{"id":1671,"date":"2019-09-09T11:40:43","date_gmt":"2019-09-09T10:40:43","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=1671"},"modified":"2019-09-09T11:42:23","modified_gmt":"2019-09-09T10:42:23","slug":"sut-mae-chwilio-am-gytgord-yn-dylanwadu-ar-ffyrdd-alltudion-o-reoli-yng-nghorfforaethau-amlwladol-tsieina","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/sut-mae-chwilio-am-gytgord-yn-dylanwadu-ar-ffyrdd-alltudion-o-reoli-yng-nghorfforaethau-amlwladol-tsieina\/","title":{"rendered":"Sut mae chwilio am gytgord yn dylanwadu ar ffyrdd alltudion o reoli yng nghorfforaethau amlwladol Tsieina?"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1672\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption> Ers y 1980au, mae Tsieina wedi rhoi\u2019r gorau i economi gynlluniedig a sefydlu yn ei lle un sosialaidd.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein darn diweddaraf, mae ymchwilydd PhD Muhao Du yn amlinellu uchelgeisiau ei ymchwil ddoethurol i ddulliau rheoli alltudion o Tsieina. Mae\u2019r darn wedi\u2019i seilio ar boster yr enillodd wobr amdano ar \u00f4l ei gyflwyno yng Nghynhadledd \u00d4l-raddedigion Ymchwil Cymru (y gynhadledd gyntaf o\u2019i bath) fis Mehefin 2019.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy ymchwil yn\ncanolbwyntio ar gyfnodau rheolwyr alltud yn rhai o gorfforaethau amlwladol Tsieina\ntrwy brofiad yr alltudion eu hunain. Gosodir yr astudiaeth yng nghyd-destun <a href=\"https:\/\/www.hrmagazine.co.uk\/article-details\/cultural-understanding-is-essential-for-effective-leadership-in-china\">y syniad o \u2018gytgord\u2019,\nprif nodwedd y ffordd Tsieineaidd o reoli adnoddau dynol yn \u00f4l rhai <\/a>. Trwy ganolbwyntio ar\nbrofiad diriaethol alltudion o Tsieina, bydd yr ymchwil yn llunio hanesion\nmanwl o amryw achosion ac yn bwrw golwg mwy personol ar ffordd y Tsieiniaid o\nreoli adnoddau dynol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyd-destun Tsieina<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ers y 1980au, mae\nTsieina wedi rhoi\u2019r gorau i economi gynlluniedig a sefydlu yn ei lle un\nsosialaidd sy\u2019n ymateb i farchnadoedd yn unol \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.telegraph.co.uk\/peoples-daily-online\/business\/chronicle-reform-opening-up-china\/\">diwygio economaidd a\npholisi agor y wlad<\/a> (a elwir yn \u2018bolisi drws agored\u2019, hefyd). <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cMae diwygio economaidd wedi cyflawni r\u00f4l hanfodol a sylfaenol yn natblygiad Tsieina dros y pedwar degawd diwethaf.\u201d <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Denodd polisi\u2019r drws\nagored fuddsoddwyr o dramor i hwyluso datblygiad mewnol Tsieina gan roi\u2019r wlad\nyn economi\u2019r byd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym 1999, disodlwyd\npolisi\u2019r drws agored gan bolisi <a href=\"https:\/\/www.economist.com\/free-exchange\/2009\/07\/21\/chinas-going-out-strategy\">\u2018Mynd Allan\u2019<\/a> a chanddo bwyslais ar\nfarchnadoedd ac adnoddau, i annog cwmn\u00efau Tsieina i fuddsoddi mewn gwledydd\neraill ac agor marchnad fewnol y wlad ymhellach fel y byddai Tsieina yn fwy\ncystadleuol ledled y byd. O ganlyniad i\u2019r polisi hwnnw, mae llawer o gwmn\u00efau\nTsieina yn rhai rhyngwladol bellach gan roi sylfaen cadarn i\u2019r wlad ymuno \u00e2 Sefydliad\nMasnach y Byd. Yn sg\u00eel newid y polisi, mae mwy a mwy o weithwyr Tsieina wedi\nbod yn gweithio yng nghanghennau cwmn\u00efau amlwladol y weriniaeth dramor. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ddiweddar, mae\nprosiect <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/cities\/ng-interactive\/2018\/jul\/30\/what-china-belt-road-initiative-silk-road-explainer\"><strong>\u2018<\/strong>Un Rhanbarth ac Un Ffordd\u2019<\/a> a gynigiwyd yn 2013,\nwedi hwyluso proses ehangu cwmn\u00efau amlwladol Tsieina eto fyth. Mae\u2019r prosiect\nuchelgeisiol hwnnw\u2019n strategaeth ddatblygu sy\u2019n canolbwyntio ar isadeiledd a\nbuddsoddi mewn tua 152 o wledydd ledled Asia, Ewrop, Affrica a De America.\nFelly, mae modd darogan y bydd nifer yr alltudion o Tsieina yn cynyddu. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Esblygiad trefn rheoli adnoddau dynol Tsieina<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Chinese-business-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1669\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Chinese-business-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Chinese-business-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Chinese-business-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Chinese-business-768x512.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Chinese-business.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ynghylch rhoi polisi\n\u2018diwygio ac agor\u2019 Tsieina ar waith, ysgrifennodd Warner (2011, t. 3229) fod\n\u201cffordd newydd o reoli pobl (renli ziyuan guanli neu \u2018reoli adnoddau\u2019r\nllafurlu\u2019) bellach yn gyfystyr \u2013 er da neu ddrwg \u2013 \u00e2\u2019r diffiniad arferol o\nreoli adnoddau dynol (gweler Warner 2008 ar y pwynt hwnnw).\u201d Mae\u2019n bwysig nodi\nbod r\u00f4l y wladwriaeth yn nhrefn fasnachol Tsieina yn parhau er gwaetha\u2019r newid\neconomaidd. Mae\u2019n cyflawni r\u00f4l ynghylch llunio ffordd Tsieina o reoli pobl ac\nyn dylanwadu ar ffordd benodol o reoli adnoddau dynol, sef ffordd Tsieina\n(Warner 2008). Gwelir yn y \u201cmentrau adnoddau dynol penodol a gyfeirir gan\nwerthoedd ideolegol mae\u2019r wladwriaeth am eu hyrwyddo, sef datblygu cymdeithas\ngwybodaeth a chymdeithas gydgordiol\u201d (Cooke 2011a, t.3844). Er bod honiad bod ffordd\nTsieina o reoli adnoddau dynol yn dod yn nes at un y Gorllewin, mae effaith\narferion person\u00e9l traddodiadol Tsieina yn gryf o hyd a gwelir mewn traddodiadau\nmegis cyfeiriad grwpiau, teyrngarwch a hynafedd yn ogystal \u00e2 r\u00f4l wahanol yr undeb\nllafur swyddogol yng nghyd-destun gwleidyddiaeth Tsieina (Cai ac eraill 2011).\nPrif nodweddion trefn rheoli adnoddau dynol Tsieina yw ymddygiad nawddogol,\nhierarchaidd, ufudd a chymhellol (gweler Cooke 2011b) er bod y syniad o\n\u2018gytgord\u2019 yn bwysig, hefyd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y syniad o gytgord<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn athroniaeth\nTsieina, dywedir bod \u2018cytgord\u2019 yn gysylltiedig ag egwyddorion <a href=\"https:\/\/www.historytoday.com\/history-matters\/what-confucianism\">Conffiwsiaeth<\/a>. Mae Li (2006) yn\ndiffinio cytgord yn nod sy\u2019n pennu y dylai pobl ymddwyn neu gynnal unrhyw\nweithgareddau yn \u00f4l egwyddorion a\/neu reolau. Mae honiad bod y pwyslais ar\ngysylltiadau cydgordiol a chyfrifoldebau cymdeithasol, yn ogystal \u00e2 safonau\nmoesol uchel, wedi arwain at ffordd fwy tringar o reoli yn Tsieina (Lin a Ho 2009).\nPan drosglwyddir egwyddorion o\u2019r fath i\u2019r gweithle, mae tyb bod osgoi anghydfod\nrhwng cyflogwyr a gweithwyr yn flaenoriaeth. Mae hynny\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019r agwedd\nunedol sy\u2019n ategu gwaith rheoli adnoddau dynol yng ngwledydd y Gorllewin megis\ny deyrnas hon. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cYn Tsieina, deellir bod chwilio am gytgord yn y gweithle yn adlewyrchu ac yn ategu cytgord yn y gymdeithas.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod fy astudio ar\ngyfer doethuriaeth, bydd yn ddiddorol ystyried sut mae cytgord yn cael ei\ngynnal a sut mae\u2019n dylanwadu ar ddulliau rheoli alltudion, nid yn unig wrth\nweithio y tu allan i Tsieina ond ar \u00f4l dychwelyd adref, hefyd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly, bydd yr astudiaeth yn dilyn hanes alltudion o adeg eu recriwtio hyd eu dychwelyd i\u2019r famwlad. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1262088-du-muhao\">Muhao Du<\/a> yn fyfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar ddulliau rheoli alltudion o Tsieina.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Llyfryddiaeth<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Nie, M. ac eraill., 2010. 2011. Explaining the human resource management preferences of employees: a study of Chinese workers. <em>The International Journal of Human Resource Management\u00a0<\/em>22(16), tt. 3245-3269.<\/li><li>Cooke, F, L. 2011a. The role of the state and emergent actors in the development of human resource management in China. <em>The International Journal of Human Resource Management\u00a0<\/em>22(18), tt.3830 \u2013 3848.<\/li><li>Cooke, F, L. 2011b. <em>Human Resource Management in China: New Trends and Practices. <\/em>Llundain ac Efrog Newydd: Routledge.<\/li><li>Li, C. 2006. The Confucian Ideal of Harmony. <em>Philosophy East and West<\/em> 56(4), 583-603.<\/li><li>Lin, L. H., a Ho, Y, L. 2009. Confucian dynamism, culture and ethical changes in Chinese societies \u2013 a comparative study of China, Taiwan and Hong Kong. <em>The International Journal of Human Resource Management <\/em>20(11), tt.2402\u20132417.<\/li><li>Warner, M. 2008. Reassessing human resource management \u2018with Chinese characteristics: an overview. <em>International Journal of Human Resource Management <\/em>19(5), tt.771\u2013801.<\/li><li>Warner, M. 2011. Society and HRM in China. <em>The International Journal of Human Resource Management<\/em> 22(16), tt.3223-3244.<\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ers y 1980au, mae Tsieina wedi rhoi\u2019r gorau i economi gynlluniedig a sefydlu yn ei lle un sosialaidd. Yn ein darn diweddaraf, mae ymchwilydd PhD Muhao Du yn amlinellu uchelgeisiau [&hellip;]","protected":false},"author":1727,"featured_media":1672,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[264],"tags":[1118,137,198,453,105,1008,1119,1117,53,61],"class_list":["post-1671","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-rheolaeth-ryngwladol","tag-cynhadledd-ol-raddedigion-ymchwil-cymru","tag-economaidd","tag-phd","tag-polisi","tag-prifysgol-caerdydd","tag-rheoli-busnes","tag-sefydliad-masnach-y-byd","tag-tsieina","tag-ymchwil","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-qX","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Muhao-explains-research-to-Ieuan.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1671","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1727"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1671"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1671\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1678,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1671\/revisions\/1678"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1672"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1671"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1671"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1671"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}