{"id":2453,"date":"2020-10-30T13:35:05","date_gmt":"2020-10-30T12:35:05","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2453"},"modified":"2020-11-03T13:35:59","modified_gmt":"2020-11-03T12:35:59","slug":"risg-sofran-ar-ol-covid-19-peidiwch-ag-anghofior-ddyled-ddomestig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/risg-sofran-ar-ol-covid-19-peidiwch-ag-anghofior-ddyled-ddomestig\/","title":{"rendered":"Risg sofran ar \u00f4l COVID-19: Peidiwch ag anghofio\u2019r ddyled ddomestig"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1920\" height=\"1080\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2450\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1.jpg 1920w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;r gostyngiadau sydyn mewn allbwn economaidd a gwariant ar raddfa fawr gan y llywodraeth yn sgil pandemig COVID-19 wedi arwain at risg uwch o ddiffygdaliadau sofran, yn arbennig mewn econom\u00efau sy&#8217;n datblygu.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ein blog diweddaraf, mae Dr Wojtek Paczos a Dr Kirill Shakhnov yn dadlau bod gostyngiad mewn allbwn yn unig yn cynyddu\u2019r perygl o ddiffygdaliadau tramor, tra bod cynnydd sydyn mewn gwariant yn unig yn cynyddu\u2019r perygl o ddiffygdaliadau domestig. Felly, o ystyried natur ddwbl sioc COVID, mae cynigion diweddar a fyddai\u2019n lleddfu baich y ddyled dramor ar \u00f4l COVID-19 mewn econom\u00efau sy\u2019n datblygu yn angenrheidiol, ond efallai na fyddant yn ddigonol i atal ton o ddiffygdaliadau ar ddyled ddomestig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r IMF wedi rhagweld y bydd allbwn y byd yn cyfyngu 4.9% yn 2020 (IMF 2020). Ar yr un pryd, mae llywodraethau wedi\u2019u gorfodi i ddarparu pecynnau achub economaidd ar raddfa na welwyd ei thebyg o&#8217;r blaen i liniaru costau economaidd pandemig COVID-19. Bydd y cyfuniad o golledion mewn allbwn, gostyngiad mewn refeniw treth, a gwariant cyllidol cynyddol yn rhoi pwysau aruthrol ar gyllid cyhoeddus, yn enwedig mewn econom\u00efau sy&#8217;n datblygu ac sydd mewn dyled. Tynnwyd sylw at hyn gan Stiglitz a Rashid (2020) (wedi\u2019i gyfieithu): \u201cGyda llawer o weithgarwch economaidd wedi\u2019i atal a refeniw cyllidol yn cwympo\u2019n rhydd, bydd llawer o wledydd yn cael eu gorfodi i ddiffygdalu. Bydd eraill yn dwyn adnoddau prin at ei gilydd i dalu credydwyr, gan dorri n\u00f4l ar wariant iechyd a chymdeithasol mawr ei angen.\u201d&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Ffigur 1 yn nodi graddfa ddisgwyliedig y twf go iawn yn y&nbsp;<br>Cynnyrch Domestig Gros (GDP) a\u2019r prif newidiadau mewn diffygion o 2019 (s\u00ear gwyrdd) i 2020 (cylchoedd coch). O\u2019i gymharu \u00e2 2019, disgwylir i dwf GDP y marchnadoedd sy&#8217;n datblygu yn 2020 fod 5.7 pwynt canran yn is, tra disgwylir i&#8217;w prif ddiffygion gynyddu o 4.3% o&#8217;r GDP. Mae&#8217;r mesurau cyllidol newydd, sy&#8217;n cynnwys gwariant ychwanegol a refeniw a gollwyd ar ffurf benthyciadau, ecwiti a gwarantau, yn cyfrif am 5.1% o&#8217;r GDP mewn econom\u00efau sy&#8217;n datblygu (IMF 2020). Mae&#8217;r duedd gyffredinol yn amlwg, gyda&#8217;r saethau sy&#8217;n cynrychioli newidiadau cyfartalog ar gyfer grwpiau gwledydd oll yn pwyntio tuag at y de-ddwyrain.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ffigur 1<\/h3>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"550\" height=\"427\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/Figure-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2445\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/Figure-1.png 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/Figure-1-435x338.png 435w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/Figure-1-300x233.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 550px) 100vw, 550px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Sut y dylid ariannu diffygion digynsail o&#8217;r fath ac ysgogi econom\u00efau? Hyd yn hyn, mae llywodraethau wedi pentyrru dyled er mwyn ariannu pecynnau achub ac adfer. Mae lefelau dyled uwch ynghyd \u00e2 gostyngiad mewn allbwn a gwariant cynyddol y llywodraeth yn codi\u2019r cwestiwn cynaliadwyedd eto. Oherwydd problem ymrwymo, bydd econom\u00efau sy&#8217;n datblygu yn ei chael hi&#8217;n anodd mynd i ddyled bellach i leihau effaith aflonyddwch economaidd. O ganlyniad, mae economegwyr a llunwyr polisi wedi galw am fesurau brys. Mae gwledydd y G20 wedi atal taliadau cyfradd llog ar ddyledion dwyochrog. Mewn gwaith diweddar, mae Bolton et al. (2020a, 2020b) yn dadlau am fesurau eang i \u201csefyll yn stond ar ddyled\u201d a fydd yn cynnwys credydwyr preifat ac a fydd ar gael i set fawr o wledydd, gyda dyled hyd at $3 triliwn yn cael ei hystyried. Mae diddordeb academaidd cynyddol hefyd yn effeithiau economaidd COVID-19 ar econom\u00efau sy&#8217;n datblygu, gyda&#8217;r ymchwil ddiweddar wedi&#8217;i chrynhoi <a href=\"https:\/\/voxeu.org\/article\/covid-19-developing-economies-new-ebook\">yn eLyfr VoxEU newydd (Djankov a Panizza 2020)<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r drafodaeth yn y lenyddiaeth ddiweddar yn canolbwyntio ar ddyled allanol. Ac eto, dim ond traean o gyfanswm dyled gyhoeddus yr econom\u00efau sy&#8217;n datblygu yw\u2019r ddyled allanol. Mae&#8217;r ddyled sy&#8217;n weddill yn ddyledus i fuddsoddwyr domestig. Nid yw diffygdaliadau ar ddyled ddomestig yn anghyffredin ac maent yn gysylltiedig ag aflonyddwch economaidd y gellir eu cymharu \u00e2&#8217;r rhai ar \u00f4l diffygdaliadau tramor \u2013 ffaith a ystyrir i fod yn \u201chanes sydd wedi\u2019i anghofio\u201d mewn macro-economeg (Reinhart a Rogoff 2011).&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw dyledion domestig a thramor yn debyg iawn. Mae dyled dramor yn golygu trosglwyddo adnoddau i mewn ac allan o economi, a all helpu i greu defnydd gan liniaru\u2019r cylch busnes. Ni all dyled ddomestig gyflawni hyn, gan fod ei chyhoeddi a&#8217;i had-dalu yn digwydd o fewn economi \u2013 nid yw benthyca domestig yn dod ag adnoddau ychwanegol i mewn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn papur newydd (Paczos a Shakhnov 2020), rydym ni\u2019n cynnig fframwaith damcaniaethol i ddadansoddi cynaliadwyedd dyled pan fydd gan lywodraeth rwymedigaethau domestig a thramor sy\u2019n weddill. Yn y fframwaith hwn, mae llywodraeth yn arsylwi lefelau cynhyrchiant a diffyg ac yn gosod lefel y trethi llafur i godi refeniw ar gyfer ad-dalu dyledion. Nid oes gan y llywodraeth ymrwymiad, felly gall benderfynu i beidio \u00e2 thalu naill ai ei rhwymedigaethau tramor neu ddomestig (neu&#8217;r ddau). Gan fod yr aflonyddwch economaidd yn sgil pandemig COVID-19 wedi bod yn sydyn ac yn annisgwyl, rydym ni\u2019n modelu newidiadau mewn cynhyrchiant a diffygion yn gredadwy fel datblygiadau alldarddol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ein model ni, mae ad-dalu yn gostus: mae&#8217;n rhaid i lywodraeth gynyddu trethi, sy&#8217;n ystumio\u2019r economi yn fewndarddol. Fodd bynnag, yn achos dyled ddomestig, mae&#8217;r ystumiad hwn yn cael ei liniaru&#8217;n rhannol gan adnoddau sy&#8217;n llifo&#8217;n \u00f4l i aelwydydd domestig. Mae diffygdalu hefyd yn gostus: yn seiliedig ar dystiolaeth empeiraidd (e.e. Reinhart a Rogoff 2011) rydym ni\u2019n tybio, ar \u00f4l diffygdalu, bod lefel cynhyrchiant economi yn gostwng.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe ganfyddwn ganlyniad trawiadol: gwahaniad bron yn berffaith o benderfyniadau diffygdalu domestig a thramor. Mae diffygdalu tramor yn fwy tebygol ar \u00f4l sioc cynhyrchiant negyddol, ac mae bron yn annibynnol ar lefel y gwariant cyhoeddus, tra bod diffygdalu domestig yn fwy tebygol ar \u00f4l sioc gwariant cyhoeddus mawr ond mae bron yn annibynnol ar lefel y cynhyrchiant. Mae Ffigur 2 yn dangos y canlyniad hwn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ffigur 2<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"550\" height=\"422\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/Figure-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2448\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/Figure-2.png 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/Figure-2-441x338.png 441w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/Figure-2-300x230.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 550px) 100vw, 550px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r graff yn fersiwn theori o\u2019r empirig yn Ffigur 1. Mae&#8217;r echel fertigol yn cynrychioli lefel cynhyrchiant (A) ac mae&#8217;r echel lorweddol yn cynrychioli gwariant y llywodraeth (g) yn \u00f4l graddfa\u2019r allbwn (y\u2217). Mae&#8217;r llinellau toredig yn cynrychioli cyfuchliniau allbwn. Mae llinell ad-dalu dyledion tramor (soled) bron yn gyfochrog \u00e2&#8217;r cyfuchliniau allbwn, tra bod y llinell ad-dalu dyledion domestig (toredig) yn croesi cyfuchliniau allbwn yn serth. Ad-delir dyled pan fydd yr economi yn uwch na&#8217;r llinell ad-dalu. Mae gostyngiad sydyn a mawr yn A yn achosi i&#8217;r llywodraeth ddatgan diffygdaliadau yn ei dyled dramor. Mae cynnydd sydyn a mawr yn g ar y llaw arall yn achosi i&#8217;r llywodraeth ddatgan diffygdaliadau yn ei dyled ddomestig. Mae\u2019r ddau sioc yn lleihau allbwn economi. Ar \u00f4l \u2018sioc Covid\u2019, pan fydd A yn cwympo a g yn cynyddu, mae\u2019r economi mewn risg o fynd i ddiffygio\u2019n llwyr \u2013 gan symud i ran dde isaf y graff.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Caiff union leoliadau&#8217;r llinellau ad-dalu ar y graff eu pennu gan baramedrau&#8217;r model, ond caiff eu gwahanol lethrau eu gyrru gan y mecanwaith economaidd ac maent yn gadarn i newidiadau paramedr. Mae aelwydydd yn trin diffygdaliadau tramor a domestig yn wahanol. Pan fydd llywodraeth yn diffygdalu ar ddyled dramor, mae&#8217;r economi&#8217;n dioddef dirywiad mewn cynhyrchiant ond mae aelwydydd yn elwa trwy drethi is. Mae&#8217;r cyfaddawd hwn yn annibynnol ar lefel gwariant y llywodraeth. Felly mae diffygdaliadau tramor yn cael eu gyrru\u2019n bennaf gan sioc i gynhyrchiant. Pan fydd llywodraeth yn diffygdalu ar ddyled ddomestig, mae aelwydydd yn talu trethi is ond maent hefyd yn colli eu cynilion. O ganlyniad, maent yn gweithio fwy ac yn dod yn llai ymatebol i newidiadau mewn trethi. Mae\u2019r ail effaith yn annibynnol ar lefel y cynhyrchiant. Felly mae diffygdalu domestig yn cael ei yrru\u2019n bennaf gan sioc mewn gwariant.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym ni\u2019n dod i\u2019r casgliad bod \u2018sioc Covid\u2019, sy\u2019n lleihau allbwn ac yn cynyddu gwariant y llywodraeth, yn dod \u00e2\u2019r economi yn agosach at ddiffygdalu\u2019n llwyr. Hyd yn oed yn achos rhaglenni ailstrwythuro dyledion tramor a rhaglenni \u2018sefyll yn stond\u2019 sydd wedi\u2019u dylunio\u2019n dda, gallwn ddisgwyl ton o ddiffygdaliadau domestig o hyd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Cyfeirnodau<\/h5>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Bolton, P, L C Buchheit, P-O Gourinchas, G M Gulati, C-T Hsieh, U Panizza a B W di Mauro (2020a), \u201c<a href=\"https:\/\/voxeu.org\/article\/debt-standstill-covid-19-low-and-middle-income-countries\">Necessity is the mother of invention: How to implement a comprehensive debt standstill for COVID-19 in low- and middle-income countries<\/a>\u201d, VoxEU.org, 21 Ebrill.<\/li><li>Bolton, P, L C Buchheit, P-O Gourinchas, G M Gulati, C-T Hsieh, U Panizza a B W di Mauro (2020b), \u201c<a href=\"https:\/\/voxeu.org\/article\/sovereign-debt-standstills-update\">Necessity is the mother of invention: An update<\/a>\u201d, VoxEU.org, 28 Mai.<\/li><li>Djankow, S a U Panizza, \u201c<a href=\"https:\/\/voxeu.org\/article\/covid-19-developing-economies-new-ebook\">COVID-19 in developing economies: A new eBook<\/a>\u201d, VoxEU.org, 22 Mehefin.<\/li><li>IMF (2020),&nbsp;<em>World Economic Outlook Update, Mehefin 2020.<\/em><\/li><li>Paczos, W a K Shakhnov (2020), \u201c<a href=\"https:\/\/cepr.org\/sites\/default\/files\/CovidEconomics45.pdf\">Defaulting on Covid Debt: Foreign or Domestic<\/a>\u201d,&nbsp;<em>Covid Economics<\/em>&nbsp;45, 28 Awst.<\/li><li>Reinhart, C M and K S Rogoff (2011), \u201cThe Forgotten History of Domestic Debt,\u201d&nbsp;<em>Economic Journal<\/em>.<\/li><li>Stiglitz, J a H Rashid (2020), \u201c<a href=\"https:\/\/voxeu.org\/article\/how-prevent-looming-sovereign-debt-crisis\">How to prevent the looming sovereign debt crisis<\/a>\u201d, VoxEU.org, 03 Awst.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/609589-paczos-wojtek\"><strong>Dr Wojtek Paczos<\/strong><\/a><strong> yn facroeconomegydd a darlithydd yn Ysgol Busnes Caerdydd ac yn <\/strong><a href=\"http:\/\/inepan.pl\/en\/\"><strong>Sefydliad Gwyddorau Academaidd Academi Gwyddorau Gwlad Pwyl<\/strong><\/a><strong>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/voxeu.org\/user\/223401\"><strong>Dr Kirill Shakhnov<\/strong><\/a><strong> yn Ddarlithydd mewn Economeg ym Mhrifysgol Surrey.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar <a href=\"https:\/\/voxeu.org\/article\/sovereign-risk-after-covid-19\">Vox Eu<\/a><\/em>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'r gostyngiadau sydyn mewn allbwn economaidd a gwariant ar raddfa fawr gan y llywodraeth yn sgil pandemig COVID-19 wedi arwain at risg uwch o ddiffygdaliadau sofran, yn arbennig mewn econom\u00efau [&hellip;]","protected":false},"author":1820,"featured_media":2450,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1437],"tags":[1365,1366,1784,1440,1783,137,641,1786,1439,1370,640,1467],"class_list":["post-2453","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-3","tag-coronafeirws","tag-covid-19-2","tag-cynnyrch-domestig-gros","tag-dyled","tag-dyled-domestig","tag-economaidd","tag-economi-cy","tag-gwariant","tag-llywodraeth","tag-pandemig","tag-polisi-cy","tag-treth"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-Dz","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/11\/1.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2453","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1820"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2453"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2453\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2457,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2453\/revisions\/2457"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2450"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2453"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2453"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2453"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}