{"id":2247,"date":"2020-09-14T13:07:55","date_gmt":"2020-09-14T12:07:55","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2247"},"modified":"2020-09-14T13:07:59","modified_gmt":"2020-09-14T12:07:59","slug":"mae-angen-trethiant-cynyddol-arnom-a-threth-gyfoeth-i-dalu-am-becynnau-achub-covid-19","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/mae-angen-trethiant-cynyddol-arnom-a-threth-gyfoeth-i-dalu-am-becynnau-achub-covid-19\/","title":{"rendered":"Mae angen trethiant cynyddol arnom, a threth gyfoeth, i dalu am becynnau achub COVID-19"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1218684266-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2253\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1218684266-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1218684266-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1218684266-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1218684266-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Felly gallwn ddisgwyl y bydd ymyriad cyllidol llwyddiannus yn arwain at gynydd mewn chwyddiant yn y pen draw, os nad nawr, yna wrth i\u2019r economi adfer.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;n debygol y bydd cost pecynnau achub COVID-19 yn cael ei hariannu&#8217;n rhannol gan chwyddiant uwch, a fydd yn effeithio&#8217;n anghymesur ar bobl a gweithwyr llai cefnog, gan gynnwys staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). <\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Dr Wojtek Paczos a Dr Pawe\u0142 Bukowski (Ysgol Economeg Llundain) yn dadlau y dylai llywodraethau, er mwyn lledaenu&#8217;r baich hwnnw&#8217;n fwy teg, ystyried trethi incwm sy\u2019n cynyddu ar raddfa a chyflwyno treth gyfoeth dros dro.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Chwyddiant yn dychwelyd?<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r argyfwng COVID-19 wedi atgyfodi\u2019r ddadl am chwyddiant. Mae\nrhesymau da i gredu y gallai ddychwelyd yn fuan. Yn gyntaf, arweiniodd y\nmesurau cloi at grebachiadau sydyn yn y cyflenwad cyfanredol a&#8217;r galw\ncyfanredol. Er bod y ddau yn niweidio cynhyrchiant a chyflogaeth, maent yn cael\neffeithiau i\u2019r gwrthwyneb ar brisiau \u2013 mae crebachiadau yn y galw yn lleihau\nchwyddiant, tra bod crebachiadau yn y cyflenwad yn ei gynyddu. Mae&#8217;r effeithiau\nhyn yn anghytbwys ar draws sectorau&#8217;r economi. Cafodd y gostyngiad yn y\nchwyddiant mesuredig ym mis Ebrill a mis Mai 2020 ei yrru&#8217;n bennaf gan\nddatchwyddiant mewn trafnidiaeth a dillad ac arafiad yn y sector tai. Mae hyn\nyn ddigynsail ac yn debygol o fod dros dro gan mai sectorau trafnidiaeth a thai\noedd y cyfranwyr mwyaf at y Mynegai Prisiau Defnyddwyr, gan gynnwys chwyddiant\ncostau tai perchnogion preswyl (CPIH) dros y deng mlynedd diwethaf. Ar yr un\npryd, cynyddodd chwyddiant mesuredig mewn bwyd a hamdden a diwylliant (ONS,\nMehefin 2020).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal, arweiniodd y mesurau cloi at newidiadau mawr yng nghyfansoddiad\ny fasged defnydd. Yn syml, nid yw rhai eitemau ar gael i&#8217;w prynu \u2013 bron i 15%\no\u2019r fasged CPIH nodweddiadol (ONS, Mai 2020), ond mae rhai eraill, er eu bod ar\ngael o hyd (petrol) yn cael eu prynu gryn dipyn yn llai. Felly, mae Dixon (Mai\n2020) yn dadlau yn y DU, mae\u2019n debygol bod y mynegai CPIH swyddogol yn\ntanamcangyfrif y gwir chwyddiant.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ail, mae ymyriadau cyllidol enfawr yn y DU a gweddill y byd fel ei\ngilydd yn dibynnu ar fanciau canolog cenedlaethol (ac undeb-gyfan) yn darparu\nhylifedd brys ychwanegol. Yn y DU, mae hyn hyd yn oed wedi bod ar ffurf Banc\nLloegr yn cyllido\u2019r llywodraeth yn ariannol yn uniongyrchol. Os bydd yn\nllwyddiannus, bydd yr ymyriad ariannol yn cynyddu&#8217;n fecanyddol faint o arian\nsydd mewn cylchrediad. Fodd bynnag, ni all y galw gynyddu ar y cyd oherwydd y\nmesurau clo. Bydd hyn, yn \u00f4l theori meintiol arian, yn arwain at chwyddiant\nuwch: \u201cPan fydd stociau a stocrestrau\u2019n isel, bydd y system brisiau yn cyfateb\ni\u2019r meintiau llai a\u2019r cynnydd mewn gwariant yn y ffordd arferol. Bydd prisiau\nyn codi.\u201d (Baldwin, Mawrth 2020).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn drydydd, pan gaiff y mesurau clo eu codi, bydd y galw yn codi unwaith\neto. Mae Goodhart a Pradhan (Mawrth 2020) yn dadlau, gan y bydd hyn yn digwydd\nyn dilyn cyfnod o becynnau achub cyllidol ac ariannol enfawr, y gallai arwain\nat ymchwydd mewn chwyddiant o fwy na 5%. Mae Roach (Mai 2020) yn awgrymu y\ngallai\u2019r amhariadau ar gadwyni cyflenwi byd-eang a dychweliad gweithgynhyrchu\noddi ar y tir waethygu\u2019r sefyllfa hon. Os mai hyn fydd y \u201cnormal newydd\u201d, bydd yn\ngolygu costau cynhyrchu uwch a phrisiau uwch ar gyfer cynhyrchion terfynol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly gallwn ddisgwyl y bydd ymyriad cyllidol llwyddiannus yn arwain at\ngynydd mewn chwyddiant yn y pen draw, os nad nawr, yna wrth i\u2019r economi adfer.\nBydd hyn yn newyddion da \u2013 byddai prisiau sefydlog neu rai sy\u2019n disgyn yn\narwydd nad yw\u2019r polisi cyllidol wedi cyrraedd ei lawn botensial.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pwy sy\u2019n talu\u2019r treth chwyddiant?<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1213436549-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2250\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1213436549-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1213436549-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1213436549-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1213436549-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Mae&#8217;r dosbarth canol yn fwy agored i chwyddiant wrth i&#8217;w gwariant gynyddu&#8217;n gymharol fwy pan fydd chwyddiant yn taro.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae chwyddiant, waeth p\u2019un a fydd yn cael ei adlewyrchu&#8217;n gywir yn y\nCPIH ai peidio, ar ffurf treth incwm a threth gyfoeth. Mae\u2019n lleihau gwerth\ncynilion a chyflogau mewn unedau defnydd. Felly, gellir ystyried y pecyn achub\nfel offeryn ailddosbarthu: trosglwyddiad i&#8217;r rhannau o&#8217;r economi sydd wedi\u2019u\ntaro gan yr argyfwng y telir amdanynt gan chwyddiant a threthi\u2019r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw chwyddiant yn dreth mor egalitaraidd ac yr ymddangosir. Mae\u2019n\neffeithio\u2019n bennaf ar dri gr\u0175p. Y gr\u0175p cyntaf yw\u2019r gweithwyr lle nad yw eu\ncyflogau\u2019n codi mor gyflym \u00e2 chwyddiant. Mae&#8217;r rheiny&#8217;n cynnwys gweithwyr\nallweddol o&#8217;r sector cyhoeddus (nyrsys, meddygon, ymatebwyr cyntaf, athrawon),\ny mae eu cyflogau enwol wedi&#8217;u rhewi ers 2010 oherwydd mesurau cyni (Dolton\n2017). Oni bai bod chwyddiant yn cael ei wrthbwyso \u00e2\u2019r cynnydd yn yr isafswm\ncyflog, bydd hefyd yn effeithio ar alwedigaethau sgiliau isel a chanolig o&#8217;r\nsector preifat. Nid yw hon yn ffenomen newydd \u2013 ers 2007 mae&#8217;r cyflog\ncanolrifol go iawn yn y DU wedi crebachu o 3%, y cwymp mwyaf yn Ewrop ar \u00f4l\nGwlad Groeg (Costa a Machin 2019).&nbsp; Mae&#8217;r\nlefelau isaf erioed o undeboli (Farber et al. 2018) a ph\u0175er bargeinio gwan iawn\ngweithwyr (Bell et al. 2018) yn awgrymu y bydd y ffenomen hon yn parhau hefyd\nar \u00f4l argyfwng COVID-19. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae effaith chwyddiant yn dibynnu ar gyfansoddiad y fasged defnydd. Mae\ncartrefi sy&#8217;n defnyddio nwyddau a gwasanaethau gyda phrisiau mwy sefydlog, fel\ngwersi, gofal plant neu gynhyrchion moethus, wedi\u2019u cysgodi i ryw raddau o&#8217;r\ncynnydd cyffredinol mewn prisiau. Mae&#8217;r ymchwil diweddar ar aelwydydd yr Unol\nDaleithiau yn dangos mai pobl incwm uchel yw&#8217;r rheiny ar y cyfan (Cravino et\nal.&nbsp; 2020). Ar y llaw arall, mae&#8217;r\ndosbarth canol yn fwy agored i chwyddiant wrth i&#8217;w gwariant gynyddu&#8217;n gymharol\nfwy pan fydd chwyddiant yn taro.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn olaf, mae chwyddiant yn fwy pwysig i bobl sy\u2019n cadw eu cynilion yn\nbennaf mewn cyfrifon banc rheolaidd. Mae&#8217;r rhain yn cynnig cyfraddau llog enwol\nisel yn hanesyddol ac nid ydynt yn diogelu cynilwyr rhag chwyddiant. Mae\u2019r rhan\nyn bennaf o\u2019r dosbarthiadau isel a chanol. Ar y cyfan, mae pobl gefnog yn\nberchen ar fwy o eiddo tiriog (<em>real\nestate<\/em>) a safleoedd busnes, yn ogystal \u00e2 chynhyrchion ariannol, y mae\nenillion arnynt yn hanesyddol wedi gor-golledu am chwyddiant (Crowe 2005,\nPiketty 2020).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly, mae chwyddiant yn dreth incwm a chyfoeth atchwel (<em>regressive<\/em>) \u2013 po\u2019r isaf yw&#8217;r incwm, yr\nuchaf yw\u2019r gyfran ohono a gaiff ei drethu gan chwyddiant. Mae\u2019r baich hwn hefyd\nyn disgyn yn anghymesur ar weithwyr rheng flaen. Beth ellir ei wneud i ledaenu\ncost pecynnau achub yn fwy cyfartal?<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Trethi incwm a chyfoeth cynyddol<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1268421636-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2255\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1268421636-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1268421636-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1268421636-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1268421636-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Treth ar y gorffennol yw treth gyfoeth, yn hytrach na threth ar ffrydiau incwm y dyfodol. <\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym ni\u2019n cynnig datrysiad dwy haen. Yn gyntaf, i ddiogelu staff rheng\nflaen rhag chwyddiant, dylid cynyddu eu cyflogau. Dylai hyn fod yn rhan o becyn\nehangach o hybu gwariant ar y GIG. Mae argyfwng y coronafeirws wedi profi na\nddylid trin gofal iechyd fel gwariant, ond yn hytrach fel buddsoddiad.\nBuddsoddiad a allai fod wedi achub yr economi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ail, gallai\u2019r gwariant newydd hwnnw, yn ogystal \u00e2\u2019r ddyled gyhoeddus\nnewydd sy\u2019n ariannu\u2019r pecynnau achub, gael eu talu\u2019n rhannol gyda threth\ngynyddol a godir ar y rheiny a oroesodd yr argyfwng heb lawer o effaith arnynt.\nGallai hyn fod trwy dreth gyfoeth ar werth net yr 1% o\u2019r unigolion cyfoethocaf.\nCyflwynodd Landais, Saez a Zucman (Ebrill 2020) gynnig o dreth gyfoeth gynyddol\ndros dro ledled yr Undeb Ewropeaidd gyda thair cyfradd: 1% o werth net uwchlaw\n\u20ac2 filiwn (\u00a31.75 miliwn), 2% o werth uwch na \u20ac7 miliwn (\u00a38 miliwn) a 3% o werth\nuwch na \u20ac1 biliwn (\u00a3870 miliwn). Maent yn amcangyfrif y byddai\u2019r dreth newydd\nhon yn talu\u2019r ddyled newydd maint 10% o\u2019r GDP ar \u00f4l 10 mlynedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dwy brif fantais i\u2019r datrysiad hwn: Gan fod cyfoeth y rhai mwyaf\ncefnog hefyd yn hylifol mewn rhannau sylweddol, ni fyddai\u2019n rhaid iddynt werthu\nasedau nad ydynt yn hylifol (fel eu t\u0177) i dalu&#8217;r dreth. Er enghraifft, mae\ngwarantau ac arian parod yn cyfrif am fwy na 40% o werth cyfalaf gros ystadau\nsydd \u00e2 gwerth net uwch na \u00a31 miliwn (ONS 2019). Yn ail, treth ar y gorffennol\nyw treth gyfoeth, yn hytrach na threth ar ffrydiau incwm y dyfodol. Nid yw&#8217;n\nystumio penderfyniadau ar ddefnydd, cynilion, cyflenwad llafur na buddsoddi.