{"id":2051,"date":"2020-05-18T14:20:08","date_gmt":"2020-05-18T13:20:08","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2051"},"modified":"2020-05-18T14:20:24","modified_gmt":"2020-05-18T13:20:24","slug":"busnesau-bach-yn-ystod-covid-19","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/busnesau-bach-yn-ystod-covid-19\/","title":{"rendered":"Busnesau bach yn ystod COVID-19"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2049\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae\u2019r Athro Andrew Henley a\u2019r Athro Tim Vorley yn rhoi eu barn am effaith pandemig COVID-19 ar fusnesau bach yn y DU. <\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pandemig COVID-19, sy\u2019n ymledu\u2019n wyllt ledled y byd, wedi cail\neffaith aflonyddol na welwyd mo&#8217;i bath o&#8217;r blaen ar fusnesau bach. Ceir toreth\no sylwadau brys sy&#8217;n nodi graddfa ac enghreifftiau penodol o&#8217;r effaith hon.\nMae\u2019r erthygl hon yn cynnig rhai safbwyntiau a myfyrdodau rhagarweiniol ar\nberfformiad a chynhyrchedd ar gyfer busnesau bach. Mae hi\u2019n rhy fuan cynnig\nunrhyw asesiad caled o effaith yr argyfwng presennol ar berfformiad busnes,\nfelly ein nod fan hyn yw rhoi sylwadau am rai them\u00e2u sy\u2019n dod i\u2019r amlwg ar sail\ngwybodaeth bresennol ac ymchwil ymatebol barhaus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n debygol y bydd yr argyfwng yn cael effeithiau amlddimensiynol ar yr\neconomi. Mae\u2019r rhain yn cynnwys gwahaniaethau rhwng effeithiau tymor byr,\neffeithiau tymor canolig ac effeithiau hirdymor, amrywiadau ar draws sectorau\ngwahanol ac effeithiau gofodol gwahaniaethol yr argyfwng. Ar yr un pryd, mae\ngwytnwch busnesau bach a\u2019u gallu i oroesi\u2019r argyfwng wedi gorfodi busnesau i\nailgynllunio eu modelau busnes. Mae llawer o\u2019r problemau y mae busnesau bach yn\neu hwynebu a\u2019u gallu i ymateb yn dibynnu ar eu hymateb ar ddechrau\u2019r argyfwng \u2013\nac felly goblygiadau hirdymor yn sgil penderfyniadau brys perchnogion-reolwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y tymor byr, mae\u2019n anochel y bydd effaith sylweddol pellach ar\ngynhyrchiant \u2013 casgliad hynod annymunol gan ystyried y bwlch cynhyrchiant sy\u2019n\nehangu byth a beunydd yn y DU. Mae hyn oherwydd bod busnesau, yn gyffredinol,\nyn ceisio cadw gweithwyr medrus yn ystod dirwasgiad, yn enwedig os yw\u2019r sgiliau\nhynny\u2019n brin neu\u2019n ganolog i\u2019r cwmni. Mae absenoldeb gweithwyr oherwydd salwch\nneu oherwydd eu bod dan gwarantin yn cael effaith enfawr ar nifer o BBaChau, yn\nenwedig busnesau bach a microfusnesau, oherwydd nad yw sgiliau sy\u2019n hanfodol\ni\u2019r busnes yn lleihau\u2019r peryglon ar draws cronfa fawr o weithwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae casglu sgiliau yn achosi i\u2019r rhifiadur cynhyrchiant (trosiant neu\nwerth ychwanegol) ddisgyn yn gyflymach na\u2019r enwadur (mewnbwn llafur). Os oes\ngan gwmn\u00efau hyblygrwydd i leihau oriau, yna gallai\u2019r effaith niweidiol ar\ngynhyrchiant fesul awr fod yn llai difrifol na chynhyrchiant fesul gweithiwr.\nMae cyhoeddiadau diweddar o ran polis\u00efau brys ar gymorthdaliadau cyflog o dan y\ncynllun cadw swyddi yn benodol ar gyfer cynnal cysylltiad \u00e2 gweithwyr, ac\nfelly\u2019n anuniongyrchol i leihau cynhyrchiant.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n debygol y bydd y mentrau hyn yn fwy hanfodol i fusnesau oroesi i\nBBaChau llai cyfalafol, a llai proffidiol, ac mae gweithredu polisi yn gyflym\nyma yn hanfodol. Mae data arolwg a gasglwyd yng nghanol mis Mawrth 2020 gan\nBrifysgol Sheffield gyda Small Business Britain yn cadarnhau hyn \u2013 roedd bron\nchwarter o BBaChau a oedd yn rhan o\u2019r arolwg yn disgwyl i refeniw ddisgyn mwy\nna hanner <a href=\"https:\/\/productivityinsightsnetwork.co.uk\/2020\/05\/small-business-in-the-time-of-covid-19\/#_ftn1\">[1]<\/a>.&nbsp;Mae un\nargymhelliad sy\u2019n dod i\u2019r amlwg yn gysylltiedig \u00e2\u2019r angen dybryd i sicrhau bod\ncymorth ar gael: cyflwyno\u2019r polisi a phoeni am golledion difuddiant wedyn, y\ngellir eu hadfer yn rhannol drwy systemau busnes a hunanasesu treth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn \u00f4l gwaith ymchwil cynnar, ers i\u2019r Llywodraeth gyhoeddi\u2019r mesurau sydd\nar gael, mae cryn amrywiadau lleol o ran gweinyddu a chael mynediad at gymorth.\nMae\u2019r cymhwysedd, neu&#8217;r cymhwysedd canfyddedig, yn ychwanegu at yr anawsterau\nhyn, sy&#8217;n golygu na fydd pob microfusnes yn elwa yn \u00f4l y bwriad ac fel y mae\nganddo hawl. Mae hyn yn adlewyrchu her barhaol fawr arall ar gyfer polisi\nbusnesau bach, sy\u2019n eu hannog i gofrestru ar gyfer rhaglenni&#8217;r llywodraeth, gan\nnad yw 82% o&#8217;r cwmn\u00efau a arolygwyd wedi ceisio cymorth busnes o&#8217;r blaen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn syml, ni fydd rhai cwmn\u00efau\u2019n goroesi. Yn y tymor canolig a\u2019r\nhirdymor, os yw\u2019r argyfwng yn parhau y tu hwnt i chwe mis i ddiwedd yr haf a\ndechrau\u2019r hydref, bydd y BBaChau lleiaf gwydn yn cau. Hynny yw, y rhai lleiaf\ncyfalafol neu\u2019r rhai sy\u2019n gweld y gostyngiadau mwyaf o ran refeniw. Wrth adfer,\ngallai\u2019r broses ad-drefnu hon yna roi hwb i gynhyrchiant, er y bydd yn rhaid\ntalu pris uchel am hyn o ran methiannau\u2019n cwmni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y DU, gwelwyd y trallod mwyaf ymhlith y busnesau hynny sy\u2019n cynnig\ngwasanaeth corfforol wyneb yn wyneb nad yw\u2019n hanfodol ym meysydd hamdden,\nlletygarwch, gwasanaethau trafnidiaeth ac adwerthu nwyddau nad ydynt yn fwyd.\nCyn cau popeth a gosod cyfyngiadau symud, roedd y Canghellor eisoes wedi\nclustnodi cyllid ar gyfer y sectorau hyn yn y Gyllideb ar 15 Mawrth 2020. Yn\nogystal \u00e2\u2019r sectorau hyn, cafwyd effaith fawr ar leoedd megis canol dinasoedd\nhanesyddol a threfi gwyliau arfordirol, oherwydd bod y sioc o ofynion cadw\npellter cymdeithasol yn gwneud i brynwyr oedi cyn penderfynu gwario ar eitemau\nnad ydynt yn hanfodol. Mae pwysigrwydd cymdeithasol cefnogi\u2019r cwmn\u00efau hyn yn\nbwysig er mwyn diogelu ymdrechion a bywydau busnesau bach drwy\u2019r argyfwng hwn,\na bydd yn helpu i sicrhau hyfywedd y mannau hyn sydd wedi\u2019i chael hi\u2019n anodd yn\ny dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fodd bynnag, er y rhoddwyd mwy o gymorth yn gynnar i\u2019r sectorau hyn, mae llawer ohonynt yn yr hyn a elwir yn \u2018gynffon hir\u2019 <a href=\"https:\/\/productivityinsightsnetwork.co.uk\/2020\/05\/small-business-in-the-time-of-covid-19\/#_ftn2\">[2]<\/a>, ac er eu bod yn gwneud cyfraniad pwysig i ardaloedd, nid ydynt yn debygol o fod yn beiriannau adfer a thwf yn y dyfodol. Yn naturiol, mae rhai cwmn\u00efau\u2019n addasu i wirioneddau newydd drwy newid eu modelau busnes \u2013 gyda chymorth y llywodraeth a hebddo. Tynnodd yr astudiaeth sylw hefyd at y ffaith bod nifer o berchnogion-reolwyr eraill wedi ceisio symud eu busnes ar-lein yn ogystal \u00e2\u2019r busnesau hynny sydd eisoes yn gweithio ar-lein \u2013 gwelwyd effaith lai ar lawer o ohonynt. Mae symud ar-lein yn cynnig cyfle ar gyfer enillion cynhyrchiant wrth i ffrydiau refeniw symud ar-lein, ac mae gwerthiannau ar-lein ddwywaith mor gynhyrchiol \u00e2 gwerthiannau all-lein\u00a0<a href=\"https:\/\/productivityinsightsnetwork.co.uk\/2020\/05\/small-business-in-the-time-of-covid-19\/#_ftn3\">[3]<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trwy gael golwg fras ar dudalennau busnes y cyfryngau newyddion, cewch\nweld rhai newidiadau sylweddol i arferion gweithio a modelau busnes. Fodd\nbynnag, ar y cam hwn, nid yw\u2019n glir i ba raddau y mae\u2019r newidiadau hyn i\narferion gweithio a modelau busnes yn cynrychioli atebion dros dro i broblemau,\nneu a ydynt yn gyfnewidiadau newydd i fusnes go iawn. Gall y diwygiadau hyn, os\nbyddant yn llwyddiannus, hyrwyddo gwytnwch yn y dyfodol a gwella cynhyrchiant,\nyn enwedig os ydynt yn arwain at ostyngiadau sylweddol a pharhaol mewn costau\nsy\u2019n gysylltiedig \u00e2 gweithgareddau megis teithio ar gyfer busnes ac ati.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar ochr arall y sbectrwm, mae\u2019n debygol y bydd busnesau sy\u2019n seiliedig\nar wybodaeth a gwasanaethau, er enghraifft datblygu meddalwedd, yn fwy gwydn,\nac mae\u2019n bosibl y c\u00e2nt enillion cynhyrchiant o arbedion costau sy&#8217;n\ngysylltiedig \u00e2 gweithio o bell a chau swyddfeydd. Yr hyn na wyddwn eto yw i ba\nraddau y mae BBaChau mewn perygl o fynd i\u2019r wal yn y cadwyni cyflenwi y maen\nnhw\u2019n rhan ohonynt, yn enwedig mewn sectorau megis gweithgynhyrchu, adeiladu\nneu ddarparu gwasanaethau busnes i fusnes. Mae hyn o bosibl yn peryglu\u2019r\nbusnesau a elwir yn rhai y gellir eu masnachu a\u2019r rhai na ellir eu masnachu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dadansoddiad diweddar gan Brookings yn tynnu sylw at effaith ofodol wahaniaethol debygol yr argyfwng, yn sgil dosbarthiad gofodol anwastad BBaChau yn \u00f4l sector <a href=\"https:\/\/productivityinsightsnetwork.co.uk\/2020\/05\/small-business-in-the-time-of-covid-19\/#_ftn4\">[4]<\/a>.\u00a0Yn y DU, mae de-orllewin Lloegr, yn benodol, yn wynebu trallod yn y sectorau llety, bwyd a diod, sy\u2019n cyfrif am bron 10% o gyflogaeth yn y sector preifat, er bod y sector hwn hefyd yn gymharol fwy yn Llundain. Mae adwerthu yn sector cynhyrchiant isel arall sydd hefyd yn cyfrif am gyfran gyflogaeth fawr yn y gogledd ac yng Nghymru, o\u2019i gymharu \u00e2 chanolbarth Lloegr a Llundain. Ar y llaw arall, mae busnesau sy&#8217;n seiliedig ar wybodaeth a gwasanaethau, a allai fod yn fwy gwydn i darfu, yn cyfrif am lai na 3% o gyflogaeth y sector preifat yng Ngogledd Ddwyrain, Gogledd Orllewin, Swydd Efrog a Humber, Dwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr a Chymru, ond bron 8% yn Llundain <a href=\"https:\/\/productivityinsightsnetwork.co.uk\/2020\/05\/small-business-in-the-time-of-covid-19\/#_ftn5\">[5]<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly, i gloi, mae\u2019r difrod tymor byr i gynhyrchiant yn debygol o fod yn\nsylweddol yn \u00f4l pob golwg, ac mae hyn yn annifyr iawn yng nghyd-destun bwlch\ncynhyrchiant parhaus y DU, a bwlch sy\u2019n ehangu. Fodd bynnag, lle bo gan\nficrofusnesau y gallu i drawsffurfio ac addasu, ceir potensial i ehangu\ngwytnwch ac enillion cynhyrchiant yn yr hirdymor lle mae modd iddynt wneud\nnewidiadau parhaol i\u2019w ffordd o gynnal busnes.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/609391-henley-andrew\"><strong>Andrew Henley<\/strong><\/a><strong> yn Athro Entrepreneuriaeth ac Economeg ac yn Gyfarwyddwr Ymgysylltiad ac Effaith Ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd. <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.sheffield.ac.uk\/management\/staff\/vorley\"><strong>Tim Vorley<\/strong><\/a><strong> yn Athro Entrepreneuriaeth ac yn Ddeon Cyswllt\nar gyfer Effaith, Arloesi ac Ymgysylltu yn Ysgol Rheolaeth Prifysgol Sheffield.<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar <a href=\"https:\/\/productivityinsightsnetwork.co.uk\/2020\/05\/small-business-in-the-time-of-covid-19\/\">Productivity Insights Network<\/a>.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Ffynonellau<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/productivityinsightsnetwork.co.uk\/2020\/05\/small-business-in-the-time-of-covid-19\/#_ftnref1\">[1]<\/a>&nbsp;Ovens, M.\n\u2018<a href=\"https:\/\/www.forbes.com\/sites\/michelleovens\/2020\/03\/20\/strength-in-numbers\/#258a80a84882\">Strength in\nnumbers<\/a>\u2019,&nbsp;<em>Forbes <\/em>(Mawrth\n2020).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/productivityinsightsnetwork.co.uk\/2020\/05\/small-business-in-the-time-of-covid-19\/#_ftnref2\">[2]<\/a>&nbsp;Strauss,\nD. \u2018<a href=\"https:\/\/www.ft.com\/content\/f5e074ae-9734-11e8-b67b-b8205561c3fe\">Is \u2018long tail\u2019\nof small businesses to blame for poor UK productivity?<\/a>\u2019, <em>Financial Times<\/em> (Awst 2018). <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/productivityinsightsnetwork.co.uk\/2020\/05\/small-business-in-the-time-of-covid-19\/#_ftnref3\">[3]<\/a>&nbsp;Bughin&nbsp;J.,\net al. \u2018<a href=\"https:\/\/www.mckinsey.com\/featured-insights\/regions-in-focus\/solving-the-united-kingdoms-productivity-puzzle-in-a-digital-age\">Solving the\nUnited Kingdom\u2019s productivity puzzle in a digital age<\/a>\u2019, <em>McKinsey &amp; Company<\/em> (Medi 2018).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"%5b4%5d\">[4]<\/a>&nbsp;Muro, M.,\net al. \u2018<a href=\"https:\/\/www.brookings.edu\/blog\/the-avenue\/2020\/03\/17\/the-places-a-covid-19-recession-will-likely-hit-hardest\/\">The places a\nCOVID-19 recession will likely hit hardest<\/a>\u2019, <em>Brookings<\/em> (Mawrth 2020).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/productivityinsightsnetwork.co.uk\/2020\/05\/small-business-in-the-time-of-covid-19\/#_ftnref5\">[5]<\/a> Cyfrifiadau\u2019r\nawduron eu hunain o Ddata Cyfrif Busnes SYG y DU a Chofrestr Busnes ac Arolwg\nCyflogaeth y SYG, 2018.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae\u2019r Athro Andrew Henley a\u2019r Athro Tim Vorley yn rhoi eu barn am effaith pandemig COVID-19 ar fusnesau bach yn y DU. Mae pandemig COVID-19, sy\u2019n [&hellip;]","protected":false},"author":1323,"featured_media":2049,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1437],"tags":[1447,1489,1481,68,1483,1488,1365,1486,951,627,135,1439,1370,1485,105,1487,1474,53,61,1484],"class_list":["post-2051","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-3","tag-argyfwng","tag-bbachau","tag-brookings","tag-busnes","tag-busnesau-bach","tag-bwlch-cynhyrchiant","tag-coronafeirws","tag-cynhyrchedd","tag-du","tag-economeg","tag-entrepreneuriaeth","tag-llywodraeth","tag-pandemig","tag-perfformiad","tag-prifysgol-caerdydd","tag-reolwyr","tag-small-business-britain","tag-ymchwil","tag-ysgol-busnes-caerdydd","tag-ysgol-rheolaeth-prifysgol-sheffield"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-x5","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Illustration-of-a-group-of-masked-people-in-an-office.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2051","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1323"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2051"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2051\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2054,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2051\/revisions\/2054"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2049"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2051"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2051"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2051"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}