Brexit, Datganoli a'r Cyfansoddiad, Economi a Masnach

Cynhadledd y Gronfa Rhannu Ffyniant yng Nghaerdydd

Yr wythnos ddiwethaf cynhaliwyd cynhadledd ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod y Gronfa Rhannu Ffyniant (SPF) sydd ar droed, cynllun y Deyrnas Unedig i gymryd lle Cronfeydd Strwythurol yr UE wedi Brexit.

Dyma’r broses gofrestru gyflymaf erioed i mi fel cynullydd cynadleddau, ac roedd pobl yn bresennol o bob rhan o Gymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban a rhai o ddinas-ranbarthau Lloegr.  Pam y diddordeb mawr? Yr ateb byr yw’r ffaith nad oes fawr ddim gwybodaeth ynghylch y Gronfa wedi cael ei rhyddhau gan Lywodraeth Ei Mawrhydi yn Whitehall.

Roedd pawb oedd yn ymwneud â pholisi cysylltiedig â lle wedi bod o dan yr argraff y byddai Llywodraeth Ei Mawrhydi yn cynnal ymgynghoriad ar y Gronfa cyn diwedd 2018, fel yr addawyd gan y Gweinidog Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, James Brokenshire ar 24 Gorffennaf y flwyddyn honno.  Flwyddyn yn ddiweddarach fodd bynnag, nododd Is-Ysgrifennydd Seneddol y Wladwriaeth ar gyfer Ymadael â’r UE, Kwasi Kwarteng, y byddai manylion “yn cael eu cyflwyno flwyddyn nesa [2020]”.

Cafwyd y cyfeiriad diweddaraf at y Gronfa yn awyrgylch cythryblus y gystadleuaeth am arweinyddiaeth y Torïaid, pan ddywedodd Boris Johnson “y byddai am sicrhau bod dylanwad Ceidwadol cryf ar wariant y £350m [y flwyddyn] neu beth bynnag yw’r swm dan sylw, i sicrhau ei fod yn cynnig gwerth i drethdalwyr”.

Mae sylw Johnson mewn cyferbyniad llym ag un Brokenshire, gan fod yr olaf wedi nodi’n benodol y “bydd y Llywodraeth wrth gwrs yn parchu’r setliadau datganoli yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon”. Nawr ei fod yn Brif Weinidog, gallai Johnson ddarganfod y bydd unrhyw ymgais i sicrhau “dylanwad Ceidwadol cryf” ar sut mae cyllideb y Gronfa yn cael ei gwario yng Nghymru a’r Alban yn cael ei gweld am yr hyn ydyw – ymyrraeth na ellir ei chyfiawnhau mewn maes cymhwysedd datganoledig.  Byddai hynny’n debygol o sbarduno cyfnod newydd o wrthdaro rhwng llywodraethau yn y Deyrnas Unedig, gan danlinellu’r ffaith bod Brexit wedi gwneud cysylltiadau tiriogaethol mewnol yn ogystal â rhai allanol yn bwnc llosg.  Mewn geiriau eraill, gallai’r Gronfa fod yn brawf cyntaf ar allu’r llywodraeth newydd i gadw integriti tiriogaethol y Deyrnas Unedig.  

Os dyna oedd cefndir gwleidyddol y gynhadledd, beth oedd y prif negeseuon a gafwyd gan y siaradwyr?

Ategodd Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans AC, y ddwy neges allweddol mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cyflwyno’n gyson ers canlyniad refferendwm yr UE: ni ddylai Cymru dderbyn ceiniog yn llai na’r hyn yr oedd yn ei dderbyn o Gronfeydd Strwythurol yr UE (un o addewidion yr ymgyrchwyr Ymadael) a; dylai Llywodraeth Ei Mawrhydi barchu’r setliad datganoli, lle roedd datblygiad economaidd yn gymhwysedd datganoledig.

Amlinellodd y Gweinidog hefyd y cynlluniau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi yn eu lle i baratoi ar gyfer y cyfnod wedi Brexit, gan gynnwys Grŵp Llywio y Buddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru a chomisiynu OECD i adolygu llywodraethiant aml-lefel yn drylwyr yng Nghymru, er mwyn sicrhau ei fod yn ddigon cadarn ar gyfer oes newydd o bolisi seiliedig ar le. 

Dilynwyd hynny gan Dr Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, a gyflwynodd ddadansoddiad diddorol dros ben (er ei fod yn ein sobri) o’r hyn yr oedd yn ei alw’n fygythiad “dwbl” i economi Cymru yn sgîl y berthynas rhwng Brexit a datganoli.   Dadleuodd mai Cymru sydd â’r mwyaf i’w golli yn sgîl colli Cronfeydd Strwythurol yr UE, oherwydd mai hi yw’r buddiolwr mwyaf yn y rhaglen gyfredol (2014-2020), drwy dderbyn £83 y pen y flwyddyn o gymharu â £30 yng Ngogledd Iwerddon, £18 yn yr Alban ac £13 yn Lloegr.  Er bod y bygythiad uniongyrchol hwn yn glir i bawb, yr hyn sy’n llai amlwg yw’r bygythiad anuniongyrchol yn sgîl “ffin newydd datganoli treth” yng Nghymru.

Am y tro cyntaf, mae cyswllt sylweddol ac uniongyrchol rhwng cyllideb Cymru a’r refeniw treth a gesglir yng Nghymru. Mae Trysorlys Ei Mawrhydi wedi didynnu’r refeniw treth hwn ymlaen llaw o Grant Bloc Cymru, a bydd yr Addasiad hwn i’r Grant Bloc yn newid o flwyddyn i flwyddyn, yn dibynnu ar gyfraddau twf refeniw cyfatebol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.  Mae hynny’n golygu nad oes modd gwahanu datganoli treth oddi wrth ddeinameg anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol.  Y “bygythiad dwbl” fyddai petai:

  • cyllideb y Gronfa heb wneud iawn yn llawn am Gronfeydd Strwythurol yr UE, a;
  • phetai economi Cymru’n methu â thanio o gymharu ag un Lloegr, byddai toriadau Trysorfa EM i Grant Bloc Cymru yn fwy na refeniw treth Cymru.

Amlinellodd Cyfarwyddwr Rhanbarth Prifddinas Caerdydd (CCR), Kellie Beirne, y syniadau sy’n llywio strategaeth fuddsoddi’r CCR, a dywedodd fod angen meddylfryd newydd, radical ar yr holl bartneriaid os oedd y strategaeth i wneud gwahaniaeth a chyrraedd y targedau allweddol: cynnydd o 5% yn GVA yr economi ranbarthol, creu 25,000 o swyddi newydd, a £4 biliwn mewn trosoli sector preifat.

Roedd angen meddylfryd newydd ar frys i oresgyn y deuoliaethau traddodiadol a fu’n creu anawsterau yn yr ymgyrch o blaid datblygu cynhwysol yng Nghymru, yn arbennig y deuoliaethau parhaus rhwng blaenoriaethau economaidd a chymdeithasol, buddsoddiadau lleol a thramor, a’r economi wybodaeth a’r economi sylfaenol.  Roedd angen meddylfryd newydd hefyd er mwyn cefnu ar y meddylfryd traddodiadol ynghylch grantiau yn y rhanbarth, ac roedd angen ei ddisodli â meddylfryd cronfeydd bytholwyrdd, oedd yn caniatáu ailgylchu arian ar gyfer cylchoedd buddsoddi lluosog. Byddai hynny’n helpu’r CCR i wneud yn fawr o gynlluniau newydd yn y Deyrnas Unedig fel y Gronfa Cryfder mewn Lleoedd, yn ogystal â’r Gronfa SPF pan ddaw i olau dydd o’r diwedd. 

