{"id":2198,"date":"2020-09-09T16:52:45","date_gmt":"2020-09-09T15:52:45","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2198"},"modified":"2020-09-09T16:52:49","modified_gmt":"2020-09-09T15:52:49","slug":"gall-straeon-am-ennill-cyfoeth-a-rhaglenni-teledu-am-fywyd-moethus-ddylanwadu-ar-ein-lles-an-ffordd-o-drin-a-thrafod-yr-amgylchedd-a-phobl-eraill","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/gall-straeon-am-ennill-cyfoeth-a-rhaglenni-teledu-am-fywyd-moethus-ddylanwadu-ar-ein-lles-an-ffordd-o-drin-a-thrafod-yr-amgylchedd-a-phobl-eraill\/","title":{"rendered":"Gall straeon am ennill cyfoeth a rhaglenni teledu am fywyd moethus ddylanwadu ar ein lles a\u2019n ffordd o drin a thrafod yr amgylchedd a phobl eraill."},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2201\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Mae amcangyfrif bod cynnydd o 27% o ran faint o sioeau a ffilmiau mae pobl ledled y byd wedi eu gwylio trwy blatfformau megis Netflix ac Amazon Prime a bod cynnydd o 20% yn yr amser maen nhw\u2019n ei dreulio yn gwylio teledu darlledu.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein darn diweddaraf, mae\u2019r Dr Olaya Moldes Andres yn cyflwyno rhai o ganfyddiadau ei phapur ymchwil mynediad agored newydd a luniodd ar y cyd \u00e2\u2019r Dr Lisbeth Ku (Prifysgol De Montfort), sy\u2019n ystyried effeithiau materoliaeth ar les unigolion a chymdeithasau. <\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r gofyn i gau\u2019r economi ac aros gartref wedi\narwain at <a href=\"https:\/\/www-statista-com.abc.cardiff.ac.uk\/statistics\/1106766\/media-consumption-growth-coronavirus-worldwide-by-country\/\">gynnydd yn nifer y rhai sy\u2019n\ngwylio rhaglenni adloniant yn eu cartrefi<\/a>. Mae amcangyfrif bod cynnydd\no 27% o ran faint o sioeau a ffilmiau mae pobl ledled y byd wedi eu gwylio trwy\nblatfformau megis Netflix ac Amazon Prime a bod cynnydd o 20% yn yr amser maen\nnhw\u2019n ei dreulio yn gwylio teledu darlledu. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ymchwil ym meysydd y cyfryngau a seicoleg\ngymdeithasol yn awgrymu y gall gormod o deledu a chyfryngau amharu ar les\nunigolion. Gall negeseuon neu gysylltiadau cudd neu amlwg yng nghynnwys y\ncyfryngau ddylanwadu ar agweddau pobl at amryw garfanau cymdeithasol, creu\ndelfrydau anymarferol ynghylch harddwch a delweddau a chyflwyno ffyrdd o fyw,\ngwerthoedd a nodau personol yn rhai dymunol i\u2019r gymdeithas.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae amryw\ndrafodaethau a disgrifiadau a hyrwyddir trwy hysbysebion a chyfryngau torfol\nmegis rolau dynion a merched, harddwch delfrydol neu ystrydebau hiliol wedi\u2019u\ncwestiynu. Derbynnir mwyfwy y gall pobl arddel agweddau a welan nhw yn y\ncyfryngau yn anymwybodol ac y gall hynny arwain at ddatblygu a chynnal rhagfarn\nhiliol ac anghydraddoldeb rhwng dynion a merched. Ar ben hynny, mae nifer o <a href=\"https:\/\/www.ted.com\/talks\/winnie_harlow_how_i_define_beauty\">enwogion<\/a> wedi codi amheuon ar y modd\nmae hysbysebion yn portreadu harddwch a ffasiynau delfrydol o ran dynion a\nmerched fel ei gilydd. <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Naomi_Klein.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2204\" width=\"385\" height=\"257\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Naomi_Klein.jpg 800w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Naomi_Klein-506x338.jpg 506w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Naomi_Klein-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Naomi_Klein-768x513.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 385px) 100vw, 385px\" \/><figcaption>Naomi Klein.<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pryderon am gysylltu cyfoeth \u00e2 llwyddiant neu gysylltu gwario \u00e2 bodlonrwydd wedi ennill llai o gynnydd yn fudiad cymdeithasol, fodd bynnag. Ymhlith yr ychydig sydd wedi codi eu lleisiau mae <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=oeTgLKNb5R0\">Naomi Klein<\/a>, newyddiadurwr o fri ac awdur llwyddiannus yn \u00f4l rhestr y New York Times. Yn ei llyfr cyntaf, \u2018<a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/No_Logo\">No Logo<\/a>\u2019 (2000), tynnodd Klein sylw at arferion economaidd dylanwadol ac effeithiau cymdeithasol niweidiol brandiau masnachol y byd gan fynnu trefn economaidd fwy cynaladwy. Mae mudiadau eraill, megis y <a href=\"https:\/\/www.newcitizenship.org.uk\/\">New Citizen Project<\/a>, wedi dod i\u2019r amlwg i feithrin agweddau diwylliannol sy\u2019n anelu at gymuned lle mae\u2019r dinasyddion yn hollbwysig yn hytrach na chymdeithas lle mae\u2019r defnyddwyr o bwys mawr. Serch hynny, mae pryderon o\u2019r fath heb gyrraedd cynulleidfa fawr, codi st\u00eam nac ymledu mor eang \u00e2 mudiadau cymdeithasol eraill eto. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cMae\u2019n <a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/full\/10.1002\/mar.21387\">hymchwil newydd<\/a> yn cyd-fynd \u00e2 syniadau Klein ac yn awgrymu y gall cysylltu arian \u00e2 llwyddiant a chysylltu gwario \u00e2 bod yn fodlon amharu ar ein lles a lles ein cymdeithas fel ei gilydd. Gall cymeradwyo cysylltiadau o\u2019r fath arwain at galedi ariannol personol ac afiechyd y meddwl yn ogystal \u00e2 pheri i bobl arddel agweddau a ffyrdd o ymddwyn sy\u2019n niweidiol i\u2019r amgylchedd a chyd-fyw heddychlon yn ein cymdeithas.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pawb yn gwybod bod deunydd marchnata a\nhysbysebu wedi\u2019i lunio i\u2019n hannog i brynu nwyddau trwy eu cysylltu \u00e2 phethau\ndymunol. Yn wir, mae\u2019r addewid y byddwn ni\u2019n fodlon o ganlyniad i wario arian\nwedi bod yn amlwg yn hysbysebion ymgyrchoedd megis \u2018<em>Open a Coke, open happiness<\/em>\u2019, \u2018<em>Happiness\nis a choice<\/em>\u2019 gan Pepsi, \u2018<em>Happiness\nquest<\/em>\u2019 gan Cadbury, \u2018<em>Get in, get\nhappy<\/em>\u2019 gan Volkswagen, \u2018<em>Happiness is\nnot around the corner, happiness is the corner<\/em>\u2019 gan BMW ac ati. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y meddylfryd presennol sy\u2019n hyrwyddo gwario,\nmae hapusrwydd wedi dod yn ffordd allweddol o werthu nwyddau, yn debyg i\naddewid crefyddau y bydd bywyd tragwyddol, trwy annog pobl i newid eu\nhymddygiad i gyrraedd rhyw sefyllfa ddelfrydol. Ar ben hynny, bydd diwylliant\npoblogaidd yn hybu trafodaethau cymdeithasol sy\u2019n annog pobl i fynd ar \u00f4l\ncyfoeth a gwariant yn aml, gan honni mai dyna\u2019r ffordd i lwyddiant a\nhapusrwydd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er enghraifft, mae straeon a ffilmiau am ddod o hyd i gyfoeth (megis <em>Cinderella<\/em> ac <em>Aladdin <\/em>i blant, <em>Princess Diaries<\/em> i\u2019r glasoed a <em>Pretty Woman<\/em> neu\u2019r <em>Wolf of Wallstreet <\/em>i oedolion) a rhaglenni dogfen a sioeau realiti (megis <em>The World&#8217;s Most Extraordinary Homes<\/em>, <em>The Real Housewives<\/em>, neu\u2019r <em>Fabulous Life of the Wall Street Billionaires<\/em>) yn honni bod arian a gwario yn ymwneud \u00e2 sefyllfaoedd gwell, hunan-barch a chydnabyddiaeth gymdeithasol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall negeseuon goblygedig o\u2019r fath ysgogi pobl i\nweithio rhagor fel y bydd modd i wario rhagor. Diau y bydd twf economaidd yn\ngryfach o ganlyniad i bobl wario rhagor o arian. Fodd bynnag, mae amryw\nysgolheigion (gan gynnwys athronwyr clasurol megis Diogenes, Pythagoras a\nSocrates; economegwyr modern megis Kuznets; neu seicolegwyr cyfoes megis Diener,\nKasser a Maslow), yn ogystal ag amryw wleidyddion (megis <a href=\"https:\/\/www.ted.com\/talks\/nicola_sturgeon_why_governments_should_prioritize_well_being?language=en\">Nicola Sturgeon<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2019\/may\/30\/new-zealand-wellbeing-budget-jacinda-ardern-unveils-billions-to-care-for-most-vulnerable\">Jacinda Arden<\/a>) wedi rhybuddio nad yw\ncyfoeth, eiddo na thwf economaidd yn adlewyrchu lles unigolion neu garfanau\ncymdeithasol. Heb s\u00f4n am y ddadl bod cynnydd parhaol yn ein patrymau cynhyrchu\na gwario yn anghynaladwy o safbwynt ecolegol ac wedi\u2019n harwain ni i\u2019r <a href=\"https:\/\/www.un.org\/en\/un75\/climate-crisis-race-we-can-win\">argyfwng hinsoddol<\/a> presennol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Serch hynny, mae <a href=\"https:\/\/psycnet.apa.org\/doiLanding?doi=10.1037%2Fa0037409\">ymchwil eang<\/a> dros y tri degawd diwethaf\nwedi datgelu bod gan bobl sy\u2019n cysylltu cyfoeth a gwario \u00e2 llwyddiant a\nhapusrwydd lai\no hunan-barch, mwy o iselder a gorbryder, tuedd i brynu nwyddau diangen, llai o\nawydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a thuedd i ymddwyn yn\nberyglus megis camddefnyddio alcohol a chyffuriau. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2226\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Be-kind-poster-on-city-street-16x9-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Bydd cysylltu gwario \u00e2 hapusrwydd neu gysylltu llwyddiant \u00e2 chyfoeth yn peri i bobl flaenoriaethu agweddau ac ymddygiad hunanwella ar draul rhai sy\u2019n canolbwyntio ar les y gymuned.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar ben hynny, mae <a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/full\/10.1002\/mar.21387\">ymchwil ddiweddar<\/a> wedi datgelu y bydd negeseuon sy\u2019n awgrymu neu\u2019n honni bod cyfoeth a gwario yn ymwneud \u00e2 chydnabyddiaeth gymdeithasol, llwyddiant a hapusrwydd yn arwain pobl at gwyno eu bod yn llai bodlon eu byd a\u2019u bod o blaid agweddau ac ymddygiad niweidiol o ran lles ein cymdeithas. Dangosodd cyfres o astudiaethau arbrofol gan wahanol ymchwilwyr mewn amryw wledydd fod cyfleu syniadau o\u2019r fath trwy nifer o ddulliau megis hysbysebion dillad, straeon am ennill cyfoeth neu arddangosfeydd moethus mewn ffenestri i bobl o sawl lliw a llun wedi peri i rai gwyno bod eu lles yn waeth, arddel agweddau ac ymddygiad eithaf gwrth gymdeithasol ac amgylcheddol a chefnogi arferion masnachol anfoesegol. Y rheswm dros hynny yw y bydd cysylltu gwario \u00e2 hapusrwydd neu gysylltu llwyddiant \u00e2 chyfoeth yn peri i bobl flaenoriaethu agweddau ac ymddygiad hunanwella ar draul rhai sy\u2019n canolbwyntio ar les y gymuned, ac y gall hynny amharu ar eu hapusrwydd eu hunain yn ogystal \u00e2 lles pob eraill neu ymdrechion i ffurfio a chynnal grwpiau cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cO helpu corfforaethau\u2019r cyfryngau, cwmn\u00efau ac asiantaethau hysbysebu i ddeall y gall negeseuon maen nhw\u2019n eu hyrwyddo ac yn eu cymeradwyo yn eu cyfathrebu niweidio lles unigolion a grwpiau cymdeithasol, a\u2019u hannog i gydnabod bod cyfrifoldeb cymdeithasol arnyn nhw, gallen ni helpu i leddfu effeithiau niweidiol cymdeithasau masnachol eu naws.\u201d <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn cyfnod lle mae corfforaethau busnes wedi\nymyrryd yn ein hegwyddorion cymdeithasol a moesegol, gallai cydnabod peryglon\nhyrwyddo rhai cysylltiadau arwain at oblygiadau pwysig o ran newid\ncymdeithasol. Mewn gwirionedd, mae\u2019r rhan fwyaf o gyfathrebu marchnata arloesol\nyn cyfleu negeseuon ar gyfer newid ein cymdeithas er gwell bellach, yn hytrach\nna chanolbwyntio ar wario. Er enghraifft, mae <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=ovY6yjTe1LE\">ymgyrch P&amp;G yn ennill clod<\/a> trwy gefnogi mudiad <a href=\"https:\/\/blacklivesmatter.com\/\">#BlackLivesMatter<\/a> i geisio mynd i\u2019r afael \u00e2 rhagfarn yn hytrach na gwerthu nwyddau yn\nuniongyrchol. Yn y b\u00f4n, wrth gwrs, dim ond strategaeth farchnata arall yw\ncyflwyno cwmni\u2019n un sy\u2019n hybu agweddau moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol,\ngan anelu at ennill cefnogaeth cwsmeriaid, cyrraedd cynulleidfa ehangach a\nchynyddu\u2019r elw yn y pen draw. Fodd bynnag, mae\u2019n gam ymlaen tuag at arferion\nmarchnata a masnachu llai niweidiol o ran iechyd meddyliau unigolion a lles ein\ncymdeithas.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae\u2019r <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/1742795-moldes-andres-olaya\"><strong>Dr Olaya Moldes Andres<\/strong><\/a><strong> yn Ddarlithydd\nMarchnata a Strategaethau yn Ysgol Busnes Caerdydd.<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019i phapur,<em>\n\u2018Materialistic cues make us miserable: a meta-analysis of the experimental\nevidence for the effects of materialism on individual and societal well-being\u2019,\n<\/em>wedi\u2019i lunio ar y cyd \u00e2\u2019r Dr Lisbeth Ku, Darlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol\nDe Montfort, ar gael i bawb yma: <a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/full\/10.1002\/mar.21387\">Seicoleg a Marchnata<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae amcangyfrif bod cynnydd o 27% o ran faint o sioeau a ffilmiau mae pobl ledled y byd wedi eu gwylio trwy blatfformau megis Netflix ac Amazon Prime a bod [&hellip;]","protected":false},"author":1859,"featured_media":2201,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1670],"tags":[1652,1666,1664,1365,1313,137,457,1674,1683,339,202,669,1675,1684,1657,649,1658,1370,1663,105,1671,1678,1673,1665,53,61],"class_list":["post-2198","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-materoliaeth","tag-amazon-prime","tag-bmw","tag-cadbury","tag-coronafeirws","tag-covid-19","tag-economaidd","tag-economi","tag-enwogion","tag-ffilmiau","tag-iechyd-a-lles","tag-iechyd-meddwl","tag-marchnata","tag-materoliaeth","tag-mynediad-agored","tag-naomi-klein","tag-netflix","tag-no-logo","tag-pandemig","tag-pepsi","tag-prifysgol-caerdydd","tag-prifysgol-de-montfort","tag-rhestr-y-new-york-times","tag-seicoleg","tag-volkswagen","tag-ymchwil","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-zs","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/09\/Netflix-and-Amazon-Prime-Apps-16x9-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2198","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1859"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2198"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2198\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2236,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2198\/revisions\/2236"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2201"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2198"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2198"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2198"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}