
Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae’r Athro Arman Eshraghi yn myfyrio ar ei gyflwyniad TEDxPrifysgolCaerdydd ynghylch Technoleg Ariannol.
Yn rhan o thema’r digwyddiad, Tarfu ar y Drefn Arferol, esboniodd yr Athro Eshraghi sut mae proses cyflymu a dylanwad technoleg ariannol yn y blynyddoedd diwethaf, yn rhywbeth y dylai pawb roi sylwi iddo, nid dim ond gweithwyr proffesiynol ym maes arian.
Mae datblygiadau ym maes technoleg ariannol yn codi lefel y gystadleuaeth yn y sector ariannol, ac yn gwella amseroldeb, cost, ac ansawdd gwasanaethau ariannol a ddarperir i’r cyhoedd.
Tuedd ddiddorol arall yw bod cwmnïau technoleg mawr fel Apple yn dechrau darparu gwasanaethau ariannol sylfaenol fel cardiau talu.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd sut y bydd hyn yn effeithio ar ein perthynas â banciau arferol a sefydliadau ariannol eraill dros y blynyddoedd nesaf.
Ym mis Tachwedd y llynedd, bûm yn ystyried rhai o’r datblygiadau hyn yn rhan o TEDXPrifysgolCaerdydd.
Mae Arman Eshraghi yn Athro Cyllid a Chadeirydd Cyllid a Buddsoddi yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae ei waith ymchwil academaidd yn rhychwantu cyllid, cyfrifo a seicoleg, gyda diddordebau sy’n cynnwys cyllid ymddygiadol, technoleg ariannol a llywodraethu corfforaethol.