{"id":2420,"date":"2020-10-21T11:53:27","date_gmt":"2020-10-21T10:53:27","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2420"},"modified":"2020-10-21T12:03:09","modified_gmt":"2020-10-21T11:03:09","slug":"byddwch-yn-driw-i-chi-eich-hun-ach-breuddwydion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/byddwch-yn-driw-i-chi-eich-hun-ach-breuddwydion\/","title":{"rendered":"\u201cByddwch yn driw i chi eich hun a\u2019ch breuddwydion\u201d"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1920\" height=\"1080\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2411\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies.jpg 1920w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><figcaption>Dyna gyngor Bernie Davies, entrepreneur llewyrchus sydd ar genhadaeth i ysbrydoli unigolion i ddilyn eu breuddwydion a dechrau busnesau trwy eu helpu i gymryd rheolaeth dros eu bywydau.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bydd llawer o fyfyrwyr yn dyheu am redeg eu busnesau eu hunain ar \u00f4l astudio yn y brifysgol. Gan ohebu ar gyfer <a href=\"https:\/\/cardiffstudentmedia.co.uk\/gairrhydd\/\">Gair Rhydd<\/a>, papur newydd myfyrwyr Caerdydd, cyfarfu Matt Ellis, myfyriwr israddedig yn Ysgol Busnes Caerdydd, \u00e2\u2019r awdur a\u2019r wraig fusnes Bernie Davies sydd wedi ysgrifennu llyfr am sut i wneud hynny.\u00a0Yn ystod eu sgwrs, cynigiodd hi beth cyngor i egin entrepreneuriaid. <\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRhaid i fyfyrwyr sy\u2019n\ndyheu am fod yn entrepreneuriaid a rhedeg eu busnesau eu hunain yn y dyfodol\nymddiried yn eu greddfau a bod yn driw I\u2019r hyn sy\u2019n eu gwneud yn wreiddiol <em>\u2013<\/em> ond rhaid hefyd iddynt weithio\u2019n\ngaled, paratoi ar gyfer cyfleoedd a rhwydweithio\u2019n helaeth.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyna\ngyngor <a href=\"https:\/\/berniedavies.com\/\">Bernie Davies<\/a>, entrepreneur llewyrchus sydd ar genhadaeth i\nysbrydoli unigolion i ddilyn eu breuddwydion a dechrau busnesau trwy eu helpu i\ngymryd rheolaeth dros eu bywydau. Mae\u2019n dweud bod ei negeseuon yr un mor\nberthnasol i fyfyrwyr sy\u2019n ystyried eu breuddwydion ag i weithredwyr busnes\nprofiadol sy\u2019n chwilio am ysbrydoliaeth am fenter newydd.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cI\nlwyddo mewn busnes, rhaid i chi fod yn wreiddiol a nodi eich cryfderau craidd\ngwirioneddol. Rhaid i chi frwydro dros bopeth a pheidio byth \u00e2 rhoi\u2019r gorau\niddo,\u201d meddai Bernie. <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ddiweddar cyhoeddodd Davies lyfr newydd <a href=\"https:\/\/businessnewswales.com\/new-book-launched-by-welsh-serial-entrepreneur\/\">Your Business Your Way<\/a>, sydd \u00e2\u2019r nod o helpu\nunigolion i gyflawni eu potensial mewn busnes trwy gael gwell dealltwriaeth o\u2019r\nhyn sy\u2019n wirioneddol unigryw amdanynt <em>\u2013<\/em>\na\u2019r busnesau maent yn eu creu. <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Book-cover-Your-Business-Your-Way.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2415\" width=\"194\" height=\"274\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Book-cover-Your-Business-Your-Way.png 578w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Book-cover-Your-Business-Your-Way-239x338.png 239w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Book-cover-Your-Business-Your-Way-212x300.png 212w\" sizes=\"auto, (max-width: 194px) 100vw, 194px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">A chanddi CV hynod amrywiol, daeth Davies i\u2019r amlwg yn wreiddiol fel\natwrnai yng nghyfraith, gan symud ymlaen yn gyflym i fod yn bennaeth eiddo gyda\n<a href=\"https:\/\/www.new-law.co.uk\/\">NewLaw\nSolicitors<\/a>.&nbsp; Ers hynny, mae hi wedi symud ymlaen i greu\ngyrfa iddi\u2019i hun fel entrepreneur, strategydd busnes, siaradwr ysgogol ac\nawdur. Mae ei rhestr helaeth o lwyddiannau\u2019n cynnwys darparu seminarau\nhyfforddi misol hynod boblogaidd ar ei phen ei hun i gannoedd o fusnesau yn ne\nCymru, bod yn <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/bigideas\/where-do-i-start\/role-model-profiles\">Esiampl Dynamo ar gyfer Llywodraeth Cymru<\/a>, a bod yn berchen ar <a href=\"https:\/\/introbizwestwales.co.uk\/\">Introbiz\nWest Wales<\/a> <em>\u2013<\/em> busnes rhwydweithio arobryn. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae stori Bernie Davies yn anhygoel. O symud yn wreiddiol i\u2019r DU o\nJamaica, roedd hi\u2019n wynebu\u2019r posibilrwydd o fod yn ddi-waith a gorfod hawlio\nlwfans ceisio gwaith, gan ymateb i hyn trwy gychwyn ei helusen ei hun er mwyn\nsefydlu ei thiriogaeth yn y DU. \u201cRoeddwn bob amser yn teimlo\u2019r awydd am y\nrhyddid i fynegi fy hun, ac roedd meddu ar yr hunanhyder a\u2019r hunan-gred hynny\nyn bendant yn un o\u2019r prif ffactorau yn fy mhenderfyniad i ddilyn gyrfa mewn\nbusnes,\u201d meddai hi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trwy gydol y llyfr, mae Davies yn pwysleisio pwysigrwydd darganfod eich\nrheswm \u201cpam\u201d <em>\u2013<\/em> elfen allweddol ar\ngyfer llwyddiant. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cI lwyddo mewn busnes, rhaid i chi fod yn wreiddiol a nodi eich cryfderau craidd gwirioneddol. Rhaid i chi frwydro dros bopeth a pheidio byth \u00e2 rhoi\u2019r gorau iddo.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <em>Your Business Your Way<\/em>\nhefyd yn canolbwyntio\u2019n helaeth ar y syniad o rwydweithio. Mae rhwydweithio\nwedi dod yn rhan annatod o fusnes ac mae\u2019n rhywbeth y mae\u2019n rhaid i fyfyrwyr ei\nddeall er mwyn cael cyflogaeth lwyddiannus ar \u00f4l y brifysgol. Yn ei geiriau ei\nhun, mae Davies yn credu bod \u201cllwyddiant yn dod o gyfle a pharatoi\u201d, a bod\nrhaid i fyfyrwyr baratoi\u2019n drwyadl, gofyn cwestiynau a gwrando\u2019n astud er mwyn\nbod yn rhwydweithwyr llwyddiannus. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn lle pobl enwog, mae Davies yn annog myfyrwyr i ystyried \u201cpobl go\niawn\u201d fel yr esiamplau i\u2019w dilyn mewn bywyd. Mae\u2019n dweud mai ei theulu yw ei\nphrif ysbrydoliaeth, gan gynnwys ei mam, ei thad a\u2019i brawd-yng-nghyfraith, sydd\nbob amser yn mynegi eu hunain trwy \u201cwaith caled a gonestrwydd\u201d <em>\u2013<\/em> dyma\u2019r un rhinweddau sydd wedi\ngalluogi Davies i ennill Eicon Ddu Abertawe 2019, yn ogystal a chael lle trwy\nbleidlais yn y 100 gwraig fusnes orau yng Nghymru ar gyfer 2017. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gyda phob llwyddiant, mae llawer o heriau. Ei her fwyaf mewn busnes yw\nrheoli pobl, yn yr ystyr nad oes un dull cywir o ymdrin \u00e2 phobl. Mae\u2019n honni\nmai \u201cpobl yw\u2019r adnodd pwysicaf\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I leddfu straen, ei chyngor gorau yw dechrau calonogi eraill, lledaenu\nagwedd gadarnhaol a rhoi gobaith i eraill. Ar gyfer iechyd meddwl da, mae\nDavies yn argymell myfyrdod boreol, ynghyd \u00e2 llunio rhestr wirio ddyddiol i\nsicrhau bod nodau\u2019n cael eu ticio trwy gydol y dydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I unrhyw fyfyriwr sydd \u00e2 diddordeb mewn dechrau busnes, mae\u2019r cyngor yn\nsyml <em>\u2013<\/em> sicrhewch eich bod yn gwybod\npwy rydych chi. Dylech chi ddatblygu uchelgais a chanolbwyntio ar eich crefft\neich hun, gan bennu nodau ac amcanion y gellir eu cyflawni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Bernie Davies yn annog myfyrwyr i ddarllen ei llyfr. \u201cMae\u2019r llyfr yn\ncynnwys popeth. Mae\u2019n rhoi mewnwelediad gonest i\u2019m gyrfa fusnes wrth eich\ncynorthwyo i ddod o hyd i\u2019ch gwir bersonoliaeth a sut i ymgysylltu er mwyn\ngwneud busnes.\u201d <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <em>Your Business Your Way<\/em> yn\ncynnig safbwynt unigryw ar ddatblygu busnes, gan helpu pobl i ddod o hyd i\nbwrpas wrth iddynt geisio darganfod eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae Matt Ellis yn fyfyriwr\nisraddedig trydedd flwyddyn sy&#8217;n astudio <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/study\/undergraduate\/courses\/2020\/business-management-marketing-bsc\"><strong>BSc\nRheoli Busnes (Marchnata)<\/strong><\/a> <strong>yn <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\"><strong>Ysgol Busnes Caerdydd<\/strong><\/a>.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn <a href=\"https:\/\/cardiffstudentmedia.co.uk\/gairrhydd\/\">Gair Rhydd<\/a> \u2013 cylchlythyr myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dyna gyngor Bernie Davies, entrepreneur llewyrchus sydd ar genhadaeth i ysbrydoli unigolion i ddilyn eu breuddwydion a dechrau busnesau trwy eu helpu i gymryd rheolaeth dros eu bywydau. Bydd llawer [&hellip;]","protected":false},"author":1866,"featured_media":2411,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[130],"tags":[1759,1775,713,1758,1771,1774,1763,1773,57,58,1761,105,1770,61],"class_list":["post-2420","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-entrepreneuriaeth","tag-bernie-davies","tag-bsc-rheoli-busnes-marchnata","tag-entrepreneuriaid","tag-gair-rhydd","tag-introbiz","tag-israddedig","tag-jamaica","tag-llyfr","tag-llywodraeth-cymru","tag-myfyrwyr","tag-newlaw-solicitors","tag-prifysgol-caerdydd","tag-strategydd-busnes","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-D2","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Bernie-Davies.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2420","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1866"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2420"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2420\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2423,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2420\/revisions\/2423"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2411"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2420"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2420"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2420"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}