Cardiff University
English Prif ddewislen
  • Hafan
  • Amdanom Ni
  • Astudio
    • Is-raddedigion
    • Ôl-raddedigion
    • Llety
    • Bywyd myfyrwyr
    • Cyrsiau rhan amser i oedolion
    • Datblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Ymchwil
  • Rhyngwladol
  • Arloesedd
  • Busnes
  • Rhoi
  • Newyddion
  • Digwyddiadau
  • Mewnrwyd
English

Blogiau Cardiff Business School blog

Skip to content
Dewislen
  • Hafan
  • Amdanom ni
  • Pob post
  • Cyfranwyr
  • Canllawiau cymunedol
  • Hafan
  • Amdanom ni
  • Pob post
  • Cyfranwyr
  • Canllawiau cymunedol

Materoliaeth

Gall straeon am ennill cyfoeth a rhaglenni teledu am fywyd moethus ddylanwadu ar ein lles a’n ffordd o drin a thrafod yr amgylchedd a phobl eraill.

Olaya Moldes Andres

Olaya Moldes Andres

9 Medi 2020

  • Amazon Prime
  • BMW
  • Cadbury
  • Coronafeirws
  • COVID-19
  • economaidd
  • economi
  • enwogion
  • ffilmiau
  • Iechyd a Lles
  • Iechyd Meddwl
  • Marchnata
  • materoliaeth
  • mynediad agored
  • Naomi Klein
  • Netflix
  • No Logo
  • pandemig
  • Pepsi
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol De Montfort
  • Rhestr y New York Times
  • Seicoleg
  • Volkswagen
  • Ymchwil
  • Ysgol Busnes Caerdydd
Mae amcangyfrif bod cynnydd o 27% o ran faint o sioeau a ffilmiau mae pobl ledled y byd wedi eu gwylio trwy blatfformau megis Netflix ac Amazon Prime a bod cynnydd o 20% yn yr amser maen nhw’n ei dreulio yn gwylio teledu darlledu.

Yn ein darn diweddaraf, mae’r Dr Olaya Moldes Andres yn cyflwyno rhai o ganfyddiadau ei phapur ymchwil mynediad agored newydd a luniodd ar y cyd â’r Dr Lisbeth Ku (Prifysgol De Montfort), sy’n ystyried effeithiau materoliaeth ar les unigolion a chymdeithasau.

Mae’r gofyn i gau’r economi ac aros gartref wedi arwain at gynnydd yn nifer y rhai sy’n gwylio rhaglenni adloniant yn eu cartrefi. Mae amcangyfrif bod cynnydd o 27% o ran faint o sioeau a ffilmiau mae pobl ledled y byd wedi eu gwylio trwy blatfformau megis Netflix ac Amazon Prime a bod cynnydd o 20% yn yr amser maen nhw’n ei dreulio yn gwylio teledu darlledu.

Mae ymchwil ym meysydd y cyfryngau a seicoleg gymdeithasol yn awgrymu y gall gormod o deledu a chyfryngau amharu ar les unigolion. Gall negeseuon neu gysylltiadau cudd neu amlwg yng nghynnwys y cyfryngau ddylanwadu ar agweddau pobl at amryw garfanau cymdeithasol, creu delfrydau anymarferol ynghylch harddwch a delweddau a chyflwyno ffyrdd o fyw, gwerthoedd a nodau personol yn rhai dymunol i’r gymdeithas.

Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae amryw drafodaethau a disgrifiadau a hyrwyddir trwy hysbysebion a chyfryngau torfol megis rolau dynion a merched, harddwch delfrydol neu ystrydebau hiliol wedi’u cwestiynu. Derbynnir mwyfwy y gall pobl arddel agweddau a welan nhw yn y cyfryngau yn anymwybodol ac y gall hynny arwain at ddatblygu a chynnal rhagfarn hiliol ac anghydraddoldeb rhwng dynion a merched. Ar ben hynny, mae nifer o enwogion wedi codi amheuon ar y modd mae hysbysebion yn portreadu harddwch a ffasiynau delfrydol o ran dynion a merched fel ei gilydd.

Naomi Klein.

Mae pryderon am gysylltu cyfoeth â llwyddiant neu gysylltu gwario â bodlonrwydd wedi ennill llai o gynnydd yn fudiad cymdeithasol, fodd bynnag. Ymhlith yr ychydig sydd wedi codi eu lleisiau mae Naomi Klein, newyddiadurwr o fri ac awdur llwyddiannus yn ôl rhestr y New York Times. Yn ei llyfr cyntaf, ‘No Logo’ (2000), tynnodd Klein sylw at arferion economaidd dylanwadol ac effeithiau cymdeithasol niweidiol brandiau masnachol y byd gan fynnu trefn economaidd fwy cynaladwy. Mae mudiadau eraill, megis y New Citizen Project, wedi dod i’r amlwg i feithrin agweddau diwylliannol sy’n anelu at gymuned lle mae’r dinasyddion yn hollbwysig yn hytrach na chymdeithas lle mae’r defnyddwyr o bwys mawr. Serch hynny, mae pryderon o’r fath heb gyrraedd cynulleidfa fawr, codi stêm nac ymledu mor eang â mudiadau cymdeithasol eraill eto.

“Mae’n hymchwil newydd yn cyd-fynd â syniadau Klein ac yn awgrymu y gall cysylltu arian â llwyddiant a chysylltu gwario â bod yn fodlon amharu ar ein lles a lles ein cymdeithas fel ei gilydd. Gall cymeradwyo cysylltiadau o’r fath arwain at galedi ariannol personol ac afiechyd y meddwl yn ogystal â pheri i bobl arddel agweddau a ffyrdd o ymddwyn sy’n niweidiol i’r amgylchedd a chyd-fyw heddychlon yn ein cymdeithas.”

Mae pawb yn gwybod bod deunydd marchnata a hysbysebu wedi’i lunio i’n hannog i brynu nwyddau trwy eu cysylltu â phethau dymunol. Yn wir, mae’r addewid y byddwn ni’n fodlon o ganlyniad i wario arian wedi bod yn amlwg yn hysbysebion ymgyrchoedd megis ‘Open a Coke, open happiness’, ‘Happiness is a choice’ gan Pepsi, ‘Happiness quest’ gan Cadbury, ‘Get in, get happy’ gan Volkswagen, ‘Happiness is not around the corner, happiness is the corner’ gan BMW ac ati.

Yn y meddylfryd presennol sy’n hyrwyddo gwario, mae hapusrwydd wedi dod yn ffordd allweddol o werthu nwyddau, yn debyg i addewid crefyddau y bydd bywyd tragwyddol, trwy annog pobl i newid eu hymddygiad i gyrraedd rhyw sefyllfa ddelfrydol. Ar ben hynny, bydd diwylliant poblogaidd yn hybu trafodaethau cymdeithasol sy’n annog pobl i fynd ar ôl cyfoeth a gwariant yn aml, gan honni mai dyna’r ffordd i lwyddiant a hapusrwydd.

Er enghraifft, mae straeon a ffilmiau am ddod o hyd i gyfoeth (megis Cinderella ac Aladdin i blant, Princess Diaries i’r glasoed a Pretty Woman neu’r Wolf of Wallstreet i oedolion) a rhaglenni dogfen a sioeau realiti (megis The World’s Most Extraordinary Homes, The Real Housewives, neu’r Fabulous Life of the Wall Street Billionaires) yn honni bod arian a gwario yn ymwneud â sefyllfaoedd gwell, hunan-barch a chydnabyddiaeth gymdeithasol.

Gall negeseuon goblygedig o’r fath ysgogi pobl i weithio rhagor fel y bydd modd i wario rhagor. Diau y bydd twf economaidd yn gryfach o ganlyniad i bobl wario rhagor o arian. Fodd bynnag, mae amryw ysgolheigion (gan gynnwys athronwyr clasurol megis Diogenes, Pythagoras a Socrates; economegwyr modern megis Kuznets; neu seicolegwyr cyfoes megis Diener, Kasser a Maslow), yn ogystal ag amryw wleidyddion (megis Nicola Sturgeon a Jacinda Arden) wedi rhybuddio nad yw cyfoeth, eiddo na thwf economaidd yn adlewyrchu lles unigolion neu garfanau cymdeithasol. Heb sôn am y ddadl bod cynnydd parhaol yn ein patrymau cynhyrchu a gwario yn anghynaladwy o safbwynt ecolegol ac wedi’n harwain ni i’r argyfwng hinsoddol presennol.

Serch hynny, mae ymchwil eang dros y tri degawd diwethaf wedi datgelu bod gan bobl sy’n cysylltu cyfoeth a gwario â llwyddiant a hapusrwydd lai o hunan-barch, mwy o iselder a gorbryder, tuedd i brynu nwyddau diangen, llai o awydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a thuedd i ymddwyn yn beryglus megis camddefnyddio alcohol a chyffuriau.

Bydd cysylltu gwario â hapusrwydd neu gysylltu llwyddiant â chyfoeth yn peri i bobl flaenoriaethu agweddau ac ymddygiad hunanwella ar draul rhai sy’n canolbwyntio ar les y gymuned.

Ar ben hynny, mae ymchwil ddiweddar wedi datgelu y bydd negeseuon sy’n awgrymu neu’n honni bod cyfoeth a gwario yn ymwneud â chydnabyddiaeth gymdeithasol, llwyddiant a hapusrwydd yn arwain pobl at gwyno eu bod yn llai bodlon eu byd a’u bod o blaid agweddau ac ymddygiad niweidiol o ran lles ein cymdeithas. Dangosodd cyfres o astudiaethau arbrofol gan wahanol ymchwilwyr mewn amryw wledydd fod cyfleu syniadau o’r fath trwy nifer o ddulliau megis hysbysebion dillad, straeon am ennill cyfoeth neu arddangosfeydd moethus mewn ffenestri i bobl o sawl lliw a llun wedi peri i rai gwyno bod eu lles yn waeth, arddel agweddau ac ymddygiad eithaf gwrth gymdeithasol ac amgylcheddol a chefnogi arferion masnachol anfoesegol. Y rheswm dros hynny yw y bydd cysylltu gwario â hapusrwydd neu gysylltu llwyddiant â chyfoeth yn peri i bobl flaenoriaethu agweddau ac ymddygiad hunanwella ar draul rhai sy’n canolbwyntio ar les y gymuned, ac y gall hynny amharu ar eu hapusrwydd eu hunain yn ogystal â lles pob eraill neu ymdrechion i ffurfio a chynnal grwpiau cymdeithasol.

“O helpu corfforaethau’r cyfryngau, cwmnïau ac asiantaethau hysbysebu i ddeall y gall negeseuon maen nhw’n eu hyrwyddo ac yn eu cymeradwyo yn eu cyfathrebu niweidio lles unigolion a grwpiau cymdeithasol, a’u hannog i gydnabod bod cyfrifoldeb cymdeithasol arnyn nhw, gallen ni helpu i leddfu effeithiau niweidiol cymdeithasau masnachol eu naws.”

Mewn cyfnod lle mae corfforaethau busnes wedi ymyrryd yn ein hegwyddorion cymdeithasol a moesegol, gallai cydnabod peryglon hyrwyddo rhai cysylltiadau arwain at oblygiadau pwysig o ran newid cymdeithasol. Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o gyfathrebu marchnata arloesol yn cyfleu negeseuon ar gyfer newid ein cymdeithas er gwell bellach, yn hytrach na chanolbwyntio ar wario. Er enghraifft, mae ymgyrch P&G yn ennill clod trwy gefnogi mudiad #BlackLivesMatter i geisio mynd i’r afael â rhagfarn yn hytrach na gwerthu nwyddau yn uniongyrchol. Yn y bôn, wrth gwrs, dim ond strategaeth farchnata arall yw cyflwyno cwmni’n un sy’n hybu agweddau moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol, gan anelu at ennill cefnogaeth cwsmeriaid, cyrraedd cynulleidfa ehangach a chynyddu’r elw yn y pen draw. Fodd bynnag, mae’n gam ymlaen tuag at arferion marchnata a masnachu llai niweidiol o ran iechyd meddyliau unigolion a lles ein cymdeithas.

Mae’r Dr Olaya Moldes Andres yn Ddarlithydd Marchnata a Strategaethau yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae’i phapur, ‘Materialistic cues make us miserable: a meta-analysis of the experimental evidence for the effects of materialism on individual and societal well-being’, wedi’i lunio ar y cyd â’r Dr Lisbeth Ku, Darlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol De Montfort, ar gael i bawb yma: Seicoleg a Marchnata.

Share this:

  • Facebook
  • Twitter
  • LinkedIn

  • Previous
  • Next

Hoffech chi gyfrannu?

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at flog Ysgol Busnes Caerdydd, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Recent Posts

  • Ehangu fy musnes gyda Helpu i Dyfu gan Holly Barnes
  • Ehangu fy musnes gyda Helpu i Dyfu gan Sarah Breese
  • Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022
  • Effaith y pandemig ar amseroedd talu cyflenwyr

Categories

  • Arloesedd cyfrifol
  • Astudiaethau Sefydliadol
  • Blockchain
  • Brexit
  • Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau
  • Caffael
  • Codi arian
  • COVID-19
  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Cyflog byw
  • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
  • Cynfyfyrwyr
  • Cysylltiadau cyflogaeth
  • Dinasoedd
  • Diwydiannau creadigol
  • Economi digidol
  • Economi DU
  • Economi gylchol
  • Economi sylfaenol
  • Entrepreneuriaeth
  • Gwaith
  • Gweithgynhyrchu
  • Gwerth cyhoeddus
  • Iechyd a Lles
  • Iechyd meddwl
  • Llywodraethu
  • Marchnata
  • Materoliaeth
  • Mewnfudo
  • Pensiynau
  • Polisi
  • Profiad myfyrwyr
  • Rheolaeth Ryngwladol
  • Technoleg ariannol
  • Ymchwil ac arloesedd

Archives

  • Awst 2022
  • Gorffennaf 2022
  • Ebrill 2022
  • Mawrth 2022
  • Chwefror 2022
  • Rhagfyr 2021
  • Hydref 2021
  • Medi 2021
  • Mai 2021
  • Ebrill 2021
  • Mawrth 2021
  • Chwefror 2021
  • Ionawr 2021
  • Rhagfyr 2020
  • Tachwedd 2020
  • Hydref 2020
  • Medi 2020
  • Awst 2020
  • Gorffennaf 2020
  • Mehefin 2020
  • Mai 2020
  • Ebrill 2020
  • Mawrth 2020
  • Chwefror 2020
  • Ionawr 2020
  • Tachwedd 2019
  • Hydref 2019
  • Medi 2019
  • Awst 2019
  • Gorffennaf 2019
  • Mehefin 2019
  • Mai 2019
  • Ebrill 2019
  • Mawrth 2019
  • Chwefror 2019
  • Ionawr 2019
  • Rhagfyr 2018
  • Tachwedd 2018
  • Hydref 2018
  • Medi 2018

Cardiff Business School blog

Ar y blog hwn

  • Hafan
  • Amdanom ni
  • Pob post
  • Cyfranwyr
  • Canllawiau cymunedol

Blogiau Prifysgol Caerdydd

  • Cychwyn ar flog
  • Hafan blogiau
  • Darganfod mwy o flogiau
  • Cwyno am bostiad neu flog

Ymwrthodiad

Oni nodir fel arall, mae'r safbwyntiau a geir yn y blog hwn yn perthyn i'r awdur ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Caerdydd.

Y Brifysgol

  • Ysgolion Academaidd
  • Dewch i ymweld â ni
  • Cysylltu â ni
  • Cysylltiadau mewn argyfwng
  • Gwybodaeth gyhoeddus

Ein Cyfleusterau

  • Llyfrgelloedd
  • Cynadleddau
  • Offer Ymchwil
  • Cefnogaeth TG
  • Chwaraeon

Cysylltwch â ni

  • Myfyrwyr Newydd
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Blogiau

Dolenni Cyflym

  • Swyddi
  • Canolfan y Cyfryngau
  • Mewnrwyd
  • Pobl
  • Cewch hyd i ni ar Facebook
  • Dilynwch ni ar Twitter
  • Dilynwch ni ar Instagram
  • Gwyliwch ar Youtube
  • Y Brifysgol Orau yng Nghymru 2018
  • REF 2014 - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. 5ed yn y DU
  • Mae ASA yn edrych i weld sut mae prifysgolion colegau a darpawyr eraill'r DU yn

cynnal safon eu darpariaeth addysg uwch. Cliciwch yma i ddarllen adroddiad adolygiad diweddaraf y sefydliad hwn. Mae logo diemwnt ASA a 'QAA' ac 'ASA' yn nodau masnach cofrestredig yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
  • Russell Group

Hawlfraint Prifysgol Caerdydd. Elusen gofrestredig rhif. 1136855

  • Hygyrchedd
  • Datganiad caethwasiaeth modern
  • Preifatrwydd
  • Telerau defnyddio
  • Cwcis