Y siaradwr uchaf ei broffil yn ystod y diwrnod oedd y cyn Weinidog Ceidwadol yr Arglwydd Michael Heseltine, y mae ei ymrwymiad i adfywio ar sail lle yn ddi-ail ym maes gwleidyddiaeth Prydain  Gan y bydd yn blogio am y digwyddiad mewn postiad ar wahân, byddaf yn syml yn crynhoi’r wers allweddol a ddysgwyd o’i ddyddiau’n weinidog oedd yn ymwneud yn helaeth ag adfywio.

Yn sgîl Terfysgoedd Toxteth ym mis Gorffennaf 1981, sicrhaodd ganiatâd Mrs Thatcher i “gerdded strydoedd” Lerpwl i chwilio am ffynonellau gwirioneddol yr anghydfod.  Ar ôl tri diwrnod o drafodaethau lleol, daeth i’r casgliad mai un o’r prif broblemau —os nad y brif broblem—oedd absenoldeb arweinyddiaeth leol gadarn yn y ddinas i sbarduno adfywio trefol.  Cyfrannodd y diagnosis hwn at ei gred mai’r elfen bwysicaf oll o greu lle yw sicrhau arweinyddiaeth wleidyddol leol y mae modd ei galw i gyfrif am ei pherfformiad.

Mae un o bynciau pwysicaf (ond y deellir lleiaf amdano) y cyfnod wedi Brexit yn ymwneud â’r berthynas rhwng llywodraethau yn y Deyrnas Unedig a’r angen am Fframweithiau Cyffredin newydd i lywodraethu marchnad fewnol y Deyrnas Unedig.  Daeth yr Athro Jo Hunt o Ganolfan Llywodraethiant Cymru â’r pwnc cyfreithiol hwn, sy’n ymddangosiadol sych, yn fyw trwy ddangos ei arwyddocâd gwleidyddol i integriti tiriogaethol y Deyrnas Unedig.  Dadleuodd yr Athro Hunt fod Brexit wedi amlygu bylchau yn y setliadau datganoli ynghylch sut, pryd a pham mae llywodraethiant a rennir yn digwydd —bylchau a lanwyd yn y gorffennol gan aelodaeth o’r UE.  Y cyfyng-gyngor fydd sicrhau cydbwysedd doeth rhwng yr angen am Fframweithiau Cyffredin ar gyfer marchnad fewnol y Deyrnas Unedig —yn achos pethau fel cymorth y wladwriaeth, caffael cyhoeddus, lles anifeiliaid, sylweddau peryglus er enghraifft —a’r angen am barchu amrywiaeth cysylltiedig â datganoli.   Fyddai sicrhau cydbwysedd ddim yn hawdd oherwydd bod yr ymddiriedaeth rhwng llywodraethau’r gweinyddiaethau yn Llundain, Caerdydd a Chaeredin wedi gostwng i lefel mor isel —fel y gwelwyd gydag Adolygiad Dunlop, a gyhoeddwyd yn ddiweddar.  Y bwriad a nodwyd oedd y byddai’r adolygiad yn ystyried a yw strwythurau llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio i gynnal yr undeb, ond fe’i cyhoeddwyd yn unochrog, heb unrhyw ymgynghori â’r gweinyddiaethau datganoledig.

Roedd cyflwyniad olaf y gynhadledd yn gampwaith gan yr Athro John Tomaney o Ysgol Cynllunio Bartlett, UCL. Heriodd yr Athro Tomaney fframwaith confensiynol (cul) y broblem ranbarthol yn nhermau cynhyrchiant pur ac anghydraddoldeb yn y farchnad lafur, a chwestiynodd y rhagnodiadau polisi confensiynol (cul) o ran metro-faerau a bargeinion datganoli.  Dywedodd fod angen i anghydraddoldebau tiriogaethol gael eu fframio mewn termau ehangach, i gynnwys anghydraddoldebau tai a iechyd, a dadleuodd fod angen rhoi llawer mwy o sylw i economi sylfaenol (gwasanaethau sylfaenol) oherwydd ei fod yn codi ansawdd bywyd pobl a lleoedd tlawd mewn modd uniongyrchol. 

I gloi roedd ganddo 2 neges drawiadol: roedd dod â chyni i ben yn ganolog er mwyn creu dewisiadau eraill ymarferol, yn arbennig yn achos lleoedd “a adawyd ar ôl/allan”; ac un o’r prif heriau i bob lleol yn y cyfnod wedi Brexit oedd sut i alluogi cymunedau i ddylanwadu ar yr economi, yn hytrach na bod yr economi’n dylanwadu ar gymunedau.

Fel cynullydd y gynhadledd, gofynnwyd i mi fyfyrio ar drafodaethau’r dydd a chrynhoi rhai o’r materion allweddol mae Cymru’n eu hwynebu.  Fe awgrymais fod tair her yn haeddu sylw, a hynny ar frys.

Y gyntaf oedd rhoi sylw i fygythiad uniongyrchol difrod i economi Cymru yn sgîl Brexit.  Mae sut rwy’n darllen y dystiolaeth economaidd —y dystiolaeth economaidd ddifrifol yn hytrach na honiadau peryglus ideolegwyr marchnad rydd fel  Economists for Brexit—yn fy narbwyllo mae’r cwestiwn mewn gwirionedd yw a fydd effaith economaidd Brexit yn wael neu’n wael iawn.  O ffermwyr defaid ar raddfa fach i gorfforaethau graddfa fawr fel Airbus, bydd canlyniadau economaidd andwyol  wrth adael yr UE (yn arbennig Heb Drefniant).  Bydd hyn yn creu prif wyntoedd grymus ar gyfer economi Cymru, pa ffurf bynnag fydd i Brexit.

Mae’r ail her yn ymwneud â chyfnod nesaf datganoli.  Os oedd yr 20 mlynedd cyntaf o ddatganoli yn ymwneud yn bennaf â datganoli i Gymru, dylai’r 20 mlynedd nesaf   ymwneud â datganoli yng Nghymru.  Mae’r berthynas rhwng lefelau cenedlaethol ac is-genedlaethol o lywodraethiant yng Nghymru yn rhan o adolygiad cyfredol OECD o lywodraethiant Cymru, a bydd hyn yn asesu i ba raddau mae strwythurau a strategaethau Llywodraeth Cymru yn cyfateb i’r rhanbarthau sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, yn ogystal  â llywodraeth leol a rhannau eraill o’r sector cyhoeddus. Trydedd her yw a fydd Llywodraeth Cymru yn abl ac yn barod i weithio ar y cyd â’i phartneriaid ym myd busnes a chymdeithas sifil, mewn partneriaeth fwy cyfartal o gyd-gynhyrchu, yn hytrach na’r dull llywodraethu gorchymyn a rheoli sydd wedi nodweddu 20 mlynedd cyntaf datganoli (dull mae llywodraeth Drakeford yn ymddangos yn benderfynol o fynd i’r afael ag ef).   Mae’r dull hwnnw o orchymyn a rheoli wedi arwain at etifeddiaeth o ddiffyg ymddiriedaeth rhwng y llywodraeth genedlaethol a lleol yng Nghymru, ac mae angen i ni gefnu ar hynny ar frys, a meithrin partneriaethau mwy effeithiol ac atebol sy’n ddigon cadarn i lunio atebion ar y cyd i broblemau cyffredin.  Ar wahân i’r ffaith bod hwn yn ddull mwy atebol a democrataidd o weithio, mae cyd-gynhyrchu hefyd yn gwneud rheidrwydd yn rhinwedd trwy gydnabod datblygiad seiliedig ar le am beth ydyw mewn gwirionedd—menter gymdeithasol ar y cyd.


Mae’r Athro Kevin Morgan yn Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd, lle mae hefyd yn Ddeon Ymgysylltu.

Mae’r erthygl hon yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Gwleidyddiaeth a Llywodraethu, na Phrifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *