Darllen hir, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Yr Her i San Steffan

Big Ben in London with the houses of parliament and ornate street lamp
Big Ben in London with the houses of parliament and ornate street lamp

Fis Medi 2017, cyhoeddodd yr Arglwydd David Owen, Gwynoro Jones, yr Arglwydd Elystan Morgan a minnau Towards Federalism and Beyond. Fis Chwefror 2018, cyhoeddon ni daflen o’r enw Brexit, Devolution and the Changing Union 2018.

A’r Cynulliad Cenedlaethol ar waith ers 20 mlynedd bellach, mae hyn o erthygl yn trafod angen symud dull y llywodraethu ymlaen yn gyfansoddiadol y tu hwnt i drefn datganoli.

Gan nad yw trefn llywodraethu datganoli yn herio sofraniaeth Senedd San Steffan (yr egwyddor gyfansoddiadol fwyaf cysyniadol), mae’r rhan fwyaf o wleidyddion y deyrnas yn ei derbyn. Ar hyn o bryd, mae Cymru a’r Alban yn cael deddfu ar bob mater nad yw Senedd San Steffan wedi cadw cyfrifoldeb drosto, gan awgrymu rhyw fath o ffederaliaeth heb y duedd arferol i rannu sofraniaeth ar draws seneddau. Hefyd, yn ôl Cytundeb Sewel, ddylai Tŷ’r Cyffredin yn Llundain ddim deddfu ar faterion datganoledig heb ganiatâd y seneddau yng Nghaerdydd, Caeredin a Belffast.

Mae cwestiynau wedi’u codi ar y ddadl arferol mai dim ond yn San Steffan y dylai sofraniaeth seneddol fod yn y dyfodol.

Mae llawer o bobl yn dweud bellach eu bod yn hanu o Gymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn ogystal â bod yn Brydeinwyr ac, yng ngoleuni hynny, mae lle i ailystyried natur sofraniaeth Senedd San Steffan. O ganlyniad, y mater strategol pwysicaf fydd a ddylai sofraniaeth (ar y ffurf mae pawb yn ei deall ar hyn o bryd) gael ei rhannu ar draws pum gwlad (pedair gwlad y deyrnas a Phrydain Fawr) mewn trefn ffederal draddodiadol neu gael ei rhoi’n unigol i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr a fyddai, yn eu tro, yn dirprwyo rhannau o awdurdod eu sofraniaeth i sefydliadau canolog, Prydeinig eu cymeriad dinesig sylfaenol, sy’n gyffredin iddynt.

Rhaid i unrhyw drefn gyfansoddiadol newydd roi pob ystyriaeth i berthynas economaidd a chymdeithasol y pedair gwlad â’i gilydd.

Un ffordd o wneud hynny fyddai Cynghrair neu Undeb yr Ynysoedd – cydffederasiwn Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr lle y byddai elfennau o reolaeth ffederal ei natur yn rhannau annatod o feysydd polisi allweddol gan ategu egwyddorion cydraddoldeb ac undod ymhlith y gwledydd sy’n aelodau ohono. Mewn trefn o’r fath, gallai Cyngor yr Ynysoedd fod yn gyfrifol am ddeddfu ar feysydd sy’n ymwneud ag amddiffyn, materion tramor, materion ariannol, materion mewnol a chydweithredu a byddai Cyngres y Gwledydd yn cwrdd yn rheolaidd i drafod ystyriaethau perthnasol eraill a allai fynnu rhywfaint o gydweithio a chysoni deddfau. Gallai’r Frenhines a’i holynwyr barhau yn rôl Pennaeth y Cydffederasiwn gan gynnal gwrandawiadau yn rheolaidd gyda phrif weinidogion y gwledydd ynghyd, o bosibl, â chyfrin gyngor ac iddo bedair adran – Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Byddai senedd genedlaethol pob gwlad yn gorff deddfu a chynrychioli’r bobl a chanddo bob pŵer a hawl sydd wedi’u dirprwyo i’r cyd-sefydliadau heb fod trwy gytundeb na chyfansoddiad. Yn ogystal â’r cyrff deddfu cenedlaethol, dylai fod strwythurau cyfreithiol cadarn i atgyfnerthu rheol barhaus y gyfraith sydd i’w gweinyddu gan farnwyr annibynnol. Roedd gan yr Alban ei threfn farnwrol ei hun cyn 1999 ac mae datblygiad corff deddfu datganoledig go iawn yng Nghymru wedi arwain at resymau cryf dros gyflwyno trefn o’r fath yn y wlad hon, hefyd. Gyda Goruchaf Lys yr Ynysoedd y byddai’r gair olaf ynghylch cyfreithlondeb unrhyw ddeddf neu gytundeb.

