{"id":2580,"date":"2021-01-26T16:35:53","date_gmt":"2021-01-26T15:35:53","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2580"},"modified":"2021-06-07T16:57:57","modified_gmt":"2021-06-07T15:57:57","slug":"ydy-lgas-yn-yr-almaen-ar-iseldiroedd-yn-gwneud-gwahaniaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/ydy-lgas-yn-yr-almaen-ar-iseldiroedd-yn-gwneud-gwahaniaeth\/","title":{"rendered":"Ydy LGAs yn yr Almaen a&#8217;r Iseldiroedd yn gwneud gwahaniaeth?"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"569\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Dutch-and-German-flags-1024x569.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2581\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Dutch-and-German-flags-1024x569.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Dutch-and-German-flags-600x333.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Dutch-and-German-flags-300x167.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Dutch-and-German-flags-768x427.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Dutch-and-German-flags-1536x853.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Dutch-and-German-flags-2048x1138.jpg 2048w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Dutch-and-German-flags-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Dutch-and-German-flags-470x260.jpg 470w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein post diweddaraf, mae Dr Dennis De Widt yn trafod sut mae cymdeithasau llywodraeth leol yn yr Almaen a&#8217;r Iseldiroedd yn gweithredu mewn cyd-destunau sefydliadol sy\u2019n wahanol i gymdeithasau llywodraeth leol yn Lloegr a sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd y mae buddiannau llywodraeth leol yn cael eu cynrychioli a&#8217;u gwarchod gan y llywodraeth ganolog yn y gwahanol wledydd. <\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Does dim amheuaeth fod cymdeithasau llywodraeth leol (LGAs) yn bwnc nad oes digon o ymchwil wedi&#8217;i wneud iddo. Dros y 10 mlynedd ddiwethaf rwyf i wedi bod yn ymchwilio i r\u00f4l llywodraethau lleol mewn nifer o wledydd gan ganolbwyntio ar gymharu Lloegr, yr Almaen a&#8217;r Iseldiroedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mhob un o&#8217;r tair gwlad, y lefel leol sy&#8217;n gyfrifol am oddeutu chwarter y gwariant cyhoeddus ond mae llywodraethau lleol yn gweithredu mewn cyd-destunau sefydliadol gwahanol iawn. Mae Lloegr yn system fwyafrifol ac ni cheir amddiffyniad cyfansoddiadol ffurfiol i lywodraeth leol. Mae gan yr Almaen, gyda&#8217;i system gyfansoddiadol ffederal, rywfaint o amddiffyniad ffurfiol i gynghorau. Rhwng y ddau daw&#8217;r Iseldiroedd, gwladwriaeth unedol ddatganoledig sy&#8217;n ymgorffori llywodraeth leol mewn system wleidyddol \u00e2 ffocws cydsyniol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er eu bod yn wahanol, mae fy ymchwil yn edrych ar effaith y gwahaniaethau hyn. Ydy un o dull yn fwy effeithiol o ran cynrychioli buddiannau LGA ar lefel llunio polisi cenedlaethol?<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Lleol yn erbyn Talaith yn erbyn Llywodraeth Ffederal yn yr Almaen<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O&#8217;r tair gwlad, system yr Almaen sy&#8217;n darparu&#8217;r amddiffyniadau cyfansoddiadol cryfaf i lywodraeth leol. Fodd bynnag, dim ond yn ystod y ddau ddegawd diwethaf y bu nifer o&#8217;r amddiffyniadau hyn yn weithredol. Sbardunwyd y diwygiadau, a elwir yn ddiwygiadau Hartz IV, gan gyfres o ddiwygiadau a roddwyd ar waith gan lywodraeth Schr\u00f6der ar y pryd yn y 2000au cynnar, a throsglwyddwyd nifer o dasgau lles cymdeithasol o&#8217;r lefel ffederal i&#8217;r lefel leol. Arweiniodd y diwygiadau at bwysau ariannol sylweddol ar draws llywodraeth leol, yn cynnwys cynnydd sylweddol mewn dyled leol, ac fe&#8217;u rhoddwyd ar waith er gwaethaf rhybuddion gan LGAs yr Almaen ynghylch eu goblygiadau ariannol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Sut ddigwyddodd hyn? Yn gyfansoddiadol mae lefel ddinesig yr Almaen yn rhan o weinyddiaethau ar lefel talaith. Y cyngor ffederal, sy&#8217;n cynnwys cynrychiolwyr y dalaith, sy&#8217;n gyfrifol am fuddiannau lleol. Yn y cyfnod yn arwain at ddiwygiadau Hartz IV, roedd LGAs yr Almaen yn ei chael yn anodd cael y taleithiau i wrando ar eu pryderon ar oblygiadau ariannol y diwygiadau yn lleol. Defnyddiodd gweinidogion ffederal gysylltiadau pleidiol i berswadio llywodraethau taleithiol o&#8217;r un blaid i gefnogi&#8217;r diwygiadau yn y cyngor ffederal. Dywedodd un swyddog LGA y b\u00fbm i&#8217;n ei gyfweld fod y taleithiau:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u2018&#8230;wedi methu \u00e2 dangos y pendantrwydd oedd ei angen i ddiogelu buddiannau ariannol eu sector llywodraeth leol eu hunain.