{"id":2404,"date":"2020-10-20T12:34:41","date_gmt":"2020-10-20T11:34:41","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2404"},"modified":"2020-10-20T12:34:45","modified_gmt":"2020-10-20T11:34:45","slug":"cyfnod-clo-covid-19-ac-anghenion-gweithwyr-dillad-yn-bangalore-india","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/cyfnod-clo-covid-19-ac-anghenion-gweithwyr-dillad-yn-bangalore-india\/","title":{"rendered":"Cyfnod clo COVID-19 ac anghenion gweithwyr dillad yn Bangalore, India"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2398\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae\u2019r Athro Jean Jenkins yn egluro\u2019r gwaith mae hi wedi ymgymryd ag ef ynghyd \u00e2 chydweithwyr fel rhan o brosiect a ariennir gan y <a href=\"https:\/\/esrc.ukri.org\/\">Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)<\/a> ar Weithredoli Hawliau Llafur.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ers mis Hydref 2018, mae ymchwilwyr o <a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/\">Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a\nDulliau Cymru (WISERD)<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\">Ysgol Busnes Caerdydd<\/a> wedi bod yn\ngweithio mewn partneriaeth \u00e2\u2019r corff anllywodraethol, <a href=\"http:\/\/cividep.org\/\">Cividep-India<\/a>. Rydym ni wedi bod yn\ndadansoddi data ar b\u2019un a yw gweithwyr dillad yn Bangalore yn gallu cael\nmynediad at gamau unioni (hynny yw, y camau a gymerir i atal, ymchwilio, cosbi\nac unioni achosion o gam-drin hawliau dynol sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 busnes) ar\nlefel y gweithle.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/gtr.ukri.org\/projects?ref=ES%2FS000542%2F1\">Gweithredoli\nHawliau Llafur<\/a> (OLR) yw teitl ein prosiect. Fe wnaethom ni gyflwyno\nrhai o\u2019r canfyddiadau rhagarweiniol i <a href=\"https:\/\/www.textilbuendnis.com\/en\/arbeitstreffen-2020\/\">Bartneriaeth\nTecstilau Cynaliadwy yr Almaen<\/a> ym mis Ebrill 2020, ac rydym ni wedi\ncyfrannu ar drydedd cam <a href=\"https:\/\/undocs.org\/A\/HRC\/44\/32\">Prosiect\nHawliau Dynol Mynediad at Gamau Unioni (ARP III) Uwch-gomisiynydd y Cenhedloedd\nUnedig<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hyd yn hyn, rydym ni wedi canfod fod yr achosion canlynol o fynd yn\ngroes i hawliau cyflogaeth a dynol yn gyffredin mewn ffatr\u00efoedd dillad:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>gwrthwynebiad clir ac agored cyflogwyr tuag at ryddid\ncysylltiad, <\/li><li>defnydd rheolaidd o godi cywilydd, ynysu, trais llafar\na chorfforol fel dulliau i reolwyr reoli,<\/li><li>amharu\u2019n fwriadol ar barhad gwasanaeth fel ffordd o\ngyfyngu ar hawliau statudol gweithwyr a\u2019r posibilrwydd o greu undeb, <\/li><li>addasu gwaith papur er mwyn gwadu gweithwyr eu\nhawliau,<\/li><li>cau ffatr\u00efoedd fel ffordd o wadu gweithwyr eu hawliau,\ngan gynnwys dwyn cyflogau.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar 24 Mawrth 2020, daeth ein hastudiaeth i stop dros dro yn sydyn, gyda\nchyhoeddi\u2019r cyfnod clo yn India gyda dim ond pedair awr o rybudd. <a href=\"https:\/\/ethicalcorp.com\/millions-garment-workers-face-destitution-fashion-brands-cancel-orders\">Collodd\ngweithwyr dillad eu gwaith wrth i ffatr\u00efoedd gau eu drysau, gyda brandiau\nrhyngwladol yn canslo archebion y dyfodol a rhai hyd yn oed yn torri contractau\nar gyfer gwaith a oedd eisoes wedi&#8217;i gwblhau<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cO ganlyniad i\u2019r caledi ofnadwy a ddilynodd, dechreuodd <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/world-asia-india-52086274\">cannoedd ar filoedd o weithwyr gerdded adref i\u2019w pentrefi<\/a> tra bod y rhai a arhosodd yn Bangalore heb yr incwm yr oedd ei angen arnynt i dalu eu rhent neu brynu bwyd.\u201d <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn cyd-destun argyfwng, cydweithiodd t\u00eem prosiect OLR yn India a\nChaerdydd i addasu adnoddau ymchwil OLR (ffonau ac e-lechi) i alluogi\u2019r <a href=\"https:\/\/glu.org.in\/\">Undeb Llafur Dillad<\/a> a <a href=\"https:\/\/munnadewordpress.wordpress.com\/\">Chymdeithas Cymdeithasol Munnade<\/a> i gysylltu \u00e2\ngweithwyr mewn angen. Drwy gydol mis Ebrill a mis Mai 2020, fe wnaethom ni\ngofnodi 412 o weithwyr mewn angen argyfyngus am fwyd a chyflenwadau meddygol.\nRoedd bron i 90% o\u2019r bobl hyn yn weithwyr dillad, gyda\u2019r gweddill yn weithwyr\nadeiladu neu ddomestig. Roedd y rhan fwyaf ohonynt (83%) yn ymfudwyr o\nardaloedd eraill a ddaeth i Bangalore i chwilio am waith, yn byw gyda\u2019u\nteuluoedd agos a gydag aelodau o\u2019u teulu a oedd yn dibynnu ar eu hincwm. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y rhan fwyaf o\u2019r gweithwyr (ychydig dros 92%) yn byw mewn llety\nrhent, a phan ofynnwyd iddynt a oedd ganddynt ddigon o arian i fforddio talu\u2019r\nrhent a\u2019r hanfodion byw sylfaenol, dywedodd dim llai na 96% nad oedd ganddynt.\nTra bod y llywodraeth wedi gorchymyn cyflogwyr i dalu gweithwyr tan ddiwedd mis\nMawrth 2020, roedd oddeutu 30% o\u2019r gweithwyr yn ein data dim ond wedi cael eu\ntalu\u2019n rhannol. Yn wir, roedd oddeutu 10% heb gael unrhyw d\u00e2l ar gyfer mis\nMawrth ac mewn misoedd dilynol, dywedodd bron i draean nad oeddent wedi cael\nunrhyw d\u00e2l ers cyflwyno\u2019r cyfnod clo yn wreiddiol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"1009\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Graph-1024x1009.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2400\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Graph-1024x1009.png 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Graph-343x338.png 343w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Graph-300x296.png 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Graph-768x757.png 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Graph-100x100.png 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Graph-40x40.png 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Graph.png 2001w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth i argyfwng COVID-19 barhau, dechreuodd ffatr\u00efoedd dillad mwy\nail-agor eto yn Bangalore tuag at ddiwedd mis Mai 2020, ond mae\u2019r sefyllfa yn\nparhau i fod yn anrhagweladwy ac yn agored i gyfnodau clo lleol. Mewn mannau\neraill, <a href=\"https:\/\/cleanclothes.org\/news\/2020\/garment-workers-on-poverty-pay-are-left-without-billions-of-their-wages-during-pandemic\">mae\u2019r sector\ndillad mewn argyfwng byd-eang a\u2019r gweithwyr, fel ag erioed, sy\u2019n dioddef o\u2019r\nherwydd<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein partneriaid yn India, Cividep, yn parhau \u00e2\u2019u gwaith i gefnogi\ngweithwyr dillad ar lawr gwlad. Wrth i ffatr\u00efoedd ail-agor yn Bangalore, mae\ndiweithdra yn parhau i fod yn uchel ac mae llawer o weithwyr dillad yn methu \u00e2\nchael eu hen swyddi yn \u00f4l.&nbsp; I\u2019r rheiny\nsydd yn \u00f4l mewn ffatr\u00efoedd, mae pwysau yn y gweithle wedi cynyddu a\u2019r caledi yn\nparhau. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cP\u2019un a yw cyflogwyr yn ymateb i\u2019r straen cystadleuol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r pandemig neu\u2019n manteisio ar y cyfle i ecsbloetio bregusrwydd cynyddol gweithwyr, mae bygythiad go iawn o weld \u2018normal newydd\u2019 o safon is ar gyfer hawliau llafur, rhyddid undebau llafur ac amodau gweithio.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae t\u00eem ymchwil OLR yn ymwybodol iawn y gall mynediad at gamau unioni\nddod yn anoddach fyth i weithwyr dillad ei gael yn y dyddiau sydd o\u2019n blaenau.\nYn y cyd-destun hwn, rydym ni\u2019n parhau i fod yn benderfynol o ddeall a chofnodi\nrealiti gweithleoedd yn y gobaith y gall ein hymchwil gyfrannu at newid mwy\npositif a gwaith boddhaol i bawb.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610450-jenkins-jean\"><strong>Jean Jenkins<\/strong><\/a><strong>\nyn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Caiff prosiect <a href=\"https:\/\/gtr.ukri.org\/projects?ref=ES%2FS000542%2F1\">Gweithredoli Hawliau Llafur<\/a> ei ariannu gan <a href=\"https:\/\/esrc.ukri.org\/research\/international-research\/global-challenges-research-fund-gcrf\/\">Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang ESRC<\/a> \u2013 cyfeirnod grant: ES\/S000542\/1.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar<\/em> <em><a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/news\/covid-19-lockdown-and-needs-garment-workers-bangalore-india\">flog WISERD<\/a>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae\u2019r Athro Jean Jenkins yn egluro\u2019r gwaith mae hi wedi ymgymryd ag ef ynghyd \u00e2 chydweithwyr fel rhan o brosiect a ariennir gan y Cyngor Ymchwil [&hellip;]","protected":false},"author":1580,"featured_media":2398,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1437],"tags":[1756,27,133,64,1757,1069,26,751,105,1072,877,53,61],"class_list":["post-2404","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-3","tag-banglore","tag-cividep","tag-cyngor-ymchwil-economaidd-a-chymdeithasol","tag-cysylltiadau-cyflogaeth","tag-gweithredoli-hawliau-llafur","tag-gweithwyr-ffatrioedd","tag-india","tag-llafur","tag-prifysgol-caerdydd","tag-undebau-llafur","tag-wiserd","tag-ymchwil","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-CM","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Garment-worker.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2404","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1580"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2404"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2404\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2406,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2404\/revisions\/2406"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2398"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2404"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2404"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2404"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}