\nCyflwynwyd trethi cyfoeth dros dro o&#8217;r fath mewn llawer o wledydd ar \u00f4l y\nRhyfeloedd Byd, er enghraifft, yr Almaen, Japan a Gwlad Pwyl. Bu bron i\u2019r DU\ngyflwyno treth gyfoeth barhaol yn ystod llywodraethau Llafur Harold Wilson a\nJames Callaghan yn 1974-1976.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Milton Friedman yn enwog am ddweud nad oes y fath beth a chinio am\nddim. Mae pecynnau achub yn adnodd polisi angenrheidiol yn yr argyfwng\npresennol, ond nid ydynt yn dod am ddim. Bydd yn gostus i achub yr economi a\nbydd yn rhaid talu\u2019r costau hynny, yn hwyr neu\u2019n hwyrach, ar ffurf cynnydd mewn\ntrethi.&nbsp; Mae lledaenu\u2019r baich hwn yn deg\nyn y dyfodol yr un mor bwysig \u00e2 manylion y pecynnau achub heddiw. Hebddo, bydd\ncostau\u2019n disgyn yn anghymesur ar y rheiny sydd eisoes yn talu\u2019r pris uchaf\nheddiw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/609589-paczos-wojtek\"><strong>Dr Wojtek Paczos<\/strong><\/a><strong> yn facroeconomegydd a darlithydd yn Ysgol\nBusnes Caerdydd ac yn <\/strong><a href=\"http:\/\/inepan.pl\/en\/\"><strong>Sefydliad Gwyddorau Academaidd Academi Gwyddorau\nGwlad Pwyl<\/strong><\/a><strong>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/cep.lse.ac.uk\/_new\/staff\/person.asp?id=10291\"><strong>Dr Pawe\u0142 Bukowski<\/strong><\/a><strong> yn ymchwilydd a darlithydd yn y <\/strong><a href=\"http:\/\/cep.lse.ac.uk\/\"><strong>Ganolfan\nPerfformiad Economaidd, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain<\/strong><\/a><strong> ac yn Sefydliad Gwyddorau Academaidd Academi\nGwyddorau Gwlad Pwyl.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar <a href=\"https:\/\/blogs.lse.ac.uk\/covid19\/2020\/07\/07\/we-need-progressive-taxation-and-a-wealth-tax-to-pay-for-the-covid-19-rescue-packages\/#comments\">flog COVID-19 Ysgol Economeg Llundain (LSE)<\/a>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Felly gallwn ddisgwyl y bydd ymyriad cyllidol llwyddiannus yn arwain at gynydd mewn chwyddiant yn y pen draw, os nad nawr, yna wrth i\u2019r economi adfer. Mae'n debygol y bydd [&hellip;]","protected":false},"author":1820,"featured_media":2253,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1437],"tags":[1694,1453,1365,1701,64,457,59,1703,1439,1705,1695,1370,1704,105,1187,1698,1467,1702,1697,1700,632,1696,61,1699],"class_list":["post-2247","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-3","tag-banc-lloegr","tag-chwyddiant","tag-coronafeirws","tag-cyflogau","tag-cysylltiadau-cyflogaeth","tag-economi","tag-gig","tag-gweithwyr-allweddol","tag-llywodraeth","tag-mesurau-cloi","tag-mynegai-prisiau-defnyddwyr","tag-pandemig","tag-pecynnau-achub","tag-prifysgol-caerdydd","tag-sector-cyhoeddus","tag-sefydliad-gwyddorau-academaidd-academi-gwyddorau-gwlad-pwyl","tag-treth","tag-treth-cyfoeth","tag-treth-incwm","tag-trethiant","tag-ue","tag-weithwyr-rheng-flaen","tag-ysgol-busnes-caerdydd","tag-ysgol-economeg-a-gwyddorau-gwleidyddol-llundain"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-Af","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/iStock-1218684266.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2247","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1820"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2247"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2247\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2264,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2247\/revisions\/2264"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2253"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2247"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2247"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2247"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}