\u2019<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Parhaodd LGAs yr Almaen i roi pwysau parhaus ar y llywodraeth ffederal tan i honno gydnabod yn ffurfiol ei bod wedi tanamcangyfrif effaith ariannol leol diwygiadau Hartz IV. Dros y blynyddoedd diwethaf mae sawl mesur wedi&#8217;i gymryd i leddfu pwysau ariannol a lleihau&#8217;r risg y caiff deddfwriaeth debyg ei datblygu yn y dyfodol. Tri o&#8217;r rhain i&#8217;w nodi yw:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Ers 2006, mae&#8217;r llywodraeth ffederal wedi&#8217;i gwahardd rhag neilltuo tasgau newydd yn uniongyrchol i&#8217;r lefel leol.<\/li><li>Daeth yr Egwyddor Cysylltedd i rym yn 2004, gan gyfyngu ar bwerau taleithiau i ddatganoli tasgau heb eu hariannu i lywodraeth leol. Defnyddiwyd y drefn hon yn llwyddiannus gan LGAs yr Almaen mewn llysoedd taleithiol i orfodi llywodraethau taleithol i wella eu cyllid lleol. Mae hefyd wedi cymell llywodraethau taleithiol i ddangos mwy o gryfder wrth ddiogelu buddiannau llywodraethau lleol wrth gyd-drafod gyda&#8217;r llywodraeth ffederal.<\/li><li>Mae deddfwriaeth newydd sy&#8217;n golygu bod rhaid i adrannau&#8217;r llywodraeth ffederal ymgynghori \u00e2 LGAs ar gynigion deddfwriaethol perthnasol wedi cryfhau safle&#8217;r LGAs.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwrthwynebiad aelodaeth: Yr Iseldiroedd<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel yn yr Almaen, yn gynyddol mae awdurdodau lleol yn yr Iseldiroedd yn chwarae rhan yn y ddarpariaeth lles cymdeithasol. Chwaraeodd Cymdeithas Bwrdeistrefi\u2019r Iseldiroedd (VNG), a ystyrir yn aml fel yr ail gr\u0175p lob\u00efo mwyaf dylanwadol yn yr Iseldiroedd ar \u00f4l Ffederasiwn Cyflogwyr yr Iseldiroedd, ran bwysig yn y trafodaethau a gynhaliwyd cyn datganoli tasgau lles cymdeithasol. Gallai Gweinidogion fod wedi gorfodi&#8217;r diwygiadau, ond roedden nhw&#8217;n anfodlon gweithredu heb gefnogaeth y VNG, ac arweiniodd hyn at broses o bron i bedair blynedd cyn datganoli&#8217;r cyfrifoldebau yn 2015.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod y trafodaethau, cododd llawer o fwrdeistrefi&#8217;r Iseldiroedd bryderon ynghylch goblygiadau ariannol y diwygiadau datganoli a ysgogwyd gan lymder. Cafwyd y gwrthwynebiad amlycaf pan wrthodwyd cytundeb a drafodwyd rhwng arweinwyr y VNG a&#8217;r cabinet gan 67 y cant o&#8217;r bwrdeistrefi mewn pleidlais a drefnwyd gan y VNG. Beirniadwyd arweinyddiaeth y VNG gan lawer o bobl a gyfwelwyd ar lefel leol am eu bod wedi&#8217;u cyfethol gan y llywodraeth ganolog, ac fe&#8217;u cyhuddwyd o ddilyn buddiannau sefydliadol yn hytrach na buddiannau&#8217;r aelodau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">R\u00f4l allweddol y VNG yn y diwygiadau oedd cydgysylltu&#8217;r datganoli a gyda hynny daeth cynnydd sylweddol yng nghyllid y llywodraeth ganolog, oedd lawer yn uwch na chyfraniadau&#8217;r aelodau trefol ers 2015. Pan wrthwynebodd yr aelodau, aeth y VNG yn \u00f4l i drafod gyda&#8217;r llywodraeth ganolog gan sicrhau consesiynau ariannol gan y cabinet er bod pryderon yn parhau ynghylch effaith y diwygiadau ar gyllid trefol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diogelu buddiannau ariannol lleol<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r datganoli diweddar yn yr Almaen a&#8217;r Iseldiroedd yn dangos bod LGAs yr Iseldiroedd a&#8217;r Almaen yn chwarae rhan sylweddol wrth ddiogelu buddiannau ariannol lleol, er bod hyn weithiau&#8217;n cael ei wneud yn \u00f4l-weithredol. Mae confensiynau cyfansoddiadol, boed wedi&#8217;u sefydlu fel arferion ffurfiol neu anffurfiol, yn cryfhau llais y lefel leol yn yr Almaen a&#8217;r Iseldiroedd pan fydd yn rhyngweithio \u00e2 lefelau uwch o lywodraeth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cystadlu am sylw: yr LGA yn Lloegr<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dros y d\u0175r, ceir llai o gonfensiynau sefydledig yn sail i ryngweithio rhynglywodraethol yn Lloegr. Teg dweud mai anwastad yw mynediad Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr at y llywodraeth ganolog, a\u2019i fod yn amrywio&#8217;n sylweddol gan ddibynnu ar ba blaid sy&#8217;n llywodraethu ac ar arddull y gweinidog.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhaid i LGA yn Lloegr weithio&#8217;n galetach i gael sylw llywodraeth ganolog, gan orfod cystadlu yn erbyn sawl gr\u0175p diddordeb arall.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gyda&#8217;r ansicrwydd economaidd enfawr yn sgil pandemig Covid-19, mae llywodraeth leol yn Lloegr yn wynebu cyfnod heriol arall a bydd cynrychiolaeth effeithiol i fuddiannau&#8217;n hanfodol er mwyn amddiffyn buddiannau llywodraeth leol. Does dim modd gwybod eto a fydd agenda lefelu i fyny llywodraeth bresennol y DU a&#8217;i huchelgais i leihau gwahaniaethau rhanbarthol o fudd i sefyllfa llywodraeth leol yn Lloegr. Heb os, mae cynrychiolaeth i fuddiannau llywodraeth leol yn debygol o barhau i fod yn heriol o ystyried diffyg trefniadau dibynadwy parhaus ar gyfer rhyngweithio canolog-lleol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/953751-dewidt-dennis\"><strong>Mae Dr Dennis De Widt<\/strong><\/a> <strong>yn Uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd.<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd y post hwn yn wreiddiol ar <a href=\"https:\/\/lgiu.org\/are-lgas-in-germany-and-the-netherlands-making-a-difference\/\">flog yr Uned Gwybodaeth Llywodraeth Leol<\/a> ac mae&#8217;n tynnu ar ganfyddiadau prosiect ymchwil mwy o faint, oedd yn cynnwys cyfweliadau ymchwil gyda swyddogion o&#8217;r llywodraeth a llywodraeth leol yn yr Iseldiroedd, Lloegr a&#8217;r Almaen. <\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae canfyddiadau ymchwil helaeth i&#8217;w gweld yn: De Widt, D. a Laffin, M. 2018. <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/abs\/10.1080\/00343404.2018.1462488?journalCode=cres20\">Representing territorial diversity: the role of local government associations<\/a>. Regional Studies 52(11), tt. 1585-1594.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein post diweddaraf, mae Dr Dennis De Widt yn trafod sut mae cymdeithasau llywodraeth leol yn yr Almaen a'r Iseldiroedd yn gweithredu mewn cyd-destunau sefydliadol sy\u2019n wahanol i gymdeithasau llywodraeth leol yn Lloegr a sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd y mae buddiannau llywodraeth leol yn cael eu cynrychioli a'u gwarchod gan y llywodraeth ganolog yn y gwahanol wledydd. ","protected":false},"author":6810,"featured_media":2582,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[537],"tags":[1851,1444,1792,1858,1855,1856,1852,1854,750,1857,1853,53],"class_list":["post-2580","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu","tag-almaen","tag-cyllid","tag-datganoli-2","tag-deddfwriaeth","tag-gwariant-cyhoeddus","tag-gwleidyddol","tag-iseldiroedd","tag-lles-cymdeithasol","tag-lloegr","tag-llunio-polisi","tag-llywodraeth-leol","tag-ymchwil"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-FC","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2021\/01\/Dutch-and-German-flags.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2580","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6810"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2580"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2580\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2865,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2580\/revisions\/2865"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2582"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2580"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2580"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2580"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}