{"id":2034,"date":"2020-05-06T11:41:00","date_gmt":"2020-05-06T10:41:00","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2034"},"modified":"2020-05-27T15:42:12","modified_gmt":"2020-05-27T14:42:12","slug":"achub-ac-ailosod-economir-du-ar-ol-covid-19-drwy-gyfnewid-dyledion-ag-ecwiti","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/achub-ac-ailosod-economir-du-ar-ol-covid-19-drwy-gyfnewid-dyledion-ag-ecwiti\/","title":{"rendered":"Achub ac ailosod economi\u2019r DU ar \u00f4l COVID-19 drwy gyfnewid dyledion ag ecwiti"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2035\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Coronavirus-debt-finance-1.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein darn diweddaraf, mae Dr Jonathan Preminger o Ysgol Busnes Caerdydd, Dr Guy Major o Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a Jenny Rathbone Aelod Llafur Cymru y Senedd ar gyfer Caerdydd Canolog, yn mynd i\u2019r afael \u00e2 phroblem cyllid ariannu benthyciadau a dyledion a fydd yn wynebu sefydliadau pan fydd y DU yn dod allan o bandemig COVID-19.<\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y broblem<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai y bydd benthyciadau wedi\u2019u cefnogi gan y llywodraeth a grantiau\ncyflogau 80% yn gymorth i lawer o gwmn\u00efau fynd drwy COVID-19. Ond mae dwy\nbroblem sylfaenol gyda benthyciadau a mathau eraill o gyllid ariannu dyledion,\na ddaw\u2019n fwyfwy amlwg wrth i gwmn\u00efau ddod o\u2019r argyfwng: Yn gyntaf, yn fwyaf amlwg\na difrifol, mae\u2019n rhaid ad-dalu benthyciadau. Yn ail, mae\u2019r taliadau llog yn\nfaich sefydlog, nad yw\u2019n ystyried llwyddiant neu anawsterau ariannol y cwmni yn\ny dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn atal nifer mawr o gwmn\u00efau rhag mynd i\u2019r wal, yr hyn a allai\nhelpu\u2019r economi nawr yw chwistrelliad o gyllid penodol <em>sy\u2019n rhannu risgiau, nad oes angen ei ad-dalu<\/em>, buddsoddiad mewn <em>ecwiti<\/em>, h.y. cyfalaf cyfrannau, gyda\ndifidend <em>newidiol<\/em> yn dibynnu ar\nlwyddiant. Ond efallai y bydd llawer o gwmn\u00efau\u2019n gyndyn o ildio rheolaeth o\u2019u\nbusnesau i ddeiliaid allanol cyfrannau pleidleisio traddodiadol. A bydd darpar\nfuddsoddwyr yn gochel rhag buddsoddi gyda risg heb yr amddiffyniad y mae rhyw\nfath o reolaeth yn ei roi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r cyfyng-gyngor risg\/rheolaeth yn un a wynebwyd ers tro gan gwmn\u00efau\ncydweithredol a chwmn\u00efau sy\u2019n eiddo i\u2019r gweithwyr, y gall tanfuddsoddi gyfyngu\nar eu twf, neu wneud iddynt fethu hyd yn oed. Fodd bynnag, mae ateb hyfyw ar\ngael i\u2019r cyfyng-gyngor hwn y gellid ei gymhwyso nawr i\u2019r economi ehangach wrth\niddi ddod allan o\u2019r pandemig.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yr ateb<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn dadlau y dylid rhoi\u2019r dewis i bob cwmni gyfnewid dyledion sydd\nwedi\u2019u cefnogi gan y llywodraeth am gyfrannau ecwiti, y gellir eu masnachu,\nwedi\u2019u dal gan y llywodraeth yn y lle cyntaf. Gellid cyfuno hyn \u00e2 ffurfiau\ncyflenwol eraill ar ryddhau o ddyled a rhannu risg, fel derbyn cyfradd uwch o\ndreth gorfforaethol dros dro yn gyfnewid am ddileu rhan o\u2019r ddyled.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Sut byddai cyfnewid dyledion ag ecwiti o fudd i\u2019r amrywiaeth o wahanol\nranddeiliaid? Rydym yn cynnig mecanwaith sy\u2019n cloi buddiannau\u2019r perchnogion, y\ngweithwyr a\u2019r buddsoddwyr cyfredol (gan gynnwys y llywodraeth) gyda\u2019i gilydd,\ngan adael rheolaeth y cwmni yn nwylo\u2019r perchnogion a\u2019r gweithwyr cyfredol, ond\neto gan osgoi\u2019r perygl bod cyflogau\u2019n cael eu codi ar draul rhoi difidend i\nfuddsoddwyr. Yn y b\u00f4n, mae hon yn <em>fformiwla\ny cytunwyd arni ymlaen llaw i rannu gwerth ychwanegol y cwmni <\/em>(gwerthiant\nminws costau heb fod yn rhai llafur, felly, yr hyn sy\u2019n cyfateb i gyflogau +\nelw) rhwng gweithwyr\/cyfarwyddwyr a buddsoddwyr\/perchnogion. Golyga hyn y\nbyddai cyfran arwyddocaol o\u2019r cyflogau\u2019n newidiol, ac y byddai gweithwyr yn\nrhannu yn llwyddiant (neu fel arall) eu cwmni. Ond byddai eu swyddi, ac felly\neu bywoliaeth, yn llawer mwy diogel na phetai eu cyflogau\u2019n sefydlog.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Sut byddai hyn yn gweithio? Byddai gwerth ychwanegol y cwmni\u2019n cael ei\nrannu\u2019n nifer o \u2018dafelli\u2019. Mae pob gweithiwr yn cael nifer o dafelli y cytunwyd\narno ymlaen llaw, eu t\u00e2l newidiol i bob pwrpas, ac mae pob cyfran yn cael un\ndafell fel ei difidend. Byddai ysgogiad i\u2019r gweithwyr gynyddu\u2019r elw, ac felly\ngynyddu eu t\u00e2l newidiol, ond o wneud hyn, byddent yn cynyddu\u2019r enillion y\ngyfran, ac felly\u2019n awtomatig yn gweithio er budd y buddsoddwyr hefyd (gweler\nFfigwr 1 a\u2019r Atodiad i gael manylion). <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ffigur 1: Cynllun rhannu gwerth ychwanegol (gwarged).<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"916\" height=\"382\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Diagram-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2032\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Diagram-1.png 916w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Diagram-1-600x250.png 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Diagram-1-300x125.png 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Diagram-1-768x320.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 916px) 100vw, 916px\" \/><figcaption>An Dyma enghraifft o fersiwn o\u2019r cynllun rhannu gwerth ychwanegol cyfnewid dyledion ag ecwiti, a esbonnir yn llawn yn yr <em>Atodiad.<\/em>&nbsp; Nifer cyfartalog y tafelli y gweithiwr, k, yw nifer punnoedd (\u00a3) cyfanswm y cyflog newidiol a fyddai wedi bod, gan redeg y cynllun yn \u00f4l-weithredol gyda rhifau\u2019r llynedd, wedi\u2019i rannu \u00e2 nifer y gweithwyr cyfatebol amser llawn, W. <\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn gyfnewid am d\u00e2l mwy anwadal neu is dros dro, gellid cynnig cyfrannau i weithwyr hefyd ac, o bosibl, mwy o lais yn sut mae\u2019r cwmni\u2019n cael ei redeg. Yn \u00f4l llenyddiaeth ymchwil gynyddol, mae\u2019r cyfuniad o rannu elw, cyfrannau gweithwyr a democrateiddio\u2019r gweithle yn atgyfnerthu ei gilydd ac yn hynod effeithiol wrth ysgogi gweithwyr i arloesi ac i wella cynhyrchedd. Felly, drwy dderbyn t\u00e2l newidiol, a\u2019i liniaru gyda rhywfaint o berchnogaeth gan weithwyr <a href=\"#_ftn1\">[1]<\/a> a chyfranogi mewn rheoli (felly gan wella amodau gwaith a bodlonrwydd gwaith), gellir amddiffyn swyddi a gwella perfformiad a rhagolygon cwmn\u00efau. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y cyfnod ansicr sydd o\u2019n blaenau, bydd yn annerbyniol cadw cyflogau\u2019r\nrhan fwyaf o weithwyr yn sefydlog ar lefelau is ond gadael i\nberchnogion\/cyfarwyddwyr roi t\u00e2l ychwanegol a manteision iddyn nhw eu hunain\nnad ydynt yn gysylltiedig \u00e2 pherfformiad. Byddai\u2019n rhaid i gyflog uwch\nswyddogion gweithredol fod wedi\u2019i gysylltu \u00e2 pherfformiad yn yr un ffordd \u00e2\nchyflogau gweithwyr. Byddai hyn hefyd yn amddiffyn buddiannau buddsoddwyr\nallanol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Bydd ar nifer mawr o\ngwmn\u00efau angen yr holl help a rhannu risg y gallant ei gael<\/em> er mwyn bod ag\nunrhyw obaith realistig o oroesi drwy\u2019r argyfwng hwn. Byddai manteision\nsylweddol rhannu elw, perchnogaeth gan weithwyr a democrateiddio\u2019r gweithle,\nynghyd \u00e2 buddsoddiad allanol mewn ecwiti, yn gallu chwarae rhan fawr wrth\ngynyddu\u2019r siawns honno o oroesi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai y bydd buddsoddwyr allanol yn ofni y bydd cyfarwyddwyr cwmn\u00efau\u2019n\ngwneud penderfyniadau gwael, er bod y rhan fwyaf o entrepreneuriaid sydd wedi\nsefydlu cwmn\u00efau yn adnabod eu busnesau a\u2019u sectorau\u2019n llawer gwell na\u2019r rhan\nfwyaf o fuddsoddwyr \u2018cyffredinol\u2019. Gellir lliniaru\u2019r perygl o wneud\npenderfyniadau gwael drwy roi hawliau \u2018lleisio barn\u2019 i fuddsoddwyr (bwydo\narbenigedd, cyngor ac awgrymiadau), ond heb hawliau pleidleisio arferol. Fodd\nbynnag, gallai hawliau pleidleisio gael eu rhoi, dros dro o leiaf, ar \u00f4l cyfnod\no golledion parhaus, er mwyn helpu i roi cwmni\u2019n \u00f4l ar y trywydd cywir.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cam tuag at ailosod yr economi yn sylfaenol<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd trosi cwmn\u00efau i rannu gwerth ychwanegol (gwarged) yn cymryd amser.\nLlwybr hyfyw fyddai ychwanegu trosi dyledion yn ecwiti &#8211; gan gynnwys rhannu\ngwerth ychwanegol er mwyn amddiffyn buddsoddwyr &#8211; fel strategaeth ymadael tymor\ncanolig hyblyg o gynlluniau benthyciadau Corona wedi\u2019u cefnogi gan y\nllywodraeth. Bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i gwmn\u00efau o ran goroesi a thyfu\nwrth i\u2019r amser nes\u00e1u iddynt ad-dalu eu benthyciadau, gan gynnwys rhannu risgiau\nsydd ei angen yn fawr. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddai enghreifftiau gwaith perswadiol, manteision treth ac arbenigwyr\ntrosi fforddiadwy (o bosibl gyda chymhorthdal y llywodraeth) yn helpu i wthio\u2019r\ncynllun i\u2019r d\u0175r. Ond gallai\u2019r canlyniad net newid y sefyllfa\u2019n llwyr: cynnydd\nenfawr o ran perchnogaeth gan weithwyr, democrateiddio\u2019r gweithle, arloesedd a\nchynhyrchedd, a buddsoddiad ecwiti allanol dibleidlais y gellir ei fasnachu\nmewn busnesau bach a chanolig. Byddai hyn yn dod ynghyd \u00e2 chymysgedd mwy\ndelfrydol o gyfalaf, llafur, syniadau da ac entrepreneuriaeth, gyda gwahaniaethau\nt\u00e2l tecach a gweithluoedd sydd \u00e2 gwell cymhelliant, er lles pawb. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddai hawliau penodol ar ffurf safonol gan gyfrannau rhannu gwarged gan\ngynnwys bod modd eu masnachu. Byddai hyn hefyd yn rhoi strategaeth ymadael\nnaturiol i\u2019r buddsoddwyr eu hunain \u2013 banciau a\u2019r llywodraeth i ddechrau:\ngallent werthu eu cyfrannau i fuddsoddwyr eraill drwy farchnadoedd eilaidd, y\ngallai\u2019r llywodraeth helpu i\u2019w sefydlu ac i\u2019w hwyluso. Byddai\u2019n well petai\ngwerthiannau fel hyn yn digwydd fesul tipyn, er mwyn osgoi disgowntiau enfawr.\nNi fyddai strwythur rheoli cyfredol y cwmn\u00efau o dan sylw, gan gynnwys unrhyw\nfuddiannau o berchnogaeth gan weithwyr a democrateiddio\u2019r gweithle, yn cael ei\ndanseilio neu ei wanedu gan \u2018gyfalafwyr fwltur\u2019, gan fod cyfrannau rhannu\ngwarged fel arfer yn rhai dibleidlais: mae perchnogaeth yn cael ei gadw ar\nwah\u00e2n i reolaeth, tra mae\u2019r buddsoddwyr wedi\u2019u hamddiffyn drwy\u2019r fformiwla\nbenodol i rannu gwerth ychwanegol. Efallai bydd cwmn\u00efau neu ffederasiynau o\ngwmn\u00efau yn dewis trefnu eu marchnadoedd cyfrannau eilaidd eu hunain, o bosibl\ndrwy gyfrwng ymddiriedolaethau. Gallai hyn alluogi darpar brynwyr cyfrannau i\ngael eu fetio: wal d\u00e2n ychwanegol yn erbyn ysglyfaethwyr corfforaethol petai\nhawliau pleidleisio argyfwng yn cael eu rhoi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn gryno, byddai cyfnewid dyledion ag ecwiti wrth i gwmn\u00efau ddod allan\no\u2019r argyfwng hwn yn gallu bod yn rhan bwysig o ailosod ein heconomi\u2019n\nsylfaenol, rhywbeth sydd ei angen yn fawr \u2013 ymyl arian i\u2019r cwmwl du sydd ar hyn\no bryd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/851089-preminger-jonathan\"><strong>Dr Jonathan Preminger<\/strong><\/a> <strong>yn Ddarlithydd Cysylltiadau Gwaith a Llafur\nyn Ysgol Busnes Caerdydd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/81225-major-guy\"><strong>Dr Guy Major<\/strong><\/a><strong> yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/jennyrathbone.wales\/\"><strong>Jenny Rathbone<\/strong><\/a><strong> yn wleidydd Llafur a Chydweithredol, a gafodd ei hethol yn Aelod o&#8217;r Senedd ar gyfer Caerdydd Canolog yn 2011.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Atodiad: y manylion<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma\u2019r fformiwla ymarferol i rannu gwerth ychwanegol yr ydym yn ei chynnig. Fe\u2019i datblygwyd o syniad a gyflwynwyd yn wreiddiol gan yr Athro Roger McCain o Brifysgol Drexel:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">a) Talu cyflog \u2018sylfaenol\u2019 sefydlog y cytunwyd arno ymlaen llaw i bob gweithiwr. Gall y t\u00e2l wahaniaethu rhwng gweithwyr, ond rhaid cytuno ymlaen llaw ar y t\u00e2l cyfartalog y gweithiwr a rhaid i gyflog sylfaenol pob gweithiwr fod ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu\u2019n uwch na hynny. Mae llawer o weithwyr wedi gorfod derbyn gostyngiad cyflog o 20% o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws neu fel arall fel mesur arbed costau COVID-19 a gallai hyn fod yn feincnod er mwyn pennu lefel newydd y t\u00e2l sylfaenol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">b) Cyfrifwch y \u2018gwarged\u2019 sydd ar \u00f4l pan fydd cyfanswm y costau cyflog sylfaenol (gan gynnwys pob cyfraniad Yswiriant Cenedlaethol [NI]) wedi\u2019u tynnu o\u2019r gwerth ychwanegol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">c) Rhannwch y gwarged (os yw\u2019n uwch na sero) yn \u2018dafelli\u2019 cyfartal, gydag un dafell y gyfran, a nifer o dafelli y cytunwyd arnynt ymlaen llaw (k) y gweithiwr cyfwerth ag amser llawn cyfartalog (FTE). Yn syml, <em>at ddibenion rhannu\u2019r gwarged, mae\u2019r gweithiwr (FTE) cyfartalog yn cyfateb i nifer y cytunwyd arnynt o gyfrannau \u2018rhithwir\u2019.<\/em> Dyma syniad canolog y cynllun, y brif ffordd mae buddsoddwyr ecwiti yn cael eu hamddiffyn a\u2019r gweithwyr yn cael eu hysgogi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">ch) Gall nifer y tafelli amrywio o\u2019r naill weithiwr i\u2019r llall, ond bod tafelli <em>cyfartalog<\/em> y gweithiwr FTE yn cael eu cysylltu \u00e2\u2019r k y cytunwyd arno. Yn amodol ar y cyfyngiad hwn, gellid dewis cwota personol pob gweithiwr o dafelli i gadw ei gyflog \u2013 sy\u2019n newidiol nawr \u2013 yn agos at yr hyn oedd pan gafodd ei bennu ddiwethaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">d) Wedyn yr elw cyn treth y gyfran yw (gwarged\/cyfanswm y tafelli), a chydran newidiol gyfartalog y t\u00e2l y gweithiwr yw k x (gwarged\/cyfanswm y tafelli). Mae hyn yn cynnwys yr holl yswiriant cenedlaethol ar y t\u00e2l hwnnw. Felly hefyd, t\u00e2l newidiol pob gweithiwr unigol (gan gynnwys yr holl yswiriant cenedlaethol) yw ei gwota penodol o dafelli x (gwarged\/cyfanswm y tafelli).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">dd) Mae\u2019r cynllun yn awtomatig yn caniat\u00e1u\u2019r ffordd orau o rannu\u2019r gwarged pan fydd nifer y gweithwyr yn newid, neu pan gaiff rhagor o gyfalaf ei fuddsoddi, heb gyflwyno ysgogiadau \u2018gwrthnysig\u2019 fel sy\u2019n gallu digwydd mewn cynlluniau llai bras, fel y rhai sy\u2019n neilltuo ffracsiynau sefydlog o\u2019r gwarged i weithiwyr a\/neu gyfrannau (gweler yr erthygl a ddyfynnir ar y diwedd).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">e) Gellir talu blaenswm misol i weithwyr ar eu cydran o d\u00e2l newidiol blynyddol rhagfynegol (eu \u2018cyfran\u2019 o\u2019r gwarged a ragfynegir), yn dibynnu ar incwm rhagfynegol a gwirioneddol y cwmni a\u2019r alldaliadau hyd yma. Byddai\u2019n ddoeth caniat\u00e1u lwfans gwallau ar gyfer diffygion nas rhagwelwyd (er mwyn osgoi gofyn i\u2019r gweithwyr ad-dalu rhan o\u2019u blaenswm).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">f) Ailfuddsoddir hyd at uchafswm \u2018ffracsiwn ail-fuddsoddi\u2019 y cytunwyd arno (dyweder 1\/3) o unrhyw elw wedi treth i roi hwb i\u2019r cyfalaf gweithio ac i dalu am gyfarpar newydd, ac ati. Telir y gweddill fel difidend.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">ff) Byddai modd buddsoddi ymhellach, os oes angen, drwy dalu difidend neu d\u00e2l newidiol yn rhannol gan ddefnyddio cyfrannau newydd, wedi\u2019u dyroddi ar bris teg, yn lle arian parod \u2013 gyda chaniat\u00e2d y rhai sy\u2019n derbyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">g) Gellid prisio\u2019r cyfrannau gan brisiwr annibynnol, neu drwy fformiwla safonol y cytunwyd arni ymlaen llaw megis y gwerth gostyngol presennol = (difidend rhagamcanol\/(cyfradd darged yr enillion), lle mae cyfradd darged yr enillion hefyd wedi\u2019i chytuno ymlaen llaw, fel arfer yn yr ystod 5 &#8211; 15%, yn dibynnu ar natur risg, anwadalrwydd a thwf rhagamcanol y difidendau. I gadw pethau\u2019n syml, gallai rhywun ddefnyddio\u2019r gyfradd llog ar fenthyciad y cwmni sydd wedi\u2019i gefnogi gan y llywodraeth yn ganllaw i\u2019r gyfradd enillion. O ddefnyddio 7%, sy\u2019n agos i\u2019r gyfradd enillion hanesyddol gyfartalog ar gyfalaf ecwiti, yna pris y gyfran fyddai (difidend rhagamcanol y gyfran\/0.07 neu tua 14 x (difidend rhagamcanol y gyfran).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellid gosod y cynllun i ddechrau fel a ganlyn:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Cyfrifwch yr elw cyn treth (P) a chyfanswm y bil\ncyflogau (gan gynnwys t\u00e2l y cyfarwyddwyr a\u2019r yswiriant cenedlaethol i gyd) dros\ny flwyddyn ddiwethaf (gellid defnyddio canolrif y 3 blynedd diwethaf). <\/li><li>Ychwanegwch gyfanswm y bil cyflogau at yr elw cyn\ntreth, i gael y gwerth ychwanegol. <\/li><li>Tynnwch gyfanswm y t\u00e2l \u2018sylfaenol\u2019 y cytunwyd arno\n(gan gynnwys yr holl yswiriant cenedlaethol), i gael gwarged tybiannol y\nllynedd, petai\u2019r cynllun wedi bod yn rhedeg y llynedd. <\/li><li>Pennwch gyfanswm y tafelli i gyfateb i nifer y \u00a3oedd o\nwarged tybiannol (\u00a31 y dafell, h.y. mae pob tafell yn \u2018cael\u2019 \u00a31 o\u2019r gwarged, i\ngadw\u2019r rhifau\u2019n hawdd). <\/li><li>Tybiwch mai W yw nifer y gweithwyr FTE. Pennwch\ngyfanswm nifer tafelli\u2019r gweithwyr (kW) i gyfateb i (gyfanswm y bil cyflogau\nminws cyfanswm y t\u00e2l sylfaenol) mewn \u00a3oedd (h.y. cyfanswm rhan <em>newidiol<\/em> y t\u00e2l, petai\u2019r cynllun wedi bod\nyn rhedeg y llynedd).<\/li><li>Pennwch gyfanswm nifer y tafelli o gyfrannau (n<sub>1<\/sub>\nyn Ffigwr 1) i fod yn elw cyn treth P mewn \u00a3oedd.<\/li><li>Felly, cyfanswm nifer y tafelli yw cyfanswm y gwarged tybiannol\nmewn \u00a3oedd, sydd hefyd yn cyfateb i kW + P, h.y. kW + n<sub>1<\/sub>. <\/li><li>Ailbennwch gyfalaf cyfrannau presennol y cwmni yn P\n(h.y. n<sub>1<\/sub>) o gyfrannau, fel bod pob un yn cael un dafell (h.y. \u00a31,\ngyda rhifau\u2019r llynedd) o elw cyn treth (er nad yw\u2019r deiliad yn cael unrhyw\narian eto). <\/li><li>Mae nifer tafelli gwarged y gweithiwr FTE, k, yn cael\nei gyfrifo fel (cyfanswm nifer tafelli\u2019r gweithwyr)\/(nifer y gweithwyr FTE),\nh.y. kW\/W. Mae\u2019r tafelli y gweithiwr hwn (k) bellach wedi\u2019i gloi yn y cynllun,\nfel y prif fodd o ddiogelu buddsoddwyr ecwiti allanol. Os oes angen, gellir ei\nnegodi eto yn y dyfodol.<\/li><li>Prisiwch y cyfrannau drwy ddull y cytunwyd arno\n(gweler uchod). <\/li><li>Os oes angen cyfnewid dyledion ag ecwiti, cyfnewidiwch\ny ddyled am gyfrannau ar y pris hwnnw. Er enghraifft, gan anwybyddu trethu er\nmwyn dangos enghraifft, os yw pob cyfran i ddechrau yn \u2018cael\u2019 \u00a31 o elw cyn\ntreth (gyda rhifau\u2019r llynedd, fel yr amlinellwyd uchod), yna gellid troi pob\nrhan o\u2019r ddyled sy\u2019n ennill \u00a31 o elw yn un gyfran ychwanegol (gan roi cyfanswm\no n<sub>2<\/sub> o gyfrannau ychwanegol, fel y dangoswyd yn Ffigur 1 uchod, lle\nn<sub>2<\/sub> yw cyfanswm nifer y \u00a3oedd o log benthyciad). Gan barhau gyda\u2019r\nenghraifft cyfradd llog o 7%, mae hynny\u2019n cyfateb i bris trosi dyled yn\ngyfrannau o \u00a31\/7% = \u00a31\/0.07 = \u00a314 yn fras. Felly, ar gyfradd llog o 7%, mae pob\n\u00a314 o fenthyciad, yn fras, yn cael ei drosi\u2019n un gyfran, yn \u00a314 x 7% = \u00a31 o log\n(nawr yn ddifidend posibl), yn ddigon agos. (I gyfrif am 20% o dreth\ngorfforaethol<a href=\"#_ftn2\">[2]<\/a> ar\nyr elw, a\u2019r ffaith nad yw\u2019r llog benthyciad yn agored i dreth gorfforaethol y\ncwmni <em>hwn \u2013 <\/em>caiff ei dynnu o\u2019r elw\nymlaen llaw \u2013 gallai fod yn decach\/yn fwy niwtral o ran treth i drosi pob rhan\no\u2019r benthyciad sy\u2019n ennill 80c o log yn un gyfran, gan fod \u00a31 o elw cyn treth x\n0.8 = \u00a30.8 o elw wedi treth, sef yr hyn sydd gan bob cyfran yn y pen draw mewn\ngwirionedd. Felly byddai hynny\u2019n un gyfran yn cael ei chyfnewid am bob\n\u00a30.8\/0.07 = \u00a311.40 o fenthyciad; \u00a311.40 x 7% = 80c).<\/li><li>Nid oes angen ad-dalu\u2019r ddyled mwyach. Gallai\u2019r\ncyfrannau newydd fod yn atbrynadwy, yn \u00f4l dewis y cwmni, am bris teg fel y\ntrafodwyd uchod, ar \u00f4l nifer penodol o flynyddoedd er mwyn cynnig mecanwaith\nymadael i gwmn\u00efau.<\/li><li>Yn lle baich llog sefydlog, mae\u2019r cyfrannau newydd yn\ntalu difidend yn \u00f4l y fformiwla rhannu gwerth ychwanegol y cytunwyd arni ac a amlinellwyd\nuchod: bydd yn uwch mewn blynyddoedd da, ni fydd dim mewn blynyddoedd gwael.<\/li><li>Byddai angen rhai newidiadau i\u2019r gyfraith, er\nenghraifft, er mwyn sicrhau na fyddai cyfrannau a ddyroddwyd o dan y cynllun\nhwn yn gwneud niwed i\u2019r gofyniad buddiant llywodraethol sy\u2019n berthnasol i\nymddiriedolaeth perchnogaeth gan weithwyr. Fel arall yn \u00f4l y gofyniad hwn, yn\nbenodol, rhaid i ymddiriedolwr ymddiriedolaeth o\u2019r fath ddal mwy na 50% o\ngyfalaf cyfrannau cyffredin cwmni ac mae ganddo hawl i dros 50% o\u2019r elw sydd ar\ngael i\u2019w ddosbarthu.<a href=\"#_ftn3\">[3]<\/a><\/li><\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ceir rhagor o gefndir, manylion, cyfeiriadau, diagramau ac enghreifftiau wedi\u2019u gweithio mewn erthygl a adolygwyd gan gymheiriaid, Major G. a Preminger J. (2019) \u201c<a href=\"https:\/\/www.emerald.com\/insight\/content\/doi\/10.1108\/JPEO-01-2019-0001\/full\/html\">Overcoming the capital investment hurdle in worker-controlled firms<\/a>\u201d, <em>Journal&nbsp;of Employee Ownership and Participation, <\/em>Cyf. 2 (Rhif 2), tt. 133-150 (mynediad agored).<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\" \/>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#_ftnref1\">[1]<\/a> Mae\nenghreifftiau adnabyddus, llwyddiannus o gwmn\u00efau sy\u2019n eiddo i\u2019w gweithwyr\n(employee-owned (EO)) yn cynnwys John Lewis a Waitrose, Riverford Organic\nFarmers, Aardman (gwneuthurwyr Wallace a Gromit), Richer Sounds (hi-fi), Dulas\n(ynni gwyrdd, ym Machynlleth), Aber\nInstruments (bragu a biotechnoleg, yn Aberystwyth), Lush (10% EO) a Mooncup.\nMae tua 370 (gydag o leiaf 25% EO) o gwmn\u00efau sy\u2019n eiddo i\u2019w gweithwyr yn y DU,\nsy\u2019n cyfrif am \u00a330bn o\u2019r economi (gweler <a href=\"http:\/\/www.employeeownership.co.uk\">employeeownership.co.uk<\/a>), ynghyd \u00e2\nnifer sylweddol o gwmn\u00efau cydweithredol gweithwyr (e.e. gweler <a href=\"http:\/\/www.wales.coop\">wales.coop<\/a>).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#_ftnref2\">[2]<\/a> Mae hyn yn ddigon agos i\u2019r gyfradd gyfredol o 19% i lawer o gwmn\u00efau: rydym yn cadw\u2019r rhifau\u2019n syml er mwyn dangos enghraifft.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#_ftnref3\">[3]<\/a> Gweler: &#8220;<a href=\"https:\/\/www.google.com\/url?sa=t&amp;rct=j&amp;q=&amp;esrc=s&amp;source=web&amp;cd=2&amp;ved=2ahUKEwjonb3q9ZLpAhVdUBUIHfECDD8QFjABegQIAhAB&amp;url=https%3A%2F%2Fwww.fieldfisher.com%2Fmedia%2F2554281%2FNeat-EO.pdf&amp;usg=AOvVaw1F-drIZxd6OJ806OylCORE\">Neat \u2013 Graeme Nuttall OBE sees employee ownership trust as the perfect succession solution<\/a>&#8221; (Medi 2014) <em>Trusts &amp; Estates Law &amp; Tax Journal <\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein darn diweddaraf, mae Dr Jonathan Preminger o Ysgol Busnes Caerdydd, Dr Guy Major o Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a Jenny Rathbone Aelod Llafur Cymru y Senedd ar [&hellip;]","protected":false},"author":1654,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1437],"tags":[1447,1443,68,1365,1441,1445,1446,1444,1442,951,1440,457,1438,135,70,1439,1370,105,61,988],"class_list":["post-2034","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-covid-19-3","tag-argyfwng","tag-ariannu","tag-busnes","tag-coronafeirws","tag-cydweithredol","tag-cyfalaf","tag-cyfrannau","tag-cyllid","tag-difidend","tag-du","tag-dyled","tag-economi","tag-ecwiti","tag-entrepreneuriaeth","tag-gwaith","tag-llywodraeth","tag-pandemig","tag-prifysgol-caerdydd","tag-ysgol-busnes-caerdydd","tag-ysgol-y-biowyddorau"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-wO","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2034","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1654"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2034"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2034\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2057,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2034\/revisions\/2057"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2034"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2034"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2034"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}