{"id":1596,"date":"2019-08-07T11:06:12","date_gmt":"2019-08-07T10:06:12","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=1596"},"modified":"2019-08-07T14:23:47","modified_gmt":"2019-08-07T13:23:47","slug":"ydy-diwydiant-teledu-y-du-yn-wynebu-argyfwng-o-ran-sgiliau-a-hyfforddiant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/ydy-diwydiant-teledu-y-du-yn-wynebu-argyfwng-o-ran-sgiliau-a-hyfforddiant\/","title":{"rendered":"Ydy diwydiant teledu y DU yn wynebu argyfwng o ran sgiliau a hyfforddiant?"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/08\/AEJ_8303-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1597\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/08\/AEJ_8303-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/08\/AEJ_8303-506x338.jpg 506w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/08\/AEJ_8303-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/08\/AEJ_8303-768x513.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>James yn gwneud ei gyflwyniad ar sgiliau a hyfforddiant yn niwydiant teledu\u2019r DU yng Nghynhadledd Ymchwil \u00d4l-raddedig Cymru, sy&#8217;n cael ei chynnal am y tro cyntaf.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein blog diweddaraf, James Davies sy&#8217;n amlinellu&#8217;r heriau o ran gweithwyr a sgiliau sy&#8217;n wynebu diwydiant teledu y DU. Mae ei gyhoeddiad yn seiliedig ar ei gyflwyniad arobryn a roddodd yng Nghynhadledd Ymchwil \u00d4l-raddedig Cymru ym mis Mehefin 2019, sef y tro cyntaf i&#8217;r gynhadledd gael ei chynnal. <\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Newid yw&#8217;r unig beth cyson<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir rhannu&#8217;r diwydiant cynhyrchu teledu yn y DU yn ddau brif &#8216;gyfnod&#8217;\neang. Yn y cyfnod cyntaf, a gafodd le blaenllaw tan yr 1980au, roedd y\ndiwydiant teledu yn y DU yn system fiwrocrataidd draddodiadol wedi&#8217;i\nhintegreiddio&#8217;n fertigol. Roedd yn seiliedig ar ddarlledwr pwysig a oedd yn\ncael ei ariannu&#8217;n gyhoeddus, sef y BBC, a rhannau sector cyhoeddus ITV a oedd\nyn cael eu rheoleiddio&#8217;n drwm a&#8217;u hariannu gan refeniw hysbysebion (Dex <em>et al<\/em>. 2000). Roedd swyddi cyflogedig\nparhaol gyda&#8217;r darlledwyr hyn yn norm (Paterson 2001). Gellir dadlau y bu dau\ngatalydd pwysig o newid sylweddol yn niwydiant teledu y DU: lansiad Channel 4\nyn 1982, a Deddf Darlledu 1990. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd Channel 4 yn sianel deledu newydd, a&#8217;i chylch gwaith oedd darlledu\nrhaglenni annibynnol, ond heb eu cynhyrchu nhw ei hun. Arweiniodd at weld y\nsector cynhyrchu teledu annibynnol yn ehangu ar raddfa aruthrol. Roedd Deddf\nDarlledu (1990) yn deddfu bod rhaid i 25% o&#8217;r holl raglenni teledu bellach gael\neu cynhyrchu gan gwmn\u00efau annibynnol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ganlyniad i&#8217;r newidiadau hyn, cafwyd amgylchedd gwaith newydd a oedd\nyn dibynnu&#8217;n helaeth ar weithlu llawrydd (Hodgson a Briand 2013). <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cCafodd swyddi cyflogedig traddodiadol, gyda sicrwydd swydd tymor hir a phosibiliadau am ddyrchafiad, eu disodli gan economi tymor byr a oedd yn gofyn am fwy a mwy o hyblygrwydd a sgiliau cludadwy.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y gallu i newid ffocws bellach yn bwysicach na&#8217;r profiad a fyddai\nwedi cael ei werthfawrogi yn y gorffennol. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y rhwydwaith wrthgymdeithasol <\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gydag amgylchedd gwaith newydd, daeth y broblem o drefnu&#8217;r farchnad\nlafur hon a oedd yn newid. Wrth i dimau gwaith ddod at ei gilydd ar gyfer\nprosiectau gweddol fyr, cyn torri&#8217;n rhydd unwaith eto, daeth rhwydweithiau\nproffesiynol yn hanfodol bwysig am amrywiol resymau. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I ddechrau, mae rhwydweithiau yn ffordd o gadw timau gyda&#8217;i gilydd o\nbrosiect i brosiect, gan greu rhywfaint o sicrwydd swyddi i&#8217;r rheini sy&#8217;n gallu\naros mewn grwpiau o&#8217;r fath. Yn ail, mae rhwydweithiau proffesiynol yn cael eu\ndefnyddio i ddysgu am gyfleoedd gwaith, ac i wneud a chynnal cysylltiadau\nproffesiynol er mwyn cael gwaith parhaus. Fe wnaeth Antcliff <em>et al<\/em>. (2007) astudio rhwydweithiau o&#8217;r\nfath, a chanfod bod gweithwyr yn y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yn\ndefnyddio rhwydweithiau i feithrin ymddiriedaeth a chydweithio, ond hefyd i\ngystadlu. Felly, gallant fod yn &#8216;agored&#8217; a &#8216;chaeedig&#8217; eu natur. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw&#8217;n syndod, felly, bod ymatebion a phrofiadau&#8217;r rheini sy&#8217;n\ngweithio yn y diwydiannau hynny yn amwys iawn o ran y rhwydweithiau\ncymdeithasol hyn.&nbsp; Mae gweithwyr wedi\ndweud eu bod nhw&#8217;n teimlo&#8217;n orbryderus ac yn ynysig o ganlyniad i ansicrwydd yn\ny gwaith, a diffyg sicrwydd hirdymor yn eu gyrfaoedd (Hesmondhalgh a Baker\n2009). <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae problem hefyd o ran y bobl sy&#8217;n gallu cael mynediad at y\nrhwydweithiau proffesiynol hyn. Mae hyn yn broblem gan mai dyma yw&#8217;r allwedd ar\ngyfer cael gwaith, a pharhau i gael gwaith, yn y cyfnod newydd hwn o gynhyrchu\nar gyfer y teledu. Roed y rhwydweithiau prosiect caeedig yn cau allan y rheini\nheb gyfalaf dynol a diwylliannol uchel (Lee 2011). <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn geiriau eraill, mae&#8217;r bobl rydych chi&#8217;n eu hadnabod, eich cefndir\npersonol, yr ysgol y gwnaethoch ei mynychu, i gyd yn dod yn ffactorau pwysig\nwrth eich gwneud yn ddigon deniadol i rwydwaith proffesiynol dymunol eich\ncaniat\u00e1u i fod yn rhan ohono. Nid yw hyn yn cynnig cyfle cyfartal i weithwyr\nsy&#8217;n newydd i&#8217;r maes. Mae pobl dosbarth canol yn fwy tebygol o allu ymdopi \u00e2\nchyfnodau estynedig heb lawer o incwm, neu heb ddim incwm hyd yn oed. Maen\nnhw&#8217;n fwy tebygol o rannu normau diwylliannol a phwyntiau cyfeirio \u00e2 phobl\nbwysig yn y diwydiant, ac o fod \u00e2 chysylltiadau teuluol sy&#8217;n eu galluogi i gael\ngwaith drwy sianeli anffurfiol. Mae pobl yn hoff o bobl eraill sy&#8217;n eu hatgoffa\no&#8217;u hunain. Os ydych chi&#8217;n cerdded ac yn siarad yn y ffordd gywir, byddwch\nchi&#8217;n ffitio i mewn \u00e2&#8217;r bobl sydd eisoes yn y rhwydwaith, a byddwch chi&#8217;n cael\nmynediad at y rhwydwaith. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae goblygiadau hyn yn destun pryder mawr. Fe wnaeth yr Adran\nDiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS 2016) gyhoeddi&#8217;r ffigurau canlynol am\ny Diwydiannau Creadigol yn 2015: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>60\/61%\nyn wrywaidd. <\/li><li>92\/93%\nyn wyn. <\/li><li>87\/88%\no NS-SEC 1-4 (pedwar dosbarthiad uchaf&nbsp;\nDosbarthiadau Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol).<\/li><li>53%\nyn hunangyflogedig (gweithwyr llawrydd). <\/li><\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal, yn \u00f4l arolwg o 1071 o weithwyr llawrydd yn gweithio yn y\nmaes ffilm a theledu, roedd 75% wedi ymgymryd \u00e2 chyfnod o ryw fath o brofiad\ngwaith di-d\u00e2l. Amcangyfrifwyd bod arferion o&#8217;r fath yn arbed oddeutu \u00a328m o\ngostau llafur (Strauss 2005). <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cO ganlyniad,\nmae&#8217;r diwydiant yn llawn llafur llawrydd, arferion recriwtio anffurfiol sy&#8217;n\nanodd eu diffinio, a dibyniaeth ar swyddi lefel mynediad cyfog isel a di-d\u00e2l,\nsydd wedi&#8217;u pwysoli&#8217;n uchel yn erbyn y rheini sydd heb y gefnogaeth ariannol\nberthnasol na&#8217;r cefndiroedd cymdeithasol cywir.\u201d <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sgiliau a hyfforddiant yn y dyfodol<strong><em> <\/em><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae tensiwn rhwng cenedlaethau o weithwyr hefyd.&nbsp; Mae gan weithwyr ifanc a gweithwyr sy&#8217;n\nnewydd i&#8217;r maes farn llawer mwy ffafriol am lafur di-d\u00e2l na gweithwyr h\u0177n, ac\nmae&#8217;r gweithwyr sydd eisoes wedi&#8217;u sefydlu yn y maes yn gweld agweddau&#8217;r\ngenhedlaeth newydd yn fygythiad i&#8217;w hincwm&nbsp;\n(Percival a Hesmondhalgh 2014). Yn draddodiadol, byddai gwybodaeth wedi\ncael ei throsglwyddo o weithwyr proffesiynol profiadol i weithwyr newydd drwy\ngyfrwng hyfforddiant yn y swydd. Dyma berthynas mentor\/mentorai sy&#8217;n llawer anoddach\nei chynnal mewn amgylchedd gwaith darniog ac anffurfiol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae newidiadau a datblygiadau technolegol wedi dylanwadu ar natur y\nsgiliau sydd eu hangen gan weithwyr newydd hefyd. Ar un adeg, roedd angen t\u00eem o\nweithwyr proffesiynol medrus i weithredu camera darlledu, ond gall unigolion eu\ngweithredu bellach.&nbsp; Gall gwaith golygu\ngael ei wneud ar unwaith nawr, ac ar unrhyw adeg yn ystod y broses gynhyrchu. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn oll yn codi&#8217;r cwestiwn canlynol: Pa sgiliau sydd eu hangen nawr,\na ble byddech chi&#8217;n mynd i&#8217;w dysgu? <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y broblem ar gyfer dyfodol sgiliau a hyfforddiant yn niwydiant teledu y\nDU yw natur y sgiliau sydd eu hangen bellach, a&#8217;r adnoddau, y mynediad a&#8217;r <em>cyfle<\/em> i&#8217;w dysgu sydd gan weithwyr newydd\nyn y maes. At hynny,&nbsp; yng nghyd-destun y\npatrymau recriwtio hyn, mae&#8217;n hanfodol deall y goblygiadau ar gyfer datblygu\nsgiliau, sicrwydd swyddi ac ystyriaethau hirdymor o ran ansawdd cynhyrchu yn y\ndiwydiant. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai eich bod chi&#8217;n ceisio dyfalu pam y bu i ni ddechrau drwy\nystyried digwyddiadau bron i 30 mlynedd yn \u00f4l. Sut mae newidiadau o&#8217;r\n1980au\/1990au yn berthnasol i&#8217;r diwydiant cynhyrchu teledu heddiw? Fe wnaeth y\nnewid i amgylchedd gwaith seiliedig ar brosiectau arwain at gyfran enfawr o\nweithwyr llawrydd, ond gweithwyr a oedd \u00e2&#8217;u gwreiddiau yn ddwfn ym\nmiwrocratiaeth traddodiadol y BBC ac ITV. Doedden nhw ddim yn &#8216;dechrau o&#8217;r\ndechrau&#8217;. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2019, wrth i lawer o&#8217;r genhedlaeth honno nes\u00e1u at oedran ymddeol,\nmae&#8217;n ymddangos yn amserol ceisio deall effaith newidiadau&#8217;r gorffennol ar\nddyfodol y diwydiant. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1262083-davies-james\"><strong>James Davies<\/strong><\/a><strong>\nyn fyfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd. <\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Mae ei waith ymchwil yn\ncanolbwyntio ar gysylltiadau cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cyfeiriadau <\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Antcliff,\nV. <em>et al<\/em>., 2007. Networks and Social\nCapital in the UK television industry: The weakness of weak ties<em>. Human Relations <\/em>60(2), tt. 371-393. <\/li><li>Deddf\nDarlledu (1990) <\/li><li>DCMS,\n2016. Creative Industries Mapping Document <\/li><li>Dex,\nS., Willis, J., Paterson, R. and Sheppard, E. 2000. Freelance workers and\nContract Uncertainty: The effects of Contractual Changes in the Television\nIndustry, <em>Work, Employment and Society <\/em>14(2),\ntt. 283-305 <\/li><li>Hesmondhalgh,\nD. and Baker, S. 2009. \u2019A very complicated version of freedom\u2019: Conditions and\nexperiences of creative labour in three cultural industries, <em>Poetics <\/em>38(1), tt. 4-20. <\/li><li>Hodgson,\nD. and Briand, L. 2013. Controlling the uncontrollable: \u2018Agile\u2019 teams and\nillusions of autonomy in creative work. <em>Work,\nEmployment and Society <\/em>27(2), tt. 308-325. <\/li><li>Lee,\nD. 2011. Networks, cultural capital and creative labour in the British\nindependent television industry. <em>Media,\nCulture and Politics <\/em>33(4), tt. 549-565. <\/li><li>Paterson,\nR. 2001. Work histories in television. <em>Media,\nCulture and Society 23, tt<\/em>. 495-520 <\/li><li>Percival,\nN. and Hesmondhalgh, D. 2014. Unpaid work in the UK television and film\nindustries: Resistance and changing attitudes. <em>European Journal of Communication <\/em>29(2), tt. 188-203. <\/li><li>Strauss,\nW. 2005. <em>What life\u2019s like for TV\u2019s\nfreelancers. <\/em>Ar gael yn: <a href=\"bit.ly\/fOZZj2\">bit.ly\/fOZZj2<\/a>. <\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"James yn gwneud ei gyflwyniad ar sgiliau a hyfforddiant yn niwydiant teledu\u2019r DU yng Nghynhadledd Ymchwil \u00d4l-raddedig Cymru, sy'n cael ei chynnal am y tro cyntaf. Yn ein blog diweddaraf, [&hellip;]","protected":false},"author":1711,"featured_media":1597,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1018],"tags":[46,1026,1033,64,1038,1034,951,659,1039,1024,198,105,1040,983,183,53,61],"class_list":["post-1596","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diwydiannau-creadigol","tag-bbc","tag-channel-4","tag-cynhadledd-ymchwil-ol-raddedig-cymru","tag-cysylltiadau-cyflogaeth","tag-diwydiannau-creadigol","tag-diwydiant-teledu","tag-du","tag-ffilm","tag-hyfforddiant","tag-itv","tag-phd","tag-prifysgol-caerdydd","tag-proffesiynol","tag-sgiliau","tag-technoleg","tag-ymchwil","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-pK","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/08\/AEJ_8303-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1596","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1711"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1596"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1596\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1606,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1596\/revisions\/1606"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1597"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1596"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1596"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1596"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}