Brexit, Darllen hir, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Brexit a’r cyfansoddiad tiriogaethol: Sefyllfa sydd wedi’i gweld eisoes?

Mae Brexit yn adlunio cyfansoddiad y deyrnas o dan ein trwynau.

Mae’r cyfansoddiad tiriogaethol yn arbennig o fregus. Ar drywydd Brexit, mae llywodraeth Theresa May wedi codi cwestiynau cymhleth am ddatganoli. Mae gwleidyddiaeth diriogaethol Brexit yn gawl dryslyd o anwybodaeth, diystyru, gwrthdaro, cydweithredu a chydweithio. Mae’r cytundebau datganoli’n ymddangos yn fwy simsan nag erioed.

Mae trefn y deyrnas ar gyfer cynnal perthynas Llywodraeth San Steffan â’r amryw lywodraethau datganoledig wedi’i chuddio. Trafodir prosesau nad oes llawer o bobl yn eu deall megis Memoranda Caniatâd Deddfwriaethol (Cynigion Sewel) a chydbwyllgorau gweinidogion yn ehangach bellach.

Mae Brexit wedi datgelu cyfyngiadau a gwendidau yn y strwythurau datganoli presennol. Mae natur perthynas pob llywodraeth â’i gilydd yn y deyrnas hon yn gymhleth, er ei bod yn hynod o anffurfiol a chyfyng o’i chymharu â gwledydd eraill. Efallai y bydd cyfleoedd i’w mireinio maes o law, ond gallai pwysau yn sgîl canu’n iach i Undeb Ewrop ei chwalu, hefyd.

Mae rheolau newydd yn sgîl Brexit yn debygol o effeithio ar ddatganoli. Ar ôl cyfnod maith heb newid, cyflwynir sawl rheol newydd bellach. Gall fod yn anodd trin a thrafod materion o’r fath o achos natur gymhleth Brexit a datganoli. Mae ymdrechion i hwyluso a chydlynu’r ymgysylltu, fodd bynnag.

Trafod telerau Deddf Ymadael ag Undeb Ewrop 2018

Fe roes y Frenhines sêl ei bendith ar y ddeddf ar 26ain Mehefin 2018 ac mae’n rhan allweddol o strategaeth Brexit San Steffan. Yn y bôn, mae’r ddeddf yn mabwysiadu llawer o ddeddfau Undeb Ewrop.

Mae’n cryfhau Llywodraeth San Steffan gan roi iddi’r hawl i sefydlu deddfau eilaidd, sef offerynnau statudol. Disgwylir y bydd 800-1000 o offerynnau statudol. A barnu yn ôl eu hamrywiaeth a’u dyfnder, mae Theresa May yn disgwyl tipyn o wrthwynebu, er na all neb ddarogan ffurf hynny eto. Dechreuodd proses cyhoeddi offerynnau statudol yn ôl y ddeddf fis Gorffennaf 2018. Dim ond hyn a hyn o amser fydd ar gael i archwilio’r rhan fwyaf o’r rheiny.

Tra oedd y ddeddf ar y gweill, un o’r cynigion oedd tacluso a chanoli pwerau ar draul y llywodraethau datganoledig. Yn y bôn, byddai’r deddfau roedd bwriad i’w cadw – gan gynnwys mewn meysydd datganoledig – yn symud o Frwsel i San Steffan. Mae’n ymddangos na welodd Llywodraeth San Steffan y byddai ei chynnig yn diystyru ysbryd a natur datganoli.

Barn gwleidyddion yng Nghymru a’r Alban oedd bod bwriad i adennill grym. Gwrthododd llywodraethau’r ddwy wlad roi sêl eu bendith ar gynigion San Steffan. Sefydlon nhw ddeddfau amgen er ‘parhad’ yn lle hynny.

Ers mis Medi 2017, mae’r llywodraethau yng Nghaerdydd, Caeredin a Llundain wedi bod yn cnoi cil ar y pwnc. Damian Green (a David Lidington wedyn) arweiniodd y trafodaethau ar ran Llywodraeth San Steffan. Mark Drakeford a Mike Russell gynrychiolodd Gymru a’r Alban.

Yn y diwedd, newidiodd Llywodraeth San Steffan y ddeddf i gydnabod egwyddor sy’n hollbwysig i’r rhan fwyaf o wleidyddion Cymru a’r Alban, sef y dylai deddfau Undeb Ewrop symud i lywodraethau datganoledig yn y meysydd sydd wedi’u datganoli, nid i San Steffan. O ganlyniad, penderfynodd Llywodraeth Cymru roi sêl ei bendith ar y ddeddf.

Mae’r ddeddf yn rhoi modd cyfyngu ar ddefnyddio rhai pwerau datganoledig pwysig am hyd at saith mlynedd, fodd bynnag. Mae’n caniatáu i Lywodraeth San Steffan lunio’r rheolau yn y meysydd dan sylw. Roedd ffrae yn Senedd San Steffan am fod sawl aelod o’r farn nad oedd digon o amser wedi’i roi i drafod datganoli yn y ddeddf. Roedd Llywodraeth yr Alban o’r farn nad oedd y ddeddf wedi’i newid yn ddigonol, a gwrthododd roi sêl ei bendith arni o ganlyniad.

Mae safbwyntiau cyferbyniol Cymru a’r Alban yn rhesymegol. Mae Llywodraeth Cymru o blaid datganoli ond yn erbyn annibyniaeth, ac fe benderfynodd fod digon wedi’i ennill. Mae Llywodraeth yr Alban yn fwy uchelgeisiol, fodd bynnag. Annibyniaeth yw ei hamcan yn y pen draw. Mae datganoli’n gryfach yno, mae trefn gyfreithiol hirsefydlog ar wahân a phleidleisiodd y rhan fwyaf o’r bobl yn erbyn cefnu ar Undeb Ewrop.

Trefn rynglywodraethol y deyrnas hon

Lluniwyd trefn datganoli’r deyrnas hon yn ofalus i sicrhau na fyddai’r polisïau datganoledig yn groes i ddeddfau Undeb Ewrop. Yr un fath â threfn San Steffan, mae deddfau ac egwyddorion yr undeb wrth wraidd datganoli. Roedd y fframwaith a roes ar gyfer datganoli yn un o fanteision anfwriadol aelodaeth o’r undeb – rhyw fath o adeiladwaith sydd wedi helpu i gynnal y deyrnas a’i chadw ynghyd. Mae aelodaeth o’r undeb wedi rhoi cyfle i awdurdodau datganoledig arddel polisïau unigryw mewn fframwaith safonol a osodwyd y tu allan i’r deyrnas.

Mae’r drefn honno wedi dibynnu’n fawr ar gydbwyllgorau gweinidogion. Er enghraifft, cyfarfod Prif Weinidog San Steffan â phrif weinidogion y gwledydd datganoledig a chyfarfodydd gweinidogion sy’n gyfrifol am amryw feysydd penodol. Ac eithrio materion Undeb Ewrop, fodd bynnag, does yr un corff arbenigol ar waith bellach. Y Cydbwyllgor dros Bolisïau Undeb Ewrop oedd yr un mwyaf prysur cyn i Bwyllgor y Trafodaethau am Ewrop gymryd ei le.

Unwaith y flwyddyn, ar y mwyaf, mae Cydbwyllgor y Prif Weinidogion wedi cwrdd. Rhwng 2002 a 2008 ac o ddiwedd 2015 hyd gyfnod olaf 2017, chwrddodd mo’r un waith. Mae cydbwyllgorau eithaf prysur, hyd yn oed, heb gwrdd o gwbl dros gyfnodau hir – rhwng diwedd 2015 a diwedd 2016 yn achos yr un dros faterion Ewrop a rhwng mis Chwefror 2017 (ychydig ar ôl ei sefydlu) a mis Medi 2017 o ran yr un gymerodd ei le. Ar ben hynny, cyfleodd Llywodraeth San Steffan yr argraff nad oedd yn fodlon dod i gyfarfodydd y cydbwyllgor dros drafodaethau beth bynnag. Weithiau, byddai cynrychiolwyr Cymru yn gadael Caerdydd heb wybod ble yn union y byddai’r cyfarfod.

Llwyddodd y cydbwyllgor i ryw raddau yn y diwedd. Yn ogystal â newid Deddf yr Ymadael, dechreuodd lunio natur perthynas pob llywodraeth â’i gilydd. Sefydlodd fforwm gweinidogol, hefyd. Hyd yn oed ar ôl iddi ddod i’r amlwg na fyddai Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth yr Alban yn dod i gytundeb, nododd Lidington fod Llywodraeth yr Alban wedi ymgysylltu mewn modd adeiladol iawn dros fisoedd lawer.

Wrth i’r mesur fynd trwy gamau olaf y deddfu, fodd bynnag, cododd yr un hen anhawster ei ben eto. Roedd gelyniaeth a diffyg cyd-ddeall, yn ôl pob golwg, nid ymgysylltu adeiladol. Cyhuddodd rhai Lidington o wastraffu amser i osgoi trafod materion datganoli.  Cerddon nhw allan o Dŷ’r Cyffredin. Chwarddodd aelodau’r Blaid Geidwadol am eu pennau gan alw’r ymadael yn berfformiad. Yn groes i’r arfer, penderfynodd Mrs May fwrw ymlaen â’r deddfu heb sêl bendith Llywodraeth yr Alban.

Ar ôl Deddf yr Ymadael

Mae llawer mwy o ddeddfau ar y gweill. Dyw Cymru na’r Alban ddim wedi cymeradwyo Mesur y Fasnach. Gan fod ei safbwynt wedi’i ddiystyru o ran Deddf yr Ymadael, mae’n amlwg na fydd Llywodraeth yr Alban yn rhoi sêl ei bendith ar ddeddfau ynglŷn ag amaeth a physgodfeydd. Mae digon o offerynnau statudol ar gyfer Deddf yr Ymadael yn dod trwodd.

Dewisodd Cymru a’r Alban lwybrau gwahanol ynghylch Deddf yr Ymadael. Ychydig ar ôl ei sefydlu, cwrddodd cabinet Theresa May yn Chequers a chyhoeddi Papur Gwyn am berthynas y deyrnas hon ag Undeb Ewrop yn y dyfodol. Er eu bod wedi’u sicrhau fel arall, doedd neb wedi ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig am hynny. Roedd Cymru a’r Alban wedi anghytuno ynghylch Deddf yr Ymadael, ond daeth y Papur Gwyn â nhw ynghyd eto. Pan fo eu buddiannau’n cyd-fynd, gall y ddwy lywodraeth gydweithio.

Mae Brexit yn peryglu datganoli. I sefydlu trefn ddatganoli ymarferol ar ôl canu’n iach i Undeb Ewrop, bydd angen gofal, ewyllys da ac ymgysylltu adeiladol o bob ochr. Fydd y strwythurau a’r agweddau cyfredol ddim yn gallu ymdopi â phwysau newydd sy’n dod i’r amlwg. Rhaid meithrin sefydliadau, cysylltiadau ac, yn anad dim, agweddau newydd. O fethu â gwneud hynny, gallwn ni fod yn gaeth i fyd lle y bydd cyfnodau o gydweithredu effeithiol ar y naill law a phyliau o elyniaeth, diffyg cyd-ddeall a dirmyg ar y llaw arall. Gallai datganoli wynebu’r un hen sefyllfa dro ar ôl tro.

Mae Daniel Wincott yn Athro’r Gyfraith a Chymdeithas Blackwell ac mae’n Gymrawd Arwain Ymchwil Llywodraethu a Brexit y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) (ES/R007500/1). Mae Prosiect ‘Rhwng dau Undeb’ ESRC (ES/P009441/1) yn cefnogi ei waith hefyd.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *