{"id":2368,"date":"2020-09-29T13:55:52","date_gmt":"2020-09-29T12:55:52","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2368"},"modified":"2020-10-01T14:06:46","modified_gmt":"2020-10-01T13:06:46","slug":"ymdopi-a-covid-dyfodol-teithio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/ymdopi-a-covid-dyfodol-teithio\/","title":{"rendered":"Ymdopi \u00e2 COVID \u2013 Dyfodol Teithio"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2364\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein postiad diweddaraf, mae Steve Hull, cyfaill i Ysgol Busnes Caerdydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Destination Ski, yn esbonio sut mae&#8217;r asiantaeth deithio wedi addasu a chynllunio ar gyfer y dyfodol yn wyneb pandemig byd-eang COVID-19.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan fydd eich busnes yn gwerthu gwyliau\nwythnosau, fisoedd a hyd yn oed flynyddoedd i&#8217;r dyfodol, mae cael rhai pobl yn\ncanslo&#8217;n normal. Mae cynlluniau&#8217;n newid, mae pethau&#8217;n digwydd, ac mae&#8217;n rhaid i\nbobl newid neu ganslo eu harchebion. Ond beth am pan fydd <em>pawb <\/em>yn canslo? Doedd hyn erioed wedi digwydd o&#8217;r blaen, roedd yn\nddigynsail, ond roedd rhaid inni greu cynllun i gael hyd i ffordd drwyddo, ac\nnid dim ond drwyddo, ond yn barod i dyfu eto yn y pen arall.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma&#8217;r sefyllfa y ces i fy hun ynddi ym mis\nMawrth eleni, fel Rheolwr Gyfarwyddwr <a href=\"https:\/\/www.destinationski.com\">Destination Ski<\/a>, asiantaeth deithio\narbenigol sy\u2019n gwerthu gwyliau sg\u00efo i Ewrop a Gogledd America.&nbsp; Roedd gennym ni gwsmeriaid i ffwrdd ar eu\ngwyliau oedd angen dod adre, cwsmeriaid yn barod i deithio, a staff dramor oedd\nangen pacio a dod adre\u2019n gyflym &#8211; cymaint i\u2019w drefnu a chyn lleied o amser. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwneud cynllun cadarn<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Asgwrn cefn unrhyw fusnes yw cynllun da. Ac mae\nunrhyw syniad busnes yn dechrau gyda chynllun, sylfaen i adeiladu arni. Fel ar\nsawl adeg yn ystod oes fy musnes, roedd yn bryd llunio cynllun. Roedd yn bwysig\nbod yn realistig, dod i delerau \u00e2 difrifoldeb y sefyllfa, ac ymgysylltu \u00e2\nphartneriaid i sicrhau bod y cynllun yn gynaliadwy.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal \u00e2 gwneud cynlluniau ar gyfer\ncwsmeriaid a staff, roedd o&#8217;r pwys mwyaf i gynllunio&#8217;n ariannol hefyd. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cFe es i drwy ein holl daliadau misol i nodi pa rai allai gael eu lleihau a pha rai allai gael eu dileu&#8217;n gyfan gwbl, felly roedd hynny\u2019n golygu lleihau\u2019r lle yn y swyddfeydd, llai o wariant marchnata, a llawer o ostyngiadau llai hefyd mewn meysydd fel telathrebu ac argraffu.\u201d <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn wir, roedd yn eithaf da cael clirio pethau\ndoedden ni ddim hyd yn oed yn eu defnyddio ond yn talu amdanyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan fod fy ffrydiau incwm yn sychu, roedd angen\nimi sicrhau y gallai ein llif arian gynnal y busnes drwy&#8217;r pandemig, oedd yn\nolygu gweithio gyda&#8217;n banc i ddarparu arian ychwanegol y gallai fod ei\nddefnyddio yn y dyfodol. Dyna pam mae\u2019n bwysig nid yn unig cynllunio ar gyfer y\ntymor byr, ond nodi pwyntiau yn y dyfodol lle gallai llif arian fod yn broblem,\na rhoi cynllun ar waith nawr i sicrhau eich bod chi ddim yn mynd i\ndrafferthion. Mae&#8217;n golygu ein bod ni\u2019n wynebu\u2019r 12 mis nesaf gan wybod bod\ngennym gynllun wrth gefn rhag ofn bydd angen hynny. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Nodi cyfleoedd newydd<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Destination Ski yn asiantaeth deithio\narbenigol, ac o fewn y busnes, mae gennym ddau frand arall hefyd, y ddau\nohonynt hwythau\u2019n rhan o\u2019r diwydiant teithiau sg\u00efo. Hyd yma, mae hyn wedi\ngweithio&#8217;n dda iawn tra bod pobl yn gallu teithio. Fodd bynnag, gyda&#8217;r gaeaf yn\ndod yn agosach&nbsp; o hyd a chyfyngiadau\nteithio yn aros yn eu lle, am y tro, mae&#8217;n golygu bod rhaid i ni chwilio am\ngyfleoedd newydd i sicrhau ein bod ni\u2019n gallu parhau i weithredu. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cMae rhedeg busnes llwyddiannus yn golygu meddwl yn barhaus am sut gallwch chi ddatblygu syniadau, arloesi, arbrofi a gweithredu strategaethau newydd.\u201d <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ein hachos ni, rydyn ni\u2019n edrych ar sut\ngallwn ni drawsnewid ein sylfaen busnes a chwsmeriaid o gynnig gwyliau sg\u00efo yn\ny gaeaf yn unig, i un sy&#8217;n cynnig gwyliau drwy gydol y flwyddyn, fel bod modd i\nni fanteisio ar y galw sydd wedi cronni am deithio cyn gynted ag y caiff\ncyfyngiadau teithio eu llacio.