Cymunedau a Diwylliant, Datganoli a'r Cyfansoddiad, Economi a Masnach

Cyflwyniad i Gynhadledd y Gronfa Rhannu Ffyniant, Prifysgol Caerdydd

Lord Heseltine

Drwy gydol fy ngyrfa wleidyddol, rydw i wedi brwydro yn erbyn canoli – boed hynny’n ganoli economaidd neu’n ganoli gwleidyddol.

Dyma fy rheswm dros gredu – yn groes i nifer o bobl yng Nghymru – bod llywodraeth Attlee wedi bod yn drychineb economaidd. Gwladolwyd cwmnïau teulu a chanolwyd y broses o’u rheoli mewn biwrocratiaethau anghysbell yn Llundain. Galluogwyd Dinas Llundain i ddefnyddio cyfranddaliadau mewn Cwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus i brynu cwmnïau yn y rhanbarthau yn ddi-dreth. At hynny, cyflwynwyd cyfradd dreth gosbol o 98c yn y bunt oedd, i bob pwrpas, yn rhwystro mentergarwch. 

O ran y byd gwleidyddol, yr ymgais gyntaf go iawn i ddiwygio’r ffordd y cai’r DU ei llywodraethu oedd adolygiad llywodraeth leol Redcliffe-Maud, adolygiad wnaeth awgrymu gostyngiad o bwys yn nifer y cynghorau er mwyn creu awdurdodau lleol mwy strategol oedd yn cyfuno’r dref a’r wlad.  Er na dderbyniwyd yr argymhellion, llwyddwyd i ostwng nifer y cynghorau o 1,400 i 400.

O ran daearyddiaeth economi’r DU, sef prif thema’r gynhadledd yng Nghaerdydd, un o dueddiadau mwyaf niweidiol fy ngyrfa wleidyddol oedd y cylchoedd stopio-dechrau bythol wnaeth ddwysau’r rhaniad rhwng y gogledd a’r de. Byddai ysgogi’r economi’n arwain at bwysau chwyddiannol yn y de, ac wrth ymateb i hynny byddai llywodraethau’n cyflwyno mesurau i’w leddfu – ond cafodd y de ei leddfu cyn bod y gogledd yn profi unrhyw chwyddiant.

Fodd bynnag, dechreuodd profiad mwyaf ffurfiannol fy ngyrfa creu lleoedd mewn difrif pan gefais fy mhenodi’n Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd ym 1979. Yn y llywodraeth Lafur flaenorol, roedd fy rhagflaenydd, Peter Shore, wedi dechrau ffurfio partneriaethau canolog-lleol gyda chynghorau oedd yn ei chael yn anodd cyflawni cynlluniau adfywio lleol, ac roedd eisoes wedi nodi bod Lerpwl ymhlith y cynghorau hynny. Ym 1979, cymerais yr awenau ar gyfer ei bartneriaeth â’r ddinas honno.

Penderfynais roi hwb i’r bartneriaeth hon gyda Lerpwl yn dilyn Terfysgoedd Toxteth ym 1981. Er bod ambell wleidydd eisiau rheoli’r problemau yn y modd confensiynol – drwy fwy o blismona ac ati – roeddwn eisiau cyrraedd gwraidd y broblem a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

At y diben hwnnw, gofynnais i Margaret Thatcher a allwn “gerdded y strydoedd” yn Lerpwl i ganfod natur y problemau, a chytunodd i hynny.

Ar ôl tri diwrnod o ymgysylltu â phobl leol a rhanddeiliaid allweddol, des i o hyd i’r rheswm go iawn dros nifer o’r problemau – doedd dim arweinyddiaeth leol! Yn Lerpwl, des o hyd i ddigonedd o swyddfeydd cangen cyrff sector cyhoeddus a digon o weithfeydd cangen y sector preifat – pob un ohonynt wedi’u cydgysylltu am i fyny mewn hierarchaeth weithredol, o’r lefel genedlaethol i’r lefel leol, ond nid oedd unrhyw beth yn cydgysylltu ar draws ar lefel leol yn Lerpwl.      

Un peth oedd nodi’r broblem, ond peth arall oedd mabwysiadu ateb oherwydd mae newid yr arfer o ganoli llywodraethol yn her gyson. Fodd bynnag, roeddwn yn benderfynol o wneud hynny, a dechreuais arni drwy greu cynllun ar gyfer Lerpwl oedd yn cynnwys 30 o brosiectau. Tyfais i fod yn rhyw fath o oruchwyliwr gwaith. Gwawriodd arnaf mai rôl hanfodol arweinwyr yw datrys problemau. Flynyddoedd yn ddiweddarach, ym 1992, creais Her y Dinasoedd – City Challenge. Hwn oedd gwraidd y cyfnod Cronfa Her pan gafodd grant cyhoeddus ei wneud ar yr amod bod y sector preifat yn chwarae rhan. Roedd dau ganlyniad pwysig iawn i athroniaeth y Gronfa Her:

  • roedd y rhai wnaeth golli yn ymdrechu i wybod sut wnaeth yr enillwyr ennill, ac roedd modd iddynt wella eu ceisiadau mewn rowndiau dilynol; at hynny
  • creodd y broses yr hyn a elwais yn ffenomenon “Bill a Ben,” pan oedd yn rhaid i dimau’r sectorau cyhoeddus a phreifat gyfathrebu ar draws ac mewn un lle, er mwyn goresgyn gwaddol hierarchaethau swyddogaethol.

Mae creu arweinyddiaeth leol drwy gronfeydd her yn hanfodol bwysig er mwyn creu ymdeimlad o le yn ein trefi a’n dinasoedd. Mae gan holl ddinasoedd hollbwysig Ewrop arweinyddiaeth leol drwy eu maer a etholir yn uniongyrchol. Mae’r DU wedi bod ar ei cholled i raddau helaeth yn sgîl diffyg arweinyddiaeth o’r fath ar sail lleoedd, ond mae hi wrthi’n gwneud yn iawn am hynny erbyn hyn drwy greu meiri dinas-rhanbarth – yn Lloegr, o leiaf.

Er nad ydw i mor gyfarwydd â’r sefyllfa wleidyddol yng Nghymru, rydw i wedi bod o’r farn erioed bod yna bum hunaniaeth wahanol ar sail pum economi ranbarthol oddi mewn ac o amgylch Caerdydd, Abertawe, Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru a Sir Benfro. Pe bawn i’n cael fy ffordd, byddwn yn adeiladau ar y teyrngarwch lleol yma fel a ganlyn:

  • dylai pob un ohonynt gael cytundeb datganoledig yn cwmpasu pob adran o’r llywodraeth i sicrhau ymagwedd integredig o ran creu llefydd;
  • dylent feddu ar raglenni treigl pum mlynedd o hyd, y cytunwyd arnynt gyda’r llywodraeth;
  • dylent gael cyllidebau datganoledig;
  • dylai fod rhywfaint o frig-doriadau i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau cystadleuol; ac yn olaf, ond yn sicr ddim yn lleiaf
  • mae’n rhaid penodi rhywun i arwain fydd â chyfrifoldeb dros berfformiad lleol, fel y meiri dinas-rhanbarth yn Lloegr

Yn fy marn i, dyma nodweddion pennaf strategaeth gadarn ar gyfer creu lleoedd am eu bod yn cynnig ymagwedd gyfannol o ran adfywio ar sail partneriaethau cyhoeddus-preifat, ac yn sicrhau atebolrwydd gwleidyddol.


Mae’r erthygl hon yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Gwleidyddiaeth a Llywodraethu, na Phrifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *