{"id":1651,"date":"2019-09-02T15:03:55","date_gmt":"2019-09-02T14:03:55","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=1651"},"modified":"2019-09-06T13:58:00","modified_gmt":"2019-09-06T12:58:00","slug":"trawsnewid-cadwyni-cyflenwi-trwy-argraffu-3d","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/trawsnewid-cadwyni-cyflenwi-trwy-argraffu-3d\/","title":{"rendered":"Trawsnewid cadwyni cyflenwi trwy argraffu 3D"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/3D-printing-graphic-1024x768.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-1641\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/3D-printing-graphic.png 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/3D-printing-graphic-451x338.png 451w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/3D-printing-graphic-300x225.png 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/3D-printing-graphic-768x576.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein post diweddaraf, mae Katy Alice Huckle, Ryan Iwanski, Giovanni Colantario a Heath Jeffries yn archwilio effaith argraffu 3D ar y diwydiant gweithgynhyrchu.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym eisoes yn gwybod bod argraffu 3D yn drobwynt sylweddol. Yn ogystal\n\u00e2 galluogi creu cynhyrchion nad oeddent yn gallu cael eu gwneud o\u2019r blaen a\nhynny mewn ychydig oriau, mae technoleg ychwanegion yn galluogi eu creu unrhyw\nle yn y byd. Ar eu pennau eu hunain, mae\u2019r ddwy nodwedd hyn yn nodi effaith\naruthrol sydd ar fin cael ei theimlo ar y diwydiant gweithgynhyrchu, yn benodol\nmewn perthynas \u00e2 chadwyni cyflenwi. Ond beth fydd yr effaith hon? Sut bydd\npethau\u2019n newid?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Panalpina, Shapeways a Phrifysgol Caerdydd wedi ymuno i ateb y\ncwestiwn hwn. Mae\u2019r canlyniad yn bapur blaengar sy\u2019n ysgogi\u2019r meddwl wrth daflu\ngolau newydd ar ddyfodol argraffu 3D a chadwyni cyflenwi. Mae\u2019r papur,\n\u2018Economies of collaboration in build-to-model operations\u2019, newydd gael ei\ngyhoeddi ar-lein ac mewn ffynhonnell agored. <a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/epdf\/10.1002\/joom.1014\">Mae ar gael yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r papur yn archwilio sut dylai gweithgynhyrchwyr gyflawni archebion\nar draws y diwydiant argraffu 3D, gan adeiladu ar astudiaeth achos bresennol\ngan Panalpina a Shapeways. Mae\u2019r awduron yn cynnig modd gweithgynhyrchu newydd\nsbon &#8211; Adeiladu yn \u00f4l Model (BTM) &#8211; sy\u2019n crynhoi\u2019r holl wybodaeth\ngweithgynhyrchu a logisteg sy\u2019n ofynnol i greu a darparu cynhyrchion argraffu\n3D i\u2019r defnyddiwr terfynol. Gallai\u2019r ymagwedd hon fod yn ffordd gyflymach,\nrhatach a llai niweidiol i\u2019r amgylchedd o gynhyrchu nwyddau. Model B2B newydd\nsbon yw Adeiladu yn \u00f4l Model gyda\u2019r posibilrwydd o drawsnewid cadwyni cyflenwi\na\u2019n hymagwedd at argraffu 3D.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw \u201cAdeiladu yn \u00f4l Model\u201d?<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trwy boblogrwydd aruthrol Rheoli Main a rhaglenni gwella parhaus eraill,\nmae llawer o bobl bellach yn gyfarwydd \u00e2 chyflawni Yn Union mewn Pryd neu Greu\nyn \u00f4l Stoc o\u2019i gymharu \u00e2 Chreu yn \u00f4l Archeb &#8211; maen nhw bron yn gysyniadau\nbusnes pob dydd erbyn hyn. Pan gaiff nwyddau eu \u2018Creu yn \u00f4l Archeb\u2019, er\nenghraifft, bydd gan y gweithgynhyrchwr y rhannau neu\u2019r deunyddiau cywir wrth\nlaw er mwyn creu cynnyrch terfynol yn \u00f4l y gofyn. Bydd y gweithgynhyrchwr yn\ngosod y cynnyrch pwrpasol yn uniongyrchol ar gyfer y cwsmer terfynol, ac mae ei\ngadwyn gyflenwi\u2019n cynnal y broses o ddarparu\u2019r holl gydrannau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn achos \u2018Adeiladu yn \u00f4l Model\u2019, mae\u2019r broses weithgynhyrchu\u2019n newid yn\nllwyr oherwydd bod argraffu 3D yn galluogi oedi wrth ddewis y gweithgynhyrchwr\ntan y diwrnod y\u2019i cynhyrchir. Mae dylunio cynnyrch yn dod yn rhan hollbwysig y\nbroses, yn hytrach na\u2019r gadwyn gyflenwi. Caiff cynnyrch gael ei argraffu ar\nffurf 3D unrhyw le yn y byd ar unrhyw adeg; gall dylunwyr lanlwytho eu ffeiliau\ndata i wefan gweithgynhyrchwr a ddewiswyd ymlaen llaw, a gall gweithgynhyrchwyr\nroi cynnig am y gwaith mewn lle marchnad electronig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae \u2018Adeiladu yn \u00f4l Model\u2019 yn golygu y gall gweithgynhyrchwyr dderbyn\nrhagor o waith nag a alluogir gan eu hadnoddau mewnol; mae\u2019n hawdd i anfon\narcheb at argraffydd 3D allanol gan nad oes angen unrhyw offer, jigiau, dyfeisiau\ngosod na gosodion sy\u2019n benodol i gwsmeriaid er mwyn gwneud hyn. Mae argraffu 3D\nyn sicrhau cysondeb y cynnyrch ac yn ei gwneud yn bosibl i ddewis argraffwyr\nsy\u2019n agos at y cwsmer terfynol, gan arbed amser ac arian busnes trwy symleiddio\ngweithrediadau gosod a lleihau\u2019r angen am ddosbarthu a storio mewn warws.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ei hanfod, mae\u2019r dull \u2018Adeiladu yn \u00f4l model\u2019 yn defnyddio argraffu 3D\ni roi mwy o hyblygrwydd i weithgynhyrchwyr. Mae\u2019n cael gwared ar yr angen am\nymagwedd \u2018amserlen\u2019 at weithgynhyrchu (archebu, cyflenwi, storio, ac ati) ac yn\nhwyluso strategaeth gyflawni \u2018Creu yn \u00f4l Archeb\u2019 yn llawn. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyflawni Confensiynol yn erbyn Adeiladu yn \u00f4l Model<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"528\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Product-design-flow-chart-1024x528.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-1643\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Product-design-flow-chart-1024x528.png 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Product-design-flow-chart-600x310.png 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Product-design-flow-chart-300x155.png 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Product-design-flow-chart-768x396.png 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Product-design-flow-chart.png 1446w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam mae angen Adeiladu yn \u00f4l Model arnom?<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae sefydliadau dan bwysau cynyddol i wneud mwy o ymdrech i \u2018baratoi ar\ngyfer diwydiant 4.0\u2019. Ond faint o weithredwyr sy\u2019n gwybod ystyr hyn mewn\ngwirionedd? Faint o fusnesau sy\u2019n wirioneddol barod ar gyfer byd digidol a\nyrrir gan ddata? Ni fu arloesedd o ran modeli busnes erioed mor hanfodol i\nsefydliadau, a diwydiannau cyfan, er mwyn diweddaru ac addasu eu prosesau a\ngoroesi\u2019r newid i dechnoleg ddigidol. Mae argraffu 3D ynddo\u2019i hun yn galluogi\ntrawsnewid y prosesau gweithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi presennol yn dra\nchyflym &#8211; nid yw\u2019r ymagweddau newydd wedi\u2019u diffinio eto a dyna pam mae angen\narloesedd arnom megis dull \u2018Adeiladu yn \u00f4l Model\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae \u2018Adeiladu yn \u00f4l Model\u2019 yn bodoli mewn byd rhithwir, gan newid y\npwyslais o ddeunyddiau a chadwyni cyflenwi i alluedd argraffwyr a modelu\ndigidol. Nid oes angen i weithgynhyrchwyr gadw cydrannau mewn stoc; yn lle\nsymud deunyddiau i gyrraedd y farchnad, caiff ffeil y dyluniad 3D ei hanfon gan\ny cwsmer at y gweithgynhyrchwr sy\u2019n ei hanfon at yr argraffydd ynghyd \u00e2\u2019r\ndeunydd a\u2019r manylebau peiriant. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae \u2018Adeiladu yn \u00f4l Model\u2019 yn arwain y ffordd i fyd gweithgynhyrchu\nsymlach lle mae rhwydwaith o gwmn\u00efau argraffu 3D cydweithredol yn gallu\ncydfodoli, gan rannu dyluniadau cynhyrchiol ledled y byd i gynhyrchu nwyddau ar\nalw trwy gyffwrdd \u00e2 botwm.&nbsp; Ar hyn o\nbryd, mae\u2019n arbennig o berthnasol i ddiwydiant cynyddol y gweithgynhyrchwyr\nsy\u2019n cynhyrchu nwyddau ar gyfer diwydiannau a defnyddwyr.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">&nbsp;Beth yw tarddiad Adeiladu yn \u00f4l Model?<\/h3>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cMae\u2019r berthynas rhwng Shapeways a Panalpina ar gyfer cael adnoddau\u2019n rhannol o gyflenwyr allanol yn dangos y potensial i dechnoleg weithgynhyrchu dibenion cyffredinol darfu ar y model cadwyni gyflenwi confensiynol.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyflwynodd Panalpina, un o sefydliadau logisteg trydydd parti mwyaf y\nbyd, weithrediad argraffu 3D sawl blwyddyn yn \u00f4l yn ei gyfleuster yn Eindhoven\nyn yr Iseldiroedd. Diben y cyfleuster oedd cynhyrchu rhannau wedi\u2019u hargraffu\u2019n\n3D ar gyfer Shapeways, un o gwmn\u00efau mwyaf blaenllaw ym maes gweithgynhyrchu\nychwanegion ar gyfer marchnad y defnyddwyr. Gyda\u2019i gilydd, datblygodd y ddau\ngwmni fodel cydweithredol o ffynonellau argraffu 3D allanol, i ehangu galluedd\nargraffu 3D, symleiddio cadwyni cyflenwi, lleihau\u2019r effaith ar yr amgylchedd a\nthorri costau. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y bartneriaeth rhwng Panalpina a Shapeways yn sylweddoli potensial\nllawn y dull \u2018Adeiladu yn \u00f4l Model\u2019. Roedd y bartneriaeth yn galluogi\u2019r cwmn\u00efau\ni anfon gwaith argraffu 3D at ei gilydd, gan gydbwyso galw a galluedd yn\nllwyddiannus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymunodd Prifysgol Caerdydd \u00e2\u2019r cydweithrediad trwy Ganolfan Ymchwil\nGweithgynhyrchu a Logisteg Panalpina (PARC). Canolfan ymchwil yw PARC sy\u2019n\narbenigo mewn rhagfynegi rhestri stoc, gweithgynhyrchu dosbarthedig a\ngweithgynhyrchu ychwanegion. Mae\u2019n fenter unigryw rhwng sefydliad a\u2019r byd\nacademaidd, ac mae trwy PARC y datblygwyd y dull \u2018Adeiladu yn \u00f4l Model\u2019.\nCysylltodd ymchwilwyr o PARC \u00e2 Panalpina a Shapeways er mwyn ymchwilio i\u2019w\npartneriaeth argraffu 3D a datblygu modeli cadwyni cyflenwi newydd ar sail\nposibiliadau argraffu 3D ar y cyd.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"720\" height=\"474\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Aris-and-Emrah-in-manufacting-setting.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1645\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Aris-and-Emrah-in-manufacting-setting.jpg 720w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Aris-and-Emrah-in-manufacting-setting-513x338.jpg 513w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/Aris-and-Emrah-in-manufacting-setting-300x198.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 720px) 100vw, 720px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth fydd nesaf i Adeiladu yn \u00f4l Model?<\/h3>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cMae r\u00f4l argraffu 3D mewn cadwyni cyflenwi yn y dyfodol yn dibynnu ar ddatblygu ffyrdd newydd o weithredu er mwyn symleiddio cadwyni cyflenwi presennol a chreu mathau newydd o strwythurau cyflenwi.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r cysyniad \u2018Adeiladu yn \u00f4l Model\u2019 yn dal yn datblygu; mae\u2019n nodi\nnewid anferthol mewn ffyrdd o wneud busnes, a bydd y rhan fwyaf o gyrff\nsefydledig yn araf i addasu. Ond byddan nhw\u2019n addasu yn y pen draw; mae\ngweithgynhyrchu ychwanegion yn dod yn fwyfwy blaenllaw wrth i\u2019r dechnoleg\nddatblygu. Mae argraffu 3D ymhell ar y ffordd i ddod yn ddull cynhyrchu prif\nffrwd, a chaiff y rhai nad ydynt yn manteisio ar y posibiliadau newydd a\nalluogir gan argraffu 3D eu gadael ar \u00f4l.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd gweithgynhyrchwyr ychwanegion presennol eisoes yn gweld effaith\nmawr \u2018Adeiladu yn \u00f4l Model\u2019 yn eu gweithrediadau eu hunain. Ni fydd hen gadwyni\ncyflenwi traddodiadol yn gweithio\u2019n effeithiol ar gyfer y mathau newydd hyn o\nfusnes a byddant eisoes wedi addasu eu cadwyni cyflenwi a\u2019u strategaethau\ncynhyrchu er mwyn bod yn gydnaws.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ymchwiliadau, megis y prosiect a gynhaliwyd gan Gaerdydd, yn\nhollbwysig i ailddiffinio arferion gorau, gan alluogi diwydiannau i wneud y\nnewidiadau angenrheidiol i baratoi ar gyfer byd digidol o argraffu 3D a\ngweithgynhyrchu dosbarthedig, ar alw, ledled y byd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/the-panalpina-centre-for-manufacturing-and-logistics-research\/people\"><strong>Katy Alice Huckle<\/strong><\/a><strong> yn Rheolwr Datblygu Corfforaethol yng <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/the-panalpina-centre-for-manufacturing-and-logistics-research\/people\"><strong>Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu a Logisteg Panalpina<\/strong><\/a><strong>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Ysgrifennwyd yr erthygl hon ar y cyd \u00e2 Ryan Iwanski a Giovanni Colantonio o <\/em><a href=\"https:\/\/www.shapeways.com\/\"><em>Shapeways<\/em><\/a><em>, ffynhonnell argraffu 3D gyflymaf y byd&nbsp; ar gyfer rhannau prototeipio a chynhyrchu, a <\/em><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/media\/contacts\"><em>Heath Jeffries<\/em><\/a><em>, Rheolwr Cyfathrebu Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein post diweddaraf, mae Katy Alice Huckle, Ryan Iwanski, Giovanni Colantario a Heath Jeffries yn archwilio effaith argraffu 3D ar y diwydiant gweithgynhyrchu. Rydym eisoes yn gwybod bod argraffu [&hellip;]","protected":false},"author":1726,"featured_media":1654,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[950],"tags":[1105,1104,54,1088,1101,1103,1102,1085,105,1086,183,53,61],"class_list":["post-1651","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gweithgynhyrchu","tag-adeiladu-yn-ol-model","tag-argraffu-3d","tag-arloesedd","tag-b2b","tag-canolfan-ymchwil-gweithgynhyrchu-a-logisteg-panalpina","tag-gweithgynhyrchu","tag-logisteg","tag-panalpina","tag-prifysgol-caerdydd","tag-shapeways","tag-technoleg","tag-ymchwil","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-qD","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/09\/3D-printing-graphic.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1651","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1726"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1651"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1651\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1656,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1651\/revisions\/1656"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1654"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1651"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1651"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1651"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}