{"id":2068,"date":"2020-06-04T12:11:34","date_gmt":"2020-06-04T11:11:34","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2068"},"modified":"2020-06-04T12:12:27","modified_gmt":"2020-06-04T11:12:27","slug":"yr-ail-ryfel-byd-a-covid-19-adeiladu-naratifau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/yr-ail-ryfel-byd-a-covid-19-adeiladu-naratifau\/","title":{"rendered":"Yr Ail Ryfel Byd a COVID-19: adeiladu naratifau"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2066\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein darn diweddaraf, mae Dr Leon Gooberman yn adrodd hanes datblygiad yr argyfwng COVID-19 a diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyd-darodd\nargyfwng COVID-19 \u00e2 dathliad diweddar saith deg pum mlwyddiant diwedd yr Ail\nRyfel Byd yn Ewrop. Roedd y cyd-ddigwyddiad yn ysgogi cymharu taflwybrau\nsymudedd rhwng y ddau gyfnod. Ond beth all cymariaethau o\u2019r fath ddweud wrthym?\nEr nad ydym yn gwybod sut y bydd argyfwng COVID-19 yn datblygu, mae ein\ngwybodaeth o\u2019r rhyfel yn dilyn patrymau cyfarwydd sy\u2019n llywio cymariaethau\ncyfoes. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Tybir\nyn aml nad oedd y DU o dan Chamberlain yn barod o gwbl ym 1939, a bod y wlad yn\nsefyll ar ei thraed ei hun pan ddaeth Churchill i rym ym mis Mai 1940. Aeth y\nllywodraeth ati i sbarduno diwydiant yn gyflym a daeth \u2018rhyfel y bobl\u2019 i ben\ngyda buddugoliaeth. Ond mae rhai o\u2019r tybiaethau hyn yn broblematig. Os nad oedd\ny DU y barod ym 1939, o ble ddaeth yr awyrennau rhyfel Spitfire a Hurricane yn\nystod Brwydr Prydain (<em>Battle of Britain<\/em>)?\nNid ymddangos dros nos wnaethon nhw; datblygwyd y ddau fath o ddechrau\u2019r 1930au yn rhan o\u2019r broses ailarfogi\na chodwyd ffatr\u00efoedd enfawr yn ddiweddarach yn y ddegawd. Yn y cyfamser, roedd\ndibynnu\u2019n rhannol ar fewnforio bwyd yn risg amlwg petai rhyfel yn dechrau.\nYmateb y llywodraeth oedd paratoi cyfundrefn ddogni i arbed bwyd, a sefydlu pwyllgorau lleol i reoli amaethyddiaeth adeg y rhyfel.\nGweithredodd y pwyllgorau pan ddechreuodd y rhyfel gan lwyddo i ysgogi\ncynhyrchu ar raddfa fwy.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ydy\nhyn yn rhyddhau Chamberlain o fai? Na. Roedd cymod yn drychineb ac roedd y\nfyddin, heblaw am rai unedau, wedi ei hesgeuluso ac yn brin o offer.\nLlesteiriwyd ailarfogi gan ddadleuon tymor byr y Trysorlys y byddai gwario mwy\nyn niweidio ein hamddiffyn gan y byddai\u2019n difrodi yr economi a rhwystro\ngwariant yn y dyfodol. Yn anffodus, roedd gan y Trysorlys yr hawl i weithredu\nyn \u00f4l ei ddadleuon. Cyfyngodd ar wariant ac, er enghraifft, rhwystrodd weithwyr\nadeiladu rhag gweithio trwy\u2019r nos i gyflymu\u2019r broses o gwblhau ffatr\u00efoedd arfau\nyn ne Cymru yn ystod haf 1939 gan y byddai sifftiau o\u2019r fath yn arwain at\ngyflogau uwch. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond\nsiawns fod hyn i gyd wedi newid ym 1940 pan safai y DU ar ei phen ei hun? Roedd\ny DU ar fin wynebu goresgyniad ym 1940 ac wedi\u2019i hynysu yn filwrol. Ond roedd\nhefyd yn rheoli ymerodraeth a system fasnach fyd-eang. Roedd y nodweddion yma\nyn lleddfu\u2019r ynysu, ac roedd yr ymerodraeth yn gyfrifol am dros 40 y cant o\nwerth mewnforio trwy gydol y rhyfel. Cynhaliwyd rhai cadwyni cyflenwi er\ngwaethaf colledion morwrol dwys. Roedd y mewnforio yn amrywio o ddur\nanorffenedig a barrau; dwy filiwn tunnell ym 1940 ac 1.5 miliwn tunnell ym\n1943, i wartheg byw; 560,000 ym 1940 a 409,000 ym 1943.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Beth\nam sbarduno diwydiant i ymladd \u2018rhyfel y bobl\u2019?&nbsp;\nTyfodd y broses o gynhyrchu arfau yn sydyn o 1939 ond ni chyrhaeddodd ei\nhanterth tan 1944, yn dilyn proses weinyddol hir ac anhrefnus ar brydiau. Roedd\ntair Gweinyddiaeth yn cyflenwi deunydd rhyfel i\u2019r lluoedd ac fe gymerodd\nflynyddoedd iddyn nhw gydweithio yn llawn. Cr\u00ebwyd Cyngor Cynhyrchu ym 1940 er\nmwyn hybu cydweithrediad ond roedd yn fethiant. Fe\u2019i ddisodlwyd ym 1941 gan\nBwyllgor Cynhyrchu Gweithredol oedd hefyd yn fethiant, yn rhannol gan nad oedd\ny Gweinidog Cyflenwad eisiau cael ei geryddu gan y Gweinidog Llafur. Disodlwyd\ny pwyllgor hwn ym 1942 gan Weinyddiaeth Gynhyrchu. Roedd y Weinyddiaeth newydd\nyn cael trafferth yn ymdopi yn wreiddiol ond fe lwyddodd ym 1943, gan fod\ncydweithio yn cael ei ysgogi gan yr angen i wasgu cynnyrch diwydiannol o\neconomi ar waith. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd\ncysylltiadau y tu allan i Whitehall yr un mor wan. Roedd y swyddog oedd yn\nceisio cydlynu cynhyrchu yng Nghymru ar ddiwedd 1941 yn cymharu tensiwn\nrhynglywodraethol \u00e2\u2019r rhyfel yng ngogledd Affrica. Yn y cyfamser, y Bwrdd\nMasnach oedd yn dosrannu gofod o fewn ffatr\u00efoedd ond gwrthododd ymuno \u00e2\nstrwythurau rhynglywodraethol. Methwyd yn l\u00e2n \u00e2 chytuno tan iddo gael ei drechu\nmewn ffordd gyfrwys erbyn 1943 a\u2019i orfodi i gydweithio. Roedd hyd yn oed y\nbroses o sbarduno gweithwyr yn un hir, gyda gorfodaeth ddiwydiannol yn cael ei\ngyflwyno\u2019n raddol. Yn olaf, roedd cysylltiadau diwydiannol yn y diwydiant glo\nyn ffrwydrol, roedd polisi llywodraethol yn aneffeithiol, a syrthiai\ncynhyrchiant ac allbwn yn gyson.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond\nroedd hyn yn amherthnasol yn y pen draw. Roedd economi a marchnad lafur y DU\nwedi\u2019u sbarduno\u2019n llawn ar \u00f4l 1943 ac roedd bron i ddwy filiwn o fenywod wedi\nymuno \u00e2 llu y gweithwyr cyflogedig. Roedd cynhyrchiad arfau ar ddechrau 1944\n1.6 gwaith yn uwch na\u2019r lefel ar ddechrau 1942 ac yn uwch o lawer nag ym 1939.\nMor gynnar \u00e2 1942 synnwyd y llywodraeth pan ddarganfu fod rhai o\u2019i ffatr\u00efoedd\nyn cynhyrchu gormod o arfau. Roedd prinder deunydd rhyfel yn hen atgof erbyn\ndechrau 1944 pan ddaeth rhannau o\u2019r DU yn feysydd parcio enfawr ar gyfer milwyr\no Brydain, America a Chanada yn paratoi ar gyfer D-Day. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\ndigwyddiadau y rhyfel yn awgrymu dau bwynt. Yn gyntaf, ni fyddwn yn gallu\ngwybod yn union beth ddigwyddodd yn ystod yr argyfwng presennol yn ei\ngyfanrwydd nes iddo ddod i ben. Gan ddefnyddio teipoleg enwog Donald Rumsfeld,\nmae gwybodaeth hysbys yn amheus, ac mae pethau anhysbys sy\u2019n hysbys a pethau\nanhysbys sy\u2019n anhysbys ar goll mewn niwl o ddryswch. Ond mae\u2019n demtasiwn i ddod\ni gasgliadau cyffredinol ar unwaith, er bod y sylwebaeth brysur o bob cyfeiriad\nsy\u2019n nodwedd amlwg o\u2019r argyfwng hwn yn aml yn gwneud fawr ddim heblaw\natgyfnerthu safbwyntiau pleidgar sy\u2019n bodoli eisoes. Yn ail, hyd yn oed ar \u00f4l\ni\u2019r argyfwng yma dawelu, mae\u2019n bosibl y bydd bylchau yn ein dealltwriaeth o\nhyd. Mae edrych ar yr Ail Ryfel Byd yn dangos fod naratifau rydym yn eu derbyn\nyn gallu bod yn broblematig ar brydiau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd llawer o effeithiau tyngedfennol yr\nargyfwng yn y DU yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU. Bydd llywodraethau eraill\nyn gyfrifol am rai. Bydd eraill yn deillio o ystod eang o ffactorau gwahanol, a\nbydd y rhan fwyaf yn deillio o gyfuniad o ffactorau. Ond nid ydym eto wedi\nymddatod yr elfennau yma, nac wedi deall sut maent yn rhyngweithio mewn\namgylcheddau gwahanol. Mae\u2019r amwysedd yma yn golygu y bydd yr atebion sydyn\nsy\u2019n cael eu cynnig o bob ochr ar COVID-19 yn aml yn anghywir. Mae\u2019n well\ngadael trosolygon cynnar i\u2019r <em>epidemiolegwyr <\/em>unwaith\niddynt gasglu digon o dystiolaeth. Yna gallwn ystyried y goblygiadau ehangach,\nosgoi naratifau camarweiniol, ac arfogi ein hunain ar gyfer y pandemig\nnesaf.&nbsp;&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae\n<\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610390-gooberman-leon\"><strong>Dr Leon Gooberman<\/strong><\/a><strong> yn Ddarlithydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth yn\nYsgol Busnes Caerdydd.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein darn diweddaraf, mae Dr Leon Gooberman yn adrodd hanes datblygiad yr argyfwng COVID-19 a diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop. Cyd-darodd argyfwng COVID-19 \u00e2 dathliad diweddar saith [&hellip;]","protected":false},"author":1828,"featured_media":2066,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1437],"tags":[1510,1514,1495,1497,1365,87,457,212,1515,60,1457,453,1513,1508],"class_list":["post-2068","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-3","tag-ail-ryfel-byd","tag-brwydr-prydain","tag-chamberlain","tag-churchill","tag-coronafeirws","tag-cymru","tag-economi","tag-ewrop","tag-gweinidog-cyflenwad","tag-llywodraeth-y-du","tag-marchnad-lafur","tag-polisi","tag-rhyfel-y-bobl","tag-rumsfeld"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-xm","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/06\/Keep-calm-public-information-messaging.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2068","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1828"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2068"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2068\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2069,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2068\/revisions\/2069"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2066"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2068"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2068"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2068"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}