sra-finds-\/5103491.article\">ofni dweud<\/a> wrth eu cyflogwyr.&nbsp;Mae angen <a href=\"https:\/\/www.equalityhumanrights.com\/en\/multipage-guide\/employment-workplace-adjustments\">addasiadau rhesymol<\/a> i helpu gweithwyr anabl i symud ymlaen. Ond canfu ein hymchwil fod rhaid i lawer o bobl frwydro i gael y gefnogaeth hon, ac unrhyw bethau ychwanegol oedd eu hangen arnyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn aml roedd dilyniant gyrfa cyfreithwyr anabl yn ein hastudiaeth yn cael ei rwystro oherwydd amharodrwydd i newid arferion gwaith traddodiadol. Gallai pobl anabl fod angen cyfarpar arbenigol, parcio wedi&#8217;i neilltuo, cymorth gyda chyfathrebu neu weithio hyblyg i gael gwared ar yr anfantais maen nhw\u2019n ei hwynebu yn y gwaith.&nbsp;Gall <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/access-to-work\">grantiau&#8217;r llywodraeth<\/a> ariannu addasiadau o&#8217;r fath, ac mae&#8217;n ddyletswydd ar gwmn\u00efau i ddarparu addasiadau rhesymol &#8211; ni ch\u00e2nt wrthod y ceisiadau hyn heb reswm da, fel ei fod yn niweidiol i&#8217;r busnes er enghraifft &#8211; ond mae&#8217;r hyn sy&#8217;n \u201crhesymol\u201d yn amwys.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly beth nesaf i bobl anabl sydd bellach yn fwy tebygol o allu gweithio gartref?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn trafodaethau bwrdd crwn a gynhaliwyd fel rhan o&#8217;n hymchwil, dywedodd cwmn\u00efau wrthym eu bod yn gadael i&#8217;r holl staff ddewis sut i rannu eu hamser rhwng y cartref a&#8217;r swyddfa. Disgwyliwn i weithio &#8216;hybrid&#8217; ddod yn arferol mewn llawer o sefydliadau, gyda rhai staff yn y swyddfa a rhai yn gweithio o bell. Bydd hyn yn gosod set newydd o heriau i gyflogwyr, fel mynediad a chyfathrebu, a sut i atal y rheini sy&#8217;n gweithio gartref yn bennaf rhag cael eu hynysu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ein harolwg dilynol o weithwyr proffesiynol y gyfraith, dywedodd 70% y bydden nhw&#8217;n hoffi parhau i weithio gartref yn y dyfodol. Dywedon nhw eu bod wedi cael mwy o gyfleoedd i rwydweithio, sicrhau gwybodaeth a sgiliau a hyfforddi wrth weithio gartref. Credwn fod hyn wedi digwydd ar hap yn hytrach na thrwy gynllunio, ond mae&#8217;n amlwg fod gweithio ar-lein yn cynnig cyfleoedd newydd ac yn gweithio&#8217;n dda iawn i&#8217;r rhan fwyaf o weithwyr. Bellach ga<a href=\"https:\/\/www.lawsociety.org.uk\/en\/topics\/lawyers-with-disabilities\/easy-wins-and-action-points-for-disability-inclusion\">ll cwmn\u00efau werthuso&#8217;r hyn sy&#8217;n gweithio a sut y gellir ei wella<\/a> a&#8217;i gynnwys yn strategaethau&#8217;r gweithle yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Problemau recriwtio<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nododd pobl anabl oedd yn rhan o&#8217;n hymchwil lawer o broblemau gydag asiantaethau recriwtio. Nododd rhai fod datgelu anabledd yn arwain at hidlo eu cais allan o ystyriaeth. Yn aml canfu\u2019r rheini a aeth ymlaen i gyfweliad nad oedd eu ceisiadau am addasiadau rhesymol yn cael eu trosglwyddo i&#8217;r bobl iawn. Sonion nhw am gyrraedd cyfweliadau a gweld bod yr adeilad yn anhygyrch neu nad oedd ceisiadau am gymorth arall wedi&#8217;u trosglwyddo, oedd yn niweidio eu perfformiad yn ystod y cyfweliad a, gellid dadlau, yn eu gosod dan anfantais.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwelsom nad yw ceisiadau a chyfweliadau ar-lein o reidrwydd yn gwneud bywyd yn haws i bobl anabl. Ceir llawer o ffurflenni neu brofion nad ydynt yn ystyried dyslecsia, neu sy&#8217;n anghydnaws \u00e2 darllenwyr sgrin. Canfuom fod recriwtwyr yn aml yn tybio y byddai defnyddio llwyfannau o bell ar gyfer cyfweliadau yn awtomatig yn cynyddu hygyrchedd ac felly nad oedd angen addasiadau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er bod proffesiwn y gyfraith wedi buddsoddi&#8217;n helaeth mewn hyfforddiant i ymdrin \u00e2 rhagfarn ddiarwybod, canfu ein hymchwil hefyd fod angen gofalu peidio \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.wired.co.uk\/article\/ai-hiring-bias-disabled-people\">bod yn or-obeithiol<\/a> am botensial deallusrwydd artiffisial i ddileu rhagfarn. Mae datrysiadau technolegol yn dal i <a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/10.1177\/0162243919900965\">adlewyrchu gwerthoedd<\/a> y rheini sy&#8217;n eu cynllunio, ac yn seiliedig ar broffiliau ymgeiswyr llwyddiannus blaenorol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae undebau llafur <a href=\"https:\/\/www.bloomberg.com\/news\/articles\/2020-11-30\/labor-unions-work-to-find-ways-to-bargain-with-ai-s-black-box\">yn pryderu<\/a> bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio i werthuso darpar weithwyr a gweithwyr presennol yn ddiarwybod iddyn nhw. Yn yr achosion hyn, mae&#8217;n anodd gwybod a fyddai&#8217;n helpu ynteu&#8217;n llesteirio cydraddoldeb. Gallai pobl sydd \u00e2 nam ar eu golwg neu glyw, neu sy&#8217;n niwroamrywiol, ymateb i gwestiynau neu ddefnyddio technoleg mewn ffordd wahanol. Mae risg y gallai deallusrwydd artiffisial ddibrisio&#8217;r gwahaniaethau hyn. Hefyd ceir sgiliau y mae&#8217;n rhaid cael person i&#8217;w hadnabod, fel y sgiliau datrys problemau mae pobl anabl wedi&#8217;u datblygu yn sgil y problemau unigryw maen nhw&#8217;n eu hwynebu yn eu bywyd bob dydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os yw&#8217;r pandemig yn mynd i newid y ffordd rydym ni&#8217;n gweithio, mae angen i bobl anabl gael eu cynnwys wrth ddatblygu gweithleoedd mwy cynhwysol a phrosesau recriwtio fydd o fudd iddyn nhw mewn gwirionedd. Mae hyn yn golygu bod angen i gyflogwyr fod yn rhagweithiol ynglyn \u00e2 deall ac ymdrin \u00e2&#8217;r rhwystrau i bobl anabl, er mwyn sicrhau bod darpariaethau gwirioneddol gynhwysol yn cael eu hystyried ar gyfer gweithwyr anabl yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr hyn sy&#8217;n amlwg yw bod gweithio gartref wedi&#8217;i wrthod ar gam i lawer o bobl oedd ei angen cyn y pandemig &#8211; a dim ond nawr ydyn ni&#8217;n gweld ei fod yn ddigon rhwydd ei reoli. Ond mae tybio y byddai&#8217;n gweithio i bob unigolyn anabl yn rhagdybiaeth beryglus. Nid fydd yr hyn sy&#8217;n gweithio i un person anabl o reidrwydd yn gweithio i rywun arall, hyd yn oed rhywun \u00e2&#8217;r un nam. Mae lleihau gwahaniaethu yn gorfod deillio o sgyrsiau cynhwysol sy&#8217;n creu dyfodol tecach i bawb.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae<\/strong> <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610389-foster-deborah\"><strong>Deborah Foster<\/strong><\/a><strong> yn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth ac Amrywiaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"http:\/\/natashahirstblog.co.uk\/\"><strong>Natasha Hirst<\/strong><\/a><strong> yn ymchwilydd ac yn newyddiadurwr ffotograffig annibynnol.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/covid-is-changing-the-way-we-work-and-for-disabled-people-too-150670\">The Conversation UK<\/a>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein post diweddaraf, mae'r Athro Debbie Foster a Dr Natasha Hirst yn tynnu ar ganfyddiadau eu hymchwil Anabledd Cyfreithiol? i drafod ffyrdd y mae\u2019r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi galluogi cyflogwyr i fod yn fwy cynhwysol i anabledd.","protected":false},"author":1230,"featured_media":2601,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[176],"tags":[181,1365,1366,1862,1860,1367,1370,1861],"class_list":["post-2604","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth","tag-anabledd","tag-coronafeirws","tag-covid-19-2","tag-cyflogaeth","tag-gwahaniaethu","tag-gweithio-gartref","tag-pandemig","tag-recriwtio"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-G0","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Woman-working-from-home.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2604","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1230"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2604"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2604\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2864,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2604\/revisions\/2864"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2601"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2604"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2604"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2604"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}