Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol

A oes llai o elw’n cael ei symud oherwydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol?

Mae’r cwestiwn pam bod rhai cwmnïau’n dewis ymgymryd â CCC tra bo eraill yn ymwrthod, heb ei ateb.

Yn ein post diweddaraf, mae Dr Woon Sau Leung yn amlinellu canlyniadau ei ymchwil ddiweddaraf i gymhellion economaidd dros ymgyrchoedd cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Yn y degawdau diwethaf, mae economïau wedi eu clymu ynghyd gan globaleiddio, ffenomen sy’n integreiddio cymdeithasau a chreu cyfleoedd busnes, ond sydd hefyd yn herio polisïau trethi.

Mae’r swm o drethi a delir gan gorfforaethau yn bwnc llosg ymysg gwneuthurwyr polisi, academyddion, a’r cyfryngau.

Mae erthygl yn y Financial Times, er enghraifft, yn dadlau fod mentrau amlwladol (MNEs) yn talu llai o drethi o lawer nag yr oeddent cyn yr argyfwng ariannol. Un modd pwysig i MNEs leihau eu trethi yw symud elw o’r gwledydd lle maent wedi eu lleoli i wledydd lle mae’r cyfraddau trethi yn llai, arfer a elwir yn aml yn “shifftio elw”.

“Er nad yw’r fath strategaethau yn anghyfreithiol, maent yn amddifadu’r wlad letyol o refeniw trethi ac yn peryglu lles cymdeithasol a chydraddoldeb.”

Mae graddau symud elw, fodd bynnag, yn parhau i fod yn aneglur, ac nid ydym yn llwyr ddeall y goblygiadau eto.

Ochr yn ochr â phwysigrwydd cynyddol cynllunio trethi, mae cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CCC) wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg busnesau ledled y byd. Wedi eu hysgogi gan strategaeth gorfforaethol neu bwysau o du cyfranddalwyr, mae cwmnïau’n cymryd rhan yn amlach mewn gweithgareddau cymdeithasol gyfrifol, megis buddsoddi mewn cyflogeion ac ansawdd gweithleoedd, lleihau llygredd, a gwella llywodraethiant. 

O safbwynt economaidd, mae’r rheswm sylfaenol dros ymgymryd â CCC yn llai eglur. Yn ôl Friedman (1970), dylai cwmnïau ond ymgymryd â gweithgareddau sy’n cynyddu gwerth ar gyfer cyfranddalwyr. Dadleua nad yw gweithgareddau cymdeithasol gyfrifol yn gymwys. Er gwaethaf corff cynyddol fawr o ymchwil i CCC (e.e Ferrell et al., 2016; Lins et al., 2017), mae’r cwestiwn pam bod rhai cwmnïau’n dewis ymgymryd â CCC tra bo eraill yn ymwrthod, heb ei ateb, ac yn haeddu rhagor o ymchwil. Mae ein canlyniadau’n cynnig esboniad posibl.

Persbectif dilysrwydd damcaniaethol

Yn ein hastudiaeth, rydym yn estyn ymchwil flaenorol (e.e Hoi et al., 2013; Davis et al., 2016) i’r cyswllt rhwng CCC ac osgoi trethi, ac yn dadansoddi gweithgareddau symud elw cwmnïau o bersbectif rhyngwladol.

Ar un llaw, mae disgwyl i gwmnïau cymdeithasol gyfrifol dalu eu cyfran deg o drethi, a chan hynny gynyddu gwerth ar gyfer cyfranddalwyr. Yn ein cyd-destun ni, byddai hyn yn dangos perthynas negyddol rhwng CCC a symud elw.

Ar y llaw arall, yn ôl damcaniaeth dilysrwydd, gallai’r cysylltiad rhwng CCC a symud elw fod yn bositif. Fel hyn mae hi pan mae cymhellion i gwmnïau fuddsoddi mewn CCC.

“Gallai ennill dilysrwydd fod yn un o’r cyfryw gymhellion, creu “cyfalaf moesol”, ac osgoi cosb drom os ydynt yn gweithredu mewn ffyrdd moesegol amheus.”

I daflu rhagor o oleuni ar y berthynas hon, rydym yn defnyddio data’r MNEs rhwng 2009 a 2016, sy’n cynnwys dros 500 o gwmnïau rhiant mewn 20 o wledydd a thros 6,000 o’u his-gwmnïau mewn 63 o wledydd.

Mae dau gam i’n dadansoddiad. Yn gyntaf, rydym yn mabwysiadu’r dull a gynigiwyd gan Dharmapala a Riedel (2013) gan amcangyfrif mesur o symud elw. Yn ail, rydym yn archwilio’r berthynas rhwng CCC a symud elw, ac yn ei chael yn bositif ac yn ystadegol arwyddocaol, ac felly’n gyson â’r safbwynt damcaniaeth dilysrwydd. I ategu ein canlyniadau ymhellach, rydym yn rhoi cynnig ar nifer o brofion amgen ac yn cyrraedd yr un casgliad.

Mae’r graff hwn yn dangos gwerthoedd cyfartalog CCC a symud elw yn ôl gwlad ar gyfer cyfnod 2009-2016.  

Ffigur: Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a symud elw

Ffynhonnell: Cyfrifiadau’r awduron.

System drethi diriogaethol

Mae ein cam nesaf yn archwilio p’un a yw’r cyswllt rhwng CCC a symud elw yn amrywio ar draws gwahanol fathau o systemau trethi.

Mae dadleuon diweddar wedi canolbwyntio ar anfanteision posib y gwahanol fathau o systemau trethi. Mae ymchwil academaidd wedi dangos bod cwmnïau amlwladol o dan y system drethi diriogaethol yn symud mwy o incwm na’r rheiny o dan y system drethi fyd-eang (e.e Scholes et al. 2015; Kohlhase a Pierk, 2016; Markle, 2016).

Mewn byd sy’n cael ei weddnewid yn gyflym gan globaleiddio mae ein hastudiaeth yn darparu peth cyfiawnhad empeiraidd dros rai MNEs yn dewis buddsoddi mewn CCC.

Os yw’r berthynas bositif rhwng CCC a symud elw yn parhau, byddai rhywun yn disgwyl i’r berthynas hon fod yn fwy amlwg mewn cwmnïau sydd â’u pencadlys mewn gwledydd o dan y system drethi diriogaethol. Oherwydd mae cwmnïau o dan y system drethi diriogaethol yn gallu dychwelyd incwm i’w gwledydd eu hunain heb orfod talu trethi ychwanegol ac felly byddai mwy o gymhelliant iddynt symud elw.

Yn wir, mae ein dadansoddiad yn dangos bod CCC yn cael effaith amlycach ar symud elw ar gyfer cwmnïau dan system drethi diriogaethol.

Mae ein canlyniadau yn awgrymu bod cwmnïau gyda sgorau CCC uwch yn symud mwy o elw i’w his-gwmnïau treth-isel tramor, gan ddangos, o bosib, gynllunio strategol o ran dewis buddsoddiadau CCC gan fentrau amlwladol. 

Mewn byd sy’n cael ei weddnewid yn gyflym gan globaleiddio mae ein hastudiaeth yn darparu peth cyfiawnhad empeiraidd dros rai MNEs yn dewis buddsoddi mewn CCC, ac yn cynnig mewnwelediadau defnyddiol iawn i wneuthurwyr polisi ac ymchwilwyr academaidd.

Cyhoeddwyd y post hwn yn wreididol ar Blue Sky Blog Ysgol y Gyfraith Columbia  ac fe’i paratowyd mewn cydweithrediad â’r Athro Iftekhar Hasan yn Ysgol Busnes Gabelli, Prifysgol Fordham, yr Athro Panagiotis Karavitis a Dr Pantelis Kazakis Yn Ysgol Busnes Adam Smith, Prifysgol Glasgow.

Mae’n seiliedig ar bapur gwaith diweddar o’r enw: ‘Corporate Social Responsibility and Profit Shifting’.

Mae Dr Woon Sau Leung yn Ddarlithydd mewn Cyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyfeirnodau

  • Davis, A. K., Guenther, D. A., Krull, L. K., & Williams, B. M. (2016). Do socially responsible firms pay more taxes?. Accounting Review, 91(1), 47-68.
  • Dharmapala, D., & Riedel, N. (2013). Earnings shocks and tax-motivated income-shifting: Evidence from European multinationals. Journal of Public Economics, 97, 95-107.
  • Ferrell, A., Liang, H., & Renneboog, L. (2016). Socially responsible firms. Journal of Financial Economics, 122(3), 585-606.
  • Friedman, M. (1970), The social responsibility of business is to increase its profits, New York Times Magazine, September 13, 1970.
  • Hoi, C. K., Wu, Q., & Zhang, H. (2013). Is corporate social responsibility (CSR) associated with tax avoidance? Evidence from irresponsible CSR activities. Accounting Review, 88(6), 2025-2059.
  • Kohlhase, S. and Pierk, J. (2016) Why are U.S.-owned foreign subsidiaries not tax aggressive? WU International Taxation Research Paper Series, 2016-06. WU Vienna University of Economics and Business, Universität Wien, Vienna.
  • Lins, K. V., Servaes, H., & Tamayo, A. (2017). Social capital, trust, and firm performance: The value of corporate social responsibility during the financial crisis. Journal of Finance, 72(4), 1785- 1824.
  • Markle, K. (2016). A comparison of the tax‐motivated income shifting of multinationals in territorial and worldwide countries. Contemporary Accounting Research, 33(1), 7-43.
  • Scholes, M., Wolfson, M. A., Erickson, M. M., Hanlon, M. L., Maydew, E. M., Shelvin, 2015. Taxes and Business Strategy, 5th Edition, Prentice Hall.