{"id":1957,"date":"2020-03-25T11:44:29","date_gmt":"2020-03-25T10:44:29","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=1957"},"modified":"2020-03-25T13:45:15","modified_gmt":"2020-03-25T12:45:15","slug":"anabledd-syn-dechrau-beth-ywr-effeithiau-ar-les-unigolion-dros-amser","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/anabledd-syn-dechrau-beth-ywr-effeithiau-ar-les-unigolion-dros-amser\/","title":{"rendered":"Anabledd sy\u2019n dechrau: beth yw\u2019r effeithiau ar les unigolion dros amser?"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1947\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein post diweddaraf, mae John Poole yn cyflwyno ei ymchwil ddoethurol\nar effaith anabledd sy\u2019n dechrau ar les unigolion yn y DU.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pa mor fodlon ydych chi\u2019n teimlo ar fywyd ar raddfa o 0-10, gan ystyried popeth? <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/healthandsocialcare\/disability\/bulletins\/disabilitywellbeingandlonelinessuk\/2019\">data a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Rhagfyr 2019<\/a>, os gwnaethoch feddwl am rif yn uwch na 7.90, rydych chi\u2019n hapusach na\u2019r preswyliwr cyffredin yn y DU. Fodd bynnag, i bobl anabl, y lefel o hunan foddhad mewn bywyd cyfartalog i bobl anabl yw 6.68 yn unig allan o 10. Ymhellach, maen nhw\u2019n llai tebygol o deimlo bod bywyd yn werth chweil o\u2019u cymharu \u00e2 phobl nad oes ganddynt anabledd, ac maen nhw\u2019n byw gyda lefelau uwch o orbryder. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"546\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/ONS-data-Welsh-1024x546.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-1958\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/ONS-data-Welsh-1024x546.png 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/ONS-data-Welsh-600x320.png 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/ONS-data-Welsh-300x160.png 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/ONS-data-Welsh-768x409.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bylchau o ran lles<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er bod lles yn gyffredinol wedi datblygu dros yr ychydig flynyddoedd\ndiwethaf, mae pryder o hyd bod \u2018bwlch o ran lles anabledd\u2019 o hyd. <a href=\"\/www.itv.com\/news\/wales\/2020-03-04\/gender-pay-gap-is-as-high-as-25-in-parts-of-wales\/\">Mae adroddiadau yn y newyddion\nyn aml yn tynnu sylw at fylchau rhwng cyflogau amrywiol sy\u2019n bodoli yn y\ngymdeithas<\/a>\nond mae\u2019n syndod mai prin y telir sylw at \u201cfylchau o ran lles\u201d. Mae rhai\nacademyddion yn dadlau bod amcangyfrif y bylchau hyn yr un mor bwysig \u00e2 mesur\nnewidynnau mwy cyffredin a geir mewn llenyddiaeth economeg fel incwm, defnydd,\ncyflogaeth neu dwf economaidd. Enghraifft adnabyddus i gefnogi hyn yw Paradocs\nEasterlin (Easterlin, 1995) \u2013 y canfyddiad nad yw cynnydd yn incwm cenedlaethol\ngwlad yn trosi i les gwell.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai bod data&#8217;r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gwrth-ddweud y \u201cfelin\ndraed hedonig\u201d (Brickman a Campbell, 1971), y syniad ein bod ni bob amser yn\nmynd i ddychwelyd i lefel benodol o foddhad cyffredinol mewn bywyd, ni waeth pa\nddigwyddiadau bywyd cadarnhaol neu negyddol sy&#8217;n ein hamgylchynu ni. Mae cryn\ngefnogaeth wedi bod i\u2019r cysyniad mewn llenyddiaeth seicolegol (e.e. Frederick a\nLoewenstein, 1999; Diener et al.,1999). <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I&#8217;r gwrthwyneb, arferai economeg draddodiadol dybio bod digwyddiadau\nbywyd megis anabledd sy\u2019n dechrau yn cael effeithiau parhaol ar hapusrwydd trwy\nostwng cyfleoedd incwm a defnydd yn barhaol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r term \u2018anabledd sy\u2019n dechrau\u2019 yn cyfeirio at bobl oedran gwaith nad\noedd eisoes ag anabledd h.y. nid oedd ganddynt anabledd wrth gael eu geni neu\u2019n\ngynharach mewn bywyd, sydd wedi profi dechrau anabledd, yn fwyaf tebygol am y\ntro cyntaf, o bosibl o ddamwain neu o ganlyniad i glefyd dirywiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ymchwilwyr economeg yn ystod y degawd diwethaf wedi cymryd diddordeb\ncynyddol mewn lles ac addasu (e.e. Clark et al. 2008). Mae helpu i gau\u2019r bwlch\nrhwng y ddwy wyddor gymdeithasol yn ysgogiad mawr i&#8217;m traethawd PhD mewn\nEconomeg. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar y cyd \u00e2\u2019r <a href=\"https:\/\/esrc.ukri.org\/\">Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.disabilityrightsuk.org\/\">Disability Rights UK<\/a>, rwy\u2019n bwriadu cymhwyso modelau ystadegol i ddata arolwg cartrefi yn y DU i fesur effeithiau anabledd sy\u2019n dechrau ar les goddrychol, ar y dechrau yn ogystal \u00e2 thros y cyfnod ar \u00f4l iddo ddechrau, gan arsylwi faint o addasu sy&#8217;n digwydd, os o gwbl. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Disability Rights UK yn hyrwyddo cyfleoedd am waith a byw\u2019n\nannibynnol i bobl anabl ac yn dylanwadu ar agweddau pobl a\u2019u hymddygiadau tuag\nat anabledd. Bydd fy nhraethawd ymchwil yn cynnig tystiolaeth gyfredol\ngynrychioliadol genedlaethol i Disability Rights UK ar sut mae anabledd sy\u2019n\ndechrau ymhlith pobl o oedran gweithio yn effeithio ar les gwahanol grwpiau o\nbobl a&#8217;u teuluoedd fel y gallant lywio polisi cyhoeddus o ran ble fyddai\u2019r\nmannau mwyaf effeithiol i ddyrannu gwasanaethau cyllid a chymorth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Understanding Society<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cryfder mawr i\u2019r astudiaeth hon yw manteisio ar ffynhonnell gyfoethog o ddata panel o\u2019r enw <em><a href=\"https:\/\/www.understandingsociety.ac.uk\/\">Understanding Society<\/a>,<\/em> a ofynnodd i\u2019r un set o unigolion bob blwyddyn rhwng 2011 a 2018. Mae\u2019n cynnwys data ar nodweddion personol, cyfansoddiad teuluol, arferion o ran defnyddio, y defnydd o amser hamdden, sefyllfa ariannol, iechyd ac yn fwy pwysig, ar les a statws anabledd. Oherwydd natur hydredol y data, gallaf arsylwi ar y newidynnau uchod cyn i&#8217;r anabledd ddechrau, wrth ddechrau ac ar \u00f4l dechrau. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y traethawd ymchwil yn fy ngalluogi i ofyn cwestiynau amrywiol: a\nyw lles yn y pen draw yn dychwelyd i&#8217;r lefelau cychwynnol ar \u00f4l i&#8217;r anabledd\nddechrau, ac os felly, faint? A yw lefel yr addasu yn dibynnu ar oedran, hil,\nrhyw, statws priodasol, lefel addysg, incwm neu barhad a difrifoldeb yr\nanabledd? Faint o&#8217;r newid o ran lles sydd o ganlyniad i ganlyniadau posibl\nanabledd sy\u2019n dechrau, megis newidiadau mewn incwm, defnydd neu gyfansoddiad\nteuluol?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymhellach, rwyf am ofyn cwestiwn o sut mae anabledd sy\u2019n dechrau yn cael\neffaith ar briod a phlant pobl anabl. Mae llenyddiaeth economaidd wedi cysylltu\nanabledd sy\u2019n dechrau ag incwm llai yn y cartref (e.e. Stephens, 2001:\nSingleton, 2012), ac o\u2019r herwydd, tebygolrwydd uwch o anawsterau ariannol ac\namddifadedd materol. Mae hefyd wedi\u2019i gysylltu \u00e2 pherthnasoedd teuluol dan\nstraen a all arwain at wahanu ac ysgaru o bryd i\u2019w gilydd (Singleton, 2012).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar ben hynny, bydd archwilio&#8217;r effaith ar les plentyn pan fydd ei riant\nyn profi anabledd yn torri tir newydd gan nad yw&#8217;r berthynas hon wedi&#8217;i mesur\no&#8217;r blaen, hyd y gwn i, mewn llenyddiaeth economeg. Mae<em> Understanding Society <\/em>yn cynnwys data sy&#8217;n ymwneud \u00e2 bywyd cartref\ny plentyn a bywyd ysgol, megis ei gynnydd academaidd, p&#8217;un a yw&#8217;n cael ei\nfwlio, yn aflonyddgar yn y dosbarth, yn cyd-dynnu \u00e2&#8217;i frodyr a&#8217;i chwiorydd, yn\ncymryd rhan mewn hob\u00efau, yn derbyn cymorth gartref gyda materion emosiynol neu\nbroblemau yn yr ysgol ac a ydyn nhw\u2019n gofalu am riant. Felly, mae yna lawer o\nnewidynnau i geisio amcangyfrif beth sy&#8217;n gwneud plentyn yn hapus a sut mae\nanabledd sy\u2019n dechrau mewn rhiant yn effeithio ar hyn. Rwy&#8217;n gobeithio y bydd\nfy nhraethawd ymchwil yn taflu goleuni ar brofiad aelodau teulu&#8217;r anabl, y\ngellir anwybyddu eu lles fel arall.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf wedi cwblhau MSc mewn Economeg ym Mhrifysgol Abertawe, MRes yma yng\nNghaerdydd, ac rwyf newydd ddechrau ymgymryd \u00e2 cham ymchwil y PhD \u2013 rwy\u2019n anelu\nat ei gwblhau ym mis Mawrth 2022. Edrychaf ymlaen at rannu a thrafod fy\nnghanfyddiadau gyda Disability Rights UK.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hoffem wahodd unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb yn fy ngwaith ymchwil i <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1430496-poole-john\">gysylltu \u00e2 mi<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Caiff y prosiect hwn ei oruchwylio gan yr Athro Melanie Jones, yr Athro\nVictoria Wass a Dr Ezgi Kaya.&nbsp; <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwiserd.ac.uk%2Fnews%2Fhow-does-disability-affect-life-satisfaction&amp;data=02%7C01%7CReesJ37%40cardiff.ac.uk%7C0c9d585083aa473088e608d7c745a600%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C637196974255409324&amp;sdata=56hiFBR07CXebe3xdrwuX%2BL3P4n%2BXKmdRSllHrzByOI%3D&amp;reserved=0\">Roedd gwaith yr Athro Jones ar\nanabledd a boddhad bywyd<\/a> yn rhagflaenu\u2019r prosiect hwn. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1430496-poole-john\"><strong>Mae John Poole<\/strong><\/a><strong> yn fyfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd. Ariennir ei PhD gan ESRC ac mae ar y cyd \u00e2 Disability Rights UK. Mae\u2019n archwilio effaith anabledd sy\u2019n dechrau ar les unigolion yn y DU.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Ffynonellau<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Clark,\nA., Diener, E., Georgellis, Y. a Lucas, R. (2008). Lags and leads in life\nsatisfaction: a test of the baseline hypothesis. <em>The Economic Journal, <\/em>118(2008), t. F222-F243.<\/li><li>Diener,\nE., Suh, E.M., Lucas, R.E. a Smith, H.L. (1999). Subjective Well-Being: Three\nDecades of Progress. <em>Psychological\nBulletin, <\/em>125(2), 1999, t. 276-302.<\/li><li><a href=\"https:\/\/www.disabilityrightsuk.org\/\">Disability Rights UK<\/a>. <\/li><li><a href=\"https:\/\/esrc.ukri.org\/\">Y Cyngor Ymchwil Economaidd a\nChymdeithasol<\/a>.\n<\/li><li>Frederick,\nS. a Loewenstein, G. (1999). Hedonic Adaptation. In Kahneman, D., Diener, E. a\nSchwartz, N. (Eds.), <em>Well-Being:\nFoundations of Hedonic Psychology, <\/em>t. 302-329. <em><\/em><\/li><li>Jones,\nM.K., Mavromaras, K., Sloane, P.J. a Wei, Z. (2018). The dynamic effect of\ndisability on work and subjective well-being. <em>Oxford Economic Papers, <\/em>70(3), Gorffennaf 2018, t. 635-657.<\/li><li>Y\nSwyddfa Ystadegau Gwladol (2019). <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/healthandsocialcare\/disability\/bulletins\/disabilitywellbeingandlonelinessuk\/2019\"><em>Disability, well-being and loneline<\/em>ss, UK: 2019<\/a><em>. <\/em>2\nRhagfyr 2019.<\/li><li>Singleton,\nP. (2012). Insult to Injury: Disability, Earnings, and Divorce. <em>Journal of Human Resources, <\/em>47(4).<\/li><li>Stephens,\nM. (2001). The Long-Run Consumption Effects of Earnings Shocks. <em>The Review of Economics and Statistics, <\/em>83(1),\nChwefror 2001, t. 28-36.<\/li><li><a href=\"https:\/\/www.understandingsociety.ac.uk\/\">Understanding Society<\/a>. <\/li><\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em><br> <\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein post diweddaraf, mae John Poole yn cyflwyno ei ymchwil ddoethurol ar effaith anabledd sy\u2019n dechrau ar les unigolion yn y DU. Pa mor fodlon ydych chi\u2019n teimlo ar [&hellip;]","protected":false},"author":1808,"featured_media":1947,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[338],"tags":[181,1305,133,1308,137,862,339,202,1310,105,1306,1304,1309,61],"class_list":["post-1957","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-a-lles","tag-anabledd","tag-bylchau-o-ran-lles","tag-cyngor-ymchwil-economaidd-a-chymdeithasol","tag-disability-rights-uk-2","tag-economaidd","tag-iechyd","tag-iechyd-a-lles","tag-iechyd-meddwl","tag-myfyriwr-phd","tag-prifysgol-caerdydd","tag-pryder","tag-swyddfa-ystadegau-gwladol-2","tag-understanding-society","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-vz","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2020\/03\/Abstract-image-of-opposing-moods-and-feelings.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1957","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1808"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1957"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1957\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1965,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1957\/revisions\/1965"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1947"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1957"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1957"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1957"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}