{"id":1981,"date":"2020-03-31T10:36:28","date_gmt":"2020-03-31T09:36:28","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=1981"},"modified":"2020-03-31T10:36:32","modified_gmt":"2020-03-31T09:36:32","slug":"ydych-chin-gweithio-gartref-bydd-band-eang-a-systemau-di-wifr-y-deyrnas-unedig-yn-cael-eu-profi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/ydych-chin-gweithio-gartref-bydd-band-eang-a-systemau-di-wifr-y-deyrnas-unedig-yn-cael-eu-profi\/","title":{"rendered":"Ydych chi\u2019n gweithio gartref? Bydd band eang a systemau di-wifr y Deyrnas Unedig yn cael eu profi"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"687\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Six-illustrated-working-from-home-scenarios-1024x687.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1978\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Six-illustrated-working-from-home-scenarios-1024x687.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Six-illustrated-working-from-home-scenarios-504x338.jpg 504w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Six-illustrated-working-from-home-scenarios-300x201.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Six-illustrated-working-from-home-scenarios-768x515.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein postiad diweddaraf, mae Dr Dylan Henderson yn asesu gwydnwch seilwaith band eang y Deyrnas Unedig wrth i bobl baratoi i weithio gartref mewn ymgais i arafu ymledu\u2019r coronafeirws.\u00a0<em> <\/em><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cyhoeddiad llywodraeth y Deyrnas Unedig y dylai pobl weithio gartref\n\u201clle bynnag mae hynny\u2019n bosibl\u201d yn symud mwy o ffocws at gadernid rhwydwaith\nband eang y wlad a\u2019i allu i ymdopi \u00e2 defnydd cynyddol.&nbsp; Yn Sbaen, a gychwynnodd ar gyfnod 15-diwrnod\na mwy o gloi i lawr i\u2019r boblogaeth, <a href=\"https:\/\/www.ft.com\/content\/8fc92ec2-66c2-11ea-800d-da70cff6e4d3\">galwyd ar y<\/a> trigolion i\nleihau <a href=\"https:\/\/www.theolivepress.es\/spain-news\/2020\/03\/15\/fears-internet-and-social-media-could-collapse-in-spain-due-to-over-usage-during-coronavirus-lockdown-as-companies-ask-residents-to-ration-netflix-use\/\">defnydd o\u2019r\nrhyngrwyd<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ac wrth i fwy o bobl hunan-ynysu hefyd a throi at wasanaethau ar-lein, mae rhai wedi dechrau cwestiynu a all <a href=\"https:\/\/www.telegraph.co.uk\/news\/2020\/03\/09\/uk-broadband-wont-cope-millions-working-home-coronavirus-outbreak\/\">seilwaith band eang y Deyrnas Unedig, sy\u2019n \u201cheneiddio\u201d<\/a> ymdopi \u00e2 miliynau o bobl sy\u2019n mewngofnodi o\u2019u cartref.\u00a0 Er bod gweithredwyr band eang y Deyrnas Unedig yn dadlau bod gan y rhwydwaith ddigon o gapasiti i ymdopi \u00e2 chynnydd sydyn yn y galw, mae\u2019n aneglur a ddylai defnyddwyr cartref ddisgwyl i\u2019w gallu i gysylltu arafu.\u00a0 <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p> \u201cMae\u2019r pandemig coronafeirws yn debygol o gyflwyno heriau parhaus ar gyfer seilwaith band eang y genedl a\u2019r defnydd ohoni.\u201d  <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er na fydd pob gweithiwr yn gallu symud i\u2019w cartrefi, er enghraifft, <a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/687553\/The_characteristics_of_those_in_the_gig_economy.pdf\">gweithwyr yr\neconomi \u2018gig\u2019<\/a>, mae\u2019n debygol y bydd llawer mwy o bobl yn gwneud\nhynny yn y dyfodol agos.&nbsp; Mae cysylltedd\nband eang yn hanfodol ar gyfer llawer o weithwyr, gan ei fod yn eu galluogi i\ngael mynediad at wybodaeth a chydweithwyr o bell.&nbsp; Gall fod o gymorth hefyd i gadw mewn\ncysylltiad \u00e2 ffrindiau a pherthnasau a chael mynediad at siopa a gwasanaethau\neraill &#8211; y gall pob un ohonynt fod yn hanfodol mewn unrhyw gyfnod estynedig o\nweithio o\u2019r cartref neu hunan-ynysu.&nbsp; Yn\nhyn o beth, mae r\u00f4l band eang yn cynnal iechyd meddwl yn eglur. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall teuluoedd wynebu heriau ychwanegol cysylltiedig \u00e2 defnyddwyr\nniferus system ddi-wifr, yn enwedig os bydd ysgolion yn cau.&nbsp; Gall olygu bod angen i rieni gyfyngu ar amser\nsgr\u00een eu plant a\u2019u hannog i wneud eu gwaith cartref, yn ogystal ag uwchraddio\ncyflymder eu cysylltiad.&nbsp; Yn wir, un o\u2019r\nprif heriau sy\u2019n codi yn sgil mwy o weithio gartref yn y Deyrnas Unedig yw\nargaeledd band eang ffibr, cyflymdra uchel. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ffibr yn darparu cyflymdra uchel, dibynadwy, o gymharu \u00e2\nchysylltiadau h\u0177n weiren gopr fel <a href=\"https:\/\/www.uswitch.com\/broadband\/guides\/quick-guide-to-adsl\/\">ADSL<\/a>. Amcangyfrif\ndiweddar Ofcom, rheoleiddiwr y Deyrnas Unedig, oedd mai rhyw <a href=\"https:\/\/www.ofcom.org.uk\/about-ofcom\/latest\/media\/media-releases\/2019\/latest-uk-broadband-mobile-coverage-revealed\">3 miliwn o\ngartrefi (dim ond 10% o\u2019r holl gartrefi) sy\u2019n gallu cael mynediad i\ngysylltiadau ffibr<\/a> \u2013 ffigur sy\u2019n sylweddol is nag mewn gwledydd\neraill.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae band eang symudol yn cael ei ddefnyddio fwyfwy gan rai gweithwyr\nwrth iddyn nhw gael mynediad i becynnau yn y cwmwl fel Zoom, Google Hangouts, a\nMicrosoft Teams (sy\u2019n&nbsp;&nbsp; wynebu eu prawf\neu hun).&nbsp; Mae hon yn her weithredu\nbellach yn y Deyrnas Unedig, gan fod mynediad at 4G yn dibynnu ar ble rydych\nchi\u2019n byw.&nbsp; Awgrymodd <a href=\"https:\/\/www.ofcom.org.uk\/research-and-data\/multi-sector-research\/infrastructure-research\/connected-nations-2019\/main-report\">adroddiad Ofcom<\/a>fod gan 80% o\ngartrefi a busnesau yn y Deyrnas Unedig wasanaeth 4G o dan do, ac mae 5G\nbellach ar gael mewn mwy na 40 o drefi a dinasoedd yn y Deyrnas Unedig.&nbsp; Wrth gwrs, os na fydd gwasanaethau\u2019n ymdopi,\nbydd yn sefyllfa heriol iawn &#8211; fel y gwelwyd ar 17 Mawrth <a href=\"https:\/\/www.independent.co.uk\/life-style\/gadgets-and-tech\/news\/ee-o2-vodafone-down-tesco-mobile-network-call-failed-service-status-a9406066.html\">pan fethodd pum\nrhwydwaith<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hynny\u2019n golygu y gallai llawer o aelwydydd wynebu heriau posibl wrth\nddefnyddio fideo-gynadledda, mynediad i\u2019r cwmwl a thechnolegau digidol eraill\nsy\u2019n angenrheidiol ar gyfer gwaith.&nbsp; Yn\nein <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/superfast-broadband-project\/digital-maturity-survey\">gwaith ymchwil\nninnau yn Ysgol Busnes Caerdydd<\/a> fe ddarganfuon ni fod\nmynediad at fand eang a\u2019r defnydd ohono yn amrywio\u2019n sylweddol ar draws\nsectorau busnes, gyda\u2019r lefelau defnydd uchaf yn cael eu nodi yn y sectorau\ngwybodaeth a chyfathrebu a gwasanaethau proffesiynol, a\u2019r isaf ym meysydd\nadeiladu a llety a bwyd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er gwaethaf yr heriau hyn, a\u2019r ffaith y gwelir o bosib mai defnydd cynyddol oedd yn gyfrifol am y <a href=\"https:\/\/www.independent.co.uk\/life-style\/gadgets-and-tech\/news\/ee-o2-vodafone-down-tesco-mobile-network-call-failed-service-status-a9406066.html\">methiannau symudol a digidol diweddar,<\/a> mae darparwyr band eang yn dweud bod eu rhwydweithiau\u2019n ddigon cadarn i atal y rhyngrwyd rhag arafu yn y Deyrnas Unedig.\u00a0 Maen nhw\u2019n dadlau bod y rhwydwaith wedi cael ei lunio i ymdopi ag uchafbwyntiau defnydd gyda\u2019r hwyr wrth i bobl fewngofnodi i\u2019r cyfryngau cymdeithasol a fideo.\u00a0 Mae Openreach hefyd wedi honni bod defnydd busnes o fand eang a thechnolegau a alluogir yn galw am lefelau is o ehangder yn y band (trosglwyddo data) na chymwysiadau cymdeithasol nodweddiadol, a <a href=\"https:\/\/www.telegraph.co.uk\/news\/2020\/03\/09\/uk-broadband-wont-cope-millions-working-home-coronavirus-outbreak\/\">bod \u201cawgrymiadau \u2018na fydd y rhwydwaith yn ymdopi\u2019<\/a>yn anwybodus ac yn eitha anghyfrifol\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond mae ofnau ynghylch arafu yn golygu<a href=\"https:\/\/www.telegraph.co.uk\/technology\/2020\/03\/10\/will-remote-working-home-overload-britains-broadband-networks\/\">y bydd angen i ddarparwyr band eang roi blaenoriaeth i wydnwch<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cY gwir amdani yn y Deyrnas Unedig yw bod y 3 miliwn o aelwydydd a busnesau yr amcangyfrifir eu bod ar gysylltiadau copr h\u0177n yn debygol o wynebu\u2019r bygythiad mwyaf o ran cyflymdra band eang arafach a mynediad.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r cysylltiadau hyn yn gyffredinol yn llai cadarn ac yn debygol o ddioddef mwy o fethiannau.\u00a0 Mae dimensiwn gofodol i hyn hefyd &#8211; mae ein gwaith ymchwil yn nodi cyflymdra uwch i fand eang a defnydd o dechnoleg ddigidol mewn ardaloedd trefol, yn hytrach na rhai gwledig, sy\u2019n awgrym pellach o heriau annog llawer o bobl i weithio o bell o\u2019u cartrefi mewn gwahanol ardaloedd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Codwyd pryderon ychwanegol y gallai gweithio gartref olygu mwy o risgiau\nseibr-ddiogelwch.&nbsp; Mae\u2019n hysbys ers\nmeitin bod cysylltiadau cartref yn fwy agored i hacio na rhwydweithiau\ncorfforaethol.&nbsp; Felly bydd angen i\nweithwyr o bell sicrhau bod eu patshys diogelwch wedi\u2019u diweddaru, a lle bo\nmodd, bod cysylltiadau \u00e2 rhwydweithiau busnes yn digwydd trwy dechnolegau\ndiogel megis <a href=\"https:\/\/www.dailymail.co.uk\/sciencetech\/article-8082441\/Cybersecurity-expert-warns-homeworking-risks-amid-coronavirus-outbreak.html\">rhwydweithiau\npreifat rhithwir<\/a>&nbsp;\u2013 yn arbennig wrth weithio gyda data sensitif.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er y gallai fod manteision sylweddol i gael mynediad at fand eang ar hyn\no bryd, mae cwestiynau\u2019n dal i fodoli ynghylch cadernid rhwydwaith band eang y\nDeyrnas Unedig, ei gwmpas daearyddol, a gallu gweithwyr i wneud defnydd llawn\no\u2019r technolegau digidol sy\u2019n angenrheidiol i weithio ar-lein.&nbsp; Ac er bod hon yn sefyllfa fythol newidiol,\nmae hyn i gyd yn amlygu pa mor bwysig yw hi bod llywodraeth y Deyrnas Unedig,\nyn y tymor hir, yn cyflawni\u2019r addewidion \u201coptimistaidd\u201d a wnaeth ynghylch band\neang yn yr etholiad, sef sicrhau bod gan \u201cbob cartref a busnes\u201d fynediad at\nwasanaeth \u201cffibr llawn gyda gallu gigabit\u201d erbyn diwedd 2025.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/609390-henderson-dylan\"><strong>Mae Dr Dylan Henderson<\/strong><\/a><strong>&nbsp;yn Gymrawd Ymchwil Uwch yn <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/research\/explore\/research-units\/welsh-economy-research-unit\"><strong>Uned Ymchwil Economi Cymru<\/strong><\/a><strong>&nbsp;yn Ysgol Busnes Caerdydd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar<\/em> <em><a href=\"https:\/\/theconversation.com\/working-from-home-the-uks-broadband-and-wifi-will-be-put-to-the-test-133875\">The Conversation UK<\/a>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein postiad diweddaraf, mae Dr Dylan Henderson yn asesu gwydnwch seilwaith band eang y Deyrnas Unedig wrth i bobl baratoi i weithio gartref mewn ymgais i arafu ymledu\u2019r coronafeirws.\u00a0 [&hellip;]","protected":false},"author":1677,"featured_media":1978,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[480],"tags":[1320,1363,68,1365,1364,1329,1367,1370,105,1362,1372,475,61],"class_list":["post-1981","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-economi-digidol-cy","tag-adsl","tag-band-eang","tag-busnes","tag-coronafeirws","tag-di-wifr","tag-gigabit","tag-gweithio-gartref","tag-pandemig","tag-prifysgol-caerdydd","tag-rhyngrwyd","tag-technolegau-digidol","tag-uned-ymchwil-economi-cymru","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-vX","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Six-illustrated-working-from-home-scenarios-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1981","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1677"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1981"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1981\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1984,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1981\/revisions\/1984"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1978"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1981"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1981"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1981"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}