{"id":1585,"date":"2019-07-16T10:37:06","date_gmt":"2019-07-16T09:37:06","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/?p=1585"},"modified":"2019-08-05T10:38:08","modified_gmt":"2019-08-05T09:38:08","slug":"gweithwyr-llawrydd-creadigol-nid-mater-chwerthin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/cy\/gweithwyr-llawrydd-creadigol-nid-mater-chwerthin\/","title":{"rendered":"Gweithwyr llawrydd creadigol: nid mater chwerthin"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_413-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1493\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_413-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_413-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_413-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_413-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yn ein cyhoeddiad diweddaraf, <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.linkedin.com%2Fin%2Florna-prichard-b9930525%2F%3ForiginalSubdomain%3Duk&amp;data=01%7C01%7CReesJ37%40cardiff.ac.uk%7C98edc2b3e09746b72bbe08d701490f17%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1&amp;sdata=YrnfP%2BAtVCL7sdSpy%2FsuBk8Qu2I8qSvcvNFqxpGT5aE%3D&amp;reserved=0\">Lorna Prichard<\/a>, y digrifwr a&#8217;r cyn-newyddiadurwr, sy&#8217;n siarad am fanteision ac anfanteision gwaith llawrydd creadigol yn dilyn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gan D\u00eem Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd a Chaerdydd Creadigol yng nghlwb Glee, Caerdydd.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn\nddiweddar, roedd yn bleser gen i gael fy ngwahodd i wneud set yng nghlwb Glee\nCaerdydd ar gyfer pobl greadigol Caerdydd. Digwyddiad rhwydweithio busnes oedd\nyn cael ei gynnal, a hynny i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Gweithwyr Llawrydd.\nRoedd hi&#8217;n fraint cael fy ngwahodd, ac roeddwn i&#8217;n gwneud fy ngorau glas i\nbeidio \u00e2 theimlo nad oedd lle teilwng i mi ar y llwyfan. Pa hawl oedd gen i, i\nroi sgwrs o flaen gweithwyr llawrydd eraill? Dim ond ychydig dros flwyddyn\nroeddwn i wedi bod wrthi fy hun! Roedd hi&#8217;n sicr yn deimlad rhyfedd bod yn\nastudiaeth achos i bobl eraill.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fi\nyw&#8217;r un sydd fel arfer yn gorfod dod o hyd iddyn nhw! Yn sicr, dyna&#8217;r oeddwn\ni&#8217;n ei wneud am 10 mlynedd cyntaf fy ngyrfa, a minnau&#8217;n newyddiadurwr gyda BBC\nCymru Wales ac yna ITV Wales. Fel y dywedais wrth y gynulleidfa yng nghlwb\nGlee, yr astudiaeth achos cyntaf yr oedd rhaid i mi ddod o hyd iddi oedd\nputeindy ar gyfer ymchwiliad arbennig i&#8217;r diwydiant rhyw. \u201cHelo, rydw i&#8217;n\ngweithio i&#8217;r BBC, fyddai hi&#8217;n iawn i ni ddod i&#8217;ch ffilmio chi..?\u201d Mae&#8217;n swnio\nfel tasg amhosibl, ond llwyddais i ddod o hyd i un yn y diwedd. Roedd yn ffordd\nwych o neidio i mewn iddi a dysgu sut i fynd ati \u2013 byddai pob astudiaeth achos\nyn haws wedi hynny!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Profiad cwbl newydd<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd\nbod yn newyddiadurwr yn gr\u00eat. Roeddwn i&#8217;n mwynhau sawl agwedd ar fy swydd:\ncyfarfod \u00e2 phobl anhygoel, darlledu&#8217;n fyw, rhoi gwybod am y newyddion\ndiweddaraf, adrodd straeon, ymdopi \u00e2&#8217;r annisgwyl. Ond roedd agweddau eraill nad\noedden nhw&#8217;n gweddu cystal i mi.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cRoeddwn i&#8217;n cael trafferth \u00e2&#8217;r angen i gydymffurfio a ffrwyno rhai pethau eraill: fy mhersonoliaeth, fy marn gryf, fy ngwallt cyrliog. Y dyddiau hyn, rydw i&#8217;n gwisgo beth rydw i am ei wisgo, yn dweud beth rydw i am ei ddweud ac mae gan fy ngwallt rwydd hynt i fod mor wyllt ag y mynna!\u201d <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond\nmae hyn i gyd yn brofiad cwbl newydd i mi. Mae dal yn fy synnu i bob tro rydw\ni&#8217;n dweud mai gweithiwr llawrydd ydw i. Mae&#8217;n anodd gwybod sut i esbonio fy\nmywyd o ddydd i ddydd i rywun arall. Mae&#8217;n llawn creadigrwydd, gwaith\ngweinyddol, ymarfer a pherfformio. Dechreuais fod yn ddigrifwr llwyfan fel hobi\nddechrau 2017. Roeddwn i wrth fy modd ar y llwyfan, a sylweddolais yn fuan iawn\nna fydden i&#8217;n gallu gwneud hynny a bod yn newyddiadurwr teledu credadwy ar yr\nun pryd.&nbsp; Felly, roedd yn amser profi\nrhywbeth cwbl newydd, a phrofi byd y gweithiwr llawrydd, yn ogystal \u00e2 phrofi\ngyrfa newydd sbon. Mentrais fynd ati go iawn ym mis Mawrth 2018.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1531\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Dimi-at-Comedy-event.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrthi&#8217;n\nrhoi cyd-destun academaidd i fywyd digrifwr, roedd&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610591-stoyanova-russell-dimitrinka\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Dr Dimitrinka Stoyanova Russell<\/a> o Brifysgol Caerdydd. Rhoddodd hi sgwrs ddifyr iawn\nam y gwaith ymchwil mae hi wedi&#8217;i wneud ar y cyd \u00e2 Nick Butler i&#8217;r straen o\nweithio ym maes digrifwyr llwyfan. Mae hi wedi siarad \u00e2 64 o ddigrifwyr\nproffesiynol ar gyfer ei phapur&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/news\/view\/1335780-no-funny-business\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><em>No Funny Business: precarious work and emotional labour in stand-up\ncomedy<\/em><\/a>. Mae hi&#8217;n awyddus\ni siarad \u00e2 mwy o ddigrifwyr \u2013 menywod yn arbennig.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwthio a thynnu<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un\npeth sydd wir wedi aros yn y cof yw pan ddywedodd hi bod y rhan fwyaf o\nddigrifwyr yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu &#8220;tynnu&#8221; i&#8217;r proffesiwn.\nMae wir yn anodd esbonio wrth bobl pam eich bod chi&#8217;n teimlo&#8217;r ysfa yma i\ngeisio gwneud bywoliaeth drwy wneud i bobl chwerthin. Mae cymaint mwy iddi na\nset 20 munud! Mae&#8217;n waith caled iawn. Rydw i mewn sefyllfa ryfedd iawn ar hyn o\nbryd. Dydw i erioed wedi gweithio mor galed, ond dydw i erioed wedi bod mor\ndlawd. Ond dydw i ddim yn gofyn am unrhyw gydymdeimlad. Dydw i erioed wedi bod\nmor hapus. Dyna&#8217;r peth rhyfedd. Mae&#8217;n teimlo fy mod i wedi cwrdd \u00e2 chariad\nnewydd. Rydw i&#8217;n meddwl am gomedi drwy&#8217;r amser, rydw i&#8217;n cael trafferth rhoi\ncomedi o&#8217;r neilltu a dydw i ddim yn gweld digon ar fy ffrindiau. Rydw i&#8217;n\ndigalonni os nad oes gen i gig ar y gweill.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dydy\nbywyd digrifwr ddim yn gweddu i berson croendenau. Gall fod yn anodd iawn. Ond\nmae&#8217;n rhoi llawer o foddhad hefyd! Mae cael eich talu i wneud rhywbeth sydd\nwrth eich bodd yn cymell pob rhan ohonoch chi. Pan fyddwch chi&#8217;n s\u00f4n wrth\ngynulleidfa am yr agweddau mwyaf od arnoch chi eich hun, a&#8217;r gynulleidfa honno\nyn eich derbyn chi, mae&#8217;n eich helpu chi i dderbyn eich hun hefyd. Rydych chi&#8217;n\nmagu gwytnwch ar \u00f4l gig wael, j\u00f4c sydd ddim wedi gweithio, cynulleidfa sydd\nddim yn eich hoffi chi. Mae&#8217;n rhaid bod hynny&#8217;n gwneud lles i chi!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_350-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1519\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_350-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_350-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_350-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_350-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn\nystod fy set, fe wnes i siarad am yr angen i ddatblygu digon o &#8220;hyder y\ndyn gwyn heterorywiol&#8221; yn eich bywyd o ddydd i ddydd fel gweithiwr\nllawrydd. Roeddwn i&#8217;n cellwair, ond roedd yn ymddangos i hynny daro deuddeg \u00e2\nrhai pobl, y menywod yn y gynulleidfa yn arbennig. Dywedais wrthyn nhw fy mod i\nwedi dod yn eithaf pell mewn bywyd drwy gredu ynof fi fy hun&nbsp; \u2013 a chredu mwy na&#8217;r person arferol efallai. A\ndyna sut rydw i&#8217;n credu y dylai hi fod \u2013 dylen ni gymryd risg, rhoi cynnig ar bethau,\nderbyn y byddwn ni&#8217;n gwneud camgymeriadau a dysgu o&#8217;r camgymeriadau hynny.\nRoeddwn i&#8217;n cofio n\u00f4l i&#8217;r tro diwethaf i mi chwarae set fer yng nghlwb Glee\nBirmingham, yn ystod yr haf y llynedd. Am set ofnadwy! Ni weithiodd y j\u00f4cs\nroeddwn i&#8217;n meddwl y bydden nhw bob amser yn gwneud i bobl chwerthin. Am\nbrofiad erchyll. Ond, fe wnes i ddysgu o&#8217;r profiad, ailysgrifennu&#8217;r j\u00f4cs a\nsymud ymlaen.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rowlio chwerthin gyda Howl Comedy<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y\ndiwrnodau hyn, rydw i&#8217;n trefnu sawl noson gomedi broffesiynol bob mis o dan enw&nbsp;<a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.facebook.com%2Fhowlcomedy%2F%3Fepa%3DSEARCH_BOX&amp;data=01%7C01%7CReesJ37%40cardiff.ac.uk%7C6ac4b6df953c465f0d1e08d7014b5787%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1&amp;sdata=wmasAA5nh6UqKMb9dPnQHlCA1TEn99oAMfw9UiU8%2BMs%3D&amp;reserved=0\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Howl Comedy<\/a>, fy nghyfres gomedi fy hun (unwaith eto, sut yn y byd\nydw i wedi llwyddo i gael fy nghyfres gomedi fy hun?!). Dyna i chi addysg yn\nhyder y dyn gwyn heterorywiol! Byddaf yn hysbysebu prif sbot sy&#8217;n talu&#8217;n dda,\nac yna&#8217;n cael llwyth o negeseuon ebost gan ddynion nad ydw i wedi cael unrhyw\ngysylltiad \u00e2 nhw o&#8217;r blaen. Roedd un neges ebost yn dweud: &#8220;Helo, rydw i&#8217;n\ngallu gwneud y gig yma. John.\u201d Dim fideos o gigs eraill, dim cv, dim byd. Dyma,\nwrth gwrs, yw lle mae hyder y dyn gwyn heterorywiol yn mynd yn rhy bell. Ond\nrydw i&#8217;n sylwi bod dynion yn y diwydiant yn tueddu i wthio eu hunain yn fwy na\nmenywod. Maen nhw&#8217;n gofyn am fwy ac felly&#8217;n cael mwy. Roedd gwaith ymchwil Dimi\nyn cefnogi hynny.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n\nrhaid i ddigrifwyr benywaidd frwydro yn erbyn eithaf tipyn o rywiaeth ac\nagweddau hen ffasiwn gan rai hyrwyddwyr hefyd. Mae pethau&#8217;n newid, ond mae&#8217;n\ncymryd amser.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cFel y dywedais yn y digwyddiad, un peth na feddyliais i erioed y bydden i&#8217;n ei golli am gael fy nghyflogi oedd adran adnoddau dynol. Os bydd rhywun yn ymddwyn yn wael tuag atoch chi ym myd comedi, er enghraifft yn dweud wrthych chi nad ydyn nhw&#8217;n fodlon trefnu digrifwyr benywaidd ar gyfer gig penodol oherwydd byddai&#8217;n \u201crhy beryglus\u201d, does dim rheolwr llinell i chi gwyno wrtho.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe\nwnaeth Dimi siarad am yr agwedd yma ar fywyd digrifwr llwyfan hefyd. Yr angen i\nguddio eich pryderon, i anwybyddu ymddygiad dadleuol gan eich cyfoedion\noherwydd gallai gwneud mor a mynydd ohono effeithio ar y gigs y cewch chi eich\ngwahodd i&#8217;w gwneud yn y dyfodol. Yn bersonol, rydw i o blaid tynnu sylw at\nymddygiad annerbyniol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_365-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1516\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_365-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_365-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_365-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_365-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l\nfy set, bues i&#8217;n cymryd rhan mewn trafodaeth banel gyda Dimi a dau weithiwr\nllawrydd lleol arall \u2013 yr hyfforddwr arian <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.talialoderick.co.uk&amp;data=01%7C01%7CReesJ37%40cardiff.ac.uk%7Cdea64ef9ce9a4f98777a08d7014135de%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1&amp;sdata=uxJN6KqX7XAuCmEHfH5U2Mf0%2F4gQjlY6iAUW4Cl4zOE%3D&amp;reserved=0\">Talia Loderick<\/a> a&#8217;r\ncynhyrchydd creadigol <a href=\"https:\/\/twitter.com\/gavinbonson\">Gavin Johnson<\/a>. Fe wnaethon ni siarad am sawl peth \u2013 llesiant, y byd\ndigidol ac arian. Rhoddais gyfle i Talia gymryd yr awenau wrth s\u00f4n am arian,\ngan gyfaddef bod trethi yn fwystfil nad ydw i wedi bod yn ddigon dewr i&#8217;w\nwynebu eto. Roedd yn amlwg bod Talia a Gavin wrth eu bodd \u00e2&#8217;u gwaith ac yn cael\nyr un trafferthion \u00e2 minnau \u2013 er ein bod ni mewn diwydiannau cwbl\nwahanol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafodd llawer o bwyntiau cadarnhaol eu gwneud yn y digwyddiad. Cefais agoriad llygad i&#8217;r cymorth sydd ar gael yn y gymuned greadigol yng Nghaerdydd a thu hwnt.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_367-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1514\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_367-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_367-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_367-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_367-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.creativecardiff.org.uk%2Fusers%2Fsara-pepper&amp;data=01%7C01%7CReesJ37%40cardiff.ac.uk%7C6ac4b6df953c465f0d1e08d7014b5787%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1&amp;sdata=5SUu3hJCEQWzNKLeso3yp0ciRgbQC%2Bj1%2BpbuKDtfiJw%3D&amp;reserved=0\" target=\"_blank\">Sara Pepper<\/a>\u00a0o Gaerdydd Creadigol \u2013 a oedd yn cynnal y digwyddiad \u2013 fod gweithdai ar gael, ac y bydden nhw&#8217;n ystyried cynnal gweithdy yn ymwneud \u00e2 threthi i helpu pobl fel fi! Galla i ddim aros! Wel&#8230;gallaf!\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cynhaliwyd\ny digwyddiad ar y cyd gan&nbsp;<a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.creativecardiff.org.uk%2F&amp;data=01%7C01%7CReesJ37%40cardiff.ac.uk%7C6ac4b6df953c465f0d1e08d7014b5787%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1&amp;sdata=H9piD%2Bi5L5wsxOoqDhrhpVh2QXhSEnAs3UtAebPN1K0%3D&amp;reserved=0\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Caerdydd Creadigol<\/a>&nbsp;a&#8217;r&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\/courses\/executive-education\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">T\u00eem Addysg Weithredol<\/a>&nbsp;yn Ysgol Busnes Caerdydd. Maen nhw&#8217;n awyddus\niawn i estyn llaw at gymunedau busnes llawrydd a chreadigol Caerdydd a thu\nhwnt. Rydw i&#8217;n mynd i fod ar eu cefnau nhw o hyn ymlaen a bod yn onest! Os\ngalla i lwyddo i godi ar amser ar \u00f4l gig hwyr, rydw i&#8217;n bendant yn mynd i fynd\ni&#8217;w Sesiynau&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\/courses\/executive-education\/breakfast-briefing-series\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Briffio Brecwast<\/a>. Cefais wybod hefyd eu bod nhw&#8217;n gweithio gyda\nbusnesau mawr, bach a chanolig, yn ogystal \u00e2 micro-fusnesau, i ddylunio a\nchyflwyno <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\/courses\/executive-education\/custom-programmes\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhaglenni dysgu pwrpasol<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un\nsyniad rydw i wedi bod yn ei ddatblygu a&#8217;i dreialu yw gweithdai &#8216;hyder drwy\ngomedi&#8217;, ac rydw i&#8217;n cyfarfod \u00e2 swyddogion Ysgol Busnes Caerdydd yn\nddiweddarach y mis hwn i&#8217;w drafod ymhellach. Mwy yn y man&#8230;!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1533\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/Sarah-L-at-Comedy-event.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os\nydych chi am weld a fydden nhw&#8217;n gallu eich helpu chi i ddatblygu syniad, <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\/events\/breakfast-briefing-series\/business-school-breakfast-briefings\/join-the-executive-education-community\">ymunwch \u00e2&#8217;u cymuned<\/a>.\nYmunwch \u00e2 <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.creativecardiff.org.uk%2Fjoin&amp;data=01%7C01%7CReesJ37%40cardiff.ac.uk%7Cdea64ef9ce9a4f98777a08d7014135de%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1&amp;sdata=oztaMUj0iCX65BsWCHQMHDpbCwg4Ucj4sH8oL%2Biwxto%3D&amp;reserved=0\">chymuned<\/a>\nCaerdydd Creadigol hefyd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er\ngwaethaf yr anawsterau, fydden i byth yn troi cefn ar fy mywyd fel gweithiwr\nllawrydd. Mae ambell beth na allech chi roi gwerth arno: y rhyddid i ddewis\npryd i weithio, i gael amser o&#8217;r gwaith pan fydd yr haul yn gwenu, i ddilyn\neich breuddwyd. Mae&#8217;n bendant yn ffordd o fyw sy&#8217;n haeddu cael ei dathlu mewn\ndigwyddiadau fel yr un yma.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae<\/strong> <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.linkedin.com%2Fin%2Florna-prichard-b9930525%2F%3ForiginalSubdomain%3Duk&amp;data=01%7C01%7CReesJ37%40cardiff.ac.uk%7C98edc2b3e09746b72bbe08d701490f17%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1&amp;sdata=YrnfP%2BAtVCL7sdSpy%2FsuBk8Qu2I8qSvcvNFqxpGT5aE%3D&amp;reserved=0\"><strong>Lorna Prichard<\/strong><\/a><strong> yn\nDdigrifwr Llawrydd.<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Mae ei chyfres gomedi, <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/howlcomedy\/?epa=SEARCH_BOX\">Howl Comedy<\/a>, yn cael ei chynnal bob wythnos yn Tramshed, Caerdydd.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein cyhoeddiad diweddaraf, Lorna Prichard, y digrifwr a'r cyn-newyddiadurwr, sy'n siarad am fanteision ac anfanteision gwaith llawrydd creadigol yn dilyn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gan D\u00eem Addysg Weithredol Ysgol [&hellip;]","protected":false},"author":1696,"featured_media":1493,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[63],"tags":[959,998,993,995,987,908,997,921,996,992,907,991,1000,1001,105,910,911,920,1007,53,61],"class_list":["post-1585","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cysylltiadau-cyflogaeth","tag-arbenigwyr","tag-bbc-cymru-wales","tag-caerdydd-creadigol","tag-comedi","tag-creadigol","tag-dimitrinka-stoyonova-russell","tag-diwrnod-cenedlaethol-y-gweithwyr-llawrydd","tag-gavin-johnson","tag-glee-caerdydd","tag-gweithwyr-llawrydd","tag-itv-wales","tag-lorna-prichard","tag-newyddion","tag-nick-butler","tag-prifysgol-caerdydd","tag-sara-pepper","tag-sarah-lethbridge","tag-talia-loderick","tag-tim-addysg-weithredol","tag-ymchwil","tag-ysgol-busnes-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/paOfaS-pz","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-content\/uploads\/sites\/620\/2019\/07\/MH_200619_Cardiff_Uni_413-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1585","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1696"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1585"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1585\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1587,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1585\/revisions\/1587"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1493"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1585"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1585"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/business-school\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1585"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}