{"id":2381,"date":"2020-10-19T16:40:24","date_gmt":"2020-10-19T15:40:24","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2381"},"modified":"2020-10-19T16:40:28","modified_gmt":"2020-10-19T15:40:28","slug":"gallair-coronafeirws-greu-cenhedlaeth-gloi-yn-america-ladin-os-nad-yw-llywodraethaun-gweithredu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/gallair-coronafeirws-greu-cenhedlaeth-gloi-yn-america-ladin-os-nad-yw-llywodraethaun-gweithredu\/","title":{"rendered":"Gallai\u2019r Coronafeirws greu cenhedlaeth gloi yn America Ladin os nad yw llywodraethau&#8217;n gweithredu"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2384\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein erthygl ddiweddaraf, mae Dr Luciana Zorzoli, o&#8217;n Hadran Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau, yn archwilio effaith economaidd-gymdeithasol COVID-19 ar bobl ifanc yn America Ladin.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r coronafeirws wedi taro systemau a chymdeithasau gofal iechyd y de\nbyd-eang hyd yn oed yn galetach na gweddill y byd oherwydd eu heconom\u00efau sydd\neisoes yn&nbsp;wan <a href=\"https:\/\/www.cepal.org\/en\/publications\/45235-capital-flows-latin-america-and-caribbean-2019-year-review\">a lefelau dyled\nuchel<\/a>. Nid yw America Ladin yn eithriad, ac effeithiwyd arni&#8217;n arbennig\noherwydd niferoedd uchel iawn o heintiau. Gyda mwy na&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.ecdc.europa.eu\/en\/geographical-distribution-2019-ncov-cases\">7.9 miliwn o\nachosion<\/a>&nbsp;a mwy na&nbsp;<a href=\"https:\/\/uk.news.yahoo.com\/latin-america-surpasses-300-000-002443228.html?guccounter=1\">300,000 o\nfarwolaethau<\/a>, mae\u2019r rhanbarth wedi\u2019i disgrifio fel un sydd wedi cael yr ergyd\nwaethaf yn y byd. Dyna pam, yn \u00f4l asesiad&nbsp;<a href=\"http:\/\/pubdocs.worldbank.org\/en\/538491588787962322\/Global-Economic-Prospects-June-2020-Analysis-LAC.pdf\">Banc y Byd ym\nmis Mehefin<\/a>, y bydd economi America Ladin yn cyfyngu 7.2% yn ei chyfanrwydd yn\n2020.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn fwy na hynny, mae rhai o dueddiadau addawol, os yn gymedrol, y ddau\nddegawd diwethaf yn cael eu gwrthdroi gan y pandemig. Roedd hwn yn rhanbarth a\noedd yn dechrau lleihau lefelau enfawr o anghydraddoldeb diolch i dwf\neconomaidd sylweddol o&#8217;r ffyniant nwyddau a ddaeth i ben yn 2013,&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.routledge.com\/A-Moment-of-Equality-for-Latin-America-Challenges-for-Redistribution\/Fritz-Lavinas\/p\/book\/9780367598013\">yn ogystal<\/a>&nbsp;\u00e2 rhai\npolis\u00efau cyflogau arloesol a rhaglenni cymdeithasol a gyflwynwyd gan\nlywodraethau blaengar.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y cyd-destun hwn, mae pobl iau&#8217;n cael&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2020\/aug\/04\/global-report-covid-risks-generational-catastrophe-warns-un-latin-america-exceeds-5m-cases\">eu taro&#8217;n\narbennig o wael.<\/a> Mae cau ysgolion yn niweidio addysg ac, fel mewn\nllawer o wledydd, mae rhagolygon swyddi ar eu cyfer yn arbennig o wael. Os na\nall y rhanbarth reoli&#8217;r feirws a rhoi hwb i&#8217;w heconomi, byddwn yn gweld twf\n&#8220;cenhedlaeth gloi&#8221;, sydd wedi&#8217;i dal mewn diweithdra, swyddi anffurfiol\na thlodi mewn gwaith.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diweithdra a\u2019r economi gig<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae nifer ac ansawdd swyddi&#8217;n dirywio&#8217;n gyflym o ganlyniad i&#8217;r ffordd y\nmae\u2019r pandemig wedi parlysu\u2019r economi. Mae Sefydliad Llafur Rhyngwladol y\nCenhedloedd<a href=\"https:\/\/www.ilo.org\/wcmsp5\/groups\/public\/---americas\/---ro-lima\/---sro-santiago\/documents\/publication\/wcms_746274.pdf\"> Unedig yn\namcangyfrif<\/a>&nbsp;y bydd yr argyfwng iechyd yn gwthio cyfraddau diweithdra yn y\nrhanbarth i fyny o 8.1% i 11.5% yn 2020, sy&#8217;n cyfateb i fwy nag 11.5 miliwn o bobl\nnewydd yn ddi-waith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ganlyniad, disgwylir i 30 miliwn ychwanegol ddisgyn i dlodi (a gwnaed\nyr amcangyfrifon hyn ym mis Mai, cyn i effeithiau&#8217;r feirws gydio go iawn). Bydd\nhyn yn effeithio\u2019n anghymesur ar bobl ifanc, <a href=\"https:\/\/www.ilo.org\/wcmsp5\/groups\/public\/---dgreports\/---dcomm\/documents\/briefingnote\/wcms_749399.pdf\">sydd eisoes<\/a>&nbsp;wedi\ndioddef cyfraddau diweithdra parhaus a oedd deirgwaith yn uwch na chyfradd\noedolion h\u0177n cyn y pandemig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond y lefel hanesyddol uchel o waith anffurfiol yn America Ladin a fydd\nyn gwneud yr adferiad yn llawer anoddach. Cyn y pandemig, roedd mwy na hanner y\ngweithlu ar draws y rhanbarth mewn cyflogaeth anffurfiol a bregus, heb unrhyw\nfesurau diogelu cymdeithasol fel t\u00e2l salwch neu hyd yn oed gontractau\nysgrifenedig. Unwaith eto, mae pobl ifanc yn gyfran hyd yn oed yn uwch o&#8217;r\ngweithlu anffurfiol hwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gydag econom\u00efau yn cyfyngu oherwydd y pandemig, mae mwy fyth yn troi at <a href=\"https:\/\/ilabour.oii.ox.ac.uk\/online-labour-index\/\">waith gig<\/a>&nbsp;ledled y\nrhanbarth er mwyn chwilio am incwm dyddiol. Ond fe ddaw hyn <a href=\"https:\/\/hbr.org\/2018\/07\/are-there-good-jobs-in-the-gig-economy\">gyda phris<\/a>. Roedd dibynnu\nar waith fel negesydd, gyrrwr tacsi neu ddarparu gwasanaethau glanhau drwy ap\neisoes yn waith anodd. Yn gyffredinol, mae&#8217;n waith sy\u2019n talu\u2019n isel ac sydd yn\nosgoi cyfreithiau isafswm cyflog, gan fod gweithwyr yn cael eu cyfrif fel rhai\nhunangyflogedig neu rai sy&#8217;n gweithio y tu allan i&#8217;r holl gyfreithiau llafur\ncenedlaethol. Mae&#8217;n ansicr, gan gynnig dim sicrwydd swydd na buddion fel t\u00e2l\nsalwch neu wyliau \u00e2 th\u00e2l. Mae hefyd yn ynysig iawn, gan eich bod fel arfer yn\ngweithio ar eich pen eich hun, ac ychydig iawn y mae&#8217;n ei gynnig o ran\nrhagolygon gyrfa.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Peryglon a buddion<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gyda&#8217;r pandemig, cynyddodd y risgiau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 gwaith gig yn\nsylweddol wrth i&#8217;r gweithwyr hyn ddod i gysylltiad \u00e2 chymaint o wahanol bobl.\nOnd daeth y pandemig hefyd \u00e2&#8217;r galw am y gwasanaethau hyn, gyda mwy o bobl yn\narchebu bwyd a phrydau tecaw\u00ea yn y cyfnod clo, neu&#8217;n cymryd tacsis yn hytrach\nna thrafnidiaeth gyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ac eto, nid yw bywyd fel gweithiwr gig wedi gwella. Ar draws America\nLadin, mae&#8217;r gweithwyr allweddol hyn wedi nodi diffyg cefnogaeth o ran cyfarpar\ndiogelu personol ac yswiriant iechyd. Mae niferoedd enfawr hefyd yn dweud bod\neu hincwm wedi aros yr un fath, neu hyd yn oed wedi gwaethygu, er gwaetha\u2019r\nffaith eu bod yn gwneud mwy o swyddi. Mewn&nbsp;<a href=\"https:\/\/www1.folha.uol.com.br\/mercado\/2020\/06\/entregadores-organizam-paralisacao-e-movimento-chega-a-capitais-latinas.shtml\">un&nbsp;arolwg<\/a> o 298 o yrwyr\nar draws 29 o ddinasoedd, dywedodd 64% fod eu cyflog wedi gostwng. Y rheswm am\nhyn yw newidiadau yn y telerau a gynigir gan gwmn\u00efau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae miloedd wedi bod yn protestio am well cyflogau a hawliau. Mae&#8217;r\nychydig fisoedd diwethaf wedi gweld streiciau gan yrwyr dosbarthu mewn\ndinasoedd ledled y rhanbarth, gan&nbsp;gynnwys yr&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.vice.com\/en_us\/article\/jgxazk\/they-arent-anything-without-us-gig-workers-are-striking-throughout-latin-america\">Ariannin<\/a>,<a href=\"https:\/\/www1.folha.uol.com.br\/mercado\/2020\/06\/entregadores-organizam-paralisacao-e-movimento-chega-a-capitais-latinas.shtml\">Brasil<\/a>, <a href=\"https:\/\/uk.reuters.com\/article\/us-rappi-colombia\/rappi-delivery-workers-in-colombias-bogota-strike-over-conditions-idUKKCN25B0ZV\">Colombia<\/a> a Mecsico. Mae\ngwahanol gwmn\u00efau ap yn gweithredu yno, ond mae&#8217;r gofynion yr un fath: gwell\ncyflog gan y cwmn\u00efau a gwell rheoleiddio gan lywodraethau i atal camfanteisio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r diffyg rheoleiddio yn rhan fawr o&#8217;r broblem. Mae&#8217;n caniat\u00e1u i ochr\ndywyll yr economi gig ddatblygu: sef cronfa gynyddol o weithwyr heb unrhyw\nddiogelwch cyflogaeth, nad ydynt yn cael eu talu ddigon a sydd heb fawr ddim\ndewisiadau swyddi eraill, ac ychydig o b\u0175er i negodi gyda chwmn\u00efau technoleg\nmawr sy&#8217;n rheoli eu gweithlu drwy algorithmau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd adferiad America Ladin o&#8217;r coronafeirws yn gofyn am newid sylweddol\ni farchnadoedd llafur y rhanbarth. Heb well fesurau diogelu rhag tangyflogaeth\na thlodi mewn gwaith, mae perygl i&#8217;r rhanbarth wneud anghydraddoldeb yn waeth\neto. Mae gwrando ar ofynion gweithwyr gig sydd ar streic yn lle da i ddechrau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/2285797-zorzoli-luciana\"><strong>Dr Luciana Zorzoli<\/strong><\/a><strong> yn Ddarlithydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth yn\nYsgol Busnes Caerdydd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar<\/em> <em><a href=\"https:\/\/theconversation.com\/coronavirus-could-create-a-lockdown-generation-in-latin-america-if-governments-dont-act-144161\">Y Sgwrs<\/a>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein erthygl ddiweddaraf, mae Dr Luciana Zorzoli, o'n Hadran Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau, yn archwilio effaith economaidd-gymdeithasol COVID-19 ar bobl ifanc yn America Ladin. Mae\u2019r coronafeirws wedi taro systemau [&hellip;]","protected":false},"author":1870,"featured_media":2384,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1437],"tags":[1748,1365,1313,1749,1750],"class_list":["post-2381","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-3","tag-america-ladin","tag-coronafeirws","tag-covid-19","tag-gwaith-ansicr","tag-gweithwyr-anffurfiol"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-Cp","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Digital-portrayal-of-coronavirus-in-South-America-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2381","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1870"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2381"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2381\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2388,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2381\/revisions\/2388"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2384"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2381"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2381"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2381"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}