Gwaith

Y tu ôl i’r drysau yna, mae’n fyd gwahanol

Restaurant kitchen crew preparing food.

Gall unigedd ffisegol cogyddion sy’n gweithio mewn ceginau â sêr Michelin arwain at gamymddwyn treisgar a chod moesol gwahanol. Yn ein post diweddaraf, mae Robin Burrow, Rebecca Scott a David Courpasson yn trafod sut mae hyn yn digwydd.

Cyhoeddwyd ein herthygl yn y Journal of Management Studies yma, ac mae’n ymwneud â’r cysylltiad rhwng lleoedd ynysig a chamymddwyn.

Rydym ni’n trafod y ffenomen yng nghyd-destun grŵp penodol iawn o weithwyr: cogyddion yn gweithio mewn bwytai ciniawa coeth elitaidd ledled y byd. Rydym ni’n datgelu cred gydgysylltiedig mewn dau brif beth.

Yn gyntaf, mae ceginau yn aml yn teimlo’n lleoedd ‘ynysig’ lle gall cogyddion deimlo eu bod wedi’u cuddio rhag prif ffrwd cymdeithas. Yn ail, yn y mannau ynysig, cudd hynny gall teimlad ddatblgyu o fod yn rhydd rhag cyfyngiadau. Yn benodol, bod modd camymddwyn i raddau heb ofni’r canlyniadau.

Roedd y credoau hyn yn eang ymhlith y 47 o gogyddion y cyfwelwyd â nhw, oedd yn ystyried y ceginau lle’r oedden nhw’n gweithio’n fydoedd gwahanol yn ffigurol. Roedd cod moesol gwahanol yn y bydoedd hyn, a’i sail oedd y syniad nad yw rheolau prif ffrwd yn berthnasol. Felly yr hyn a ddangoswn yw bod camymddwyn yn y gegin yn cael ei ystyried yn bosibl, a hyd yn oed yn normal, oherwydd wel, dyna beth sy’n digwydd yn y gegin. Ynte?

 

Pam ei bod yn ddefnyddiol meddwl am gamymddwyn fel effaith ynysu

Nid realiti llwm, creulon y camymddwyn a nodwyd gan y bobl a gymerodd ran yn yr astudiaeth yw’r peth arwyddocaol yn ein canfyddiadau.  Mae hyn yn bwysig, ond mewn gwirionedd mae’n hysbys yn eang. O astudiaethau academaidd fe wyddom fod lletygarwch yn ddiwydiant lle mae camymddwyn treisgar yn gyffredin. Fe wyddom hefyd fod y trais hwn yn cael ei ysgogi gan ddiwylliannau militaraidd, gwerthoedd hyper-wrywaidd, ideolegau eithafol a natur greulon gwaith corfforol, cyflym sy’n achosi straen.

Mae trais a gyflawnir gan gogyddion mewn ceginau hefyd yn thema gyffredin yn y cyfryngau torfol. Ar y teledu yn benodol, caiff gastronomyddion obsesiynol, angerddol, sarhaus eu dathlu o hyd. Yn rhyfedd ddigon, rydym ni’n maddau eu hymddygiad o fwlio, trais ac ymosod. Dydym ni ddim (ar y cyfan) yn ei drin fel ymddygiad gwydröedig neu ddrwg. Yn hytrach, mae’n gyfareddol ac yn ddifyr. Mae’n symptom o ymroddiad canmoladwy. Mae’n sgil-gynnyrch anffodus i’r ymgais i gyflawni rhagoriaeth sydd fel arall yn glodwiw.

Arwyddocâd ein hastudiaeth felly yw ei bod yn tynnu sylw at effaith amgylchedd y gegin ac yn ei ychwanegu at y rhestr o resymau pam fod cogyddion yn camymddwyn. Mewn gwirionedd, rydym ni’n ychwanegu dau beth:

Yn gyntaf, rydym yn dangos y gellir deall camymddwyn fel rhywbeth a elwir yn ‘effaith ofodol’. Mae camymddwyn yn bosibilrwydd a gaiff ei wireddu gan yr hyn rydym ni’n ei alw yn ‘ddaearyddiaeth gwyredd’. O’i ddamcaniaethu fel hyn, caiff camymddwyn mewn sefydliadau – ond yn benodol ymhlith cogyddion mewn ceginau – ei ddeall fel rhywbeth sydd wedi’i ymgorffori’n gynnil yn natur ffisegol y lle.

Felly, yn achos cogyddion, caiff camymddwyn ei ddeall fel posibilrwydd a grëwyd gan strwythurau ffisegol ceginau [sy’n ynysu]. Gan bethau fel ystafelloedd islawr caeedig heb ffenestri a mannau israddol eraill sydd wedi’u cuddio a’u cysgodi o’r golwg. Mae’r strwythurau hyn yn bwysig am eu bod yn creu teimladau o fod yn anweledig, ynghyd â dieithrwch a datgysylltiad – ymdeimlad o fod i ffwrdd ac o olwg cymdeithas ehangach. Ein dadl ni yw bod gan y teimladau hyn – yr effeithiau gofodol hyn – rôl bwysig yn hwyluso a galluogi diwylliannau o gamymddwyn i barhau ac amlhau.

Yr ail ffordd mae ein hastudiaeth yn hybu dealltwriaeth o gamymddwyn mewn sefydliadau yw drwy ddangos sut y gellir deall camymddwyn fel ffenomen gymunedol. Hynny yw, fel elfen ddefodol mewn ffordd wrth-strwythurol o fodoli, lle mae’r gegin ar yr un pryd yn cael ei ystyried yn offeryn ar gyfer tynnu’n ôl o gymdeithas ac yn symbol o ddifaterwch a gwyredd y mae’r gymuned yn troi o’i amgylch. Dadleuwn fod posibiliadau’r gegin ar gael i gogyddion drwy strwythurau gwaharddol sy’n creu rhyddid rhag craffu allanol a hefyd y rhyddid i gamu allan o rolau a rhwymedigaethau prif ffrwd.

 

Mae Robin Burrow yn ddarlithydd mewn Ymddygiad Sefydliadol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddo PhD o Brifysgol Warwick ac mae ei ymchwil yn helpu i ddatrys y cysylltiad rhwng emosiynau ac ymddygiad mewn sefydliadau.

Mae Rebecca Scott yn Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata. Mae ymchwil Rebecca yn canolbwyntio ar agweddau cymdeithasol a diwylliannol marchnata. Gan ddefnyddio dulliau ethnograffig mae hi’n astudio’r defnydd o gynhyrchion drwy brofiad, defnydd o gynhyrchion amlsynhwyraidd ac ‘y corff’. Mae ei hymchwil yn cyfuno cyrff gwahanol o ymchwil sy’n gorgyffwrdd ar ymddygiad defnyddwyr, marchanta, cymdeithaseg ac anthropoleg, sy’n hwyluso dealltwriaeth o brofiad ymgorfforedig.

Mae David Courpasson yn Athro Cymdeithaseg yn Ysgol Busnes EMLyon ac yn Gyfarwyddwr canolfan ymchwil OCE yno. Mae hefyd yn Athro ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei waith ar ddeinameg cymdeithasol a gwleidyddol mewn sefydliadau ac o’u cwmpas wedi’i gyhoeddi’n helaeth mewn mannau amrywiol. Mae’n gyn brif olygydd Organization Studies.