{"id":2336,"date":"2020-09-21T12:35:33","date_gmt":"2020-09-21T11:35:33","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2336"},"modified":"2023-03-08T14:30:37","modified_gmt":"2023-03-08T13:30:37","slug":"anabledd-cyfreithiol-profiadau-gyrfa-pobl-anabl-syn-gweithio-ym-mhroffesiwn-y-gyfraith-yng-nghymru-a-lloegr-ymchwil-ac-adnoddau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/anabledd-cyfreithiol-profiadau-gyrfa-pobl-anabl-syn-gweithio-ym-mhroffesiwn-y-gyfraith-yng-nghymru-a-lloegr-ymchwil-ac-adnoddau\/","title":{"rendered":"Anabledd Cyfreithiol? Profiadau gyrfa pobl anabl sy&#8217;n gweithio ym mhroffesiwn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr: ymchwil ac adnoddau"},"content":{"rendered":"\r\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Lawyers-with-Disabilities-Division-with-Prof-Foster-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2272\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Lawyers-with-Disabilities-Division-with-Prof-Foster-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Lawyers-with-Disabilities-Division-with-Prof-Foster-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Lawyers-with-Disabilities-Division-with-Prof-Foster-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Lawyers-with-Disabilities-Division-with-Prof-Foster-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Yr Athro Debbie Foster gydag aelodau o&#8217;r Is-adran Cyfreithwyr ag Anableddau. <\/figcaption><\/figure>\r\n\r\n\r\n\r\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Fel yr esbonia&#8217;r Athro Debbie Foster o Ysgol Busnes Caerdydd (ymchwilydd arweiniol), mae Anabledd Cyfreithiol? yn brosiect cydweithredol parhaus unigryw. Fe&#8217;i dewiswyd i dderbyn cyllid gan <a href=\"http:\/\/www.disabilitywales.org\/\">Anabledd Cymru<\/a>, gyda&#8217;r grant yn dod o fenter gan y loteri genedlaethol sy\u2019n cynnwys cyrff hawliau anabledd ar draws pedair gwlad y DU. Cynhaliwyd gwaith ymchwil mewn partneriaeth \u00e2 Dr Natasha Hirst (ymchwilydd anabledd annibynnol) ac <a href=\"https:\/\/www.lawsociety.org.uk\/topics\/lawyers-with-disabilities\/about-the-lawyers-with-disabilities-division\">Is-adran Cyfreithwyr ag Anableddau (LDD) <\/a><a href=\"https:\/\/www.lawsociety.org.uk\/\">Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr<\/a>. <\/h3>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cr\u00ebwyd nifer o adnoddau gwerthfawr hefyd: adroddiad sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth (y cyntaf o&#8217;i fath yn y DU) ar brofiadau gyrfa pobl anabl ym mhroffesiwn y gyfraith; gwefan prosiect a fideos proffil personol. Mae&#8217;r rhain yn herio&#8217;r hyn y mae cyfranogwyr y prosiect yn credu sy&#8217;n &#8216;ddiwylliant o ddyhead isel&#8217;, a briodolir fel mater o drefn i bobl anabl yn y farchnad lafur yn y DU.\u00a0 <\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pobl anabl yw&#8217;r gr\u0175p sy&#8217;n dioddef fwyaf o ddiffyg cynrychiolaeth deilwng\r\nym mhroffesiwn y gyfraith. Canfu ein hymchwil eu bod nid yn unig yn wynebu\r\nrhwystrau corfforol\/synhwyraidd (e.e. amgylcheddau gwaith a llysoedd\r\nanhygyrch), ond hefyd rwystrau diangen sy&#8217;n deillio o arferion, agweddau a\r\ndefodau anhyblyg. Yn arwyddocaol, canfuom yn 2020 fod cyfreithwyr,\r\nbargyfreithwyr a barnwyr anabl yn dal i fod yn &#8216;annisgwyl&#8217; yn y proffesiwn, yn\r\nprofi cam-drin, heb ddarpariaethau priodol ar eu cyfer a&#8217;u bod yn adnodd talent\r\nna chaiff ei ddefnyddio.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn aml caiff proffesiwn y gyfraith ei ystyried yn gadarnle i&#8217;r\r\nbreintiedig, ond mae&#8217;n gynyddol ymwybodol o&#8217;r angen i adlewyrchu a chynrychioli\r\ngrwpiau amrywiol yn y gymdeithas, a hynny yn anad dim i ateb cyhuddiadau bod y\r\ngyfraith yn cael ei llunio gan normau ar sail dosbarth a rhywedd, sy&#8217;n hiliol\r\nac sy&#8217;n gwahaniaethu ar sail abledd. Drwy ddefnyddio methodoleg cyd-gynhyrchu\r\nceisiodd y prosiect nid yn unig gynhyrchu gwybodaeth, ond hefyd rymuso pobl\r\nanabl yn y proffesiwn i gyfrannu at y wybodaeth honno a&#8217;r adnoddau a gynhyrchir\r\na&#8217;u defnyddio i sicrhau newid a mwy o gynrychiolaeth.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/18-LegallyDisabled-conf-2020-HiRes-4822-1-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2333\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/18-LegallyDisabled-conf-2020-HiRes-4822-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/18-LegallyDisabled-conf-2020-HiRes-4822-1-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/18-LegallyDisabled-conf-2020-HiRes-4822-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/18-LegallyDisabled-conf-2020-HiRes-4822-1-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Cynrychiolwyr yng nghynhadledd Anabledd Cyfreithiol? ym mis Ionawr 2020.