Datganoli a'r Cyfansoddiad, Economi a Masnach

Polisïau treth yng Nghymru – ystyried yr opsiynau

O’r mis hwn ymlaen, bydd cyfran o Dreth Incwm a delir gan drethdalwyr Cymreig yn aros yng Nghymru i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn uniongyrchol.

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford eisoes wedi dweud na fyddai’n cynyddu cyfraddau Treth Incwm Cymru yn ystod tymor presennol y Cynulliad oni bai fod hynny yn anorfod. Defnyddiodd Jeremy Miles ei araith yng nghynhadledd y blaid Lafur i alw ar ei blaid i ymgyrchu heb flewyn ar dafod i ddefnyddio’r pwerau trethi newydd hyn yn ystod tymor nesaf y Cynulliad — arwydd arall y bydd etholiad 2021 yn cael ei gystadlu ar sail gwahanol bolisïau trethi. Felly, beth yw’r opsiynau sydd ar gael i’r pleidiau gwleidyddol?

Mae cyfraddau Treth Incwm sydd wedi eu datganoli yn codi £2 biliwn mewn refeniw i Drysorlys Cymru, felly byddai unrhyw newid i’r cyfraddau hyn yn cael effaith sylweddol ar faint y gyllideb Gymreig. Er enghraifft, byddai cynyddu’r gyfradd sylfaenol o un geiniog yn codi £182 miliwn mewn refeniw ychwanegol. O ystyried y pwysau ariannol sydd yn wynebu awdurdodau lleol yng Nghymru a demograffeg sy’n heneiddio, mae’n bosib y byddai gofal cymdeithasol gyntaf yn y ciw am unrhyw arian ychwanegol. Byddai hyn yn llai atchweliadol na pharhau i gynyddu’r Dreth Gyngor o flwyddyn-i-flwyddyn ar y gyfradd bresennol, yn enwedig o ystyried bod y lwfans personol yn golygu nad yw’r 20% o’r rheini sydd â’r enillion lleiaf yn Nghymru yn talu unrhyw Dreth Incwm.

Wrth gwrs, nid cynyddu trethi yw’r unig opsiwn sydd ar gael i bleidiau gwleidyddol. Gan fod canran gymharol uchel o drethdalwyr Cymru yn talu’r gyfradd sylfaenol yn unig, byddai torri’r gyfradd ychwanegol o bump ceiniog yn cael effaith cymharol fach ar y gyllideb Gymreig (£26.5 miliwn). Efallai y byddai rhai llunwyr polisi yn gobeithio y byddai lleihau baich treth y rhai hynny sydd yn ennill fwyaf yn gwneud Cymru yn fwy atyniadol i fuddsoddwyr ac annog mwy o dalwyr y gyfradd ychwanegol i symud yma, gan gryfhau sylfaen dreth Cymru yn y broses. Gan roi unrhyw gwestiynau am ba mor boblogaidd fyddai polisi o’r fath gyda’r etholwyr i’r neilltu, gwaith anodd yw rhagweld pa effeithiau fyddai unrhyw newid mewn polisïau treth yn ei gael ar fewnfudo.

Byddai torri’r gyfradd sylfaenol yn debygol o ennill cefnogaeth ehangach ond byddai hynny yn llawer mwy costus – £182 miliwn am bob 1 geiniog a dorrir, gan dybio na fyddai unrhyw newid mewn ymddygiad.

Yn ddibynnol ar gymeradwyaeth llywodraeth y DG, mae gan Lywodraeth Cymru hefyd bŵer i gyflwyno trethi newydd mewn meysydd datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ystyried pedair treth newydd gan gynnwys lefi gofal cymdeithasol, treth ar dwristiaid, treth ar dir gwag a threth ar blastig na ellir ei ailgylchu. Mae’r Prif Weinidog bellach wedi cyhoeddi y bydd y llywodraeth yn symud ymlaen â’r broses o gyflwyno treth ar dir gwag i annog tir-feddianwyr i ddatblygu plotiau sydd yn addas i’w datblygu. Er nad yw’r dreth hon yn debygol o ddod â llawer o refeniw ychwanegol i goffrau Trysorlys Cymru, bydd yn gyfle i’r llywodraeth arbrofi gyda’u pwerau trethi newydd.

Mae datganoli Treth Incwm yn debygol o gael effaith ehangach ar bolisïau Llywodraeth Cymru gan ei fod yn cyflwyno cymhelliannau newydd i gynyddu maint y sylfaen dreth Gymreig ac anogi twf cyflymach mewn cyflogau.  

Yn ôl y rhagolygon diweddaraf, mae Cymru yn debygol o fod ar ei hennill o £9 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i ddatganoli trethi. Cafodd y rhagolygon hyn eu cynyddu ym mis Mawrth oherwydd bod cyfanswm derbyniadau hunan-asesu yn uwch na’r disgwyl. O safbwynt cyfraddau cyflogaeth, mae’r data diweddaraf ar gyfer Cymru yn addawol. Yn hanesyddol, mae bwlch wedi bodoli rhwng y gyfradd o oedolion 16 – 25 oed mewn gwaith yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae’r data diweddaraf yn y Labour Force Survey yn awgrymu fod y bwlch hwn bellach wedi cau. A yw’r bwlch hwn wedi cau yn barhaol ai peidio? Bydd ateb y cwestiwn hwn yn allweddol wrth asesu a fydd Cymru yn parhau i fod ar ei hennill o ddatganoli trethi.

Mae’r data diweddaraf ar enillion Cymreig yn llai positif. Yn 2017-18, 0.8% oedd y twf blynyddol mewn cyflogau yng Nghymru, 2.1 pwynt canran yn is na’r ffigwr ar gyfer y DG. Mae’r cyfartaledd treigl dros gyfnod o dair mlynedd yn awgrymu fod cyflogau nawr yn tyfu’n gymharol arafach yng Nghymru o’i gymharu â gweddill y DG. Y ffaith fod trethdalwyr cyfoethocaf y DG wedi gweld cynnydd cyflymach yn eu cyflogau sydd yn bennaf gyfrifol am hyn. Yn 2019-20, bydd y degradd uchaf o drethdalwyr Cymru (gan hepgor incwm cynilion a difidend) yn cyfrannu tua 38% tuag at refeniw Treth Incwm datganoledig, mwy na’r saith degradd isaf gyda’i gilydd. Bydd yr 1% uchaf ar eu pen eu hunain yn cyfrannu dros 10% o refeniw cyfraddau Treth Incwm Cymru.

Mae datganoli Treth Incwm yn drobwynt yn hanes datganoli. Hyd yn oed heb unrhyw newid mewn polisïau treth, mae tueddiadau ym maint y gweithlu ac enillion eisoes yn cael effaith ar yr arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Dros y 24 mis nesaf, gallwn ddisgwyl gweld y pleidiau gwleidyddol yn mireinio eu safbwyntiau ar drethi wedi eu datganoli. Yn wyneb pwysau i wahaniaethu eu hunain o’r pleidiau eraill, mae yna bosibilrwydd cryf y bydd yr etholiadau nesaf i Gynulliad Cymru yn cael eu cystadlu ar sail gwahanol bolisïau trethi.


Cynorthwy-ydd Ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru yw Cian Sion, ac mae’n rhan o dîm Dadansoddi Ariannol Cymru. Mae tîm wedi cyhoeddi papur briffio ar y tueddiadau diweddaraf yn y sylfaen Dreth Incwm yng Nghymru. Gellir lawrlwytho y ddogfen hon yma.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *