{"id":1699,"date":"2019-09-20T10:53:43","date_gmt":"2019-09-20T09:53:43","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=1699"},"modified":"2019-09-20T11:10:25","modified_gmt":"2019-09-20T10:10:25","slug":"gig-cymru-beth-gallai-tynged-un-sector-ar-ol-brexit-ei-olygu-ir-wlad-gyfan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/gig-cymru-beth-gallai-tynged-un-sector-ar-ol-brexit-ei-olygu-ir-wlad-gyfan\/","title":{"rendered":"GIG Cymru: beth gallai tynged un sector ar \u00f4l Brexit ei olygu i\u2019r wlad gyfan"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"725\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Brexit-waiting-room-1024x725.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1690\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Brexit-waiting-room-1024x725.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Brexit-waiting-room-477x338.jpg 477w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Brexit-waiting-room-300x212.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Brexit-waiting-room-768x544.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Mae Brexit yn barhaus yn yr ystafell aros yn \u00f4l pob golwg, ond sut allai effeithio ar ofal iechyd yng Nghymru?<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ein blog diweddaraf, mae Dr Laura Reynolds a\u2019i chydweithwyr o Uned\nYmchwil Economi Cymru, Dr Annette Roberts a\u2019r Athro Max Munday, yn ystyried\ntynged y GIG yng Nghymru ar \u00f4l Brexit. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un o\u2019r pryderon mwyaf yng nghyswllt Brexit yw beth fydd yn digwydd i\u2019r\nGIG pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE.&nbsp;\nYmhlith yr elfennau niferus sy\u2019n ansicr mae\u2019r posibilrwydd y gallai\u2019r\nGIG fod yn rhan o drefniant masnach gyda\u2019r Unol Daleithiau.&nbsp; Er bod yr ysgrifennydd masnach rhyngwladol,\nLiz Truss, wedi dweud \u201cna fydd yn cael ei roi ar werth\u201d, does dim byd wedi cael\nei gytuno eto. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn yr un modd, mae llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir na fyddai GIG\nCymru yn rhan o unrhyw drefniant masnach rhwng yr Unol Daleithiau a\u2019r Deyrnas\nUnedig chwaith.&nbsp; Mae gweinidog\ncysylltiadau rhyngwladol Cymru, Eluned Morgan, wedi dweud \u201cnad oes unrhyw\nsiawns o gwbl\u201d y bydd GIG Cymru yn cael ei ddefnyddio i daro bargen.&nbsp; Ond er gwaethaf y safbwyntiau pendant, mae\nansicrwydd ynghylch pwysau cyfreithiol a gwleidyddol yr honiadau hyn. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oes neb yn sicr beth bydd tirlun \u00f4l-Brexit yn ei olygu i\u2019r GIG a\ngwasanaethau cyhoeddus yn fwy cyffredinol yng Nghymru, neu\u2019n wir ar draws y\nDeyrnas Unedig. Mae\u2019r craffu ar sut gallai hyn effeithio ar iechyd a llesiant\npobl Cymru eisoes wedi cychwyn.&nbsp; Ac yn\nawr mae ein gwaith ymchwil parhaus wedi dangos y gallai fod ansicrwydd\neconomaidd i Gymru os bydd goblygiadau Brexit yn effeithio ar weithgarwch GIG\nCymru. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y GIG sydd angen y mewnbwn mwyaf o wariant cyhoeddus yng Nghymru.&nbsp; Ar gyfer 2016-2017, mae ein cyfrifiadau yn\nnodi mai cyfanswm gwariant refeniw GIG Cymru (costau gweithrediadol pob dydd\nmegis cyflogau a phrynu nwyddau, nid buddsoddiadau cyfalaf fel ysbytai newydd)\nyw \u00a37.66 biliwn.&nbsp; Ond canfuwyd bod\nmanteision economaidd a chymdeithasol ehangach i\u2019r gwariant hwn, y tu hwnt i\nofal iechyd uniongyrchol. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwerth GIG Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae bron 45% (\u00a33.5 biliwn) o wariant refeniw GIG Cymru yn talu am\ngyflogau a th\u00e2l 76,600 o staff, yn ogystal \u00e2 1,860 ychwanegol o staff\nasiantaethau.&nbsp; Mae hyn yn golygu mai\u2019r\nGIG yw un o brif gyflogwyr y wlad, ac yn cyfrif am 6% o gyflogaeth Cymru.&nbsp; Ac nid yw\u2019r ffigurau hynny yn cynnwys\nymarferwyr cymunedol lleol fel Meddygon Teulu a deintyddion. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn cyferbyniad i\u2019r hyn a welwn mewn llawer o sectorau eraill yn yr economi (megis gweithgynhyrchu), mae cyflogaeth y GIG wedi\u2019i wasgaru\u2019n gymharol gyfartal ledled Cymru.&nbsp; Mae\u2019r gweithgaredd hwn yn darparu cyfraniadau pwysig i econom\u00efau lleol mewn rhai rhannau llai ffyniannus o\u2019r wlad.&nbsp; Mae rhanbarth de-ddwyrain Cymru, er enghraifft, yn cynnwys rhai o\u2019r cyfraddau diweithdra uchaf yng Nghymru, mewn mannau megis Blaenau Gwent a Chaerffili.&nbsp; Ond mae<a href=\"http:\/\/www.wales.nhs.uk\/nhswalesaboutus\/structure\">Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan<\/a> ynddo\u2019i hun yn cynnal dros 11,000 o swyddi yn yr ardal hon. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"717\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/iStock-1064233488-1024x717.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1695\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/iStock-1064233488-1024x717.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/iStock-1064233488-483x338.jpg 483w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/iStock-1064233488-300x210.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/iStock-1064233488-768x538.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Nid yw manteision economaidd GIG Cymru wedi\u2019u cysylltu \u00e2 chyflogaeth uniongyrchol yn unig. Mae ein gwaith ymchwil yn awgrymu bod 47% o wariant GIG Cymru, heb gynnwys cyflogau, yn aros yn economi Cymru. <\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ledled Cymru, mae swyddi\u2019r GIG hefyd yn talu\u2019n well na chyfartaledd\nCymru.&nbsp; Mae cyflog cyfartalog gweithwyr y\nGIG yn agos at \u00a334,000 y flwyddyn, tra bod cyfartaledd Cymru yn \u00a324,600<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw manteision economaidd GIG Cymru wedi\u2019u cysylltu \u00e2 chyflogaeth\nuniongyrchol yn unig, fodd bynnag. Gan ddefnyddio data a ddarparwyd gan GIG\nCymru, rydym wedi amcangyfrif effeithiau lluosydd gwariant GIG yn y wlad,&nbsp; hynny yw, yr incwm ychwanegol a gynhyrchir ar\ngyfer yr economi leol yn sg\u00eel gwariant mewn maes penodol.&nbsp; Mesurwyd yr effeithiau hyn fel gwerth gros a\nychwanegwyd (mesur o\u2019r nwyddau a\u2019r gwasanaethau a gynhyrchwyd mewn ardal) a\nnifer y swyddi CALl a gynhaliwyd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan ddefnyddio data caffael y GIG, rydym hefyd wedi amcangyfrif cyfran y\ngwariant sy\u2019n aros yn economi Cymru.&nbsp; Mae\ncyfanswm y gwariant ar hanfodion pob dydd, o gyfarpar meddygol a llawfeddygol i\nfwyd a chyfleustodau, ychydig dros \u00a34.2 biliwn.&nbsp;\nMae\u2019r gwariant hwn yn arwain at ganlyniadau economaidd anuniongyrchol\noherwydd bod cynhyrchwyr y nwyddau a\u2019r gwasanaethau yn gwario arian ar\nddiwydiannau eraill yng Nghymru.&nbsp; Er\nenghraifft, mae cyflenwr dyfeisiau meddygol yng Nghymru yn prynu nwyddau metel\nyng Nghymru wrth greu ei gynnyrch.&nbsp;\nFelly, mae caffael y GIG yn annog gwariant ychwanegol yn yr economi leol\n&#8211; mae\u2019n creu\u2019r hyn a elwir yn \u201ceffeithiau cyflenwr\u201d. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae maint yr effeithiau hyn yn dibynnu ar ffynhonnell leol wreiddiol GIG\nCymru, a faint o gynnyrch lleol a ddefnyddir ymhellach i lawr y gadwyn\ngyflenwi.&nbsp; At ei gilydd, mae ein gwaith\nymchwil yn awgrymu bod 47% o wariant GIG Cymru, heb gynnwys cyflogau, yn aros\nyn economi Cymru. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymhlith manteision anuniongyrchol eraill gwariant y GIG mae\u2019r effeithiau\nar wariant aelwydydd &#8211; mae gweithwyr y GIG yn gwario arian ar nwyddau a\ngwasanaethau yng Nghymru.&nbsp; Yn yr un modd,\nmae gweithwyr mewn cwmn\u00efau cyflenwi yn gwario\u2019u cyflog yn yr economi leol, gan\nroi hwb pellach i\u2019r galw. Trwy ychwanegu\u2019r effeithiau hyn o ran sbarduno incwm\nat yr effeithiau cyflenwr, gallwn amcangyfrif cyfraniad llawn GIG Cymru i\nweithgarwch economaidd rhanbarthol. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Effaith economaidd<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth edrych ar y ffigurau hyn ochr yn ochr, rydym yn amcangyfrif bod\nbron 9% o\u2019r cyfanswm gwerth gros a ychwanegwyd yng Nghymru (\u00a35.4 biliwn) yn\ncael ei gefnogi gan effeithiau cyfunedig uniongyrchol gwariant GIG Cymru, ac yn\neffeithio ar weddill economi Cymru. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae nifer y swyddi a gefnogir yn bwysig iawn ar gyfer economi\nCymru.&nbsp; O ychwanegu at bron 78,500 sy\u2019n\ncael eu cyflogi\u2019n uniongyrchol (gan gynnwys gweithwyr asiantaeth),\namcangyfrifir bod 67,000 arall o swyddi CALl anuniongyrchol yn cael eu\ncefnogi.&nbsp; Mae\u2019r effaith gronnol yn fwy na\n145,000 o swyddi CALl, neu ryw 11% o gyfanswm y bobl gyflogedig a\nhunangyflogedig yng Nghymru.&nbsp; Nid yw\u2019r\nffigurau hyn yn ystyried y manteision ychwanegol yn sg\u00eel rhaglen gwariant\ncyfalaf GIG Cymru. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ddadansoddi hyn ymhellach, rydym yn amcangyfrif bod pob \u00a31 biliwn o\nwariant refeniw uniongyrchol y GIG yn cynnal cyfanswm o bron 19,000 o swyddi\nyng Nghymru.&nbsp;&nbsp; Canfyddir y rhain ar draws\nsectorau iechyd a rhai nad ydynt yn gysylltiedig \u00e2 iechyd, gan gynnwys\ngweithgynhyrchu, adeiladu, manwerthu a gwasanaethau busnes a phroffesiynol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hymchwil yn dangos bod manteision y GIG yn estyn y tu hwnt i\niechyd a llesiant i gynnwys nifer o ganlyniadau cymdeithasol ac economaidd yn\nNghymru. Er nad ydym yn gwybod eto a fydd amharu posibl oherwydd Brexit yn creu\ncanlyniadau anfwriadol i economi Cymru, mae ein gwaith ymchwil yn dangos pa mor\nwerthfawr yw\u2019r GIG i Gymru. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae<\/strong> <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1266074-\"><strong>Dr Laura Reynolds<\/strong><\/a><strong> yn Gydymaith Ymchwil \u00f4l-ddoethurol yn <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/research\/explore\/research-units\/welsh-economy-research-unit\"><strong>Uned Ymchwil Economi Cymru, <\/strong><\/a><strong>&nbsp;Ysgol\nBusnes Caerdydd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Ysgrifennwyd yr erthygl hon, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/nhs-wales-what-one-sectors-fate-after-brexit-might-mean-for-whole-country-120366\">The Conversation UK<\/a>, mewn cydweithrediad \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/609629-roberts-annette\">Dr Annette Roberts<\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/609570-munday-max\">Athro Max Munday<\/a>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Brexit yn barhaus yn yr ystafell aros yn \u00f4l pob golwg, ond sut allai effeithio ar ofal iechyd yng Nghymru? Yn ein blog diweddaraf, mae Dr Laura Reynolds a\u2019i [&hellip;]","protected":false},"author":1733,"featured_media":1692,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1127],"tags":[1130,167,1131,87,1068,137,1122,59,1128,57,105,1129,475,61],"class_list":["post-1699","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-brexit-2","tag-blaenau-gwent","tag-brexit","tag-chaerffili","tag-cymru","tag-deyrnas-unedig","tag-economaidd","tag-eluned-morgan","tag-gig","tag-gig-cymru","tag-llywodraeth-cymru","tag-prifysgol-caerdydd","tag-swyddi","tag-uned-ymchwil-economi-cymru","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-rp","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Brexit-waiting-room-1.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1699","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1733"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1699"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1699\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1715,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1699\/revisions\/1715"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1692"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1699"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1699"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1699"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}