O ad-drefnu’r deyrnas yn Gynghrair neu Undeb yr Ynysoedd, nid y posibilrwydd y gallai senedd ddylanwadol a grymus Lloegr fod yn drech na sefydliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fyddai’r prif berygl ond y gallai ansefydlogi gwaith cyd-gyrff yr ynysoedd pe bai’r trefniadau newydd heb eu parchu. Gallai gorgynrychioli’r gwledydd llai yn y cyngor helpu i atal hynny ond does dim modd osgoi’r ffaith bod gan Loegr tua 85% o’r boblogaeth ac y gallai amharu’n fawr ar ymdrechion sefydliadau Prydain Fawr i reoli’r farchnad yn llwyddiannus. Serch hynny, mae cyfansoddiadau datganoledig, ffederal eu natur, sydd mewn sefyllfa well i drin a thrafod penderfynu economaidd rhyngwladol yn hyblyg a chynrychioli amrywiaeth ddiwylliannol a chenhedlig gwledydd yn fwy priodol i gyd-destun y 21ain Ganrif sy’n mynd rhagddi.

Yr her i’r Blaid Geidwadol a Phlaid Llafur fel ei gilydd yw sut mae cynrychioli’r gwledydd yn fwy ffurfiol yn eu cyfundrefnau.

Mae trefn y Democratiaid Rhyddfrydol yn ffederal eisoes ac mae cryfder mudiadau cenedlaetholwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar lefel nas gwelir fel arfer mewn gwladwriaethau eraill aml eu cenhedloedd ledled y byd. Mae’r ffaith bod Senedd San Steffan yn derbyn yn dawel y gallai annibyniaeth fod yn ddewis dilys i’r Alban ac, o bosibl, i Gymru hefyd, yn awgrymu mai poblogaeth pob gwlad fydd yn pennu ei sofraniaeth, nid pobl y deyrnas i gyd. O ddadlau mai pobl Prydain sy’n gyntaf ymhlith eu cydraddolion, byddai rhywun yn diystyru statws hirsefydlog, uchel ei barch, y pedair gwlad yn hanes Ewrop. Ar ben hynny, allai Senedd San Steffan ddiddymu seneddau datganoledig yr amryw brifddinasoedd ar ei phen ei hun hyd yn oed pe hoffai ei gwneud?

Serch hynny, mae Prydeindod yn gysyniad hŷn o lawer na’r Deyrnas Gyfunol, ac mae’n anodd dadlau y byddai’r Cymry neu’r Albanwyr mewn tiriogaethau annibynnol yn dechrau ystyried y Saeson yn gyd-Ewropeaid yn hytrach na chyd-Brydeinwyr. Fydd y sawl sy’n ei ystyried ei hun yn Brydeiniwr, boed yn llawn neu’n rhannol, ddim yn unoliaethwr gwleidyddol o reidrwydd. Gallai ei ymdeimlad fod yn seiliedig ar ymfalchïo yn llwyddiannau’r gorffennol ac ymwybyddiaeth barhaus o’r cysylltiadau diwylliannol a chymdeithasol sydd wedi’u meithrin ymhlith poblogaethau’r ynysoedd dros ganrifoedd lawer.

