{"id":1756,"date":"2019-10-31T12:36:24","date_gmt":"2019-10-31T11:36:24","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=1756"},"modified":"2019-11-01T12:45:44","modified_gmt":"2019-11-01T11:45:44","slug":"maer-gwrthymosodiad-yn-erbyn-facebook-yn-cryfhau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/maer-gwrthymosodiad-yn-erbyn-facebook-yn-cryfhau\/","title":{"rendered":"Mae&#8217;r gwrthymosodiad yn erbyn Facebook yn cryfhau"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Neon-light-with-heart-and-number-zero-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1752\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Neon-light-with-heart-and-number-zero-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Neon-light-with-heart-and-number-zero-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Neon-light-with-heart-and-number-zero-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Neon-light-with-heart-and-number-zero-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein darn diweddaraf, mae&#8217;r Athro Leighton Andrews yn ystyried yr heriau sy&#8217;n wynebu rheoleiddwyr a gwleidyddion yn wyneb grym ariannol a chymdeithasol Facebook.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ddiweddar\ncymerodd Mark Zuckerberg, arweinydd Facebook y <a href=\"https:\/\/www.reuters.com\/article\/us-facebook-lawmakers\/facebook-ceo-zuckerberg-meets-trump-seeks-to-mend-fences-in-washington-idUSKBN1W42DM\">cam\nanarferol<\/a>&nbsp;o ymweld \u00e2 deddfwyr yn Washington, gan gynnwys yr Arlywydd\nDonald Trump yn y T\u0177 Gwyn. Y rheswm? Mae is-bwyllgor gwrth-gystadlu\n(anti-trust) y Gyngres wedi dechrau <a href=\"https:\/\/www.reuters.com\/article\/us-tech-antitrust-congress\/apple-facebook-amazon-google-emails-demanded-in-u-s-house-panel-probe-idUSKCN1VY1FX\">mynnu\ncael dogfennau<\/a>&nbsp;gan Facebook a chwmn\u00efau technoleg mawr eraill. Mae&#8217;n\nrhan o archwiliad y pwyllgor i weld a yw&#8217;r prif gwmn\u00efau technoleg yn\ngweithredu&#8217;n wrth-gystadleuol. Ac mae taith Zuckerberg yn awgrymu bod y cwmni&#8217;n\npoeni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un enghraifft yn\nunig yw&#8217;r pwysau cynyddol sy&#8217;n dod o Gyngres UDA o sut mae llywodraethau ledled\ny byd yn dechrau ymladd yn \u00f4l yn erbyn grym Facebook. Mae&#8217;r cwmni&#8217;n wynebu\ndirwyon, rheoleiddio a hyd yn oed galwadau iddo gael ei rannu. Ond mae her\nsylweddol yn wynebu rheoleiddwyr a gwleidyddion o hyd o ran ffrwyno grym\nariannol, gwleidyddol a chymdeithasol Facebook.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn haf 2019,\ncafodd Facebook <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/technology\/2019\/jul\/24\/facebook-to-pay-5bn-fine-as-regulator-files-cambridge-analytica-complaint\">ddirwy\no US$5 biliwn<\/a>&nbsp;gan Gomisiwn Masnachu Ffederal UDA (FTC), yn ogystal \u00e2\n&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.bloomberg.com\/news\/articles\/2019-07-24\/facebook-agrees-to-pay-100-million-to-settle-charges-with-sec\">\ndirwy o US$100m <\/a>&nbsp;gan y Comisiwn Gwarantau a Chyfnewidiadau yn sgandal\ndata&nbsp;<a href=\"https:\/\/theconversation.com\/uk\/topics\/cambridge-analytica-51337\">Cambridge\nAnalytica<\/a>. Hefyd mae&#8217;n bosibl y bydd y cwmni&#8217;n <a href=\"https:\/\/www.wsj.com\/articles\/eu-nears-decisions-in-facebook-privacy-cases-11565602202\">wynebu\ndirwyon<\/a>&nbsp;o biliynau pellach yn Ewrop am dorri cyfreithiau gwarchod\ndata.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond gwnaeth\nFacebook US$16.6 biliwn o hysbysebion yn y tri mis o 30 Mehefin 2019 yn unig.\nFelly dydy dirwyon enfawr fel hyn hyd yn oed ddim yn llawer o gosb o\nangenrheidrwydd. Fodd bynnag, un ffordd yn unig o ffrwyno grym Facebook yw&#8217;r\ndirwyon hyn, ac mae llywodraethau&#8217;n fwyfwy parod i weithredu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ochr yn ochr ag\nadolygiad y Gyngres, mae&#8217;r&nbsp;<a href=\"https:\/\/edition.cnn.com\/2019\/09\/11\/tech\/ftc-big-tech-antitrust-investigations\/index.html\">FTC<\/a>,\nyr <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/technology\/2019\/jul\/23\/tech-companies-antitrust-review\">Adran\nGyfiawnder<\/a>&nbsp;a&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/technology\/2019\/sep\/06\/facebook-google-antitrust-privacy-investigations-us\">nifer\no atwrneiod talaith<\/a>&nbsp;yn ymchwilio i gwmn\u00efau technoleg mawr gan gynnwys\nFacebook am dorri rheolau cystadlu o bosibl. Mae <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/cma-cases\/online-platforms-and-digital-advertising-market-study\">Awdurdod\nCystadlu a Marchnadoedd<\/a>&nbsp;y DU hefyd yn gwneud astudiaeth farchnad i\nblatfformau ar-lein a&#8217;r diwydiant hysbysebu digidol. Yn yr Almaen, mae\nFacebook&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.reuters.com\/article\/us-facebook-germany\/german-cartel-office-to-take-facebook-case-to-high-court-idUSKCN1VG1AJ\">yn\nymladd<\/a>&nbsp;achos gwrth-gystadlu yn y llysoedd. Ac mae <a href=\"https:\/\/uk.reuters.com\/article\/us-eu-facebook-antitrust\/eu-antitrust-regulators-raise-concerns-about-facebooks-libra-currency-sources-idUKKCN1VB1BQ\">adroddiadau&#8217;n\nawgrymu bod <\/a>gan reoleiddwyr gwrth-gystadlu yr UE ddiddordeb mewn\narchwilio&#8217;r&nbsp;<a href=\"https:\/\/theconversation.com\/uk\/topics\/libra-72410\">arian\ncudd (cryptocurrency) Libra<\/a> a lansiodd y cwmni&#8217;n ddiweddar.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn fwy\ncyffredinol, mae&#8217;r UE wedi dechrau achosion gwrth-gystadlu yn erbyn nifer o\ngwmn\u00efau technoleg mawr eraill. Gwnaeth Margrethe Vestager, y comisiynydd\ncystadleuaeth a ailbenodwyd yn ddiweddar,&nbsp;<a href=\"https:\/\/uk.reuters.com\/article\/uk-eu-antitrust-data\/eu-may-need-to-regulate-tech-giants-data-use-eu-antitrust-chief-idUKKCN1VY1HU\">ddatganiad<\/a>&nbsp;y\nbydd angen rhagor o reoleiddio defnydd data gan gwmn\u00efau technoleg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid monopoli\neconomaidd Facebook yn unig y mae gwleidyddion yn poeni amdano, fodd bynnag.\nMae aelodau seneddol o nifer cynyddol o awdurdodaethau gan gynnwys yr Ariannin,\nCanada, Chile, Estonia, yr Almaen, Iwerddon, Singapore, Ecuador, M\u00e9xico,\nMorocco, Trinidad a Tobago, a&#8217;r DU yn cwrdd yn rheolaidd bellach fel yr&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.parliament.uk\/business\/committees\/committees-a-z\/commons-select\/digital-culture-media-and-sport-committee\/news\/international-grand-committee-evidence-17-19\/\">Uwch-Bwyllgor\nRhyngwladol\/International Grand Committee<\/a>. Eu nod yw archwilio effaith y\ncyfryngau cymdeithasol, a Facebook yn enwedig, ar ddemocratiaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Erbyn hyn,\nFacebook yw&#8217;r prif gyfrwng ar gyfer hysbysebu a thargedu gwleidyddol. Mae&#8217;r\ncwmni wedi cyflwyno&nbsp;<a href=\"https:\/\/edition.cnn.com\/2019\/08\/28\/tech\/facebook-political-ads-2020\/index.html\">rheolau\nllymach<\/a>&nbsp;ac&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-49701027\">yn\nddiweddar dileon nhw<\/a>&nbsp;hysbyseb gan Blaid Geidwadol y DU am eu torri\nnhw. Ond nawr mae galwadau mewn&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.abc.net.au\/triplej\/programs\/hack\/how-does-political-advertising-blackout-laws-work\/1111560\">nifer\no wledydd<\/a>&nbsp;ar i hysbysebu gan bleidiau gwleidyddol ar y cyfryngau\ncymdeithasol gael ei reoleiddio drwy reoleiddio statudol, yn hytrach na dibynnu\nar reolau mewnol Facebook. Mewn gwirionedd, mae Zuckerberg ei hun&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/4\/posts\/10107013839885441?sfns=m\">wedi galw<\/a>&nbsp;am\nddeddfwriaeth yn y maes hwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyflwynwyd\nrheolau newydd eleni&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.aph.gov.au\/About_Parliament\/Parliamentary_Departments\/Parliamentary_Library\/FlagPost\/2019\/April\/Authorising_online_political_communicatio\">yn\nAwstralia<\/a>&nbsp;a&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.elections.ca\/content.aspx?section=pol&amp;dir=regifaq&amp;document=index&amp;lang=\">Chanada<\/a>.\nYn y cyfamser nid yw llywodraeth y DU wedi gweithredu cynigion eto gan&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/news\/government-safeguards-uk-elections\">\nei Swyddfa Gabinet<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.cfr.org\/backgrounder\/hate-speech-social-media-global-comparison\">Mae\nllawer o wledydd<\/a>&nbsp;gan gynnwys Awstralia, India a Singapore wedi\ndatblygu mesurau newydd i ddileu cynnwys troseddol neu derfysgol neu wybodaeth\nanghywir o rwydweithiau cymdeithasol. Ac mae llywodraethau eraill&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/consultations\/online-harms-white-paper\">yn\nedrych ar y mater<\/a>. Mae hwn yn faes anodd ei reoleiddio oherwydd bod\ncwestiynau o hyd ynghylch sut yn union mae diffinio deunydd tramgwyddus a pha\nbrosesau y mae&#8217;n bosibl eu rhoi yn eu lle sy&#8217;n parchu hawliau dynol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llawer&nbsp;<a href=\"https:\/\/psmag.com\/social-justice\/understanding-facebooks-failure-to-deal-with-hate-speech\">o\nsylwebyddion yn dadlau<\/a>&nbsp;bod angen i Facebook wneud llawer mwy yn y maes\nhwn ond nid yw o fudd ariannol y cwmni iddo wneud hynny. Yn y b\u00f4n mae Facebook\nyn cael cymhorthdal am gostau ei fethiannau ei hun gan ddefnyddwyr, cyrff\ncyfryngau ac eraill sy&#8217;n tynnu sylw at ddeunyddiau problemus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn hytrach, yn \u00f4l\ny ddadl, Facebook y llygrwr a ddylai dalu i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r llygredd ar-lein\ny mae&#8217;n ei greu. O ganlyniad mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/taxfoundation.org\/digital-taxes-europe-2019\">nifer o wledydd<\/a>&nbsp;yn\ntrafod ardollau a mwy o drethi, yn rhannol oherwydd strwythur cadw cyfrifon\nFacebook sy&#8217;n ei alluogi i dalu cyn lleied ag <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/technology\/2018\/oct\/08\/facebook-uk-tax-bill-sales-margaret-hodge\">1%\no&#8217;i refeniw<\/a>&nbsp;mewn treth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">\u201cCamdriniaeth ecsbloetiol\u201d<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1754\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Aerial-image-of-Facebook-badges.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y broblem fwy yw&#8217;r\nun y mae ymchwiliadau gwrth-gystadlu yn edrych arni. Dyma&#8217;r ffaith, ynghyd \u00e2\nGoogle, bod Facebook&nbsp;<a href=\"https:\/\/marketingland.com\/almost-70-of-digital-ad-spending-going-to-google-facebook-amazon-says-analyst-firm-26256\">yn\nsugno&#8217;r rhan fwyaf<\/a>&nbsp;o&#8217;r hysbysebu ar-lein, a&#8217;r hysbysebu symudol yn\narbennig. Os ydych chi eisiau hysbysebu ar-lein, yn y b\u00f4n mae&#8217;n rhaid ichi\nddefnyddio ei wasanaethau. Mae Awdurdod Cartelau&#8217;r Almaen, y Bundeskartellamt,\nwedi galw cyfuniad Facebook o ddata defnyddwyr wedi&#8217;u tynnu o amrywiaeth o\nffynonellau data, yn \u201c<a href=\"https:\/\/www.bundeskartellamt.de\/SharedDocs\/Meldung\/EN\/Pressemitteilungen\/2019\/07_02_2019_Facebook.html\">gamdriniaeth\necsbloetiol<\/a>\u201d o&#8217;i safle trechol yn y maes.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr anhawster yw\nherio&#8217;r safle hwnnw, o gofio natur fyd-eang y rhyngrwyd a&#8217;r ffordd y mae&#8217;r\ncwmn\u00efau rhyngrwyd mwyaf llwyddiannus yn anochel yn tueddu i&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.london.edu\/lbsr\/nine-reasons-why-tech-markets-are-winner-take-all\">ddenu\nmwyafrif<\/a>&nbsp;o ddefnyddwyr. Un ateb fyddai gorfodi Facebook i werthu ei\napiau rhwydweithio cymdeithasol eraill, WhatsApp, Instagram a Facebook\nMessenger fel na fyddai ganddo gymaint o ffynonellau data am ddefnyddwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond, fel mae\nComisiwn Cystadlu a Defnyddwyr Awstralia <a href=\"https:\/\/www.accc.gov.au\/system\/files\/Digital%2520platforms%2520inquiry%2520-%2520final%2520report.pdf\">wedi\u2019i\namlygu<\/a>, problem arwyddocaol arall yw&#8217;r ffaith fod ei fusnes wedi&#8217;i\nintegreiddio&#8217;n fertigol. Ystyr hyn yw ei fod yn rheoli rhannau gwahanol o&#8217;r\ndiwydiant hysbysebu. Yn y b\u00f4n mae&#8217;n rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol, yn gwmni\ndosbarthu cyfryngau, yn gwmni prynu cyfryngau, yn gyfnewidfa hysbysebu ac yn\ngwmni dadansoddi data. Oherwydd hyn,&nbsp;<a href=\"https:\/\/blogs.lse.ac.uk\/mediapolicyproject\/2018\/05\/02\/how-to-break-up-facebook\/\">mae\nrhai&#8217;n dadlau<\/a>&nbsp;y gallai gwahanu swyddogaethau mewnol Facebook yn\nstrwythurol fod yn ateb mwy pwerus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae un peth yn\neglur, bydd angen rheoleiddio rhyngwladol wedi&#8217;i gydlynu er mwyn datrys\nFacebook. Wrth wraidd y drafodaeth hon wrth gwrs mae grym corfforaethol yn oes <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/deletefacebook-is-still-feeding-the-beast-but-there-are-ways-to-overcome-surveillance-capitalism-93874\">cyfalafiaeth\ngwyliadwriaeth<\/a>. Mae methiannau Facebook dro ar \u00f4l tro yn golygu, yn \u00f4l\nadroddiadau, fod gweithredu deddfwriaethol a rheoleiddiol bellach wedi troi hyd\nyn oed at gwestiwn&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/technology\/2019\/mar\/13\/facebook-data-sharing-investigation\">ymchwiliad\ntroseddol<\/a>. Nid ydym yn agos at gael gweithredu effeithiol eto ond mae&#8217;n\nedrych fwyfwy fel na fydd llywodraethau, deddfwyr a rheoleiddwyr yn derbyn\npethau fel y maen nhw. Lle mae gan Facebook ddefnyddwyr, bydd llywodraethau&#8217;n\nrheoleiddio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae<\/strong> <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610190-andrews-leighton\"><strong>Leighton Andrews<\/strong><\/a><strong> yn Athro Ymarfer ac Arloesedd mewn\nGwasanaethau Cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Caerdydd, yn un o gyn-Weinidogion\nLlywodraeth Cymru, ac yn bennaeth ar faterion cyhoeddus yn y BBC gynt. <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar<\/em> <em><a href=\"https:\/\/theconversation.com\/the-fightback-against-facebook-is-getting-stronger-124120\">The Conversation UK<\/a>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein darn diweddaraf, mae'r Athro Leighton Andrews yn ystyried yr heriau sy'n wynebu rheoleiddwyr a gwleidyddion yn wyneb grym ariannol a chymdeithasol Facebook. Yn ddiweddar cymerodd Mark Zuckerberg, arweinydd [&hellip;]","protected":false},"author":1613,"featured_media":1752,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[537],"tags":[1139,825,1137,1135,155,1136,105,206,1140,1138,61],"class_list":["post-1756","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu","tag-cwmniau-technoleg-mawr","tag-cyfryngau-cymdeithasol","tag-deddf-cystadlu","tag-dirwyon","tag-facebook","tag-gwrth-gystadlu","tag-prifysgol-caerdydd","tag-rheoleiddio","tag-rheoleiddio-gwrth-gystadlu","tag-safbwyntiau-byd-eang","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-sk","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/11\/Neon-light-with-heart-and-number-zero-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1756","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1613"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1756"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1756\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1758,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1756\/revisions\/1758"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1752"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1756"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1756"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1756"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}