{"id":2086,"date":"2020-06-23T15:05:55","date_gmt":"2020-06-23T14:05:55","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2086"},"modified":"2020-07-01T10:55:47","modified_gmt":"2020-07-01T09:55:47","slug":"pum-ffordd-o-fanteisio-ir-eithaf-ar-eich-amser-fel-myfyriwr-phd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/pum-ffordd-o-fanteisio-ir-eithaf-ar-eich-amser-fel-myfyriwr-phd\/","title":{"rendered":"Pum ffordd o fanteisio i\u2019r eithaf ar eich amser fel myfyriwr PhD"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/07\/IMG_6085-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2101\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/07\/IMG_6085-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/07\/IMG_6085-451x338.jpg 451w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/07\/IMG_6085-300x225.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/07\/IMG_6085-768x576.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Myfyrwyr PhD sy\u2019n treulio\u2019r amser hiraf yn y brifysgol o\u2019u cymharu \u00e2\nmyfyrwyr eraill. Mae\u2019r amser ychwanegol hwn yn gyfle gwych i ymgymryd \u00e2 rolau\ngwahanol yn y brifysgol a\u2019r tu allan iddi. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod fy astudiaeth ddoethurol, rwyf wedi ymwneud \u00e2 nifer o dimau\nsydd wedi rhoi hwb i fy hunanhyder. Rwyf wedi gwneud nifer o ffrindiau newydd\nar hyd y ffordd hefyd, ac wedi canfod fy nghymuned fach fy hun yng Nghaerdydd,\nfiloedd o filltiroedd i o fy nghartref yn India. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nawr bod fy astudiaeth PhD yn dod i ben \u2013 cyflwynais fy nhraethawd\nymchwil y mis hwn \u2013 roeddwn i am rannu pum ffordd y gallwch chi, fel myfyriwr\nPhD, fanteisio i\u2019r eithaf ar eich cyfnod yng Nghaerdydd. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">1.&nbsp; Diploma ochr yn ochr \u00e2\u2019ch gradd<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/jobs-skills\/skills-development-service\/\">Gwasanaeth\nDatblygu Sgiliau (SDS)<\/a> yn <a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/\">Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd<\/a> yn cynnig nifer o\ngyrsiau, a\u2019r Diploma Datblygiad Proffesiynol mewn Arweinyddiaeth<a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/jobs-skills\/skills-development-service\/sds-diploma-of-professional-development-in-leadership\/\"> yw un ohonynt<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gyda chymaint o gyflogwyr yn chwilio am sgiliau arwain y dyddiau hyn,\nroeddwn i\u2019n meddwl y byddai hyn yn gyfle a oedd yn rhy dda i\u2019w golli. A hyd yn\noed yn fwy felly oherwydd ei fod yn rhad ac am ddim! <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ochr yn ochr \u00e2\u2019m gwaith ymchwil, es i weithdai ar gyfer y cwrs DPD a\nchymryd rhan mewn 200 awr o brofiad gwaith (er mai 50 yn unig sydd eu hangen)\no\u2019r rolau arwain amrywiol rwyf wedi\u2019u cael (mwy am y rhain yn ddiweddarach). <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel y gwyddoch eisoes mae&#8217;n debyg, mae&#8217;r rhan fwyaf o ymchwilwyr\n\u00f4l-raddedig (PGRs) yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu wrth helpu i drefnu\ngwahanol gynadleddau a gweithdai. Beth am ddefnyddio\u2019r oriau hyn i ennill\ndiploma ochr yn ochr \u00e2\u2019ch gradd? <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/news\/article\/23303\/How-to-get-a-Diploma-along-with-your-Degree\/\">Rhagor o wybodaeth\nam ennill diploma gyda\u2019r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">2. Gwobr Caerdydd<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-with-her-Above-and-Beyond-2020-award-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2076\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-with-her-Above-and-Beyond-2020-award-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-with-her-Above-and-Beyond-2020-award-451x338.jpg 451w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-with-her-Above-and-Beyond-2020-award-300x225.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-with-her-Above-and-Beyond-2020-award-768x576.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Gwobr Caerdydd yn rhaglen a gyflwynir gan y <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/study\/student-life\/student-support\/careers-and-employability\">&nbsp;Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd<\/a> ym Mhrifysgol\nCaerdydd. Mae&#8217;n hollol rithwir gyda llawer o adnoddau i wella nodweddion a\nsgiliau cyflogadwyedd drwy blatfform ar-lein o&#8217;r enw Taith Eich Gyrfa. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod y rhaglen, es i sesiynau ar ysgrifennu CV a llythyrau eglurhaol\na chael adborth uniongyrchol gan gynghorwyr gyrfaoedd y Brifysgol, a\u2019m helpodd\ni&#8217;w personoli ar gyfer pob cais am swydd. Ysgrifennais logiau myfyrio hefyd o\nfy amrywiol weithgareddau allgyrsiol, a gwnaeth hyn fy helpu i ateb gwahanol\ngwestiynau yn seiliedig ar sgiliau mewn ffurflenni cais. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch ddarllen am fy mhrofiad o Wobr Caerdydd ar <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/studentlifecu\/meet-violina-sarma-winner-of-the-cardiff-award-above-and-beyond-award-2019-20\/\">y blog Bywyd\nMyfyrwyr<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Beth am wella\u2019ch sgiliau cyflogadwyedd drwy ymuno \u00e2\u2019r rhaglen? Mae\u2019r\ndystysgrif yn edrych yn wych ar eich CV a\u2019ch proffil LinkedIn, sy\u2019n eu gwneud\nyn wahanol i geisiadau eraill. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">3. T\u00eem Bywyd Preswyl<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"681\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-having-fun-with-her-fellow-RLA-teammates-1024x681.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2074\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-having-fun-with-her-fellow-RLA-teammates-1024x681.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-having-fun-with-her-fellow-RLA-teammates-508x338.jpg 508w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-having-fun-with-her-fellow-RLA-teammates-300x199.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-having-fun-with-her-fellow-RLA-teammates-768x511.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Cynorthwy-ydd Bywyd Preswyl (RLA) yn r\u00f4l i fyfyrwyr yn y <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/study\/student-life\/student-support\/residence-life-team\">T\u00eem Bywyd Preswyl<\/a> sy\u2019n rhan o\u2019r\nGanolfan Cefnogi a Lles Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn cefnogi\nmyfyrwyr sy\u2019n byw mewn neuaddau preswyl ar y cyd \u00e2 thimau Diogelwch a Rheoli\nNeuaddau Preswyl y Brifysgol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf wedi bod yn gynorthwy-ydd bywyd preswyl am ddwy flynedd yn olynol\ners i&#8217;r t\u00eem ddechrau yn 2018. Rhan o fy r\u00f4l yw trefnu digwyddiadau ar gyfer y\nmyfyrwyr, a dros y ddwy flynedd diwethaf, rwyf wedi llwyddo i rannu fy\nniwylliant Indiaidd gyda&#8217;r gymuned drwy ddigwyddiadau fel Holi a Diwali. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf wedi cwrdd \u00e2 rhai ffrindiau gwych yn y t\u00eem hwn, a chaiff ei\nystyried yn un o\u2019r timau mwyaf amrywiol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy r\u00f4l\nhefyd wedi fy helpu i reoli fy arian oherwydd fe dalodd am fy rhent a\u2019m biliau\nyn gyfnewid am fy oriau gwaith. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych chi eisiau bod yn rhan o d\u00eem bywiog o gyfoedion creadigol a\nchyfrifol a derbyn cyfraniadau ariannol tuag at eich rhent a&#8217;ch biliau ar yr un\npryd, rwy&#8217;n argymell yn gryf eich bod yn gwneud cais am y r\u00f4l hon. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Edrychwch ar <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/study\/student-life\/student-support\/residence-life-team\">wefan y T\u00eem Bywyd\nPreswyl<\/a> i gael rhagor o wybodaeth am y r\u00f4l a sut i gymryd rhan.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">4. Cymdeithasau ac undeb athlethau<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"700\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-with-her-Bollywood-Dance-Society-friends-after-a-performance-1024x700.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2078\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-with-her-Bollywood-Dance-Society-friends-after-a-performance-1024x700.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-with-her-Bollywood-Dance-Society-friends-after-a-performance-494x338.jpg 494w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-with-her-Bollywood-Dance-Society-friends-after-a-performance-300x205.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-with-her-Bollywood-Dance-Society-friends-after-a-performance-768x525.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-with-her-Bollywood-Dance-Society-friends-after-a-performance.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd dros 200 o gymdeithasau a mwy\nna 65 o glybiau chwaraeon a arweinir gan fyfyrwyr yn ei undeb athletau. Gallwch\nymuno \u00e2 chynifer ohonynt ag y dymunwch yn dibynnu ar eich diddordebau a\u2019ch\nhob\u00efau. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymunais \u00e2\u2019r <a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/activities\/society\/bollywood\/\">Gymdeithas Dawnsio\nBollywood<\/a> am ddwy flynedd a mwynhau\u2019r sesiynau dawnsio amrywiol yn fawr. Rwyf\nwedi bod yn angerddol am ddawnsio ers yn blentyn ifanc, ac roedd y gymdeithas\nhon yn caniat\u00e1u imi ddawnsio a symud i gerddoriaeth Bollywood. Perfformiais\ngyda&#8217;r gymdeithas ar sawl achlysur gwahanol, ond roedd un achlysur arbennig yn\nAmgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gwnaethon ni hefyd ennill gwobr y Gymdeithas\nCelfyddydau a Pherfformio Gorau yng Ngwobrau Cymdeithasau Cenedlaethol 2018. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych eisiau cwrdd \u00e2 phobl y tu allan i\u2019r swyddfa PhD sydd \u00e2\ndiddordebau tebyg, edrychwch ar y <a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/activities\/\">gweithgareddau yn Undeb\nMyfyrwyr Prifysgol Caerdydd<\/a>. Yn well byth, mae&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r\ncymdeithasau a&#8217;r clybiau chwaraeon yn cynnig sesiynau Rho Gynnig Arni lle\nbyddwch chi&#8217;n rhoi cynnig ar eu gweithgareddau naill ai am ddim neu am bris is.\n<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">5. Cyfleoedd i wirfoddoli<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-ready-for-Champions-League-Final-volunteer-work-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2080\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-ready-for-Champions-League-Final-volunteer-work.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-ready-for-Champions-League-Final-volunteer-work-451x338.jpg 451w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-ready-for-Champions-League-Final-volunteer-work-300x225.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Violina-ready-for-Champions-League-Final-volunteer-work-768x576.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf wrth fy modd yn rhoi yn \u00f4l i gymdeithas ac i bobl, ac rwyf wedi\ngwirfoddoli mewn rolau gwahanol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Bues i\u2019n\nSwyddog Gweithredol \u00d4l-raddedig gydag <a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/your-voice\/elected-officers\/vp-postgraduate\/19-20\/#about-me\">Is-Lywydd Myfyrwyr\n\u00d4l-raddedig Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd<\/a>, helpais D\u00eem Ymgysylltu \u00e2\nMyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd wrth i\u2019r myfyrwyr gyrraedd yn ystod Wythnos y\nGlas, helpais i drefnu teithiau \u00f4l-raddedig gyda Chanolfan y Graddedigion yn\nUndeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac ar hyn o bryd rwy\u2019n gweithio gyda\u2019r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/study\/postgraduate\/research\/doctoral-academy\">Academi Ddoethurol<\/a> i helpu myfyrwyr\nPhD yn ystod y pandemig. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf hefyd wedi gwirfoddoli y tu allan i\u2019r Brifysgol, yn bennaf ar gyfer\ndigwyddiadau chwaraeon oherwydd rwy\u2019n mwynhau eu gwylio. Gwirfoddolais yn ystod\nHanner Marathon y Byd 2016, UEFA Champions League 2017 a Chwpan y Byd UCC 2019.\n<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch ddewis faint o amser i ymroi i wirfoddoli ac ar gyfer pa\nachosion. Gall fod yn r\u00f4l barhaus yn y Brifysgol neu am ddigwyddiadau diwrnod o\nhyd gyda sefydliadau allanol. Beth bynnag a ddewiswch, mae&#8217;r profiadau hyn yn\neich helpu i greu atgofion sy&#8217;n para am byth!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall y profiad o gwblhau PhD fod yn un hir ac unig. Mae cymryd rhan mewn\ngweithgareddau allanol yn helpu i wella eich lles emosiynol a&#8217;ch iechyd meddwl.\nY peth gorau yw y gallwch chi ymuno ag unrhyw un o&#8217;r opsiynau uchod unrhyw bryd\nyn ystod eich PhD.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I mi yn bersonol, gwnaeth y rolau hyn i mi deimlo mwy o ymgysylltiad \u00e2&#8217;r\nbrifysgol a&#8217;r gymdeithas. Gwnaeth i mi lywio fy nhaith i ben draw\u2019r byd drwy\ndrawsffurfio Caerdydd o fod yn rhywle dros dro i gael seibiant yn unig i fod yn\nrhywle ar ben y daith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1266085-\"><strong>Violina Sarma<\/strong><\/a><strong> yn ymgeisydd PhD yn yr Adran Logisteg a Rheoli\nGweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd. <\/strong><strong><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Myfyrwyr PhD sy\u2019n treulio\u2019r amser hiraf yn y brifysgol o\u2019u cymharu \u00e2 myfyrwyr eraill. Mae\u2019r amser ychwanegol hwn yn gyfle gwych i ymgymryd \u00e2 rolau gwahanol yn y brifysgol a\u2019r [&hellip;]","protected":false},"author":1360,"featured_media":2101,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[780],"tags":[1545,543,1537,55,1548,1544,1540,1541,1534,70,1532,1536,1535,1546,26,1524,1531,1542,198,105,983,1539,1547,1543,1533,61],"class_list":["post-2086","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-profiad-myfyrwyr","tag-amgueddfa-genedlaethol-caerdydd","tag-arweinyddiaeth","tag-bywyd-myfyrwyr","tag-caerdydd","tag-cwpan-y-byd-ucc-2019","tag-cymdeithas-dawnsio-bollywood","tag-cynorthwy-ydd-bywyd-preswyl","tag-diogelwch","tag-diploma-datblygiad-proffesiynol","tag-gwaith","tag-gwasanaeth-datblygu-sgiliau","tag-gwasanaeth-gyrfaoedd-a-chyflogadwyedd","tag-gwobr-caerdydd","tag-hanner-marathon-y-byd-2016","tag-india","tag-linkedin","tag-myfyrwyr-phd","tag-neuaddau-preswyl-y-brifysgol","tag-phd","tag-prifysgol-caerdydd","tag-sgiliau","tag-tim-bywyd-preswyl","tag-uefa-champions-league-2017","tag-undeb-athlethau","tag-undeb-myfyrwyr-prifysgol-caerdydd","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-xE","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/07\/IMG_6085-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2086","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1360"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2086"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2086\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2103,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2086\/revisions\/2103"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2101"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2086"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2086"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2086"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}