Fel sydd wedi’i drafod yn llyfr Linda Colley, Acts of Union and Disunion (Profile Books 2014), mae gwladwriaethau unedol yn wynebu anawsterau parhaus o ran cydnabod annibyniaeth rannol a natur amryfal y cenhedloedd sy’n rhan ohonynt, yn arbennig meithrin a chynnal ymdeimlad o berthyn i’r corff gwleidyddol ehangach.

Mae gan bobl ddiddordeb dynol ynghylch teimlo bod eu grŵp tiriogaethol yn cael ei werthfawrogi. Mae hynny’n arwain at hybu cyd-destun ar gyfer byw lle y gall annibyniaeth unigol gael ei rhoi ar waith mewn modd ystyrlon a lle mae pobl yn fodlon gwneud aberthau dros ei gilydd trwy ymdeimlad o gyfiawnder dosbarthol sy’n gyffredin. O gyflwyno democratiaeth fwy cydgynghorol i’w gweinyddu ar y lefel genedlaethol yn hytrach nag yn y sefydliadau canolog, mae tyb y bydd gwir brosesau penderfynu yn mynnu i’r bobl gymryd rhan yn nadleuon a datblygiadau’r gymdeithas y tu hwnt i fwrw pleidlais mewn etholiadau.

Mae hanfod hunaniaeth unigolion yn gymhleth a bydd yn dylanwadu’n rhannol ar eu credau, eu cysylltiadau cymdeithasol a’u perthynas â grwpiau cenedlaethol. Byddai’n ddoeth i wladwriaethau unedol roi sylw i deyrngarwch teimladol ac ymarferol eu pobl tuag at y cenhedloedd sy’n rhan ohonynt os ydyn nhw am feithrin teyrngarwch tebyg. Yn wir, gallai diogelu rhyddid unigol o fewn cenhedloedd helpu i rwystro greddf anochel y canol sefydliadol rhag cronni grym yn ddwfn yn ei graidd, yn arbennig ar draul tiriogaethau hirbell.

Gallai’r ffaith y buasai’n well gan 45% o etholwyr yr Alban ddirwyn yr Undeb i ben yn 2014 awgrymu nad yw Prydeindod yn apelio at bobl gymaint, er gwaetha’r canlyniad bod mwyafrif yn y wlad honno yn erbyn annibyniaeth. Rhaid pwyllo cyn dod i’r casgliad hwnnw, fodd bynnag, achos bod gan hunaniaeth ddeuol pobl yr Alban yn y deyrnas hon wreiddiau ac ystyron cymhleth. Mae hynny’n wir o ran poblogaeth Cymru, hefyd. Mae’n ddiddorol bod tuedd i gydnabod sawl math o hunaniaeth dros y degawdau diwethaf yn sgîl dimensiwn Ewropeaidd gwleidyddiaeth y deyrnas wedi creu gwir baradocs i rai cenedlaetholwyr.  Os oes modd bod yn Gymro neu’n Albanwr ac yn Ewropead, onid yw’n bosibl bod yn Gymro neu’n Albanwr ac yn Brydeiniwr, hefyd? Rhaid cyfaddef bod y sefyllfa’n fwy cymhleth yng Ngogledd Iwerddon.

Mae delfrydau a gwerthoedd Prydeinig wedi’u creu yn rhannol gan ddylanwadau daearyddol, hanesyddol a diwylliannol sy’n ddefnyddiol o ran pontio gofynion cyd-ddibyniaeth y byd ac awydd y cenhedloedd am ragor o annibyniaeth. Y gamp bellach fydd cynnwys yr egwyddorion hynny mewn fframwaith sefydliadol newydd sy’n cryfhau trefniadau hunanlywodraethu – trwy annog pawb i barchu urddas dynol, rhyddid, democratiaeth, cydraddoldeb a’r gyfraith – o fewn strwythur cymdeithasol dinesig sydd o blaid lluosrywiaeth, goddefgarwch, cyfiawnder ac undod ac yn erbyn anffafrio ledled yr ynysoedd.

Mae cyfansoddiadau ysgrifenedig gan ryw 200 o wladwriaethau’r byd ar hyn o bryd. Mae’n syndod nad oes un gan y deyrnas hon er ei bod wedi helpu i lunio cyfansoddiad sawl gwlad arall yn ystod y ganrif ddiwethaf, yn arbennig trefedigaethau Ymerodraeth Prydain.

Yn wyneb globaleiddio ac ymfudo cynyddol, mae gwladwriaethau ledled y byd yn fwyfwy amryfal o safbwynt diwylliannol, cenhedlig, cyfreithiol, gwleidyddol a chrefyddol.  Un ffordd gydnabyddedig iawn o gofleidio a rheoli amrywiadau o’r fath yw diwygio a gwella natur ac ansawdd llywodraethu. Mae’n berthnasol i’r deyrnas hon, hefyd. Mae’r ffaith y bydd peirianwaith llywodraethu yn fwy agored a thryloyw lle bo cyfansoddiadau ysgrifenedig yn rheswm da dros eu defnyddio.

Mae’r cyfansoddiadau modern mwyaf effeithiol yn diffinio fframwaith hanfodol llywodraethu ac yn agored dros amser i newidiadau priodol megis cyfuno sofraniaeth mewn cytundebau a chyrff rhyngwladol. At hynny, maen nhw’n cadw’r ddysgl yn wastad rhwng egwyddorion sylfaenol a gofynion newydd a allai arwain at symud awdurdod neu gyfrifoldeb i lefel arall. Gallai llunio fframwaith ysgrifenedig o’r fath yn yr ynysoedd hyn fod yn werthfawr iawn ar draws y sbectrwm gwleidyddol gan dawelu meddyliau rhai a hoffai ddiffinio elfennau nodweddiadol arferion y deyrnas mewn cyfansoddiad wedi’i gyfundrefnu ac eraill sydd am bennu sefyllfa sofraniaeth y pedair gwlad yn unigol mewn perthynas â strwythur dinesig sy’n gyffredin i bawb ym Mhrydain.

Yn chwarter cyntaf yr 21ain Ganrif, all elfennau mwy adeiladol y sbectrwm gwleidyddol rhwng cenedlaetholdeb ac undeboliaeth, sy’n hyrwyddo syniadau cyfansoddiadol gwahanol iawn ledled yr ynysoedd, ddod i ryw gytundeb neu gyfaddawd strategol ynghylch egwyddorion eang ffederaliaeth gydffederal?  

Pwy a ŵyr, gallai ymdrech o’r fath arwain at rai syniadau cyfansoddiadol newydd ar gyfer math newydd o bartneriaeth ledled yr ynysoedd hyn – un sy’n defnyddio profiadau a naratifau’r gorffennol a’r presennol wrth osod sylfaen ar gyfer y dyfodol.

Mae’r ffynonellau isod wedi ysbrydoli’r erthygl hon:

  • David Torrance: ‘A process, not an event’: Devolution in Wales, 1998-2018 (Tŷ’r Cyffredin, 2018)
  • Yr Arglwydd David Owen, Gwynoro Jones, yr Arglwydd Elystan Morgan a Glyndwr Cennydd Jones: Brexit, Devolution and the Changing Union (2018) a Towards Federalism and Beyond (2017)
  • Tom M Devine: Independence or Union (Penguin Press, 2016)
  • A Draft Constitution for a Confederal United Kingdom (Scottish Constitutional Commission, 2015)
  • Linda Colley: Acts of Union and Disunion (Profile Books, 2014)
  • David Melding AC: The Reformed Union: The UK as a Federation (Sefydliad Materion Cymru, 2013)

Mae Glyndwr Cennydd Jones yn hybu rhagor o gonsensws trawsbleidiol yng Nghymru gan ofyn am drafodaeth gyfansoddiadol ledled y deyrnas ochr yn ochr â phroses ymadael ag Undeb Ewrop.

Mae’r erthygl hon yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Gwleidyddiaeth a Llywodraethu, na Phrifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *