{"id":2023,"date":"2020-05-11T10:38:47","date_gmt":"2020-05-11T09:38:47","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=2023"},"modified":"2020-05-11T11:06:57","modified_gmt":"2020-05-11T10:06:57","slug":"sut-olwg-fydd-ar-economi-gwlad-pwyl-ar-ol-pandemig-covid-19","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/sut-olwg-fydd-ar-economi-gwlad-pwyl-ar-ol-pandemig-covid-19\/","title":{"rendered":"Sut olwg fydd ar economi Gwlad Pwyl ar \u00f4l pandemig COVID-19?"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2003\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae\u2019r Dr Wojtek Paczos, macroegonomegydd a darlithydd yn Ysgol Busnes Caerdydd, a\u2019r Dr Pawel Bukowski, ymchwilydd a darlithydd yn y Ganolfan Perfformiad Economaidd yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddol Llundain, yn amlinellu eu cynllun achub pedwar cam i achub economi Gwlad Pwyl yn dilyn pandemig COVID-19. <\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd effaith y cyfyngiadau presennol yn debyg i\u2019r argyfyngau economaidd\nmwyaf mewn hanes. Mae datblygiad pellach Gwlad Pwyl yn yr hirdymor yn dibynnu\nfwy nag erioed ar ymatebion polisi economaidd. Mae angen gweithredu\u2019n gyflym,\nyn eofn ac yn hael, oherwydd bod pob diwrnod nesaf yn dod \u00e2 cholledion nad oes\nmodd eu dadwneud. Rydym ni\u2019n cynnig cynllun achub pedwar cam.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y ffordd orau o ddeall yr argyfwng economaidd sy\u2019n deillio o\u2019r epidemig\nyw trwy ei rannu\u2019n bedwar cam: segura, ailgychwyn, adfer a normalrwydd newydd.\nYm mhob cam, mae bygythiadau i\u2019r economi yn wahanol ac mae gan bolisi\neconomaidd dasg wahanol i\u2019w chyflawni. Mae\u2019n hanfodol i lwyddiant y cynllun ei\nfod yn cael ei weithredu\u2019n gyson ac yn llawn o\u2019r dechrau\u2019n deg: bydd llwyddiant\nyn bosibl ym mhob cam dim ond os bydd y cam blaenorol yn llwyddiannus a bod yr\nasiantiaid economaidd yn gwybod beth i\u2019w ddisgwyl yn y cam nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cam 1: Segura (1-3 mis)<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2005\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Working-from-home-during-virus-outbreak.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar hyn o bryd, rydym yng ngham cyntaf argyfwng pandemig. Yn ystod y\ncyfnod hwn, er mwyn achub bywyd ac iechyd pobl, mae\u2019r llywodraeth yn cau rhai\nsectorau o\u2019r economi ac yn cyflwyno cyfyngiadau ar symudiadau pobl. Mae\u2019n\nachosi dirwasgiad. Mae natur unigryw\u2019r dirwasgiad hwn yn gorwedd yn y ffaith ei\nfod yn anochel ac yn bwrpasol, oherwydd dyma\u2019r unig ddull cynhwysfawr sydd ar\ngael o amddiffyn iechyd. Bydd hyd y cam segura yn dibynnu ar ddatblygiad y\npandemig a\u2019r sefyllfa yn y system gofal iechyd, ond ni ddylai fod yn hwy na thri\nmis.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae data rhagarweiniol a\u2019n hamcangyfrifon yn dangos bod treuliant\naelwydydd yn gostwng 30% ar gyfartaledd am bob wythnos o segura. Amcangyfrifwn\nfod bron i chwarter o\u2019r dirywiad hwn yn cael ei ohirio, caiff y gweddill ei\ngolli am byth. Po hiraf y cyfnod segura, yr uchaf fydd y canran sy\u2019n cael ei\ngolli. Mae treuliant yn cyfrif am 75 y cant o Gynnyrch Domestig Gros (GDP),\nfelly nid yw colledion \u201cmecanyddol\u201d o segura misol yn llai nag 1.4 y cant o\u2019r\nGDP blynyddol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Po hiraf yw\u2019r cyfnod segura, y mwyaf fydd y colledion &#8211; yn ogystal \u00e2\u2019r\ncydgrynhoi arferol, bydd effeithiau ychwanegol yn gysylltiedig ag ansicrwydd\na\u2019r angen i arbed ar y naill law ac, ar y llaw arall yr effaith domino\n(colledion mewn diwydiannau dilynol), yn ogystal \u00e2 methdalu a diweithdra. Yn achos\ntri mis o segura, gall colledion gyrraedd hyd at 10 y cant o GDP Gwlad Pwyl yn\n2020.