{"id":1768,"date":"2019-11-04T12:39:25","date_gmt":"2019-11-04T11:39:25","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=1768"},"modified":"2019-11-04T12:39:32","modified_gmt":"2019-11-04T11:39:32","slug":"trawsnewid-digidol-a-goblygiadau-hyn-i-fusnesau-a-pholisiau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/trawsnewid-digidol-a-goblygiadau-hyn-i-fusnesau-a-pholisiau\/","title":{"rendered":"Trawsnewid digidol a goblygiadau hyn i fusnesau a pholis\u00efau"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"769\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Electronic-payment-transaction-in-shop-1-1024x769.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1770\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Electronic-payment-transaction-in-shop-1-1024x769.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Electronic-payment-transaction-in-shop-1-450x338.jpg 450w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Electronic-payment-transaction-in-shop-1-300x225.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Electronic-payment-transaction-in-shop-1-768x577.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein blog diweddaraf, mae Dr Dylan Henderson yn amlinellu gwaith ymchwil Ysgol Busnes Caerdydd ar bresenoldeb cynyddol technolegau digidol ym myd busnes, polisi a\u2019r gymdeithas yn ehangach.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedir bod deall y syniad o \u2018drawsnewid digidol\u2019 yn fwyfwy hanfodol i\nwerthfawrogi sut mae busnesau bach a modern yn gweithredu, a sut y gellir eu\nhelpu i ffynnu a thyfu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae trawsnewid digidol, yn gyffredinol, yn cyfeirio at y cyflymder\ncynyddol y mae busnesau\u2019n integreiddio technolegau megis cyfrifiadura cwmwl,\ne-fasnach, cynadledda fideo yn eu harferion, ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o\nsicrhau gwerth i gwsmeriaid. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ynghyd \u00e2 hyn, mae goblygiadau cadarnhaol a negyddol y trawsnewidiad a&#8217;u\nheffaith ar swyddi, sectorau a bywyd bob dydd yn fwy cyffredinol yn codi arswyd\ncynyddol ar bobl. Mae llunwyr polisi a chefnogwyr busnesau bach mewn ysgolion\nbusnes hefyd wedi dechrau rhoi sylw iddo, ac ystyrir bod goblygiadau sylweddol\ni ysbryd cystadleuol busnes yn sgil trawsnewid.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fodd bynnag, er ei fod yn amlwg mewn data bod mwy a mwy o bobl yn\nmabwysiadu technoleg ddigidol, mae perygl iaith fel \u201ctrawsnewid\u201d yn gallu rhoi\ngormod o bwyslais ar r\u00f4l technoleg wrth sbarduno newid, ar draul asiantaeth\nbusnesau a gweithwyr eu hunain. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel y noda cymdeithasegwyr, mae dewisiadau, credoau a gweithredoedd\nbusnesau\u2019n dylanwadu ar ddefnyddio a mabwysiadu technolegau yn ogystal \u00e2\u2019r\nunigolion sy&#8217;n eu defnyddio. Yn ogystal, gall canolbwyntio gormod ar y rhai\nsy&#8217;n mabwysiadu gwahanol atebion technoleg ddigidol dan-bwysleisio parhad\nagweddau materol prosesau busnes mewn busnesau bach mewn mannau eraill. Mae hyn\nyn rhywbeth y mae&#8217;n rhaid i arbenigwyr busnes ac ymarferwyr fod yn wyliadwrus\nohono.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/research\/explore\/research-units\/welsh-economy-research-unit\">Uned Ymchwil\nEconomi Cymru (WERU)<\/a> Ysgol Busnes Caerdydd, rydym wedi bod yn astudio <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/superfast-broadband-project\/\">busnesau bach a\nchanolig (BBaChau) a&#8217;r ffordd maen nhw\u2019n mabwysiadu ac yn defnyddio technolegau\ndigidol, oherwydd band eang, trwy gynnal dadansoddiadau arolwg hydredol\nblynyddol ac astudiaethau achos o arferion busnes<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cMae ein hymchwil yn nodi\u2019r defnydd cynyddol o dechnolegau digidol dros amser, ac yn tynnu sylw at rai o\u2019r manteision posibl i fusnesau mewn meysydd megis trosiant, cyflogaeth ac arloesedd.\u201d <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae datblygiad manteision o\u2019r fath, fodd bynnag, fel arfer yn raddol ac\nyn hynod anwastad, gan amrywio\u2019n fawr rhwng busnesau mewn sectorau a\nrhanbarthau daearyddol gwahanol. Mae\u2019r adnoddau sydd gan fusnesau hefyd yn\ndylanwadu ar y gyfradd y maen nhw\u2019n eu mabwysiadau megis mynediad at fand eang,\ncyllid, a\u2019r sgiliau a\u2019r gallu i fanteisio ar dechnolegau digidol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ymchwil WERU hefyd yn awgrymu, yn hytrach na bod yn broses gyflym,\ndreiddiol, bod mabwysiadu technolegol yn fwy o broses drosiannol, lle mae\ntechnolegau digidol yn cael eu cynnwys gyda gweithgareddau analog presennol fel\ncyfathrebu wyneb yn wyneb, adwerthu corfforol, ac agweddau materol ar\ngynhyrchu. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r prosesau hyn yn datblygu mewn ffyrdd mwy cymhleth ac anwastad nag\na awgrymir yn aml pan fyddwn yn siarad am b\u0175er ac effeithiau trawsnewid digidol\nar hyn o bryd, ac efallai y bydd edrych ar brosesau analog ochr yn ochr \u00e2 rhai\ndigidol yn cynrychioli ffordd fwy craff i ddeall pa agweddau ar fusnes sy&#8217;n\nparhau dros amser, a sut mae eraill wedi&#8217;u hintegreiddio \u00e2 phrosesau digidol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallai hyn gynnwys edrych ar y rhesymau pam mae busnesau bach yn gwrthod\ndigideiddio, ac olrhain y profiadau y mae busnesau bach wedi\u2019u cael wrth\nddefnyddio technoleg ddigidol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae r\u00f4l y llywodraeth o ran annog busnesau i fabwysiadu technoleg\nddigidol yn faes pellach sydd ond yn awr yn dechrau cael ei archwilio. Er bod\nllunwyr polis\u00efau wedi rhoi cryn bwyslais ar sicrhau bod rhwydweithiau digidol\nar gael ar draws rhanbarthau\u2019n fyd-eang, mae ymchwil WERU ar <a href=\"https:\/\/www.cardiffcapitalregion.wales\/\">Ddinas-Ranbarth Caerdydd<\/a> yn tynnu sylw\nat beryglon buddsoddiad o\u2019r fath mewn seilwaith, sy\u2019n gwaethygu gwahaniaethau\nrhanbarthol economaidd-gymdeithasol ymhellach, a&#8217;r angen am weithredu polisi\ncyflenwol i atal isranbarthau rhag cwympo ymhellach y tu \u00f4l i&#8217;w cymheiriaid mwy\nllewyrchus. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llunwyr polis\u00efau hefyd yn ceisio cefnogi busnes drwy roi cyngor\npenodol am fabwysiadu technoleg ddigidol. Bydd datblygiadau o\u2019r fath yn ei\ngwneud yn ofynnol i lunwyr polisi roi ystyriaeth ofalus i gost go iawn a\nbuddion digidol (e.e. gwefannau, cynnwys fideo) a ffurfiau analog o gymorth\nbusnes (e.e. gweithdai cyngor wyneb yn wyneb) a gwasanaethau. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cEfallai bod gan dechnoleg ddigidol ran i\u2019w chwarae mewn llawer o wasanaethau cyhoeddus, ond mae ein hymchwil yn awgrymu na ddylem dybio mai cefnogaeth ddigidol yn unig sydd orau bob amser i bob busnes a gr\u0175p cymdeithasol.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r agenda ymchwil hon sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg yn awgrymu, er bod y syniad\no drawsnewid digidol yn helpu i daflu rhywfaint o oleuni ar bresenoldeb\ncynyddol technolegau digidol mewn busnes, polisi a&#8217;r gymdeithas ehangach, mae&#8217;n\nein gadael mewn perygl o dybio y bydd busnesau bach yn anochel yn gallu cymryd\nrhan yn y broses hon. At hynny, mae\u2019n anwybyddu&#8217;r ffyrdd y gall busnes mewn\ngwahanol sectorau gael trafferth gyda&#8217;r newid neu ei wrthsefyll, neu hyd yn oed\nei ddefnyddio mewn ffyrdd nad oeddem wedi&#8217;u nodi na&#8217;u hystyried o&#8217;r blaen. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hymchwil yn dangos bod busnesau bach a chanolig yn ymateb i&#8217;r\nheriau a&#8217;r cyfleoedd sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r trawsnewid hwn, ac yn dod o hyd i\nffyrdd newydd o weithio, ac mae integreiddio technoleg ddigidol ym myd gwaith,\nbusnes, a syniadau polisi newydd yn dod i&#8217;r amlwg. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni ellir cyfyngu hyn i broses dechnolegol yn unig ac mae&#8217;n ei gwneud yn\nofynnol i&#8217;r rhai sy&#8217;n cefnogi busnesau bach ystyried y cyd-destunau y maent yn\ngweithredu ynddynt, a gwerthfawrogi&#8217;r ffyrdd y mae prosesau analog\ntraddodiadol, technolegau digidol newydd, a&#8217;r bobl sydd wrth wraidd busnesau\nbach yn rhyngweithio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Mae\u2019r ymchwil yn yr adroddiad hon wedi\u2019i hariannu\u2019n rhannol gan y <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0009\/1137789\/SFBBE-2016-National-Digital-Maturity-Survey-Report_Summary.pdf\">Superfast Broadband Business Exploitation Programme<\/a>, a ariennir yn rhannol gan <a href=\"https:\/\/ec.europa.eu\/regional_policy\/en\/funding\/erdf\/\">Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop<\/a> drwy <a href=\"https:\/\/gov.wales\/\">Lywodraeth Cymru<\/a>.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/609390-henderson-dylan\"><strong>Dr Dylan Henderson<\/strong><\/a><strong> yn Uwch-gymrawd Ymchwil yn <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/research\/explore\/research-units\/welsh-economy-research-unit\"><strong>Uned Ymchwil Economi Cymru<\/strong><\/a><strong> yn Ysgol Busnes Caerdydd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan <a href=\"https:\/\/smallbusinesscharter.org\/knowledge\/unpacking-digital-transformation-implications-business-policy\/\">Small Business Charter<\/a>.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Darllen pellach<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Jones, C., Henderson, D., 2019. <a href=\"http:\/\/dx.doi.org\/10.1177\/0269094219841590\">Broadband and Uneven\nSpatial Development: The Case of Cardiff City-Region<\/a>. Local Economy 34 (3),\n228\u2013247<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">OECD, 2017. <a href=\"http:\/\/dx.doi.org\/10.1787\/9789264276284-en\">OECD Digital\nEconomy Outlook 2017<\/a>. OECD Publishing, Paris.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">WERU, 2019. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/superfast-broadband-project\/digital-maturity-survey\">Arolwg\nAeddfedrwydd Digidol Cymru 2019<\/a>. Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein blog diweddaraf, mae Dr Dylan Henderson yn amlinellu gwaith ymchwil Ysgol Busnes Caerdydd ar bresenoldeb cynyddol technolegau digidol ym myd busnes, polisi a\u2019r gymdeithas yn ehangach. Dywedir bod [&hellip;]","protected":false},"author":1677,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[480],"tags":[68,661,1157,1154,1153,453,105,1152,1155,183,475,53,61],"class_list":["post-1768","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-economi-digidol-cy","tag-busnes","tag-digidol","tag-efasnach","tag-gronfa-datblygu-rhanbarthol-ewrop","tag-lywodraeth-cymru","tag-polisi","tag-prifysgol-caerdydd","tag-small-business-charter","tag-superfast-broadband-business-exploitation-programme","tag-technoleg","tag-uned-ymchwil-economi-cymru","tag-ymchwil","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-sw","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1768","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1677"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1768"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1768\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1775,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1768\/revisions\/1775"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1768"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1768"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1768"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}