<\/figcaption><\/figure>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel rhan o&#8217;n hagenda effaith cynhaliwyd cynhadledd yn <a href=\"https:\/\/www.thebritishacademy.ac.uk\/\">yr Academi Brydeinig yn Llundain<\/a> ym mis Ionawr\r\n2020 i gyflwyno a thrafod canfyddiadau ein hymchwil. Roedd cymdeithasau\r\nproffesiynol a rheoleiddwyr yn bresennol yn ogystal \u00e2 phobl anabl yn y\r\nproffesiwn, a denodd gryn sylw. <\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch weld yr adroddiadau ymchwil, y datganiad i&#8217;r wasg ac adroddiad y\r\ngynhadledd <a href=\"http:\/\/legallydisabled.com\/research-reports\/\">ar ein gwefan.<\/a><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn parhau i\r\ngyd-gynhyrchu adnoddau gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr i alluogi&#8217;r proffesiwn i\r\nroi argymhellion yr ymchwil ar waith.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod y cyfnod clo yn 2020, cyd-gynhalion ni nifer o ddigwyddiadau\r\nbord gron rhithwir hefyd gyda&#8217;r LDD a th\u00eem Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithas\r\ny Cyfreithwyr. Denodd y rhain dros 100 o bobl o bob rhan o broffesiwn y\r\ngyfraith ac roedd yn gyfle i ni gyflwyno ein hymchwil i gynulleidfa fwy a hefyd\r\ni gyfranogwyr holi cwestiynau. <\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr, aethom ati hefyd i hyrwyddo cyfres o \u2018Fanteision Rhwydd\u2019, a dynnwyd o&#8217;n hargymhellion ymchwil, i gwmn\u00efau a sefydliadau eu hystyried. Caiff yr adnoddau hyn eu hychwanegu at ein gwefan wrth iddyn nhw gael eu cwblhau.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<figure class=\"wp-block-embed-youtube wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-embed-aspect-4-3 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper video\">\r\n<span class=\"embed-youtube\" style=\"text-align:center; display: block;\"><iframe loading=\"lazy\" class=\"youtube-player\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/dQ2yYJ2aOkE?version=3&#038;rel=1&#038;showsearch=0&#038;showinfo=1&#038;iv_load_policy=1&#038;fs=1&#038;hl=en-GB&#038;autohide=2&#038;wmode=transparent\" allowfullscreen=\"true\" style=\"border:0;\" sandbox=\"allow-scripts allow-same-origin allow-popups allow-presentation allow-popups-to-escape-sandbox\"><\/iframe><\/span>\r\n<\/div><figcaption>Anabledd Cyfreithiol? a Chymdeithas y Cyfreithwyr: Digwyddiad bord gron rhithwir 2020. <\/figcaption><\/figure>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Adnodd arall rydym ni wedi&#8217;i greu drwy gyllid Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd yw cyfres o &#8216;Broffiliau Personol&#8217;. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys cyfweliadau gyda phobl anabl sy&#8217;n gweithio ym mhroffesiwn y gyfraith ar hyn o bryd. <\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn rhy aml dywedir wrth bobl ifanc anabl fod rhaid iddynt gyfyngu eu dyheadau gyrfaol, ond cawsom gyfarfod \u00e2 llawer o bobl anabl yn ystod ein hymchwil oedd naill ai wedi cael yr offer, cymorth ymarferol ac anogaeth gywir, neu a wrthododd wrando ar stereoteipio negyddol ac a aeth ymlaen i gyflawni eu dyheadau. Cytunon nhw i siarad ar gamera am eu profiadau er mwyn annog pobl anabl uchelgeisiol eraill i fynd i faes y gyfraith.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<figure class=\"wp-block-embed-youtube wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper video\">\r\n<span class=\"embed-youtube\" style=\"text-align:center; display: block;\"><iframe loading=\"lazy\" class=\"youtube-player\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/P31V9tDD7F0?version=3&#038;rel=1&#038;showsearch=0&#038;showinfo=1&#038;iv_load_policy=1&#038;fs=1&#038;hl=en-GB&#038;autohide=2&#038;wmode=transparent\" allowfullscreen=\"true\" style=\"border:0;\" sandbox=\"allow-scripts allow-same-origin allow-popups allow-presentation allow-popups-to-escape-sandbox\"><\/iframe><\/span>\r\n<\/div><figcaption>Rob Camm, cyfreithiwr dan hyfforddiant. <\/figcaption><\/figure>\r\n\r\n\r\n\r\n<figure class=\"wp-block-embed-youtube wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper video\">\r\n<span class=\"embed-youtube\" style=\"text-align:center; display: block;\"><iframe loading=\"lazy\" class=\"youtube-player\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/xjptgDEI-7w?version=3&#038;rel=1&#038;showsearch=0&#038;showinfo=1&#038;iv_load_policy=1&#038;fs=1&#038;hl=en-GB&#038;autohide=2&#038;wmode=transparent\" allowfullscreen=\"true\" style=\"border:0;\" sandbox=\"allow-scripts allow-same-origin allow-popups allow-presentation allow-popups-to-escape-sandbox\"><\/iframe><\/span>\r\n<\/div><figcaption>Sarah Viner, Gweithredwr Cyfreithiol yn y cwmni bancio buddsoddi UBS.<\/figcaption><\/figure>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Caiff fideos ac adnoddau eraill eu hychwanegu wrth gael eu datblygu.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn partneriaeth \u00e2 Chymdeithas y Cyfreithwyr, lansion ni arolwg yn\r\nystod haf 2020 i gasglu data ar effaith COVID-19 ar gyfreithwyr anabl mewn\r\ncyflogaeth a hyfforddiant. Roedd ein hymchwil flaenorol wedi canfod mai\r\nhyblygrwydd a gweithio gartref oedd yr addasiadau rhesymol y gofynnwyd amdanynt\r\namlaf ond a wrthodwyd, ac yn ystod y cyfnod digynsail o weithio gartref dros y\r\ncyfnod clo roedd gennym ni ddiddordeb i weld a oedd profiadau gwaith y gr\u0175p hwn\r\nwedi gwella. <\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r cyfleoedd ar gyfer ailgynllunio swyddi er budd pobl anabl, mewn\r\nsector sydd wedi glynu at waith swyddfa traddodiadol, yn well nag y buon nhw\r\nerioed. Byddwn yn trafod ein canfyddiadau cychwynnol yn Sesiwn Hysbysu dros\r\nFrecwast Ysgol Busnes Caerdydd ddydd Mercher 30 Medi 2020. <\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/cardiff-business-school-online-briefing-with-professor-debbie-foster-tickets-120164562441\">Cofrestru i\r\nddod i&#8217;r digwyddiad rhithwir hwn.<\/a> <\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn dilyn hyn, caiff y canfyddiadau a&#8217;r argymhellion llawn eu lansio gyda\r\nChymdeithas y Cyfreithwyr ym mis Hydref.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch gael y newyddion diweddaraf am Brosiect Anabledd Cyfreithiol\r\ndrwy ein dilyn ar <a href=\"https:\/\/twitter.com\/LegallyDisabled\">Twitter\r\n@LegallyDisabled<\/a> a chofrestru i dderbyn ein cylchlythyr <a href=\"http:\/\/legallydisabled.com\/sign-up\/\">legallydisabled.com<\/a>.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae<\/strong> <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610389-foster-deborah\"><strong>Deborah Foster<\/strong><\/a><strong> yn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth ac Amrywiaeth\r\nyn <\/strong><a href=\"http:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\"><strong>Ysgol Busnes Caerdydd<\/strong><\/a><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"http:\/\/natashahirstblog.co.uk\/\"><strong>Natasha Hirst<\/strong><\/a><strong> yn ymchwilydd ac yn newyddiadurwr ffotograffig annibynnol. <\/strong><\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yr Athro Debbie Foster gydag aelodau o'r Is-adran Cyfreithwyr ag Anableddau. Fel yr esbonia'r Athro Debbie Foster o Ysgol Busnes Caerdydd (ymchwilydd arweiniol), mae Anabledd Cyfreithiol? yn brosiect cydweithredol parhaus [&hellip;]","protected":false},"author":1230,"featured_media":2272,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[176],"tags":[181,182,1719,1720,1365,1366,1718,1716,1723,86,1717,1370,105,1722,1715,53,1721,61],"class_list":["post-2336","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth","tag-anabledd","tag-anabledd-cymru","tag-bargyfreithwyr","tag-barnwyr","tag-coronafeirws","tag-covid-19-2","tag-cyfreithwyr","tag-cymdeithas-cyfreithwyr-cymru-a-lloegr","tag-cymorth","tag-gwerth-cyhoeddus","tag-marchnad-lafur-y-du","tag-pandemig","tag-prifysgol-caerdydd","tag-stereoteipio","tag-y-gyfraith","tag-ymchwil","tag-yr-academi-brydeinig","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-BG","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Lawyers-with-Disabilities-Division-with-Prof-Foster-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2336","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1230"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2336"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2336\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3125,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2336\/revisions\/3125"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2272"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2336"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2336"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2336"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}