&nbsp; Daw hyn\nyn \u00f4l at greu cynllun, gosod nodau tymor byr a thymor hir, ac yna llawer o\nwaith caled i&#8217;w weithredu \u2013 dylai ein brand gwyliau haf newydd fod yn cael ei\nsefydlu yr hydref yma, ond bydd ffordd hir i fynd i&#8217;w ddatblygu&#8217;n frand teithio\ncydnabyddedig fydd yn eistedd ochr yn ochr \u00e2&#8217;n portffolio presennol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Canolbwyntiwch ar yr hyn y <em>gallwch <\/em>ei wneud<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2362\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-1-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar hyn o bryd mae llawer iawn o bethau&#8217;n digwydd sydd y tu hwnt i&#8217;n\nrheolaeth yn llwyr, felly mae&#8217;n bwysig canolbwyntio ar y pethau y <em>gallwch <\/em>eu gwneud yn hytrach na\nchaniat\u00e1u i&#8217;r cylch di-baid o newyddion negyddol eich digalonni.&nbsp; Drwy ganolbwyntio ar y pethau hyn byddwch yn\ngallu gweld canlyniadau yn hytrach na phoeni yn unig. Fe wnes i ddarganfod bod\ny cyfnod pan oedd y busnes yn dawel yn ddelfrydol ar gyfer gwneud pethau y bu\nangen i mi eu gwneud ers tro, fel symud cwpl o&#8217;n gwefannau i weinydd gwe newydd\nwedi\u2019i ddiweddaru.&nbsp; Cafwyd cyfle hefyd i\nymchwilio&#8217;n ddyfnach i gynnwys ein gwefan i weld ble gallwn ni wneud\ngwelliannau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Edrych i&#8217;r dyfodol<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n amhosibl gwybod sut bydd yr ymateb i\nCOVID-19 yn datblygu yn ystod y chwech i ddeuddeg mis nesaf. Rwy\u2019n gwybod, os\nyw fy musnes i ffynnu pan ddeuwn ni\u2019n nes at yr hyn oedd yn arfer bod yn\nnormal, bod angen i mi fod yn barod gyda&#8217;m cynllun, gyda&#8217;m syniadau newydd, ac\nagwedd gadarnhaol i fwrw ymlaen unwaith eto. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cRwy&#8217;n credu bod busnes yn fater o esblygu, ac mae hwn yn sicr yn gyfnod i wneud hynny.\u201d <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n sicr yn mynd i fod yn flwyddyn ddiddorol\no&#8217;n blaenau i&#8217;r diwydiant teithio, wrth i gyfyngiadau teithio gael eu\ngweithredu a&#8217;u llacio, ac rwy&#8217;n si\u0175r, wrth i ni ddod allan o hyn, y bydd\ngalwadau am newidiadau i&#8217;r ffordd y mae&#8217;r diwydiant yn gweithredu, yn ogystal \u00e2\nnewidiadau i ddeddfwriaeth. Felly mae digon o bethau newydd i&#8217;n cadw ar flaenau\nein traed.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n bosibilrwydd brawychus pan fydd gennych\nchi fusnes i&#8217;w redeg. Mae cynifer o bethau\u2019n anhysbys.&nbsp; Ond, ar y llaw arall, mae&#8217;n bryd rhoi cynnig\nar bethau newydd, yn adeg i newid, a chyda hynny daw&#8217;r cyffro o roi fy holl\nbrofiad ar waith i wneud yn si\u0175r ein bod ni\u2019n barod i dyfu wrth i ni drechu\nCOVID-19 gyda&#8217;n gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Steve Hull yw Rheolwr Gyfarwyddwr <a href=\"http:\/\/www.destinationski.com\/\">Destination Ski<\/a> asiantaeth deithio a seiliwyd ar wyliau sg\u00efo hyblyg.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Steve wedi rhannu ei arbenigedd busnes gyda charfannau <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/business-school\/courses\/the-cardiff-mba\">MBA Prifysgol Caerdydd<\/a>, gan gynnig cymorth, adborth ac arweiniad yn Noson Gyflwyno Cynllun Busnes flynyddol yr MBA.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein postiad diweddaraf, mae Steve Hull, cyfaill i Ysgol Busnes Caerdydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Destination Ski, yn esbonio sut mae'r asiantaeth deithio wedi addasu a chynllunio ar gyfer y [&hellip;]","protected":false},"author":1860,"featured_media":2364,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1437],"tags":[1740,1738,68,1365,1724,212,1737,1742,1743,669,1629,1370,105,1736,1739,61],"class_list":["post-2368","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-3","tag-argraffu","tag-asiantaeth-deithio","tag-busnes","tag-coronafeirws","tag-destination-ski","tag-ewrop","tag-gogledd-america","tag-incwm","tag-llif-arian","tag-marchnata","tag-mba","tag-pandemig","tag-prifysgol-caerdydd","tag-teithio","tag-telathrebu","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-Cc","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/10\/Skiing-Image-2.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2368","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1860"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2368"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2368\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2369,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2368\/revisions\/2369"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2364"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2368"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2368"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2368"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}