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw rhesymeg y strategaeth glasurol, sef ysgogi galw, yn berthnasol\nyma, oherwydd ni all pobl fynd yn gorfforol i\u2019r gwaith, i fwytai, i\u2019r sinema\nnac ar deithiau, felly mae llawer o sectorau economaidd pwysig (gwasanaethau,\nadloniant, twristiaeth, rhan o\u2019r diwydiant) wedi rhewi mewn gwirionedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae angen pwysleisio un peth: bydd cyflogeion a pherchenogion busnes\nsydd wedi ffynnu a chydweithredu dros y blynyddoedd diwethaf ar ymyl diben\ndiweithdra a methdalu am resymau sy\u2019n gyfan gwbl y tu hwnt i\u2019w rheolaeth. Hyd\nyn oed ar \u00f4l diwedd yr epidemig, ni fydd yr economi yn mynd yn \u00f4l i normal, gan\nnad yw\u2019n hawdd ailadeiladu ar \u00f4l colli cysylltiadau busnes, profiad gwaith neu\ngwsmeriaid.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dau gyfrifoldeb gan y wladwriaeth yn y cam hwn. Yn gyntaf oll &#8211;\ndarparu cyllid diddiwedd bron i amddiffyn iechyd. Yn ail &#8211; cysylltu\u2019r economi \u00e2\ntherapi mewnwythiennol cyllidol ac ariannol a segura gweithgarwch a\nchysylltiadau economaidd. Dylai hyn ganiat\u00e1u i\u2019r economi roi ei hun ar ben\nffordd eto ar \u00f4l i\u2019r pandemig ddiflannu. Mae dyletswydd ar y wladwriaeth i\nsicrhau incwm i ddinasyddion a mentrau sydd mewn adfyd, ar yr amod bod\ncyflogaeth yn cael ei gynnal &#8211; fel y gall cwmn\u00efau barhau i dalu\u2019u cyflogeion\na\u2019u his-gontractwyr am ddeunyddiau, rhent neu drydan. Mae\u2019r ateb presennol,\ngyda\u2019r llywodraeth yn ymgymryd \u00e2 40 y cant yn unig o gyflog gweithiwr ac yn\ngohirio rhai ymrwymiadau cymdeithasol yn unig yn gamgymeriad dybryd. Ni fydd\nmentrau heb incwm o gwbl o ganlyniad i segura yn gallu talu\u2019r gweddill a bydd\nyn rhaid iddynt ddiswyddo pobl neu wynebu mynd i\u2019r wal.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Amcangyfrifwn fod y costau ychwanegol mewn gofal iechyd tua 0.5 y cant\no\u2019r GDP blynyddol, ac na ddylai\u2019r achubiaeth economaidd &#8211; yn dibynnu ar y\ndatrysiadau penodol a fabwysiadir a hyd y segura &#8211; fod yn llai na 5 y cant o\u2019r\nGDP blynyddol er mwyn iddo weithio. Mae cyfanswm y cyllid sydd yn yr arfaeth i\nachub yr economi yn yr \u201camddiffyniad gwrthargyfwng\u201d a fabwysiadwyd gan y\nllywodraeth oddeutu 1.4 y cant o GDP 2020; yn sicr, nid yw hyn yn ddigon.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym ni\u2019n delio \u00e2 sefyllfa sy\u2019n newydd, felly yn y cam hwn, ni fydd\npolisi economaidd heb ei gamgymeriadau. Fodd bynnag, mae\u2019n well bod yn anghywir\na gwario gormod, na pheidio \u00e2 gwario digon ac arwain at don o fethdaliadau a\ndiweithdra. Felly, mae cysylltu\u2019r economi ag achubiaeth gyllidol ac ariannol yn\nfuddsoddiad a fydd yn galluogi\u2019r llywodraeth i ddeffro\u2019r economi yn haws ar \u00f4l\ni\u2019r don fwyaf o salwch fynd heibio. Bydd dyfodiad ton o fethdaliadau a chynnydd\nmewn diweithdra yn arwydd bod y cyfnod segura wedi methu ac y bydd colledion\neconomaidd yn rhai hirdymor a mwy nag y mae ein cyfrifiadau yn eu rhagdybio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Amcangyfrifwn fod uchafswm posibiliadau benthyciadau\u2019r wladwriaeth yn\n8-10 y cant o\u2019r GDP yn 2020. Byddai gwneud y mwyaf o hynny yn cynnal achubiaeth\nyr economi segur am ryw dri mis. Yn anffodus, os bydd y pandemig yn para\u2019n hwy,\nni ellir segura\u2019r economi. Yna, bydd yn rhaid i\u2019r wladwriaeth ddatgysylltu\u2019r\nachubiaeth economaidd, a chaiff gweddill y cyllid sydd ar gael ei ailgyfeirio\u2019n\nawtomatig at ddinasyddion er mwyn achub eu hiechyd a\u2019u bywyd. Rydym oll yn\ngobeithio na fydd hyn yn digwydd, ond cyfrifoldeb ar y llywodraeth yw sicrhau\nbod ganddi gynllun ar gyfer hyn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cam 2: Ailgychwyn (3-6 mis)<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2007\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Worker-and-laptop-augmentation.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os bydd y segura wedi bod yn llwyddiannus, byddwn yn symud ymlaen i ail\ngam yr argyfwng &#8211; ailgychwyn. Rydym yn disgwyl iddo bara ail hanner y flwyddyn\nhon. Bydd posibiliadau cyllidol y wladwriaeth eisoes yn gyfyngedig, felly bydd\nangen newid mewn strategaeth. Yn hytrach na chadw\u2019r economi yn segur, dylid dod\n\u00e2\u2019r economi\u2019n \u00f4l yn fyw yn raddol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y cam hwn, bydd profi torfol y boblogaeth gyfan yn allweddol er mwyn\ngwahanu unigolion sy\u2019n s\u00e2l, a\u2019u haelwydydd, fel bod y bobl iach yn gallu\ndychwelyd i\u2019r gwaith yn ddiogel a dechrau bywyd gweddol normal. Os oedd y\nsegura\u2019n llwyddiannus, yna dylai cwmn\u00efau ailafael yn eu gwaith mor gyflym \u00e2\nphosibl a dylai gweithwyr iach ddychwelyd i\u2019w swyddi blaenorol. Yn y cam\nailgychwyn, dim ond rhan iach a gwrthiannol y boblogaeth fydd yn mynd yn \u00f4l i\nnormal, bydd y gweddill yn segura ymhellach. Mae hyn y golygu y bydd busnes yn\nailafael yn ei dro.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r her i bolisi economaidd bellach yn gwbl newydd ac nid yw\u2019r un\neconomi erioed wedi delio \u00e2 hyn o\u2019r blaen &#8211; sut mae sicrhau cyfiawnder yn y cam\nhwn? Bydd y cwmn\u00efau hynny sy\u2019n ddigon ffodus bod ganddynt weithwyr iach yn \u00f4l\nwrth eu gwaith yn gynt ac yn cymryd elw cwmn\u00efau anffodus. Bydd y rhai sydd wedi\ncael profion ar gyfer feirws yn dechrau ennill yn gynt na\u2019r rhai sy\u2019n aros eu\ntro am brawf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal, bydd angen i chi gadw\u2019r rhan o\u2019r economi na fydd yn gallu\ndihuno\u2019n hawdd o\u2019i segurdod yn fyw mewn ffordd artiffisial. Er enghraifft, bydd\nangen cymorth bywyd ar dwristiaeth am amser hir. Ateb posibl fyddai\nailddosbarthu mewn undod gan y rhai a ddaeth drwy\u2019r cam cyntaf yn ddianaf i\u2019r\nrhai a fydd yn parhau i ddioddef.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cynigiwn fod yr anghydraddoldebau sydyn ac uchel posibl hyn yn cael eu\ngwastat\u00e1u trwy ailddosbarthu dros dro. Ni fydd yr elw a\u2019r enillion anghyfartal\nnewydd hyn yn y cam ailgychwyn yn deillio o gynhyrchiant nac o ddyfeisgarwch,\nond o le anffodus yn y ciw am brofion. Fodd bynnag, nid oes gennym offeryn\nailddosbarthu parod, pwrpasol. Rydym yn annog y llywodraeth ac economegwyr i\nymateb i\u2019r her hon trwy drafodaeth gyhoeddus a pholisi economaidd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cam 3: Adfer (1-2 flynedd) <\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2009\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Spring-arrow-pointing-upwards.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ailgychwyn yr economi gyfan yn llwyddiannus yn hebrwng y pontio i\u2019r\ntrydydd cam, a\u2019r cam hiraf yn \u00f4l pob tebyg &#8211; adlamu a dal i fyny. Yn y cam hwn,\nni fydd ar gyflenwi angen cymorth y wladwriaeth mwyach a bydd y farchnad yn\ngofalu am hynny. Yna, rhaid i bolisi economaidd y wlad droi at gefnogi meysydd\nlle y mae llai o alw. Bydd y cyfnod mewn cwrant\u00een yn gostwng ein cynilion a\nbydd llawer o bobl yn mynd i ddyled. Yn ystod y cyfnod adfer, bydd ein\ntreuliant yn lleihau, byddwn yn ailgronni cynilion a byddwn yn talu dyledion.\nYn ogystal, bydd y profiad segura yn ein gwneud ni\u2019n fwy gofalus &#8211; bydd\nansicrwydd yn achosi i lawer ohonom ni roi\u2019r gorau i rai treuliau, \u201crhag ofn\u201d.\nPe na bai segura yn dod i ben yn hollol llwyddiannus, bydd diweithdra, colli\nenillion a diffyg credyd yn rhwystrau mawr rhag hybu galw. Ni fydd defnyddwyr\nyn adennill y rhan fwyaf o golledion treuliant yn ystod cwrant\u00een &#8211; ni fyddwn yn\nbwyta tri chinio\u2019r dydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y cam hwn, mae gwerslyfrau\u2019n mynnu bod dulliau a gymerwyd o theori\neconomaidd ac a brofwyd yn ystod dirwasgiadau blaenorol (a yrrwyd gan alw) yn\ncael eu defnyddio: trosglwyddiadau arian i ddinasyddion, gan gynyddu\u2019u hincwm\ngwario, ynghyd \u00e2 chyfraddau llog isel a bwydo arian i\u2019r economi, gan wella\nargaeledd credyd a lleihau ansicrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae trethiant yn bwnc dadleuol iawn y dyddiau hyn. Ar y naill law, mae\ncodi trethi incwm a threuliant mewn cyfnod o ddirwasgiad yn gallu bod yn\nwrthgynhyrchiol, gan ei fod yn lleihau galw a thuedd i fuddsoddi. Ar y llaw\narall, rhaid i\u2019r wladwriaeth ddechrau ad-dalu\u2019r ddyled sydd wedi cronni yn\nystod cyfnodau tywyllaf yr argyfwng.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai mai\u2019r ateb yw cyflwyno treth gynyddol ar eiddo, wedi\u2019i chodi ar\ny Pwyliaid cyfoethocaf (e.e. yr 1 y cant uchaf). Mae dwy fantais i\u2019r ateb hwn &#8211;\nyn gyntaf, mae asedau miliwnyddion yn bennaf ar ffurf asedau ariannol hawdd eu\ntrafod. Yn ail, caiff treth o\u2019r fath ei chodi ar ffynonellau incwm blaenorol\n(wedi\u2019u cronni ar ffurf cyfoeth), ac nid yw\u2019n effeithio ar incwm presennol ac incwm\nyn y dyfodol. Felly, nid yw\u2019n cael effaith niweidiol ar waith, treuliant na\nbuddsoddiad. Mae cynsail ar gyfer menter gyllidol o\u2019r fath. Ym 1923, cyflwynodd\ncenedl ifanc Gwlad Pwyl dreth gynyddol ar gyfoeth i helpu economi ddrylliedig\nGwlad Pwyl ar \u00f4l blynyddoedd o ryfela.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd cymorth llwyddiannus ar gyfer galw yn arwain at fwy o weithgarwch\neconomaidd (llai o ddiweithdra, mwy o gynhyrchiant a threuliant), ond\nsg\u00eel-effaith hynny fydd prisiau uwch, h.y. cynnydd mewn chwyddiant. Os na fydd\nchwyddiant yn ymddangos yn y cam hwn, bydd yn golygu bod galw yn aneffeithiol o\nhyd a bod yr adfer wedi methu &#8211; gallai\u2019r polisi economaidd fod wedi gwneud mwy.\nHer y cam hwn fydd cynnal polisi ariannol o\u2019r fath i sicrhau\u2019r cynnydd mwyaf\nmewn gweithgarwch economaidd gyda chynnydd cyfyngedig ond anochel mewn\nchwyddiant. Bydd yn anodd iawn, ond nid yn amhosibl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y cam adfer, mae dau fygythiad mawr yn taflu cysgod dros bolisi\neconomaidd. Y cyntaf yw y bydd ariannu\u2019r ddyled gyhoeddus yn gwthio buddsoddiad\no\u2019r farchnad. Os bydd banciau\u2019n ariannu anghenion benthyca\u2019r llywodraeth trwy\natal credyd i\u2019r economi, yna yn hytrach nag adfer, byddwn yn gweld dirwasgiad\nsy\u2019n dwys\u00e1u. I osgoi\u2019r bygythiad hwn, bydd hi\u2019n hanfodol bwydo mwy o arian i\u2019r\neconomi trwy ddulliau priodol, ynghyd \u00e2 lefel uchel o dryloywder, cyfleu nodau\na dulliau yn glir, a sicrhau bod polisi cyllidol ac ariannol yn cydweithredu.\nYr ail fygythiad yw dyfodiad chwyddiant uchel heb y cynnydd cyfatebol mewn\ngweithgarwch economaidd. Yma eto, mae gan Fanc Canolog Gwlad Pwyl ran ganolog\ni\u2019w chwarae &#8211; trwy addo\u2019n gredadwy i lwybr cyfraddau llog yn y dyfodol\n(blaen-gyfarwyddyd), gall gyfyngu ar y disgwyliadau sy\u2019n codi o ran chwyddiant.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cam 4: Normalrwydd newydd<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2011\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-in-a-box-marked-fragile.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os bydd camau segura, ailgychwyn ac adfer yn llwyddiannus, yna ymhen\nblwyddyn neu ddwy, byddwn yn dod allan o\u2019r argyfwng, bydd diweithdra yn\ngostwng, bydd twf economaidd yn ailymddangos ac aiff bywyd yn \u00f4l i normal.\nByddwn yn cyrraedd cam olaf ac, yn \u00f4l pob tebyg, cam anoddaf yr argyfwng &#8211; dod\ni gasgliadau a diwygio\u2019r system economaidd. Mae\u2019r sefyllfa bresennol yn amlygu\nllawer o\u2019r agweddau amherffaith ar y system bresennol &#8211; yn enwedig o ran\namddiffyn iechyd yn wael, trethi annheg, marchnad lafur rhy hyblyg, ac erydu\nrheol y gyfraith a sefydliadau annibynnol. Yn hytrach na thwf syml, dylai\ndiwygiadau newydd anelu at wella gallu\u2019r economi i wrthsefyll risg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y wers gyntaf y dylem ei dysgu o\u2019r diwedd yw y dylid trin gwariant ar\nofal iechyd fel buddsoddiad nid yn unig mewn bywyd ac iechyd, ond yn yr economi\nhefyd. Ni fyddai segura\u2019r economi a\u2019r costau enfawr sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 hynny\nyn angenrheidiol pe bai gan Wlad Pwyl (ac nid yn unig Gwlad Pwyl) nifer fwy o\nlawer o leoedd mewn ysbytai clefydau heintus a\u2019r posibilrwydd o brofi torfol a\nchyflym mewn ardaloedd \u00e2\u2019r haint. Mae\u2019r argyfwng wedi amlygu i ni fod nyrsys a\nmeddygon yn alwedigaethau llawer mwy allweddol i\u2019r economi na masnachwr arian\ncyfred, er enghraifft, ond telir llai o lawer iddynt. Rhaid dweud yn syml: mae\ndiffyg buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd yn achosi colled economaidd\ndisynnwyr, sy\u2019n gostwng lles cymdeithas yn ei chyfanrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel y mae enghraifft yr Unol Daleithiau yn ei dangos, nid preifateiddio\nyw\u2019r ateb, oherwydd pwrpas mentrau preifat yw elw, nid dileu risgiau systemig &#8211;\nni fydd cymhelliant gan ysbytai preifat i gadw cyflenwad o leoedd mewn ysbyty\no\u2019r naill du ar gyfer diwrnod glawog.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ail, yn y normalrwydd newydd, mae angen cynnydd radical arnom yn\nnatblygiad treth. Bydd y ddyled sydd ar ddod yn ystod y cyfnod adfer yn cael ei\nhariannu yn rhannol trwy chwyddiant, sydd yn dreth atchwel mewn gwirionedd. Mae\nhyn oherwydd ei fod yn taro\u2019r bobl hynny yn bennaf y mae eu cyflog yn eithaf\ntynn (e.e. gweithwyr sy\u2019n gorfod cyllidebu) ac y mae eu hasedau yn bennaf ar\nffurf cyfrif cynilion. Oherwydd bod pobl o\u2019r fath o\u2019r rhengoedd cymdeithasol\ncanol neu is fel arfer, bydd chwyddiant yn effeithio ar nifer gymharol fwy o\nbobl dlawd na phobl gyfoethog. Mae gan bobl gyfoethog lawer mwy o bosibilrwydd\no aildrafod eu cyflog, ac mae eu hasedau yn bennaf ar ffurf eiddo ac asedau\nariannol cymhleth (sy\u2019n cael eu hamddiffyn rhag chwyddiant yn well nag arian yn\ny banc).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn golygu y bydd yr argyfwng presennol yn cynyddu\nanghydraddoldebau economaidd sydd eisoes yn fawr iawn yng Ngwlad Pwyl. I adfer\ncyfiawnder cymdeithasol, rhaid i ni ysgafnhau\u2019r baich ar Bwyliaid isel a\nchanolig eu hincwm yn y dyfodol trwy drethu incwm a chyfoeth y bobl\ngyfoethocaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal \u00e2\u2019r dreth ddatblygiadol arfaethedig ar eiddo i filiwnyddion\nGwlad Pwyl, mae angen ailsaern\u00efo treth incwm yn drylwyr. Ar hyn o bryd (fel y\nmae ymchwil y Weinyddiaeth Gyllid yn ei ddangos), treth atchwel sydd gan Wlad\nPwyl, h.y. mae pobl dlawd yn talu mwy yn gymharol na phobl gyfoethog.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn drydydd, dylem reoleiddio mathau anhraddodiadol o waith a gwella\u2019r\nffordd y mae\u2019r Arolygiaeth Gwaith Genedlaethol yn gweithio yn sylweddol.\nGwyddom o ymchwil fod mwy o amrywiadau cylchol yn nodweddu marchnad lafur\nhyblyg &#8211; mwy o waith yn ystod cyfnodau ffyniannus, ond mwy o ddiweithdra yn\nystod y dirwasgiad na\u2019r farchnad wedi\u2019i rheoleiddio. Hefyd, mae astudiaethau\u2019n\ndangos bod effeithiau diweithdra yn barhaol &#8211; nid yw\u2019r rhan fwyaf o\u2019r bobl sy\u2019n\ncolli\u2019u gwaith fyth yn adennill y cyflog a gollwyd. Gwyddom yn ogystal o\nastudiaethau nad yw\u2019r farchnad lafur ddeuol yn gwella dangosyddion GDP o gwbl.\nI\u2019r gwrthwyneb. Mae astudiaethau empirig yn dangos, er enghraifft, bod cyfradd\ny twf mewn cynhyrchiant yn Sbaen wedi arafu o ganlyniad i gyflwyno mathau\nhyblyg o gyflogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae symud rhag gwthio gweithwyr i fathau hyblyg o gyflogaeth, sydd \u00e2\nrisgiau hefyd, yn anghenraid hanesyddol &#8211; er mwyn i economi Gwlad Pwyl\nddatblygu ar gyflymder mwy cyfartal ac i ddileu\u2019r risg systemig awtomatig sydd\nwedi\u2019i gwreiddio ynddi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni ellir adeiladu normalrwydd newydd heb ddysgu\u2019r bedwaredd wers &#8211;\nailadeiladu rheol y gyfraith a sefydliadau cadarn. Yr epidemig a\u2019r argyfwng hwn\nyw\u2019r prawf mwyaf i Wlad Pwyl ers cwymp comiwnyddiaeth. Gallwn lwyddo yn y\nprawf: tynnu casgliadau doeth ohono a thrwsio\u2019r hyn sy\u2019n gweithio\u2019n wael, neu\nnad yw\u2019n gweithio o gwbl. Ni fydd hynny\u2019n hawdd. Bydd angen sawl cam er mwyn\ncyrraedd normalrwydd newydd. Gall gymryd sawl blwyddyn ac ni fydd heb aberthau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond mae ail senario hefyd. Gwyddom o theori economaidd fod angen\nsefydliadau cadarn er mwyn adeiladu ffyniant ac amddiffyn rhyddid dinasyddion.\nGwyddom hefyd fod argyfwng o\u2019r fath bob amser yn demtasiwn mawr i\u2019r awdurdodau.\nMae sefydliadau gwan a themtasiwn grym yn gyfuniad angheuol. Os bydd yn\nffrwydro, daw twf i ben, ni fyddwn yn adeiladu ffyniant, a theimlwn\neffeithiau\u2019r argyfwng am flynyddoedd neu ddegawdau i ddod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/609589-paczos-wojtek\"><strong>Dr Wojtek Paczos<\/strong><\/a><strong> yn facroeconomegydd a darlithydd yn Ysgol\nBusnes Caerdydd ac yn <\/strong><a href=\"http:\/\/inepan.pl\/en\/\"><strong>Sefydliad Gwyddorau Academaidd Academi Gwyddorau\nGwlad Pwyl<\/strong><\/a><strong>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/cep.lse.ac.uk\/_new\/staff\/person.asp?id=10291\"><strong>Dr Pawe\u0142 Bukowski<\/strong><\/a><strong> yn ymchwilydd a darlithydd yn y <\/strong><a href=\"http:\/\/cep.lse.ac.uk\/\"><strong>Ganolfan\nPerfformiad Economaidd, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain<\/strong><\/a><strong> ac yn Sefydliad Gwyddorau Academaidd Academi\nGwyddorau Gwlad Pwyl.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar <a href=\"https:\/\/wyborcza.pl\/7,173236,25880034,how-will-polish-economy-look-after-the-epidemic-economists.html\">Wyborcza.pl<\/a>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae\u2019r Dr Wojtek Paczos, macroegonomegydd a darlithydd yn Ysgol Busnes Caerdydd, a\u2019r Dr Pawel Bukowski, ymchwilydd a darlithydd yn y Ganolfan Perfformiad Economaidd yn Ysgol Economeg [&hellip;]","protected":false},"author":1820,"featured_media":2003,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1437],"tags":[1250,1452,1447,1459,1448,1461,1454,1470,1453,1365,1449,1009,1469,1465,1463,1466,1464,1440,457,1450,1460,751,1471,1439,1456,1457,1370,453,1462,1468,1467,1458,1451,61,1455],"class_list":["post-2023","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-3","tag-ailddosbarthu","tag-anghydraddoldeb","tag-argyfwng","tag-arolygiaeth-gwaith-genedlaethol","tag-asedau","tag-banc-canolog-gwlad-pwyl","tag-buddsoddiad","tag-cau","tag-chwyddiant","tag-coronafeirws","tag-credyd","tag-cymdeithas","tag-cynilion","tag-cynllun-achub","tag-dirwasgiad","tag-diweithdra","tag-diwygio","tag-dyled","tag-economi","tag-gofal-iechyd","tag-gwlad-pwyl","tag-llafur","tag-lles","tag-llywodraeth","tag-marchnad","tag-marchnad-lafur","tag-pandemig","tag-polisi","tag-preifateiddio","tag-risg","tag-treth","tag-weinyddiaeth-gyllid","tag-ysbyty","tag-ysgol-busnes-caerdydd","tag-ysgol-economeg-a-gwyddor-gwleidyddol-llundain"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-wD","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/05\/Planet-being-attacked-by-virus.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2023","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1820"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2023"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2023\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2040,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2023\/revisions\/2040"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2003"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2023"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2023"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2023"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}